Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/At y Darllenydd
| ← Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Cynhwysiad → |
At y Darllenydd.
NID ymesgusodaf am gyhoeddi'r gyfrol hon o'm caniadau, ac ni roddaf y bai am hynny ar "gymhelliad cyfeillion" chwaith, serch i mi gael fy annog gan fwy na dau neu dri. Yr wyf yn ddigon uchelgeisiol i chwennych ymddangos ymysg awdwyr fy ngwlad, ac yn ddigon hunanol i gredu yr ychwanega fy nghynhyrchion ychydig bach at drysor llenyddol fy nghenedl.
Pwy bynnag arall sy'n ddyledus i'r Eisteddfod am symbyliad i feithrin yr awen a'i hymarfer, myfi yn fwy. Magwyd fi ar aelwyd lle y mawrheid ein gŵyl genedlaethol, yr edmygid enillwyr ei chadeiriau a'i thlysau, ac y treulid hwyrnosau i ddarllen eu cynhyrchion. Dysgais garu barddoniaeth Cymru yn fore, ac nid yw'r "cariad cyntaf" wedi oeri hyd heddyw.
Gwelodd amryw o'r darnau sydd yn y gyfrol "oleu'r dydd" o'r blaen mewn gwahanol gyfnodolion. Bu nifer o honynt mewn cystadleuaethau eisteddfodol, a rhai o honynt yn ddigon ffodus i ennill gwobrau a chadeiriau. Ond y mae aml linell ac aml ymadrodd. hyd yn oed yn y rhai hynny wedi eu newid, er gwell, mi a hyderaf. Ni fynnwn gynnyg fy ŷd i'm cenedl heb ei nithio cyn laned ag y medrwn. Diau fod us eto yn aros: gwyntied y beirniaid y cwbl ohono ymaith.
Credaf fod cywirdeb iaith a cheinder ymadrodd ac arddull yn hanfodol i farddoniaeth—yn fwy hanfodol na meddyliau dieithr. A chredaf hefyd mai disgrifio. bywyd a thraethu profiad yw neges y bardd. Ni pherthyn iddo ef athronyddu nac athrawiaethu, mwy nag y perthyn i'r arlunydd neu'r cerddor. Gobeithiaf, felly, na chaiff neb achos i achwyn fod yn fy nghan— iadau "dywyllwch afluniaidd"; yr wyf yn ddigon boddlon i'r rhai a hoffant "awenyddiaeth ddofn" ddweyd mai arwynebol ydynt. Gwell gennyf fyw ym. myd heulwen ac awel a blodau nag ym myd y twrch daear.
Dymunaf gyflwyno fy niolchgarwch cynhesaf i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a'i Hysgrifennydd siriol a chymwynasgar am y caniatad caredig a gefais i argraffu yr awdl ar "Geraint ac Enid." Y mae nifer yr ewyllyswyr da a anfonasant i erchi'r gyfrol cyn ei chyhoeddi ymhell tuhwnt i'm disgwyliad. Can diolch iddynt oll.
MACHRETH.
- LLUNDAIN,
- Tachwedd 28ain. 1908.
- LLUNDAIN,