George Borrow (Winnie Parry)
| ← | George Borrow gan Winnie Parry |
→ |
George Borrow
[golygu]Testun wedi’i wirio yn erbyn sganiau gwreiddiol o *Y Llusern* (1907).
Cyhoeddwyd gyntaf yn *Y Llusern* (1907): Ionawr tt. 13–16; Mawrth tt. 38–39; Ebrill tt. 54–55.
Yn hanes llenyddiaeth Lloegr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ni cheir yr un cymeriad mwy dyddorol a rhyfeddaeh na George Borrow na’r un y mae mwy o ddadleu yn bod yn ei gylch ymhlith y gritics. Y mae wedi maru ers dros ugain mlynedd, ond y mae erthyglau yn parhau i gael eu hysgrifenu arno, a chyfeiriadau ato yn y wasg i’ w gweled yn ddibaid.
Yr ydym ni y Cymry y dyddiau hyn yn cymeryd gryn ddyddordeb mewn llenorion Seisnig, yn wir mae lle i ofni fod rhai o honom yn eu cael yn fwy dyddorol na’n llenorion ein hunain, ond mae Borrow, er ei fod yn Sais, yn hawlio ein dyddordeb dyfnaf, nid fel yr ydym yn llengar, ond fel yr ydym yn Gymry, oherwydd carodd ein gwlad, ein hiaith, a’ n cenedl, ac ni phallodd ganu eu clod, a hyny ar adeg pan yr oedd Cymru a’i phobl mwy na heb o dan len. Mae yn ffasiwn yn mysg y Saeson llengar y dyddiall hyn edmygu y Cymry a nodweddion Cymreig, yr ydym yn rhan o’ r Celtic fringe y clywir cymaint o son am dano, yn wir y mae rhai o honynt wedi myned mor bell a chyfaddef nad oes gwr o wir athrylith i’w gael heb rhyw gymaint o’ r elfen Geltaidd yma yn perthyn iddo. Ond nid oedd son am hyn pan oedd Borrow yn canu clodydd Cymru, a pheth rhyfedd a dieithr yr adeg hono oedd i Sais dreulio llafur ac a amser i ddysgu Cymraeg fel y darfu Borrow, er mwyn iddo allu mwynhau gweithiau ein beirdd a’n llenorion.
Mae bron yn amhosibl gwneyd cyfiawnder ag un oedd yn anhebyg i bawb o’ i gyfoedion llenyddol, un sydd yn cael ei alw gan un ysgrifenwr, “A figure dominating, shy, reliant, mysterious, elusive;” ond carwn yn fawr enyn digon o ddyddordeb ynddo fel y byddai i’ r rhai hyny o’ m darllenwyr sydd heb ddarllen yr un o lyfrau Borrow ymgymeryd a gwneyd hyny, gan ddechreu gyda’r un sydd yn ymdrin a Chymru a phethau Cymreig, yr un mae wedi alw “Wild Wales,” cyfieithiad llvthyrenol o enw ydym yn hoff roddi ar ein gwlad mewn munudau o ddyrchafiad barddonol— “Gwyllt Walia.” Mae y gyfrol i’w chael am swllt yn niwyg prydferth y gyfres “Every Man ‘s Library,” gyda rhagymadrodd gan Theodore Watts Dunton, yr hwn oedd yn adnabod Borrow yn bersonol, a’r hwn sydd ei hun yn cymeryd dyddordeb nid bychan yn ein gwlad a’n cenedl.
Darllenai hanes bywyd Borrow fel rhamant. Mae yn ei adrodd ei hun yn ei lyfr “Lavengro,” ac yn myned ymlaen gyda’r hanes yn y “Romany Rye.” Yn wir nid ydyw llyfrau Borrow i gyd ond bywgraffiad o wahanol ranau o’i ‘fywyd. A son am nofels, ni ysgrifenwyd yr un erioed mwy dyddorol na’r llyfrau hyn, a’r awdwr ei hun yn arwr pob un o honynt. Mae rhai beirniaid yn cyhuddo Borrow o hunanoldeb difesur, ond os mae y person mwyaf dyddorol i Borrow oedd ef ei hun, mae yn feddianol ar y gallu i wneyd ei hun yn un mwyaf dyddorol i ninau hefyd; yn wir, ni fu y fath arwr llyfr erioed a Borrow, ac yr ydym yn dilyn ei gamrau gan ofn colli yr un o’ i symudiadau . Mae rhyw agwedd newydd o’i gymeriad yn dod i ‘r golwg ar bob tudalen bron. Un funud yr ydym yn ei gashau am ei doriaeth a’ i elyniaeth at Anghydffurfiaeth, a’r munud nesaf yr ydym yn ei edmygu i’ r carn am ei amddiffyn o’ r tlawd a’r gwan a’r gorthrymedig, ac yn meddwl am dano fel un o farchogion gwydrol, knights-errand, y canol oesoedd. Yn un man yr ydym yn cytuno ag un sydd yn ei alw “The Prince of Adyenturers,” ac yn gedu ei fod wedi ei eni granrifoedd yn rhy ddiweddar, ac mai arweinydd haid o ‘r mor-ryfelwyr hyny, y Vikings, y dylasai fod. Yna y mae yn dwyn i’n sylw rhyw gymeriadau rhyfeddaf, rhai na welsom, ac na fu i ni ddychmygu am eu tebyg o’ r blaen, ac yr ydym drachefn yn cytuno ac ysgrifenwyr arall sydd yn ei alw “A writer of Fairy Tales for grown up people,” fel mae bron yn amhosibl ffurfio barn ar y fath sypyn o wrthgyferbyniadau. Ond yn mha agwedd bynag yr edrychom arno mae yn ddyddorol.
Ganwyd Borrow yn East Dereham, Norfolk, yn y flwyddyn 18o3. Yr oedd ei dad yn ha nu o deulu o foneddigion yn Nghernyw, a chanddynt blas yno o’ r enw Tredinnock, a’ i fam yn un o ddisgynyddion yr Huguenots, y rhai oedd wedi gadael Ffainc er nnvyn eu gefydd ar amser o erledigaeth. Mae Borrow yn cofnodi y ffeithiau ar ddechreu “Lavengro” yn ei ffordd ei hun. Wedi traethu gryn gwrs ar urddas-olrwydd teulu ei dad, mae yn dyweyd yn goeglyd, “Yr wyf yn rhoddi’r manylion uchod er mwyn i ‘r darllenwr ddeall nad ydwyf yn hanu o rhyw deulu cyffredin iawn. Mae hon yn oes bur aristogataidd ac yr wyf yn argyhoeddedig y bydd i’r cyhoedd ddarllen fy ngwaith gyda mwy o ddyddordeb os gwybyddant fy mod yn hanu o deulu bonheddig a chanddynt blas a thiroedd yn eiddo iddynt.” Yn y brawddegau hyn daw cysondeb Borrow a’i anghysondeb i’r golwg. Yr oedd yn Eglwyswr ac yn Dori dallbleidiol, ond yr oedd yn cashau a chas perffaith y bendefigaeth a phob ffug urddas a defodaeth. Mae ganddo rhywbeth i ddyweyd am hynafiaid ei fam hefyd, ac mae nodwedd arall sydd yn perthyn iddo yn dod i ‘r golwg pan mae yn son am danynt, sef ei gasineb at Babyddiaeth. Dywed fel hyn : “Protestaniaid Ffrengig oedd teulu fy mam, a beth bynag anm ei gwaedoliaeth, rhoddasant brawf amlwg fod ganddynt galonau pur a dewr, a’u bod yn Gristionogion gloeyw yn gwrthod plygu i drahausrwydd Rhufain. Am hyny gadawsant eu gwlad brydferth, a chydag ond yehydig iawn o arian a Beibl yn eu hiaith eu hunain daethant dros môr i’ r ynys lle trigai heddwch gwladol a rhyddid cydwybod, a gwnaethent gartref iddynt eu hunain yn East Anglia.
Rhydd Borrow ddesgrifiad manwl o ddyddiau ei febyd. Recruiting agent oedd ei dad, ac mae’r teulu yn cael ei wneyd i fyny o’ r tad a’r fam a dau o fechgyn yn gwydro o fan i fan gyda’r gatrawd y perthynai’r tad iddi. Weithiau byddent yn byw yn y barracks, a thro arall, os byddai y rhai hyny heb fod yn gysurus, yn lletya yn y dref lle byddai y gatrawd yn aros. Mae yn debyg fod y modd gwydredig yma o fyw yn ystod blynyddoedd ei blentyndod wedi meithrin yr elfen grwydrol oedd yn natur Borrow, a’rr hon ddadblygodd i’r fath raddau yn ddiweddarach yn ei oes.
Nid oedd yn blentyn “siarp,” fel Y dywedwn, a bu yn hir cyn bod yn abl i ddarllen ond symbylwyd ef i hyny drwy i foneddiges, cyfeilles i’w fam, ddod a hanes Robinson Crusoe iddo yn anrheg. Yr oedd yr argraphiad yn un llawn o ddarluniau, ac er mwyn deall hanes y darluniau oedd yn tanio ei ddycgymyg ymrôdd y plentyn i’r gwaith, ac ni fu yn hir cyn bod yn abl i ddarllen pob gair o’r gyfrol oedd yn gydymaith beunyddiol iddo. Cafodd y llyfr argraff ddofn ar ei feddwl ieuanc, ac yr oedd yn gynorthwy ychwanegol at gryfhau ei dueddiad naturiol at yr anturiaethus. Yr oedd ei ddyddiau boreuol yn rhai tra dedwydd i Borrow. Yr oedd y dull gwydrol o fyw wrth ei fodd, fel mae yn debyg y buasai wrth fodd llawer bachgen arall. Mae hyd nod pan yn ieuanc iawn yn profi’r gallu oedd ganddo i wneyd cyfeillach a phob math o bobl ac i allu eu swyno i ddyweyd eu holl helyntion wrtho. Mae yn cael ei anfon i ‘r ysgol oreu yn mhob tref mae y gatrawd yn aros yn ei chrwydriadau, ac y mae yn cael ei ddisgyblu yn drwyadl yn y Lladin a’r Groeg.
Mae ynddo allu arbenig i ddysgu ieithoedd, ac mae yn dysgu nifer fawr. Dywedir ei fod yn gallu siarad yn rhwydd maw. Ond yr oedd ar y pen yma hefyd yn llawn mympwy. Yr oedd y Lladin yn ffiaidd ganddo oherwydd ei gasineb at Rufain. Ni fynai wneyd dim a ‘r Gernaneg am fod hono yn cael ei siarad yn y llys a’r bendefigaeth; ond am yr ystyriai fod y Gwyddelaeg, y Gaelig, a’r Gymraeg, yn cael eu dirmygu, a cheisiadau yn cael eu gwneyd i’w lladd, gwnaeth hyny oedd yn ei allu i gadw’r ieithoedd hyny yn fyw. Mae yn gorphen ei addysg mewn ysgol yn Norwich, lle yr oedd y teulu wedi sefydlu ar ymneillduad y tad o ‘r fyddin. Yna yr ydym ei gael yn yr un dref mewn swyddfa cyfreithiwr, wedi tyfu yn llanc grymus dros drwy lath o daldra, yn difyru ei hun pan fyddai’r gwaith yn sefyll drwy gyf ieithu caneuon o’r Danaeg, a chywyddau Dafydd ab Gwilym. Mae yn cyfrif ein bardd ni yn werth hanner dwsin o’i gyydoeswr Seisnicg Chaucer! A fu Sais debyg i hwn erioed?
Tra yr oedd Borrow yn brentis gyda’r cyfreithiwr yn Norwich, bu farw ei dad, ac ymhen ychydig wed’yn blinodd ar ei waith yn y swyddfa, a phenderfynodd fyned fel llawer un arall i geisio ei ffortiwn yn myd llenyddol Llundain; ac mae felly yn cychwyn gyda swpyn o gyfieithiadau o waith Dafydd ab Gwilym a’r drychfeddwl o gael eu cyhoeddi yn argraphedig ar ei feddwl; ond druan ohono! mae’r cyhoeddwyr, yn gyson a’u cymeriad, ac nid oedd derbyniad Borrow i fyny a’i ddisgwyliadau o gwbl. Ni fynai’r un gymaint ag edrych ar gampweithiau Ab Gwilym, a mae Borrow yn adrodd hanes ei ymweliad a’r gwyr hyn mewn dull tra chwerw. Bu yn Llundain am rai blynyddoedd yn hanner newynu mewn garret, ar yr ychydig oedd yn gallu enill oddiwrth ysgrifenu rhyw fân bethau i’r wasg ddyddiol; ac mae yn cyffelybu ei hun mewn un man i un o’n beirdd goreu ni. Goronwy, bardd oedd Borrow yn haner addoli. Blinodd ar y dull hwn o fyw, a phenderfynodd, os oedd raid iddo lwgu, y gwnai hyny o dan awyr lâs ac yn mysg prydferthwch natur. Ae wedi llwyddo i gael ugain punt gan un o’r cyhoeddwyr am lyfr bychan oedd wedi ysgrifenu, trodd ei gefn ar Lundain, a chychwynodd ar daith drwy Loegr; ac yn awr mae cariad Borrow at natur yn dod i’r golwg yn fwy amlwg, a rhydd ddesgrifiadau barddonol a phrydferth o ‘r golygfeydd mae yn weled. Un boreu, mae gyda’r wawr yn dod at y gromlech fawr, Stonehenge, a mae ysbryd y lle yn disgyn arno ac yn cydiad ynddo. Dywed ei fod wedi taflu ei hunan ar ei wyneb ar y ddaear wlithog rhwng dwy o’ r colofnau anferth, o dan y garreg ar eu pen, ac wedi aros felly am beth amser, mae yn codi ac yn eistedd ar garreg yn nghanol y cylch am ddey awr, nes i’ r haul godi a disgleirio ar ei wyneb. Yna mae yn teithio ymlaen, ac mae y digwyddiadau rhyfedd hyny y mae hanes Borrow yn llawn o honynt yn dechreu, ac mae yn dechreu tynu darluniau i ni o’r cymeriadau hynod mae yn gyfarfod. Ni theithiodd ymhell iawn cyn dod ar draws rhyw dinker a’i deulu. Maent mewn profedigaeth, ac fel arfer, mae Borrow, yn ei cyymeriad o’r crwydryn rhamantus “with the waining tongue,” yn gallu eu swyno i ddyweyd eu holl hanes wrtho. Mae yn dod i ddeall fod ar y tinker eisieu ymadael a’i drol a’i ferlyn ; a’ r diwedd ydyw i Borrow eu prynu, a’r tinker’s outfit, am £5 1s. Prynodd hefyd, gan wraig y gwesty lle yr oedd yr ymdrafodaeth hon wedi myned ymlaen, smoc ffroc oedd unwaith yn perthyn i’w mab oedd wed i marw, ac hefyd ychydig o ymborth, ac yna mae yn cychwyn drachefn; a dyma y tinker rhyfeddaf mae yn sicr fu yn tramwyo drwy ffyrdd gwledig Lloegr erioed. Yn ei ffordd mae yn dod i gyfarfyddiad â’r shipsiwns. Nid dyma y tro cyntaf iddo ddod i gydnabyddiaeth â’r bobl hyn. Yr oedd wedi bod ymysg rhai o honynt pan yn blentyn, pryd yr oeddynt wedi rhoddi iddo yr Sapengro, oherwydd ei allu i swyno nadrodd nes eu gwneyd yn hollol ddiniwed iddo ef. Mae yn cyfarfod a’r un rhai drachefn mewn ffair geffylau yn y dref mae yn byw ynddi yr adeg hono, ac yn myned i’w pebyll i ddysgu eu hiaith; ac mae yn dysgu mor gyflym fel mae un o honynt yn dyweyd gyda boddhad mawr, “Ni’th alwn yn hwy Sapengro, ond Lavengro,” hyny yw, meistr geiriau; a dyna fu ei enw ymysg y genedl ryfedd hon- cysylltiad Borrow a pha un sydd yn dod ag un agwedd o’i gymeriad i’r golwg yn eglur iawn- yr oeddynt yn estroniaid ac yn eael eu herlid, ac yr oedd hyny yn rheswm digonol iddo gymeryd eu plaid. Ond nid oedd ei gyfarfyddiad â hwynt y tro hwn, yn ei gymeriad o travelling tinker, mor ffodus. Ymddengys fod un o’ r llwyth yn elyniaethus iddo oherwydd ei fod yn Sais, ac yr oedd; ac yr oedd wedi ceisio ei rwystro pan llanc gael dysgu eu hiaith; ac yn awr mae yn cael cyfleu i geisio ei wenwyno, ac mae yn ei adael yn haner marw yn ei babell. Wrth glywed swn olwynion yn dod i’r cyfeiriad, Mae Borrow yn ceisio llusgo i ddrws y babell am gymorth, ac ar hyn mae yn clywed llais yn dyweyd yn Nghymraeg “Beth yw hwn sydd yn cyorwedd ar lawr?” Yna clywai lais arall- llais merch yn ateb- “Twn i ddim wir, beth allai fod?” Gwr a gwraig oeddynt, ac maent yn estyn cymorth i Borrow ac yn gallu rhoddi rhyw feddyginiaeth iddo oedd yn gwrthweithio effaith y gwenwyn oedd y shipsiwn wedi roddi iddo.
Pregethwr oedd y Cymro oedd wedi dod ar draws Borrow ar achlysur hwn, un Peter Williams. Mae llawer wedi ceisio dyfalu pwy oedd y gwr yma. Gofynai un ysgrifenwr Cymreig, “Pwy oedd y Peter Williams, y pregethwr o Gymru oedd yn tynu’r tyrfaoedd ar ei ol, ac yn myned bron yn wallgof ar brydiau, oblegid ei fod yn credu ei fod wedi cyflawni y pechod anfaddeuol?” Fodd bynag, mae ef a’i wraig yn ymddwyn yn dra charedig tuag at Borrow, ac maent yn ymgomio llawer â’u gilydd tra y bu Borrow yu eu cwmni; ac yr oedd testynau eu hymddiddan yn ddyddorol, fe ellwch dybio, pan y dywedaf fod John Bunyan ac Elis Wyn a’u gweithiau yn eu plith. Nid ydyw Borrow yn gadael i Peter Williams wybod ei fod yn gallu siarad Cymraeg, ac mae yn gwrando arno yn traethu am Elis Wyn a’r “Bardd Cwsg” heb yngan gair o’i wybodaeth o bethau Cymreig. Yn y fan hyn eto mae swyn personoliaeth Borrow yn tynu holl hanes Peter Williams o’i enau, ac mae yn dyweyd holl fanylion ei fywyd wrtho. Mae Borrow yn teithio ar ol hyn yn nghwmni y teulu bychan hyd at derfynau Lloegr. Maent yn ei gymhell yn daer ddod gyda hwynt i Gymru. Gofynai Borrow i beth y deuai i Gymru. “I ddysgu Cymraeg,” meddai y pregethwr. Yna mae Borrow, er eu mawr syndod, yn darganfod iddynt ei wybodaeth o’r Gymraeg. Mae, fodd bynag, yn gwrthod myned gyda hwynt ymhellach, ac mae yn ffarwelio â hwynt, gan ddymuno bendith Duw arnynt. Mae Peter Williams yn rhedeg ar ei ol ac yn gwthio ei Feibl Cymraeg i’w law gan ddyweyd, “Cyner hwn gyda thi.”
Gyda mae Borrow wedi canu’n iach a Pheter Williams a’i wraig, mae yn cyfarfod ag hen gydnabod iddo ymhlith y Shipsiwns a’r peth cyntaf mae hwnw yn ddweyd wrtho ydyw ei fod yn dod o gynhebrwng yr hen wraig oedd wed i ceisio gwenwyno Borrow. Ymddengys ei bod yn wallgof er’s blynyddau, a bod merch iddi wedi cael cam oddiar law Sais, ac mai dyna oedd y rheswm dros iddi fod mor elyniaethus i Borrow gael ymgyfeillachu a’r llwyth, a’r achos iddi geisio ei ladd. Mae Borrow ar ol gadael y Shipsiwn hwn yn ,yned i le a eilw y Pant, lle Mae yn codi ei babell ac yn myyned i hel crochanau i’w trwsio o’r gwahanol amaethdai a’r bythynod oddiamgylch, ac yn y Pant mae’r ymladdfa ofnadwy yn cymeryd lle rhyngddo a chymeriad mae yn alw y Flaming Tinman,” ar ba achlysur hefyd mae Isopel Berners, cymeriad rhyfedd arall yn gwneyd ei hymddangosiad ac yn cymeryd ei blaid yn erbyn y “Flaming Tinman.” Dyma arwres “Lavengro,” ac mae ei hanes y n hynod ddyddorol, ond mae yn diflanu o’r llyfr mor ddisymwth ac yr ymddangosodd rhywfodd, ac nid oes gwybodaeth beth ddaeth o honi.
Mae parhad o’r cyfnod yma, ac efallai y cyfnod mwyaf dyddorol o fywyd Borrow i’ w gael yn ei lyfr y “Romany Rye.” Ei gysylltiad a’r Shipsiwns sydd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o’r llyfr hwn, ac mae Borrow yn dyweyd llawer o hanesion rhyfedd a dyddorol ynghylch y bobl yma. Mae’n cael derbyniad gan yr oll o honynt yn hwn, ac yn wir, maent bron yn myned i’w ystyried yn un o honynt. Ar ol crwydro fel hyn yn y cymeriad o “travelling tinker” ar hyd a lled Lloegr, fel y mae’n adrodd yn Lavengro a Romany Rye, mae yn teithio drwy Ffrainc, Germany, a Rwsia, ac yn 1835, mae yn cyhoeddi yn St. Petersburg lyfr mae yn alw “Tergum,” yn cynwys cyfeithiadau o ddarnau wedi eu cymeryd o ddeg ar hugain o ieithoedd. Gwelwch na fu y fath ieithydd a Borrow ag nad oedd ryfedd i’ r Shipsiwns ei alw “The Master of Words.”
Y n yr un flwyddyn mae yn derbyn cynygiad y Gymdeithas Feiblaidd i fyned i ddosbarthu Beiblau i Spaen. Bu bum mlynedd yn yr Yspaen yn ystod teyrnasiad cythryblus blynyddoedd cyntaf Isabella’r Ail ar yr orsedd, a chyhoeddodd ddau lyfr ar ei deithiau, un ydyw ‘“The Gipsies in Spain” a’r llall “The Bible in Spain.” Mae’r olaf yn llawn o ddigwyddiadau ramantus ac o anturiaethau rhyfedd a gwyllt. Mae llawer iawn o ddadleu wedi bod ynghylch cysylltiad Borrow a’r Gymdeithas Feiblau. Rhai yn dyweyd ei fod wedi ymgymeryd a’r gwaith nid o sel dros ledaenu yr efengyl, ond yn unig fel mater o fywioliaeth, ac mewn ysbryd anturiaethus, ac mae y berniaid hyn yn dyweyd fod yn hawdd canfod hyny yn ei lyfr “The Beibl in Spain,” fod yr anturiaethau yn cael eu oosod i lawr ochr yn ochr ac ymadroddion yn llawn o rhyw ffug sel dros y ffydd Brotestanaidd, ac hefyd fod y llyfr yn colli yn y sincerity hwnw sydd yn swyno y darllenydd gymaint yn ei gyfrolau ereill. O’r ochr arall dywed rhai beirniaid fod Borrow wedi gweithio yn ardderchog dros y gymdeithas. Beth bynag am y beirniaid, buasai un yn meddwl fod casineb Borrow at Babyddiaeth yn ei wneyd yn un campus at y gwaith, ac yn sicr ni chafodd y gymdeithas hono na’r un gymdeithas arall wasanaethwr mwy nodedig a rhyfedd. Dywedir y byddai ystafell y gymdeithas yn orlawn pan fyddai ad roddiadau Borrow i’w cael eu darllen, ac nid oes syndod yn y byd at hyny. Cafodd y “Bible in Spain” gylchrediad ehang, a dywed rhai ei fod hyd heddyw yn aros y mwyaf poblogaidd o lyfrau Borrow. Y llyfr nesaf gyhoeddodd oedd “Wild Wales,” a hwn mae yn ddiameu sydd yn apelio fwyaf atom ni. Hanes ta ith ydyw drwy Gymru yn y flwyddyn 1854. Yr oedd Borrow wedi ffarwelio erbyn hyn a dyddiau ei ieuengetyd, ac efallai fod hyn yn cyfrif fod y llyfr hwn yn llai antur aethus ei gywair na “Lavengro” a’r “Romany Rye.” Ond os ydyw Borrow wedi colli peth o’r tân sydd yn llosgi yn ei gyfrolau ereill, mae digon o frwdfrydedd ynddo eto, ac mae yn cael ei ddefnyddio i gyd i ganu clod Cymru, ei hiaith, ei harwyr, ei beirdd, a’i llenorion. Mae ei rhagdraeth i’r llyfr yn ddyddorol i’r eithaf. Mae yn canmol golygfeydd Cymru a’i dynion enwog. Mae yn dyweyd- “Pwy na chlywodd am y beirdd? Clod iddynt, a thragwyddol glod i’r tri mwyaf o honynt- Taliesin, Dafydd ab Gwilym, a Goronwy.” Yna mae yn myned yn mlaen,- “But Wales has something besides its wonderful scenery, its eventful history and its illustrious men of yore, it has a population and a remarkable one- hardy, frugal, yet kind and hospitable and still speaking- Diolch i’r Nefoedd- the language of Glendower and the bards.” A chyn dechreu hanes ei daith dywed,- “Llyfr wedi ei ysgrifenu am Gymru ydw hwn, ac os gwneiff rhywun fy anrhydeddu drwy ei ddarllen caiff dalu ymweliad a llawer llecyn, yn nodedig, nid yn unig am ei brydferthwch, ond am fod rhyw ddigwyddiad rhyfedd wedi cameryd lle yno, neu am fod rhyw arwr wedi ei eni yno, neu wr o athrylith yn byw yno. Caiff hefyd ddod i ymgydnabyddiaeth a’r gwir Gymro, a chaiff wybod beth sydd ganddo i.w ddyweyd am ei gydwladwyr ac am ei gymydog yr ochr arall i Glawdd Offa, am brynu a gwerthu, ac am besgi moch a magu fowls, ac am Fethodistiaeth, Bedydd a’r Eglwys Sefydledig dlawd ac erledigedig.” Ar ol rhagymadrodd o’r fath mae’r llyfr yn rhwym o fod yn ddyddorol. Yn y bennod gyntaf y mae adrodd yn ei ffordd ei hun y modd y buiddo gychwyn ar daith i Gymru.
YN y bennod gyntaf o “Wild Wales” mae Borrow yn ei ffordd ei hun yn adrodd y modd y bu iddo gychwyn ar daith i Gymru. Yr oedd ef a’u wraig a’i ferch, Henrietta, chwedl yntau, wedi penderfynu myned oddicartref am newid. Mae Borrow eisieu myned i Gymru, ond mae’r wraig a’r ferch yn teimlo awydd myned i rhywle ffasiynol fel Harrogate neu Leamington. Mae Borrow yn dyweyd wrth y ddwy nad oes dim mae yn ffieiddio yn fwy na bywyd ffasiynol, ond gan nad ydyw yn ddyn selfish y ceisiai efe roddi i fyny ag ef am ychydig, a’i fod yn foddlon myned gyda hwynt i rhyw le maent yn ddymuno. Ond mae hyn yn deffro ysbryd aberthol yn y fam a’r ferch, ac maent yn dyweyd y byddai well ganddynt fyned i Gymru, ei bod yn wlad brydferth yn ol pob hanes, ac y byddent yn sicr o fwynhau eu hunain yno, yn enwedig felly gan fod ef yn gydnabyddus a’r iaith. Yna mae yn egluro i’r darllenwr pa fodd y bu iddo ddysgu Cymraeg. Yr oedd gan ei feistr, y cyfreithiwr, was o Gymro, ac mae Borrow yn rhoddi desgrifiad manwl o hono, hyd nod o’i wisg, nes bron yr ydym yn ei weled yn sefyll o’n blaen. Yr oedd y clercod yn y swyddfa wedi darganfod mai Cymro oedd y gwas a byddent yn ei boeni yn feunyddiol drwy roddi eu penau allan o’r ffenestr bob tro y byddai yn myned heibio ac yn gwaeddi “Taffi” ar ei ol. Gwelodd Borrow fod hyn yn peri poen dirfawr i’r Cymro, a llwyddodd i gael ganddynt adael llonydd iddo. Trwy ei garedigrwydd yn hyn enillodd ei serch, a deuai i roddi gwersi i Borrow mewn siarad Cymraeg unwaith bob wyth nos am dros flwyddyn, pryd yr ymadawodd am Gymru ac ni chlywodd Borrow air o’i hanes byth wedyn.
Cymerai ormod o amser i ddilyn camrau Borrow ar hyd ei daith, ond ceisiwn fyned ychydig o ffordd gydag ef. Yr oeddynt, wedi penderfynu gwneyd Llangollen eu headquarters tra y byddent yn Nghymru, ac maent yn cychwyn gyda’u gilydd am y dref hono, ond Mae Borrow yn gadael ei wraig a’i ferch yn Nghaer ac yn cerdded y gweddill o’r ffordd heb gwmni yn y byd.
Mae yn rhoddi hanes manwl a difyrus dros ben o’u sefydliald yn Llangollen. Y diwrnod cyntaf o’u harosiad yno mae cath haner newynllyd yn dod i’ w llety, a rhydd Borrow hanes y crfeadr, ei gorphenol, a beth fu ei thynged yn y di wedd. Geilw hi “a poor Church of England cat”, am y rheswm ei bod unwaith wedi bod yn eiddo person y plwyf, yr hwn oedd wedi Ymadael o’r lle, ac yr oedd am hyny wedi cael ei herlid gan holl Anghydffurfwyr y dref, nes cael lloches gyda Borrow. Mae cyn ymadael a Llangollen yn chwilio am gartref iddi gyda Eglwyswraigm ac ymddengys ei fod yn cael newydd am dani tra fu byw, oherwydd mae yn cofnodi hanes ei diwedd fel y canlyn: “There it continued in peace and comfort, till one morning it sprang suddenly from the hearth into the air, gave a mew and died. So much for the ecclesiastical cat.” Ond i ddychwelyd at ei daith drwy Gymru. Mae yn gadael wraig a’ i ferch yn Llangollen, ac yn cychwyn ei hun ar ei draed. Mae yn dewis y ffordd yma o deithio am ei fod yn rhoddi gwell cyfleustra iddo weled y wlad ac ymgydnabyddu a’i phobl. Mae yn cychwyn ar foreu Sul o Langollen ar ol bod gyda’i wraig a’i ferch yn ngwasanaeth foreuol yr eglwys. Mae yn rhoddi yn rheswm dros ei fod yn cychwyn ar ddydd Sul, ei fod eisieu gweled pa fodd y byddai y bobl yn treulio ddydd Sul yn y wlad.
Mae fel arfer yn cyfarfod a nifer mawr o gymeriadau rhyfedd ar ei daith. Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau, tybed fod y bobl y byddai Borrow yn dod ar eu traws mor ddyddorol ac mae ef yn dyweyd eu bod, ynte mae rhywbeth oedd yn Borrow ei hun oedd yn gwneyd iddynt ymddangos felly. Beth bynnag am hynny ni chyfarfyddais i erioed a chymeriadau o’r fath. Mae ei ffordd o ymddiddan a hwy yn dra effeithiol. Pan mae yn dod at rhyw lecyn a hanes rhywun enwog ynglyn ag ef, mae yn cael gafael ar rhyw wr neu wraig, ac mae yn dechreu ei holi am arwr y lle. Yn aml iawn nis gwyr ddim o gwbl am dano, ac os gwyr rhyw faint mae Borrow yn myned ati i ddyweyd yr holl hanes wrtho. Ac os oedd rhyw fardd wedi ei eni neu wedi byw yno, mae yn adrodd llinellau o’ i farddoniaeth nes mae ei wrandawr yn myned yn fud gan syndod. Sais yn gwybod mwy am bethau Cymreig nag a wyr ei hun!
Mae ei hanes yn myned i weled cartref Huw Morus-Eos Ceiriog,- yn dra dyddorol. Mae wedi cael gafael ar rhyw wehydd o’r enw John Jones, Methodist selog. Mae ef a Borrow yn dod yn gryn gyfeillion, ac mae John Jones yn myned gydag ef i weled amryw o leoedd yn y gymydogaeth. Mae y ddau yn ymddiddam gryn lawer ynghylch gwahanol bethau tra yn teithio gyda’u gilydd, ac yn aml iawn mae yn myned yn ddadl frwd ynghylch crefydd rhwng y ddau. Y naill a ‘r llall yn dal yn dynn yn ei egwyddorion. Ond dyma’r dystiolaeth mae Borrow yn ddwyn i’ r gwehydd Cymreig wrth ganu yn iach ag ef – “I found my guide a first rate walker and a good botanist, knowing the names of all the plants and trees in Welsh. He was very homest, disinterested and exceedingly good humoured. It is true he had some skits at the Church, but setting aside these, a venial trifle after all, and easily to be accounted for, on the score of his religious education. I found nothing to blame and much to admire in John Jones the Methodist weaver of Llangollen.” Yn nghwmni’r gwr hwn mae yn myned i weled cartref Huw Morus. Cyn dyweyd hanes ei ymweliad mae Borrow yn rhoddi i ni bob manylion ynghylch y bardd. Yna mae yn desgrifio y ty ar modd yr aethant i chwilio am rhyw sedd yn nghlawdd y cae gerllaw oedd yn cael ei galw yn “Gadair Huw Morus.” Maent yn cael trafferth mawr dod o hyd iddi yn nghanol y dyrysni a’r mieri, ac o dan gawod o wlaw taranau trwm. Yr oedd gwraig y ty a’i wyres wed’i myned gyda’r ddau i’r cae i w cynorthwyo. O’r diwedd maent yn dod o hyd i rhyw gilfach yn y clawdd a sedd garreg a charreg tu cefn, ac ar hono y llythyrenod, “H. M. B.”, Huw Morus Bardd. Mae Borrow yn desgrifio’r olygfa mewn dull tarawiadol dros ben. Edrydd fod John Jones wedi dyweyd wrtho am eistedd yn y gadair. “Yr ydych wedi cymeryd digon o drafferth i ddod o hyd iddi.” “Ie, gwnewch eistedd,” meddai’r wraig oedd gyda hwynt. “Ond gadewch i mi ei sychu mae yn wlyb a budr.” Rhwystrais iddi wneyd hyny, ac wedi tynu fy het, safais o flaen y gadair, ac meddwn yn y Cymraeg goreu feddwn, ‘“Cysgod Huw Morus, os wyt yn dod weithiau i weled y lle a geraist gynt, wele yma Sais wedi dod i dalu teyrnged o barch i un y mae yn anrhydeddu yn fawr. Darllenodd ganeuon Eos Ceiriog pan oedd yn fachgen, ac yn awr pan y mae yn wr a’ i wallt wedi gwynu, mae yn dod i’r fan hon i ddweyd eu bod lawer tro wedi gwneyd iddo golli dagrau yn hidl.” Yna eisteddais yn y gadair a dechreuais adrodd rhai o ganeuon Huw Morus yn mhresenoldeb y wraig a’i wyres, a John Jones y gwehydd. A’ r tri yn gwrandaw yn astud, er fod y gwlaw yn tywallt ar eu penau, a changenau y coed a ‘r drain yn cael eu gyru gan y gwynt yn curo yn eu gwynebau, oherwydd nid ydyw brwdfrydedd o’r fath byth yn cael ei ddirmygu gan y Cymro pur, syml, a chywir ei feddwl.
Ffynonellau
[golygu]- *Y Llusern* (1907), Ionawr – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148072/15
- *Y Llusern* (1907), Mawrth – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148114/8
- *Y Llusern* (1907), Ebrill – Welsh Journals Online: https://journals.library.wales/view/2142164/2148135/8