Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Cân y Forwynig

Oddi ar Wicidestun
Hwiangerdd Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Palmwydd a Helyg

CAN Y FORWYNIG.

MORWYNIG ieuanc ysgafn galon
A rodiai 'nghanol blodau'r glyn;
Hi wyliai'r afon loyw'n llifo,
Gwrandawai'r adar mân yn pyncio,
A hithau ganai gân fel hyn:

Gwenwch, gwenwch, wylaidd flodau,
Yn yr heulwen glir,
Eich pêr sawr a'ch hudol liwiau
Sy'n sancteiddio'r tir:
Carwn innau fyw dan wenu,
Gan sirioli'r byd o'm deutu,
Byw yn hardd, a byw i garu
Pob prydferthwch gwir.

Llifo'r ydwyt, afon loywaf,
Heb wylofus gri;
Minnau ar y lan wrandawaf
Dy furmuron di;
Dysgaf felly fyw yn ddiddig,
A diodi'r rhai sychedig,
Rhoddi balm i bob clwyfedig
Gyfarfyddaf fi.


Cenwch chwithau, adar mwynion,
Eich caniadau rhydd,
Pyncio wnewch am wanwyn tirion
Wedi gauaf prudd;
Eich cyweirnod rhoddwch imi,
Fel y canwyf glod daioni
Cariad Duw, a'i bur dosturi-
Canu carol bro'r goleuni,
Gwlad y bythol ddydd.


Nodiadau

[golygu]