Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Geraint ac Enid
| ← Cynhwysiad | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Y Celt → |
Darnau Cynghaneddol.
GERAINT AC ENID,
(Awdl Cadair Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1904.)
i.
Antur oes yw hynt traserch,
A lle bo'r siom llwybra serch.
AR ryw hynt wyllt Geraint oedd
Hyd oror dieithr diroedd,
Ai'n angel darostyngiad
Marchog difoes roes sarhad
I Wenhwyfar yn hyfalch
O greulon bwyll, gerlyn balch.
Gyda'r hwyr daeth i deg dref—or—brysur,
Heb roesaw'n ei goslef;
Ni wyddai am un haddef
A ryddhai'r ddôr iddo ef.
Ni wenai arno wyneb,
A mwyn air ni roi min neb.
Drwy y dref y crwydrai dro,—gan fwmian:
"Pla ar y fan! Pa le yr âf heno?"
Ei gil droes, a gwelai drig
Lydan, ond adfeiliedig,
Gerllaw'r dref: eb ef, "Bu hon
Ryw adegau'n rhoi digon
O wir roesaw, a'r trysor
Fwynhai ddyn o fewn y ddôr."
Yna heb dario at honno tynnodd,
Yn ddig o'i orchwyl ei neuadd gyrchodd;
Ond yn nes pan ddynesodd,—llys tloted,
Na chyn waeled ei ddrych, ni welodd.
O'r rwyg henllys gŵr gwynllwyd
A gwelw ei wedd, mewn clog lwyd
Dyllog a rodiai allan;
Canfu ef, ac yn y fan
Meddai: "Gwel'd rwy', Facwy, fod
Rhyw daer iawn bryder ynod;
Ai llid tost yw'th drallod di?
I'th gysur beth a geisi?"
Ebr Geraint: "Barug hwyrol
O lathraidd wawr leithia'r ddôl,
Rhy oer yw i ŵr orwedd
Gyda'i bwys ar gauad bedd;
Mynnwn yn rhan o dan dô
Dy annedd gysgod heno."
"Briw annedd," ebe'r henwr,
"Un eithaf noeth yw fy nhŵr;
Llawnach o fwyd a llawenydd—unwaith
Fu ei hen fagwyrydd;
Ond rhoi a eill ein trullydd
A wna tra maen ar faen fydd."
A chyrchu Geraint orug y tirion
Wr hen, a'i annog o'i gyfrwy'n union;
Tywynnu fel.aur hyd hen falurion
Rhwysg ei wehelyth wnai gras ei galon:
Carai fwynder yr arferion—oedd ddrud,
Er difa'i olud, rhwng yr adfeilion.
Hyd risiau têr niferoedd o fynor
I fewn aent ill deuoedd:
Rhwygiedig iawn drig ydoedd,
A phetai waeth, rhyw lofft oedd.
Croesai'r Macwy drothwy'r drig
A meddwl oedd fflam eiddig
Wrth gofio taw dwylaw dyn,—heb arbed,
O dŷ fu hardded a wnaeth dlawd furddyn.
Gwelai hen wraig lana' 'rioed—
Un a'i hwyneb mewn henoed
Yn arwyddo gwawr addien
Ei newydd ne'n ddeunaw oed.
Arall oedd gerllaw iddi,—hardd eilun
A gwir ddelw ohoni
Yn ei gwanwyn, yn gweini,
A chu serch i'w heisieu hi.
Mor ddifyr y myfyr mwyn-a di-haint
A fu i Eraint o wel'd y forwyn;
Mireinaf em rhianedd-pob rhyw fro
Welai ef yno mewn gwaelaf annedd.
Gwyw liw yr henwisg liain
Wisgai'r heinyf wyryf fain,
A'i wael wead gai'i loywi
Gan geinder têr ei chnawd hi:
Un oedd gwawr ei diddig wedd
A diwall wawr Blodeuwedd;
Dwyfoch unlliw a deufin
Oll yn goch megis llwyn gwin;
Mwnwgl lyfned a mynor,
O liw myg alaw y môr,
Ac mor deg a gorne gwyn
Yr ôd fwrir hyd Ferwyn:
Ei gwallt, dros warr fel arian
Fwriai i'w gwasg ei frig aur,
Nes cuddio'i dwy ysgwydd dan
Fawreddog lif o ruddaur.
Ebr Ynywl: "Nod fy nhlodi,-a dwys yw,
Nid oes was march iti:
Eb Enid: "Diles poeni,
Hynny o fodd a wnaf fi."
Yna'n ddistaw â dwylaw dihalog,
Hyddysg merch, hi ddiosgai y Marchog
O'i farchwisg bali deg a godidog;
A chyfuwch braint i Eraint gyhyrog
Ni bu a dadglymu'r glog—gan fedrus
Law un gariadus, mor lân a gwridog.
Yntau braidd rhag maint y bri—a giliodd,
A mud wyleiddiodd am adael iddi;
Fe wyddai na feddai neb—di—alaeth
Hawl i wasanaeth y fath dlysineb.
Hawdd iawn oedd i weinyddes—o deg wedd
A phuraf fonedd gyffroi ei fynwes
Nes elai'n eirias aelwyd
Cyfrin dân tynera' nwyd.
Hithau Enid, wrth weini,
Oedd ŵyl iawn, meddyliai hi
A brwd fryd, am briod fraint
Y wraig a garai Geraint.
Wedi maeth drwy fwyd a medd
Cynheswyd caine hynawsedd;
Ar fainc wael, i'r ifanc ŵr,
Rhoi ei hanes wnai'r henwr:
Y'mhwyslais trwm ei oslef
Clywid swn ei ofid ef.
Traethai Geraint warth garw—y sarhad
A roddes rudd welw
I'r lân Wenhwyfar, a'i lw-troai'n ol
I'r nwyd hunanol y bryntni hwnnw.
Eb e wedyn: "Heb oedi,
O lym nwyd carlamwn i,
Hyderai'm tanllyd arial,
Ac ynni dig, cawn eu dal
Yn fuan, ond i f' awydd
A'm llid ffrom mawr wae siom sydd ;
I'm soriant, hwy gawsant gell,
Ac estyn wnaeth y castell
Nef o nawdd-ond, myn fy nig,
Foru udo'n friwedig
Ga'r Marchog ŵyr amherchi
Y wraig fwyn fawrygaf fi."
Yna eilwaith, gan welwi:
"Wrda," meddai, "sylwais i
Fod i'r Marchog talog, tyn,
Fawr roeso, mwyaf resyn!
Fe gai ef dorf i'w gyfarch
A gwrdd fawl pan gerdda'i farch
Drwy y dre, a'i hyder oedd
Yn cynneu hwyl y cannoedd.
Rhyw aneirif ddylifiad,
Megis ar ddull cynnull câd,
I'r dref oedd, a mawr dwrf fel
Twrf ffair cyn taro ffarwel.
Gymysg â therfysg, swn gweithio arfau
A rwygai fwyniant ddoi o'r trigfannau ;
Swn prysur lafur yn gloywi gleifiau,
A rhoi terwynnaf wawr i'r tariannau ;
A gwŷr ar eu meirch yn gwau—heb wybod
Yr iawn gyweirnod i'r hoywon garnau.
Mynega im', nac omedd,—yr achos
O'r uchel oferedd;
Rhyw wawd o wir anrhydedd
Yw stŵr hy ddistrywia hedd."
Ebe'r hen yn hamddenol:
"Oni wyddit ti fod dôl
Lydan iawn draw'n eitha'r dre',
A'i chae hir yn fan chware?
A gwŷs ymhell, ar gais meint
Taerion am hwyl twrneimeint,
Yrrai'r Iarll i wŷr o rin,
Wedi arfer â durfin,
I brif ornest brawf fawrnerth,
A dreia'n hagr fedr a nerth;
Foru yw'r dydd i fri'r dewr
Dorri honniad yr anewr.
Twrneimeint ar un amod—
A fo ŵr glew o fawr glod,
Ni cha hwnnw ei chynnyg
Heb arddel serch rhyw ferch fŷg;
A hithau raid ddwyn, weithian,
I'r drybestog, fywiog fan,
Ac yn enw y gain honno
A thwym iawn nerth ymwân o.
A'r Marchog eurog, a fedd gorr garw
Ro'i iti alar sarhad di elw—
A'i eofn fawredd wnai'r dref yn ferw—
Sy' hyf o fwyniant, sef ef yw hwnnw
Ddwywaith â'i nerthoedd hoyw—orthrechodd,
Ei riain lonnodd â breiniol enw.
Oni cha'i atal na'i drechu eto
Yforu unwaith, caiff mwy ei freinio
A hawl i'r urddas sy' addas eiddo,
Heb yr un ornest na barnu arno;
Yr addurn gedwir iddo,—cryfach gŵr
O ddig ymwanwr, ni ddwg mohono."
Ebr Geraint sobr a gwrawl:
"Fe heriaf fi'i freuaf hawl
I'r addurn, bid wiw roddi,
Er fy mhorth, arfau i mi;
Hydr i gwrdd pob hyder gau
Yw mraich hon, a'm march innau."
"Bydd wych, o mynnych y modd,
Rhof fi arfau o wirfodd:
Ond mae y wraig, geinwraig gu,
I'w harwain i'r ddôl foru?"
Ar hynny troes Geraint drem—ar Enid,
Rhyw dirionaf letrem:
Hithau, yr wyl anwylem,
Wnai gwrid yn fwy dengar em.
Ei wyneb, pan atebai,
Ymlonnai mal ynni Mai,
A dyma'i iaith: "Rhoist i mi
Nyth, a'm lluniaeth i'm llonni;
Rhoist arfau heb drist erfyn:
A oes fai o cheisiaf hyn—
Ai camwedd chwennych cymaint,
Ai ofer im' geisio'r fraint
O arddel mun o urddas,
A'i chlod o ryw uchel dras?
Y landeg, ŵyl, Enid gu
Yw'r firain wyryf foru
A gyhoeddaf, ac iddi
Y gofynnaf, hawliaf fi,
Lamystaen di staen, da stôr—
A gwae'r traws ddygai'r trysor.
Dy esmwythyd, os methaf
Yn y drin gethin a gaf,
Fydd hyn, na chafodd Enid
Yn d'ŵydd ddim gw'radwydd i'w gwrid.
Os di—warthrudd fo'm lludded,
Rhwymaf fy ngrym a fy nghred
Y ca, wrda, 'm cywirdeb,
I'w di—sodli ni ddaw neb;
Archaf iddi'r serch feddwyf—
A'r nef a'i barn—tra'n fyw bwyf."
Llonnodd Ynywl Iarll yn nydd henaint
I'r gu eurfron roi'r fath ragorfraint;
Newydd hyfryd i fun oedd difraint—
Ow, y chwerw gamwedd—ei charu gymaint:
O'i fri, pan adnabu'i fraint yn addfwyn
Wên y forwyn, llonnaf fu Eraint.
I'r hynaws Enid drwy y nos honno
Ni ddeuai ennyd o awydd huno,
Gwawr wendeg a'i cai'n gwrando—peroriaeth
Addewid hyffraeth ei breuddwyd effro.
Canai y Macwy'i hunan
I gwsg, a hon oedd ei gân—
"Enid lwys y mae dy lun
Mal llun y tair meillionen
Gwynion, teg, a wenent ar
Y dalar droediai Olwen;
A'th gnawd têr o geinder gwawl,
Swyn breiniawl tlysni Branwen.
Llu a ŵyr mai ti o'r llon
Forynion yw'r fireinaf;
Archai Duw dy drochi di
Yn lli'r goleuni glanaf,
A lliwio'th fin, a lliwio'th foch,
O goch y cwrel gwychaf.
Od oedd gwedd Blodeuwedd gu
Yn synnu torf â'i swynion,
Y gwir llwyr, bait ti gerllaw
Ei gadaw wnelsai Gwydion:
Wyched wyt dy degwch di
Eill loywi llys Caer Lleon.
Enid gu yn d'ŵydd nid gwyn
Yw'r ceinwyn eira cynnar;
Neu'r ewyn têr ar gerrynt aig
Rhag gem o wraig mor hygar;
Glod yr oes! bydd gwel'd dy wrid
Yn ofid i Wenhwyfar!"
Wedi ennyd o huno—
A pheraidd oedd—deffrodd o.
Y'ngloewbrid ie'nctid y dydd,
A'r henwr yn arweinydd,
Ai'r pedwar i'r gwyrdd farian
Er bri y'miri'r ymwân
I Eraint: mynnai'r bore.
Roi arlliw aur ar y lle
Ireiddwawr, cyn lli rhuddwaed,
Cyn cenlli o gochni gwaed.
A pherarogl mwsogl maes
Hyd Wynfa o'r llydanfaes
Esgynnai, rhos a gwinwydd
Y berth a roent ebyrth rhydd,
Onid oedd foroedd o fyrr
Rhywiog yn lleithio'r awyr.
Eto i'r maes y tyrrai myrdd,
Cyrchu y cae wnai'r croch eu cerdd,
Gwych farchogion, a gweision gwrdd,
Am hwyl i'r cylch doi aml wraig hardd.
Ac yn y cynhwr', yn fwya'i dwrw,
Doi'r Marchog talog dros fraint ei elw;
Tân y twrneimeint hwnnw-roi, hyd fedd,
I wychu'i fonedd, yr uchaf enw.
Eisteddai'n uchel ar farch canwelw,
Ei wisg yn newydd, a'i osgo'n hoyw;
Ei eirf a'i darian gydffyrf â derw,
Yn ail i lewyrch yr haul o loyw:
O ddialedd yn ddelw-a cholofn-
Un fyddai eofn i feiddio'i wayw.
Yn dlws wrth ei ystlys e'-marchogai
Merch hygar, ucheldrem;
Ddygai bob awr y llawryf
Am hyder hyf a llym drem.
Dihafal wisg o bali
Guddiai ei chorph, harddgorph hi,
A'i liw'n ail i'r melynaur
O gylch pen banadlen aur:
Ac o weled deced dull.
Hon, acennai y cynnull
Ei chlod; ac uchel ydoedd
Y nwyfus, foliannus floedd.
Annerch ei ordderch arddun
Wnai efe: "Mireinaf un
Y weirglawdd wyt, ac erglyw,
Addurn clod d'eiddot ti yw;
Y teg lamystaen gest ti
Ddwy flynedd, ef eleni
Gei hefyd, ynddo gafael,
Dy wen ffawd nid edwyn ffael."
O gwrr y maes doi laes lef,
Rhyw wrddlais roi waharddlef-
Rhy wych yw it, na chyrch ef."
Ar hynny Geraint ddi-gryn a gwrol
Arweiniai Enid, feinir eneiniol,.
Yn ei rhwyg henwisg liain, i'r canol;
Meddai "Fe weddai i'r fwya' haeddol
Ddwyn y llamystaen o'r ddôl,-ac wele'r
Un rhaid ei hadde'r fwya' prydweddol."
Ac ebe'r llall mewn angall nwyd :
"O'th araith ddewr, rhy hy i'th oed,
Daw mwy na rhoi, tyrd, y mae'n rhaid
Ymwân â mi hyd golli gwaed."
Ac i orchest ymgyrchu'r
Aent ill dau, y mentyll dur
A wisgent dincient encyd
Ryw ing oer wrth daro 'nghyd:
Trywenynt o'u tariannau
Ddi ri danfyllt i wyllt wau:
Rhoi glew i'r glew aml arw glais,
Diamgen fu'r gydymgais;
Cydnerth y ddau ryferthwy,
Di-nych oedd eu gwydnwch hwy:
A bu alw mawr am belydr
Dri thro wedi rhuthraw hydr.
Yna'n flin gan erwin nwyd—
Gan wyllt egni llidiognwyd-
Gwnai Geraint gynnyg arall
Erchyll iawn; cyrchu y llall
A gwayw drom orug o draw,
Ac wedyn tost ergydiaw,
Nes torri ei laes darian
Yn holltau mawr, yn ddellt mân;
I'w anglod torri'r cenglau
Oent breiff, mal pe baent wê brau;
A'i fwrw o'r cyfrwy eurwawr
Yn welw a hurt i'r gwyrdd lawr.
O'i gyfrwy'r Macwy'r un modd
Mewn nwyd yn chwim a neidiodd
I'r llawr, ond cyfodai'r llall
Yn ei hewyd aniwall:
I'w hing hwy gyrchent y'nghyd
Ragor, ac ar y gweryd
Bu dulio enbyd eilwaith,
Curo hir, a hacra waith;
Do, bu llymdost ddidostur
Glwyfo dwfn â gleifiau dur;
Rhudd aberoedd o burwaed,
Ffrydiau chwys gymysg â gwaed,
Foddent a throch eu cochwy
Leufer têr eu llygaid hwy.
Ond cof o amarch sarhad y Marchog
Fywhâi ddigofaint Geraint gyhyrog
I un wrdd orchest fyddai'n ardderchog ;
Agorai wedyn â'i gleddau gwridog
Wahanglwyf mawr ym mhenglog—ei elyn,
Hanerai'i goryn yn annhrugarog.
Ac Edern falch, gadarnaf wedd,
Yno'n ei waed lareiddiai'n hawdd ;
Yn friw ei glod, yn fyrr o'i gledd,
A'i fraich yn wyw, fe erchai nawdd.
Rhoi nawdd yn dirion iddo-a orug
Geraint, a llw arno
Na oedai'r iawn am ei dro-anghynnes
I'r wiw frenhines a'r forwyn honno.
A Geraint yn gymaint gŵr,
Bu daer awch pob edrychwr
I roi parch a chyfarch well,
Ac estyn croeso'i gastell
Fynnai'r Iarll: "Cei yn fy nhrig,"-ebe ef,
"Y balm i'th friwedig
Ben a'th fron, Bennaeth o frig-brenhinol-
Olew dewisol aelodau ysig."
"Nid all cymaint braint," ebr yntau,-" fy nwyn
Neu fy nenu innau
I'th dŵr, er ffraethed d'eiriau,
Mae gallu uwch i'm gwellhau.
Y fan gorphwysaf heno-yw y nyth
Y bum neithiwr ynddo,
Hwnnw fynnaf, caf, rhag haint,
Bur ennaint i'm briw yno.
Eos anwyl y sy' yno,-yn sŵn
Cân ei serch caf huno;
Oni wn y cân honno
Waetha nghur ymaith o ngho'."
A hithau Enid, dan wrido,-a droes
Drem o hyder arno,
Treiddiodd yn ynni trwyddo
Laddai ei daer ludded o.
Y'mraich ei gariad, mor wych a gwrol—
Nid fel un drethid gan flinder aethol—
Y cerddai'r Macwy urddol—i gael hedd
A newydd hoenedd mewn man oedd ddenol.
Ac ufudd weinwyr a gafodd yno
O'r llu gweis a fynnai'r Iarll eu gwysio ;
Cadd i'w enau win, cadd ei eneinio,
A hyfryd oedd yr adferiad iddo:
Ac i'r ddawns fe gerddai o—heb hanes
Dyrnodiau'i ornest a'r niwed arno.
Geraint drwy wir ragoriaeth,
Heb un fost, yn bennaf aeth:
Ni ddug warth ar lys Arthur,
Ni friwiodd ef fri ei ddur:
O'i lwydd cadd Ynywl haeddol
I'w lonni'i hen hawl yn ol,
Ac henllys y gŵr gwynllwyd
Ni wybu am brinhau bwyd
Wedyn; ond mwya' llondid,—yn deg ran
Iddo ei hunan enillodd Enid.
Oriau'u cur wnaeth yn burach—i'r ddau hyn
Beraidd awr cyfrinach
Eu Hafallon, cyfeillach
Di glwy nef dwy galon iach.
Ewyllysiai'r Iarll osod
Y gwychaflin bali'n bod
Am Enid, rhag gofid cas
Beio harddwch heb urddas.
Y gair a roddes Geraint:
"Gwenhwyfar yw'r un ga'n fraint
Wisgo fy Enid lwysgain,
Em wŷch, yn y sidan main;
Mewn lliain wisg, henwisg wyw,
Mwya' hudol im ydyw,
Ei gwisg ni ddryga'i gosgedd.
Na gwych haf ei gwengoch wedd;
Gloywa hon bob gwael henwisg,
Heneiddiai wawr newydd wisg;
Odid ceid a decâi hon
O'r lliwiau sy' Nghaer Lleon."
O'r holl wenau a'r lloniant
Hoenus, a thwrf dawns a thant,
Rhagddynt parth a llys Arthur
Oedd bell, yr aeth y ddau bur.
Ac eres groesaw gwresog—o'i gyrraedd
Gafodd Geraint Farchog:
Llawenydd llawn oedd y llog—am hydrwaith;
Ai ef o'i glodwaith yn fwy goludog.
Cwrel fin ei frenhines—a eiriai
Ddiolchgarwch cynnes,
Arno hi wenai ernes—ffafrau haf
Ei nawdd dirionaf, pan ddwedai'r hanes.
Y deca Enid cai honno—hefyd
Wên Gwenhwyfar erddo;
Ac esgud arch i'w gwisgo—mewn sidan
Ddewisai'i hunan a roddes yno.
Yn y sidan clws odiaeth,
O newydd wê,'r rhiain ddaeth
Gerbron, a'i gorddengar bryd
Ferch wylaidd, ddifrycheulyd.
Swynai'r llys, unai'r lleisiau
Am oriau hir i'w mawrhau.
Yno rhwymyn yr amod
Oedd gadarn hyd farn i fod,
Yn ddedwydd gadd ei ddodi—ar Eraint
Arwrol, uchelfri;
A'i ŵyl Enid—haelioni
Iach fron oedd ei chyfran hi.
ii.
Ei bla a wysia traserch,
Dwys iawn yw gofidiau serch.
Bu heulwenau dair blynedd
I'r ddau, mor bur oedd eu hedd!
Tân cariad ieuanc Geraint
Gryfhai'i wres, cywir i'w fraint
Y ceid ef, cadwai o hyd
Fyw wawr haf i'w fri hefyd;
Bywioca wr ymhob camp,
Garai hwylgerdd gwrolgamp;
Ei anian yn fyth heiny,
Hyttra oedd mewn antur hy:
Yn rhwydd, fel yr awel rydd,
Ei glod dramwyai'r gwledydd.
Wedyn ei hewyd hoyw a wanhãodd,
Ei feiddiol ynni a ymfoddlonodd;
Moethau di-raid ac esmwythder hudodd
Y gŵr amlwg, ac o olwg ciliodd;
Ei lyswyr esgeulusodd,-a bywyd
Tawel seguryd di-les a garodd.
Maws dof ac ymgom stafell
I'w duedd ef ydoedd well
Na berw y llys, na bri llu,
Na thrachwant am orthrechu;
A gwên ei hawddgar Enid
Nag urddineb lle b'ai llid.
Nod ei enw a edwinodd,—a chalon
Yr uchelwyr gollodd;
Llais clod y lliaws gledodd
Yn wawd trist a gogan trodd.
Enid fernid, a mawr feio arni
Gan wyrda oedd, ac anair roed iddi,
Hwy dybient, mynnent mai hi—gadwynai
Drwy wên ac amnaid ei dirion gwmni.
Hithau glybu, bu fawr boen
Iddi, guriodd ei gorhoen;
I'w chariad ir, teimladwy,
'Roedd eu hoer sarugwydd hwy
Fel yr awel a rewa
Egin rhos rhy gynnar ha'.
Doi gur o weled Geraint
Mor ddifraw am ei hardd fraint,
Mor ddiofal, mor ddifyr,
Ei gân ynghanol gwawd gwŷr;
Er gwybod fod arno fai
Mwya'i radd nad ymroddai,
I ddwedyd rhy brudd ydoedd,
Llwfrhau rhag llefaru 'r oedd:
Gyrru gwawr rhos, gwywo'r gwrid,
O'i dwyfoch wnai'r mud ofid.
Hyn ddarniai hedd ei hwyrnos,—a hirion
Fu oriau ei gwylnos;
Yn lle hun, rhoed i'r llinos.
Wylo'n hallt drwy gydol nos.
Ryw fore o haf eurwawr
Gwenai'r haul ar gynnar awr
Ei wawl i'r stafell wely,
A'i eirig wres oedd mor gry'
Oni ddihunodd Enid—o'i hysgafn
Gwsg i fyd ei gofid:
Bore i hon hefo'i brid—ddisgleirder
A ddug ail lawnder o ddigalondid.
A Geraint yno'n gorwedd
A fwynhai hun yn nwfn hedd
Diofalwch dadfeiliant,
Heb na broch, na chyffro chwant
I glod uwch mor gysglyd oedd!—ei galon.
I freuddwydio'n rhy farwaidd ydoedd!
Enid a'i gwyliai'n huno,—a'i heirias
Gariad bured iddo
A'r diwrnod rhoi'i chred arno;—ni chadd brad
Un rhwth ddymuniad anrheithiaw mono.
Tybiai na welwyd tebyg
Erioed i'w mad briod myg;
Dan wawl bore deced oedd
Ei wrid, mor aruthr ydoedd
Ei ddifriw gadarn ddwyfron,
Y gorfawr rym gaerai'i fron;
Lluniaidd, gawraidd gyhyrau
Geid i gyd gwedi eu gwau
O fawr nerth cyfrin Arthur,
Cadernid cadwyni dur.
Rhoddai ochenaid arwydda'i chyni,
A geiriau'i halaeth leithiai ddeigr heli:
"Gwae im' os o'm hachos i-y mae'r haint
Orug i Eraint fyw heb ragori."
"Ai myfi yw'r achos y mae'i freichiau
Cryfion a thirfion heb glodwaith arfau?
Na ŵyr ennill i'w fronnau-castellog
Eto liosog gyfrdelid dlysau?"
"Onid oedd warth im gadw oddiwrtho
Anfwynaidd ogan fynnai 'i ddiwygio?
Ateb a raid im eto-na ddwedswn,
Eiddil iawn oeddwn-anffyddlon iddo!"
Afonydd ar ei fynwes-dywalltai
O heillt ddagrau cynnes
Mwy llym na grym y gwres;-lled ddeffroai
O'i hun, a chaffai ryw ddarn o'i chyffes.
Ac yntau'n anghall a gamddeallodd
Ei garw glwy, a'r rhwyg eiriau a glywodd;
Dibwyll eiddigedd dybiodd—i Enid
Dorri'i haddewid—a'i awyr dduodd.
Ei fawr serch a friwiai saeth—wenwynig
Anianol amheuaeth;
Yn ei galon ymson wnaeth,—chwerw y gwall!
"Am rywun arall mae arni hiraeth."
Arwed yr iasau gai'r hyder ysig,
Ac hael fu adwyth cariad clwyfedig;
Gwelai ei gred siomedig—ar ei lwydd
Ddu nod gwaradwydd nwydau gwyredig.
Cyffrôdd a llidiodd yn llym,
A'i wefl ysgydwai'n gyflym;
Ei was yn chwyrn a wysiodd,
Ac am ddeufarch yr arch rodd.
Yna anerchodd Enid,
Ac e'n floesg gan nwyf ei lid:
Tithau nac oeda, teithiwn
Ymhell o wae'r lle mall hwn;
Rho i ffwrdd yr hoff harddwisg,
Brysia wisgo'r waela wisg;
A boed mefl, heb wâd, i mi,
Dua' wewyr, os deui
Yma'n ol yn ameu'm nerth,
A gwydnwch f'eiddig adnerth:
Dy anghymwys ddwys bruddhad
Mi a wn, a'th ddymuniad—
Daw i ben pan gred y byd
Wanhau'm hawen a'm hewyd."
"Pa iaith yw hon," eb hithau,—" arglwydd,
Erglyw, ddaw o'th enau?
Dir, ni wn ystyr d'eiriau,—anhydyn
Ydwyf i ddilyn rhawd dy feddyliau."
Ebr ef, gan ei briwio hi:
"Buddiol yw nas gwybyddi."
Rhag ei lid Enid grynnai.
Heb arni fai, mewn braw'n fud;
Deufwy llwfr i'w stafell âi,
Hi a wisgai'n anesgud—
Yn brudd, fel un mewn breuddwyd—
Yn lle harddwisg, lomwisg lwyd.
Cyni'n wir oedd canu'n iach
Lle cofiai well cyfeillach;
Bu wylo yno ennyd,
A gwaedd drwy'r neuadd i gyd.
At Eraint, i'r anturiaeth,
A bryd dwys, yn barod daeth;
"Im', hir," ebr ef, "d'ymaros,
Afraid waith, i'th gyfrwy dos;
O mlaen cerdd, tro lle cudd ych
O lwybr asp a bwystfil brych;
Minnau ar d'ol yn d'olwg
I'm hing af; bydd mwy o ngwg
Arnat, oni fyddi fud,
Gwir wae a ddwg gair ehud;
Clyw di hyn, clo dy enau,
Neu annwn dost gawn ein dau."
Ymaith i'w thaith aeth hithau,
Ni feiddiai ond ufuddhau ;
Ei gwae oedd ddwfn, a'i gwedd hi
Welwach na gwynlliw'r lili
Gyda gorlem drem mor drist—a chystudd,
O ercha' gythrudd y Marchog athrist
Ddilynai'r eiddil Enid,—o'i ddifyr
Oror, a'i fyfyr ar fwy o ofid.
Gan ado'r priffyrdd a'r llwybrau gwyrddion,
Draw y trodd Geraint i'r tiroedd geirwon
Lenwid o ofnau,—i'r glynnau dyfnion
Oedd froydd tryblith, lledrith, a lladron,
A phydewau seirff duon,—cyfeiriodd,
Yno'i nwyd yrrodd ei Enid dirion.
Drysodd trallodus draserch,
Yn nydd siom creulanodd serch.
Yn wrol Enid flaenorai,—y llwybr
Garw a llaith nis ofnai;
Ei Geraint fwyfwy garai,
Ac er ei fwyn ymgryfhai.
Er cloi'i hiaith, er cael ei arch
Ddig ef nad oedd i'w gyfarch,
Beiddiaw yr holl rybuddion
A niwed nwyd a wnai hon,
O gwelai draw argoel drwg,
A gelyn yn y golwg.
"Dwedaf heb gêl," ebr hi, "doed a ddelo,
Y dua' warth fydd im dewi wrtho;
Oni fyddaf fi iddo fyth yn bur,—
O daw mwy dolur,—Duw im a dalo!
O golli Ngeraint nis gallai ngeiriau
F'amddiffyn wedyn rhag holl ofidiau
Marw mwy gerwin, a gwell i minnau,
O ddwysaf ingoedd ddewis fy angau.
O'i law ef, byddai'm clwyfau—'n ysgafnach,
Ac yn felusach mi gawn fy loesau."
Hyllig wawd dig oedd y tâl
A gafodd am ei gofal,
A bu gwaeth y bygythion
Y doi briw enbyd i'w bron
Oni thawai; 'n ei thywydd.
Crynai, ond ni phallai'i ffydd.
Ac er ymosod o rai grymusion.
O lid ar Eraint â phelydr hirion,
O flaen medr uwch a diflin ymdrechion
Ei ynni gwelwodd y ffyrnig alon;
Hwy a fwriwyd yn feirwon,—a'r llawr llwyd
O'i ddeutu wridwyd â rhuddwaed drudion.
Wedi aml orchest mewn tost ornestau
Heb arw anaf, na briwio'i ewynau—
Er diengyd cyhyd ar rawd angau
Mal dan nawdd ffawd wnai wawd o niweidiau—
I antur cerddodd yntau—barodd gur,
O'i lidiog lafur cadd waedlyd glwyfau.
Y niwed a wanhäodd—ei wych nerth,
A chan nych llewygodd,
Yn swrth o'i gyfrwy syrthiodd—megis marw
Yn wyw a gwelw, a'i synwyr giliodd.
Ymdorrai storm o dristâd—ar Enid,
Ffrydiodd o'i bron ddifrad
Brudd osper, sobr ddiaspad,
Yn groch lef goruwch y wlad.
Gwyrodd uwch ei ben, a garw—iddi oedd
Ei weld ef mor welw;
Ei chariad a wylai'n chwerw—âi pryder
Drwy'i henaid tyner y diwrnod hwnnw.
Ei friw hagr gyda'i dagrau—a olchodd,
Eilchwyl rhoi'i gwefusau
Ar ei fin oer; ei fywhau—o'i wendid
A geisiai Enid â thwym gusanau.
Disber ac enbyd ysbaid—fu iddi,
Ni ddoi i ddofi'i chyni ochenaid
O'i fynwes—dristaf ennyd!—clywai dranc
Yn lleibio ieuanc ffynhonnell bywyd!
O rywle, i le'r alaeth,
Iarll Limwris ddibris ddaeth;
Gwelodd Enid brid mewn braw
A galar yno'n gwyliaw,
Ei ddu ornwyd drodd arni,
Rhwth edrych i'w chwennych hi.
Ei dafod dyhir lefarai'n dirion
Er denu Enid i'w rwydau'n union—
"Awn a'th ŵr o'r fan noeth hon—i'm llys draw,
A phaid ag wylaw, fe gaiff dy galon
Eto lawenydd, atal—dy ddagrau,
A thi gei wenau gloywach i'th gynnal."
Rhoed Geraint ar ei darian—i'w gario,
Ac i'r gaerog drigfan
Aed ag ef yn llwyd a gwan,
Heb wybod mwy na baban.
Yno'n dawel ar elor
Gorweddai ef ger y ddôr.
Ebe'r Iarll wrth Enid brudd:
"Atal di d'ofid difudd,
Afreidiol lifddwfr ydyw
Firain ferch; o farw yn fyw
Ni ddaw ef; bid iti'n ddoeth
Ei anghofio; o nghyfoeth,
O'm hiarllaeth, ac o'm heurllys
It' rhof fraint meddiant ar frys.
Yn lle anghlod mawr dlodi
Cei eiddo teg heiddit ti,
Ceinwisg yn lle'th lomwisg lwyd,
Ddi fai, yr harddaf wewyd;
A hyfryted, fwyned fydd
Ein gŵyl ynghwmni'n gilydd.
"Y wisg hon," ebe yr ysig Enid,
Oddi am danaf ni ddaw mwy hyd onid
Archo'm Geraint; a chwerwach y'm gyrrid,
Dolur mwy dwysgur gawn pe'm diosgid;
Pe rhown o nghof fy ngofid—byddai'r llog
Yn ofnau euog—ni wnaf ei newid.
Ys im rhoed, os marw ydyw,
Faethu nghlwyf fra fyddwyf fyw."
Eilwaith yr Iarll gan welwi
O wŷn llosg, i'w hennill hi
A lefarodd: "Clyw, forwyn,
Mefl yw it' na fyddit fwyn;
Drwy hir ympryd d'ysbryd di
O wae lanwyd; i'th lonni
Mi a'th borthaf, mwynaf maeth
Llawenydd ydyw lluniaeth:
Ha yf win, ac o'th fynwes
Dy gur oer ymlidia gwres."
A llyn o fedd, llonnaf win,
Gloewfedd o liw gwawl hefin,
Ar wefus o wawr afal
Roddodd ef-er iddo ddal
Yrhawg i amur gymell
Efô o'i waith ni fu well.
Troi eilwaith tua'r elor
Wnai y fun, a'i gruddiau'n fôr;
A dyma'i hiaith: "O! paid â mi,―y gŵr
A garaf acw weli;
Dy winoedd byth, hyd oni
Yfo ef, nid yfaf fi."
A dygyfor digofaint
Yn ei lw'n enynnol haint,
"Os o'm mwyniant nis mynni "—ebe ef,
"Bid fy melltith iti: "
Taranodd uwch trueni
Enid ddwys, cernodiodd hi!
Dan anghlod y gernod gas,
A'r gofid chwerw a gafas,
Dyrchafodd treiddiol ddolef
O'i mynwes hi—rhyw gri gref
Am ddialydd; meddyliai—am Eraint,
Mwy o hiraeth deimlai;
Eb hi: "Byth ni cheid, pe bai—e'n fywiog,
Gamweddwr nwydog a'm hy ddyrnodiai!
Gwaedd ei Enid o'i lewyg ddihunodd
Eraint, o'i glefyd dybryd dadebrodd;
Y'mhlyg y darian ei arf feddiannodd,
Hydr megis cadarn o'i drwmgwsg cododd;
Wedyn i'r llawr fe neidiodd—yn sydyn,
A'i eiddig elyn rhagddo a giliodd;
Ei gleddyf fry a chwyfiodd,—er dycned
Mawr iasau'i ludded, Limwris laddodd.
A'r dewr weision drwy'r drysau—a redent,
Hwy gefnent rhag ofnau:
Nod diddig gai'r cynteddau,
O'u mewn nid oedd namyn dau.
Enid frawychus roi naid i freichiau
Ei hanwyl Eraint, cysurol eiriau
Loywodd ei hwyneb, glywodd o'i enau ;
Ac eisieu 'i henaid lanwai'i gusanau;
Pwysai'i chalon ar fronnau-ei harglwydd,
A'i dieuogrwydd felusai'i dagrau.
*****
Trosodd aeth penyd traserch,
Ei ieuanc salm bynciai serch.