Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Dychweliad Arthur
| ← I'r Athro J Morris Jones, MA, ar ol darllen ei Ganiadau | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Elis Wyn o Wyrfai → |
DYCHWELIAD ARTHUR.
Fy Ngwlad os wyt brofiadol—o benyd,
Mae'th boenau'n derfynol;
A'th wron, Arthur nerthol,
I'th ddwyn o warth ddaw yn ol.
Mae adeg gyfamodol—i'w ysgwyd
O'r cwsg angenrheidiol
I'w yforu anfarwol—
Er oedi'n hir, daw yn ol.
Wedi gofid gauafol,—a garwaf
Gorwynt anystyriol,
Fe geir haf a gwyryfol
Hin Eden wenn, daw yn ol.
Er i gur droi y garol—bereiddiaf
Yn brudd gerdd hiraethol;
Ailenir hwyl adlonnol
Dy awen wyw, daw yn ol.
Doniau fuont fudanol,—a unant
Yn y gân fawrygol
I'w agwedd dywysogol,
A'i newydd nerth, pan ddaw'n ol.
Y werin â'i frenhinol—awdurdod,
A'r dewrder naturiol
Drinia'i frodyr yn frawdol,
A ddena ef pan ddaw'n ol.
Ei wych aden warcheidiol—gysgoda'r
Gwasgedig yn hudol,
A difodi adfydiol
Anhunedd wna pan ddaw'n ol.
Yn lle'r cledd dialeddol,—a mawr ru
Môr o waed ymchwyddol;
Ha|cawn heddwch cynyddol
Yn nawdd ei nerth pan ddaw'n ol.
Ei hydrwaith ymerodrol—arafa
Bob rhyfyg estronol;
Adferir ein difyrol
Eiddo i ni pan ddaw'n ol.
Hen anghyfiawnder heriol—a gilia
Rhag golwg geryddol
Ei gryfder, trawster trystiol
A'n ddi nerth pan ddaw yn ol.
Dofi arferion deifiol—a fyn ef;
Fe wna waith rhinweddol,
A chyrhaeddyd uwchraddol
Fri, 'n hawdd i ni pan ddaw'n ol.
Fe'n harwain ni'n gyfriniol—i'w ddilyn,
Dorf o ddeiliaid unol,
Byw yn addurn beunyddiol
I'w nawdd a wnawn pan ddaw'n ol.