Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Elis Wyn o Wyrfai
Gwedd
| ← Dychweliad Arthur | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Dr John Thomas → |
ELIS WYN O WYRFAI.
YN nheml serch, am Elis Wyn—o Wyrfai,
Dagrau torf sy'n disgyn,
A thalaeth bruddha'i thelyn
O'i gloi ef yng nghlai y glyn.
Bur wron! mab Eryri!—ac mor wir
Gymreig a chlogwyni
Ei wlad hoff, i'w galwad hi
Ei ddawn fu'n ufudd weini.
Hygar ddyn, cysegrodd oes—i annog
Ei genedl rhag drygfoes,
Llwyr ei gred yng ngallu'r Groes
I droi enaid, drwy'i einioes.
Gwr byw, gwir geriwb awen,—a'i gerdd ef
Fel gardd ir Ceridwen;
Swydd ei ymgais ddiamgen
Fu puro a llwyddo'n llên.
Yn heddwch y mynyddoedd—maethai ef
Rym a thw'i alluoedd;
Dysgedig dwysog ydoedd,
A barnu'n iawn, brenin oedd.
Tra bore yn toi'r Berwyn,-tra gloewlif
Treigl Alwen trwy'r dyffryn,
Bedd dinodedd ni edwyn.
Y tawel sant, Elis Wyn.