Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Cyfaill y Trawd wyt Ti

Oddi ar Wicidestun
Palmwydd a Helyg Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Emyn Priodas

CYFAILL Y TLAWD WYT TI.

"MAE'n nos! a minnau'n wael a thlawd
Yn crwydro'n amddifad heb na châr na brawd,
Pwy wrendy'm cwyn!
Oes neb a glyw gri plentyn llesg a gwan?
Oni ddaw im ymwared o un man?
Paham y rhaid im oddef cymaint clwy?
Creulon yw'r byd! Nis gallaf ddal yn hwy!"
A'r plentyn carpiog, blin, eisteddai i lawr
Ar garreg oer wrth ddrws rhyw adail fawr:
Ond arno ef fan honno seren wen
Yn siriol iawn a wenai; tua'r nen
Dyrchafai yntau brudd-obeithiol drem,
Fel un yn gweled Seren Bethlehem:
A murmur wnai—
"Iesu tosturiol, gwrando fi;
Cymer drugaredd ar blentyn,
Agor dy fynwes i'm derbyn:
Iesu! Iesu!
Cyfaill y tlawd wyt Ti!"

Caredig gwsg gofleidiai'r plentyn gwan,
A'r seren wen yn gwylio uwch y fan;
Ei ysbryd pur aeth gyda'i ddrylliog lef
Fry i'r nef.


Fe dorrai'r wawr: ond cysgai ef o hyd
O gyrraedd twrf, o gyrraedd poen y byd;
A thros y wedd, a fu gyhyd mor wyw,
Ymdaenodd gwrid rhosynau gerddi Duw ;
Tu hwnt i'r llen fe gafodd gartref gwir:
Eto fe glyw y ddaear adsain glir
Ei weddi fach—
"Iesu tosturiol, gwrando fi;
Cymer drugaredd ar blentyn,
Agor dy fynwes i'm derbyn:
Iesu Iesu!
Cyfaill y tlawd wyt Ti!"


Nodiadau

[golygu]