Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd
Gwedd
| ← Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Telyn Cymru → |
GORSEDDU DYFED YN ARCHDDERWYDD, 1906.
"YNG ngwyneb haul" dringai'n Pen—i'w "Faen Llog"
O fewn llys Ceridwen;
Teyrn newydd tirion Awen
Ddaeth mewn hedd i'w orsedd wen.
Rhodd ei lw i feirdd ei wlad—y dilesg
Geidw'u hawliau'n wastad;
Ar ei faen mae'n brif ynad
I weini deddf—ac yn Dad.
Er mwyned yw llyw'r meini,—iddo ef
Ufuddhawn heb goegni,
Neu daw'n drom iawn arnom ni
Fedwen Dyfed i'n dofi.