Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Emyn Priodas

Oddi ar Wicidestun
Cyfaill y Trawd wyt Ti Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Hervé Riel

EMYN PRIODAS.

MEWN priodas gynt yng Nghana.
Buost, Iesu mawr, dy Hun;
Rho Dy bresenoldeb yma
Lle y rhwymir dau yn un.

Uno'r dwylo yn ol defod
Hardd Dy eglwys a wnawn ni;
Ond sancteiddio y cyfamod
Wna Dy bresenoldeb Di.

O'th foddlonrwydd daw cysuron
A dedwyddwch yn y byd,
A Dy gariad yn y galon
Geidw serch yn bur o hyd.

Dysg hwy'n dyner iawn i feithrin
Teg rasusau ar y daith;
Yn eu cartref bydd yn Frenin,
Hwythau'n ffyddlon yn dy waith.

Aros, Iesu, gyda'r ddeuddyn,
Dyro iddynt nawdd dy Groes;
A'th dangnefedd fo'n eu dilyn
Tra parhâo dyddiau'u hoes.


Nodiadau

[golygu]