Gemau Doethineb/Y Rhagymadrodd
Gwedd
| ← Gemau Doethineb | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 1 → |
Y RHAGYMADRODD.
Fy mryd penaf wrth gyhoeddi hyn o lyfryn yw, gosod o flaen yr ieuenctyd y cyfryw amrywiaeth seigiau, fel y caffo pob un ryw beth i'w foddloni; eithr gofalu na chaffo neb ddim a fo niweidiol—eu boddhau, hyd y gallwn, gan ochel pethau anhyfryd a diles. Credwyf fod ynddo agos gymaint o amrywiaeth materol ag sydd o wahanol feddylfrydau yn mysg fy nghydwladwyr. Ni wrthodwn ddim ag a dybiwn yn ddefnyddiol oherwydd iddo ymddangos hyd yn nod mewn ieithoedd ereill, llai o lawer y diystyrwn y doethineb sydd briodor i'n hiaith ni ein hunain. Caffed y darllenydd ieuanc addysg fuddiol, ac ni phryderwn ormod yn nghylch y ffynon—dyna fy nôd o'r dechreu i'r diwedd.
Ydwyf, anwyl gydwladwyr, yr eiddoch,
IOAN EIFION