Gemau Doethineb/Rhan 9
| ← Rhan 8 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 10 → |
MYNED YN DENEU.—" Yr wyt yn myned yn deneu iawn, fy machgen," meddai mam dyner wrth ei mab un diwrnod. "Ydwyf, fy mam," atebai y llanc; "ac yr wyf yn disgwyl y gellwch weled fy asen cyn bo hir." Yr oedd y gwalch ar fyned i'w briodi.
ENGLYN I'R "GYLLELL GERIG."
I lunio'n hardd, ddalenau,—o hyll graig,
Cyllell gref yw'n ddiau;
Ceir nen deg, nid gwellt breg, brau,
I wael lys, a phalasau.
—Parch. W. R. Ambrose.
ACHAN AC ACHAR, AI YR UN? (Job. vii. 18; 1 Chron. ii. 7.) Dau enw ar yr un person yw y rhai hyn, er, efallai, ei fod yn fwy adnabyddus dan y cyntaf, am mai dyna yr enw a roddir iddo yn hanes ei drachwant gyda'r llafn aur, a'r fantell Fabilonig dêg. Eithr Achar y gelwir ef yn Chronicl, yn yr Hebraeg, a'r holl gyfieithiadau. Achan yw yn Llyfr Josua mewn pump o leoedd olynol, yn pen. vii. Y dyffryn lle y llabyddiwyd ef oedd Achor. Gall i'r gair Achan lithro ar dafod leferydd i fod yn Achar oddiwrth adgof o le ei farwolaeth. Pa fodd bynag, nid yw ond gwahaniaethiad un lythyren.—Parch. T. Frimston, Llangefni.
Y GAREG ATEB.
Careg enwog creig uniaith,—ca' ystyr
Pob cwestiwn ar unwaith;
Ac, heb orphwys dyg berffaith
Eiriau'n ol yn yr un iaith.
—Eos Eifion.
Y neb a gloddio bydew, a syrth iddo.
YR AWEL.
Si yr awel sy', 'rwan,—yn min nos,
Yn mwynhau ei hunan;
O oriel geillt, ei hwyrol gân
Ogleisia dyner glust anian.
—Robyn Wyn o Eifion.
"A ydych chwi yn meddwl y bydd i chwi roi y goreu i ddiod ryw dro?" gofynai ynad heddwch i Wyddel a ddygwyd ger ei fron. "Ydwyf, syr," ebe y Pat. "Pa bryd?" "Pan fyddaf farw, syr."
Y CRYD.
I fyd y farn dyfodfa yw;—drwy gryd
I'r gro ä dynolryw;
Sigledig gysgle ydyw,
Dwy ochr bedd cyn dechreu byw.
—Ceiriog.
Gwell eistedd gyda dyn doeth yn ngharchar na chyda ffŵl yn Mharadwys.
Paid gadael i'th dafod dori dy wddf.
DR. JOHNSON A'I WRAIG.—Pan oedd yr enwog Dr. Johnson yn caru y ferch ieuangc a gymerodd wedi hyny yn wraig, dywedodd wrthi, er mwyn profi ei ffydd, nad oedd gadddo ddim eiddo, ac heblaw hyny, fod ewyrth iddo wedi ei grogi. Atebodd y foneddiges nad oedd ganddi ddim ychwaneg o eiddo nag yntau, ac mewn perthynas i'w cheraint, nid oedd erioed wedi clywed i un o honynt gael ei grogi, ond gwyddai fod llawer o honynt yn haeddu.
Gofynodd boneddwr i fachgen bychan paham na byddai merched yn tynu eu hetiau yn y capel? "Am nad oes yno ddrych (looking glass) fel y gallant eu gwisgo drachefn," meddai y bachgen.
Y GWANWYN.
Tra mae'r adar pêr yn pyncio,
A'r dolydd gwyrdd yn hardd flodeuo,
Coedydd fyrdd yn gwych flaguro,
A holl natur yn ymdrwsio,
I gadw dawnsfa fawr flynyddol,
O glod a mawl i Dduw tragwyddol,—
A raid i'm henaid bach fy hunan
Beidio uno yn y gydgan,
A rhoddi bloedd am fywyd newydd,
Mewn cân a bery yn dragywydd;
I seinio clodydd pêr, laweroedd,
Am olud gras a gwanwyn nefoedd,
Am wisgoedd gwych y Prynedigaeth,
A pheraidd gân y Fuddugoliaeth?
—Esther Jones, Brynychain, Llanllyfni,
Dywedodd offeiriad wrth ei wraig, pan yn ei geryddu am na phregethai yn well, "Mae yn anmhosibl pregethu yn iawn i'r fath gynulleidfa o asynod." "Wel, ai dyna y rheswm y gelwch hwynt yn 'Anwyl gariadus frodyr'?" meddai y wraig.
YFORY.—Diwrnod y bydd diogwyr yn addaw gweithio, a ffyliaid yn addaw diwygio.
Y PETHAU BYCHAIN.
Er gwaned ydyw'r eginyn, a'r fyr
Ymgryfha ei wreiddyn;
Yntau yr eiddiol blentyn
O geir i dd'od yn gawr o ddyn.
—Ieuan Nebo.
Yr oedd hen ferch yn edliw triciau drwg gŵr wrth ei wraig. "Wel, yn wir," ebai'r wraig, "nid ydyw Sion yn haner cystal gŵr ag a ddylai fod, ond y mae yn well o lawer na bod heb yr un."
BLODEUYN YR EIRA (Snowdrop).
Y seirian flodyn siriol—a wena
Ar wyneb gauafol;
Ei fywyd a gŵyd o gôl
Y du auaf difäol.
—W.J.J., Gwilym Ddu Eryri,Talysarn.
Yr oedd dau Wyddel mewn carchar, y naill am ladrata oriawr, a'r llall am ddwyn buwch. "Holo! Mac, beth ydi'r gloch?" meddai lleidr y fuwch wrth y llall. "Yn wir, Pat, wn i ddim," oedd yr ateb, "ond gallwn feddwl ei bod tuag amser godro."
Y CWCH GWENYΝ.
Llwythog, gyfoethog fwthyn,—da adref
Diwydrwydd rhag newyn,—
Mawl i Dduw, a mêl i ddyn,
Yw ei gynwys,—Cwch Gwenyn.
—Gwilym Penant.
YMENYN.—Achwynai gwr ieuanc unwaith ar yr ymenyn a ddygid o'i flaen. "Beth yw y mater arno," gofynai gwraig y tŷ. "O gofynwch iddo,' ebe y llanc, " y mae yn ddigon hen i ateb drosto ei hun."
Dywedai Esgob Seisnig yn rwgnachlyd wrth ei was, ei fod yn marw. "Wel, fy arglwydd," ebai y gwas, " yr ydych yn myned i wlad well." "John," meddai yr Esgob yn ddifrifol, "nid oes un lle gystal a hen Loegr!"
SANCTEIDDRWYDD A DEDWYDDWCH.—Na fydded i ni byth wahanu yr hyn a gysylltodd Duw yn nghyd; bywyd sanctaidd yma, ac un nefol rhagllaw. Rhaid i ni yn awr "rodio gyda Duw," os mynwn fyw byth gydag Ef. Trwy deyrnas gras a sancteiddrwydd yn unig y gallwng gyrhaedd teyrnas y gogoniant.
CYFNEWIDIAD.
Hyd odreu Penrhyndeudraeth—caf nodion
Cyfnewidiad helaeth:
Caws, menyn, ac hwsmonaeth,
A llwybr y trên, lle bu'r traeth.
—Dewi Havhesp.
Y mae y ferch yn priodi y tro cyntaf oherwydd ei bod yn caru; yr ail dro oherwydd fod arni eisiau cartref; ac y mae yn awyddus am roddi trydydd prawf os bydd gan y dyn ddigon o arian.
YR YMGNAWDOLIAD.
Y nef wen a'i hanfonodd, a'r Iesu
O'i ras ymgyflwynodd:
Duw o'i gariad a'i gyrodd
I'r daith fawr, a daeth o'i fodd.
—Cynhaiarn.
DYFAL-BARHAD.—Fe fu Syr Isaac Newton yn hir iawn yn ceisio allan y ddeddf sydd yn gwregysu creadigaeth Duw. Yr oedd y creadur bach yn ceisio taflu codwm â'r greadigaeth fawr yma. Yr oedd yn cael ei droi i lawr o hyd; yntau yn ei threio drachefn; ond o'r diwedd, dacw fe â'i draed yn ngafael â'r ddaear, a'i ysgwydd yn erbyn y lleuad, yn rhoi tro iddi, ac yn tynu yr allwedd, ac yn ei chrogi wrth ei wregys, gyda pha un y gall agor holl demlau'r ffurfafen.—Parch. W. Rees, D.D., Liverpool.