Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Derwen Arthur
| ← Taith ac Oedfa | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Crwydro Bum → |
DERWEN ARTHUR.
DDERWEN Arthur! mae'th ganghennau
Preiffion eto uwch fy mhen,
Minnau'n eistedd ar y garreg
Wrth dy fôn, frenhinol bren.
Gwres y dydd sydd wedi crino
Ynni'm natur bron yn llwyr;
Mi lechaf ennyd yn dy gysgod
A disgwyliaf am yr hwyr.
Disgwyl am yr hwyr yw'r cwbwl
Eto'n ol y sydd i mi:
Ond parod ydwyf i'w roesawu
Dan dy gangau llydain di.
Yma'r wyf mewn hen gynefin
Wedi oes o grwydro ffol;
Yma try hen olwyn Amser
Hanner canrif yn ei hol;
Yma clywaf leisiau ieuainc
Yn galw, megis murmur pell—
Hyfryted yw a llais gollyngdod
I'r condemniedig yn ei gell;
Lleisiau'n gwahodd i ymryson
Neidio a rhedeg ar y twyn—
I weled nyth y dryw ddarganfu
Gwenhwyfar neithiwr yn y llwyn;
Yma daw angylion gobaith
Heb arnynt arwydd cur na loes;
Yma'r wyf ymysg ysbrydion
Breuddwydion cynnar wanwyn oes.
P'run oedd lasaf y pryd hynny,
Ai dy ddeilen gyrliog di,
Dderwen Arthur, ynte wybren
Ddigymylau 'mywyd i?
P'run lawenaf, y fwyalchen
Bynciai'i hemyn ar dy gainc,
Ai'r dengmlwydd, wrth ei gwrando, geisiai
Ei gwatwar ar fwsoglyd fainc?
Dringo'th frigau wnawn cyn hoywed
A'r awel ddawnsiai ar dy ddail;
Ac ar yr uchaf frigyn cwrddem,
Ymgomiem yno bob yn ail.
Adroddodd imi lawer stori
Ryfedd a gyffrôdd fy mryd
I'w holi, ond gwrthododd ateb.
Fy ngofyniadau doeth i gyd.
Gwybod fynnwn o b'le daethai,
A phryd cyrhaeddai ben ei thaith,
Paham y cariai bêr-aroglau,
Paham yr oedd ei dwylo'n llaith?
Bryd bynnag yr erfyniwn arni
Adael imi weld ei llun,
"Dal fi," meddai, yna dawnsiai
Ymaith megis gwamal fun.
Minnau ddigiwn wrthi'n erwin,
Treiglai dagrau'm siom yn lli;
Hithau droai'n ol i'w sychu,
A rhoddi cusan hedd i mi.
Dy ddeiliog frigau 'ngŵydd ein cymod
A gurent ddwylaw mewn boddhad:
O ddigrifwch dwfn, difrifol!
O ddifrifwch llawn mwynhad!
*****
Dderwen dalfrig! ni newidiaist
Ti, mae'th ddeilen heddyw'n werdd;
Ac uwch fy mhen mi glywaf hyfryd
Swn cynghanedd dawns a cherdd.
Paham y rhaid i minnau grino
Fel yr hesg pan sycho'r rhos?
Paham y try fy nghân yn ochain,
A'm goleu ddydd yn drymllyd nos?
Cellweirio wnai a gyffelybodd
Ddyddiau gŵr i ddyddiau pren;
Yn d'ymyl di y mae ei eiriau
Yn swnio megis coeglyd sen.
Trigain mlynedd a dreuliasant
Ymaith stôr fy nghryfder i;
Trigain mlynedd—nid yw hynny
Ond diwrnod yn dy hanes di.
Deg cenhedlaeth o fy nheidiau
Fu yn chware yn ddi-glwy
Dan dy gysgod—deg cenhedlaeth
Roed i huno'n "erw'r plwy."
Tithau wyt o hyd yn gadarn,
Yn hardd frenhinbren ar dy sedd,
Heb arwydd henaint ar dy foncyff
Nac arwydd gwywder yn dy wedd.