Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Herber
Gwedd
| ← Dr John Thomas | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl → |
HERBER.
AM Herber hoff, Cymru brudd—a gwyna,
Mae'r genedl mewn cystudd,
A llifo'n afon ufudd
Wna'i dagrau heillt hyd ei grudd.
Ysig loes i'r eglwysi—ei daro
O dŵr ei uchelfri;
Ow! roi eu nawdd cadarn i
Oer weryd yr Eryri.
Haul i'w oes, apostol Iesu—fu ef
Yn ffurfafen Cymru,
A'i loywa wawr wnai i lu
O'i achos lawenychu.
Arweinydd o feiddgar ynni,—a'i sêl
Dros Walia yn llosgi;
Meithrinai'i moes, rhoes ei fri,
Yn addas darian iddi.
HERBER fawr, buraf wron!—ei ail ef
Ni fedd ei wlad weithion;
Yn ei hing gruddfanna hon
Heb ei cheriwb a'i choron.