Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Cân yr Angylion
Gwedd
| ← Yr Ehedydd | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Y Parch William Nicholson → |
CAN YR ANGYLION.
Bu loywa' ganiad ar awr blygeiniol—
Uwch Ephrath torrai'n bêr, gywrain garol;
Llais awen hyfedr y "lliaws nefol"
Lanwai'r awyr i'r gwylwyr bugeiliol;
Cywair miwsig grymusol—y glân lu
Oedd geni'r Iesu—erddygan rasol!
Daioni rhyfedd dawn yr Iehofa,
Yn frwd gyhoeddent, seinient "Hosanna,"
Y dwym wys hyawdl i weld Messia
Grëai newyddfyd, agorai noddfa :
Wele hedd i hil Adda,—efengyl
Yn alaw engyl i'r anheilynga.