Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Dr John Thomas

Oddi ar Wicidestun
Elis Wyn o Wyrfai Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Herber

Y PARCHEDIG JOHN THOMAS, D.D.

O LOES drom—Doctor Thomas—yn ei fedd!
Un fu cyd dan urddas
Di-ddynwared ddawn eirias,
Yn ddewr, gryf gyhoeddwr gras.

Ow, siomedig symudiad!—rhy anodd
I fron friw ei ddirnad!
Rhoi dan len Solon enwad!
Rhoi clo glyn ar oracl gwlad!

Gwelw iawn ydyw Gwalia heb—un a fu
Iddi'n fab doethineb;
Arwyddol yw ei grudd wleb
O lawnder ei ffyddlondeb.

Ymroai mewn mawr awydd—dwyn ei oes
Dan iau moes a chrefydd;
Mawrha haf-feib "Cymru Fydd"
Holl dwym eiriau Lladmerydd.

O fy Nhad pe'm llefain i—wnai y tro
Mewn trefn it gyfodi,
Dolefwn, wylwn ddŵr heli,
O fodd hyd wawr ar dy fedd di!


Nodiadau

[golygu]