Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Crwydro Bum

Oddi ar Wicidestun
Derwen Arthur Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Y Delyn Friw

CRWYDRO BUM.

CRWYDRO bum yng ngwlad yr Alpau
'Mhlith mynyddoedd fwy na mwy;
Gwelais dyrrau'r ia tragwyddol,
Dringais eu haruthredd hwy;
Uwch y naill y lleill ymgodent
Nes ymgolli'n uchder nen—
Ni ches yno Gadair Idris,
Ni ches yno Wyddfa wen.

Hwylio bum y dyfroedd llydain
Lifant drwy yr Affrig fawr,
Gan ddiodi myrdd ynysoedd
Gwridgoch fel y decaf wawr;
Wrth yr awel siglai'r hwyliau,
Cwynais mewn aniddig dôn
Am hanner awr o rwyfo'r Fenai
Sy'n diodi glennydd Môn.

Rhodio bum ar hyd dyffrynoedd
Y trofanau—gerddi'r gwin,
Lle ni chollir byth mo'r heulwen,
Lle ni welir blodyn crin;
Gwyrdd wastadedd yn ymestyn
Draw hyd eitha'r gorwel llwyd:
Ac mi dorrais yno'm calon
Eisieu gweled Dyffryn Clwyd.


Nodiadau

[golygu]