Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Ar ol Noswaith Dymhestlog

Oddi ar Wicidestun
Wrth fynd i orffwys Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Gwynt Garw

AR OL NOSWAITH DYMHESTLOG.

ER maethu o'r storm ei thrwst hi,-hunais
Heb anaf na chyni;
Duw Ior, mawr ei dosturi,
Trwy y nos fu'm tarian i.


Nodiadau

[golygu]