Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Hervé Riel

Oddi ar Wicidestun
Emyn Priodas Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Y mae Gwrid ar Ruddiau'r Rhosyn

Cyfieithiadau ac Efelychiadau.

HERVÉ RIEL.[1]
(CYFIEITHIAD O BROWNING).

Ar y dyfroedd ac yn Hogue, un-ar-bymtheg naw deg dwy,
Brwydrai'r Saeson â gwŷr Ffrainc—gwae i Ffrainc!
Ar yr olaf ddydd o Fai, dianc yn blith drafflith drwy'r
Aig, fel haid moch-bysg mewn braw rhag y morgwn roddant glwy,
Wnai'r llongau'n llu, tyrrent i Sant Malo ar y Rhainc,
Dilynai llynges Prydain hwy.

Sgadran a ddihangodd oedd, erlyn wnai'r gorchfygydd cry';
Caed o'r gyrr ymlaenaf oll, Damfreville'n ei long o fri;
A chyd-ffoai'n fach a mawr,
Ddwy-ar-hugain teg eu gwawr;
Drwy arwyddion galwai'r llu,
"Help i gampwyr rhedfa hy!

Dowch i'n tywys, rhowch in' borthladd, brysiwch—
neu yn gynt na chwi
Cymer y Prydeiniaid ni!"

Llong—arweinwyr doeth y lle neidient ar y bwrdd yn chwim;
Chwarddent: "A oes siawns i'r llongau yma basio'n glau?
Creigiau ar y dde a'r chwith, y fynedfa'n fylchog lym―
All yr Erchyll hon y sydd a'i gynnau'n naw deg dau o rif
Hwylio i fyny'r aber gul nad yw byth yn caniatâu
I fad bach o ugain tunnell ar ei dyfroedd nofio'n hyf
Pan fo'r llanw ynddi'n llawn?
'Nawr, mae'r trai yn isel iawn.
Mynd i'r lanfa! Na'n ddiau,
Tra saif craig, neu'r dwfr a lif,
Nis gadawa llong y bau!"

Cyngor yn y fan gai'i alw.
'Roedd y ddadl yn ferr a chwerw:
"Wele'r Saeson ar ein sawdl; fynnir iddynt lusgo'n rhestr
Y cwbl o'n llynges sydd ar ol, wedi rhwymo lles! wrth lestr,
I Plymouth yn ysbail drud?
Gwell fai colli'r llongau i gyd!"

(Damfreville derfynai'i draith).
"Nid oes funud hwy ynghadw!
Boed i'r Ceptyn ar un waith
Lanio, ffrwydro, llosgi'r llestri ar y tywod llaith!
Dyged Ffrainc ei thynged arw.

Rhowch y gair!" Y gair, er gwadd,
Ei roddi byth ni chadd;
Codi wnaeth, ymlaen aeth i'w plith hwy yn ddinacâd―
Cadben? Rhaglaw? Swyddog—o'r brif, ail, neu'r drydedd radd?
Na, nid gŵr o gyfryw nod,
Teilwng o rai mwy eu clod!
Ond Llydawaidd forwr wasgodd Tourville i'w gâd-long i ddod,
Glàn-long-lywiwr tlawd oedd ef, Hervé Riel y Croisiciad.

Ebe Hervé Riel: "Pa goeglyd wawd neu falais yma gawn?
Y'ch chwi'n wallgof, Faloiaid? Y'ch chwi'n llwfr, yn ffals, neu'n syn?
Son am greig a beisfan wnewch wrthyf fi fu'n plymio—fi
Wyr am bob rhyw dywod fryn, pob bas fan, pob ymchwydd lli,
Rhwng y traethfor hwn a Grêve lle y câ yr afon lyn?

Brynwyd chwi âg aur y Sais? A gaiff serch o'r celwydd les?
Gwawr a nawn, nos a dydd,
Drwy'ch bau llywiais, ac yn rhydd
Drwodd aethum, bwrw angor wrth droed Solidor a wnes.
Llosgi'r llynges? Tlodi Ffrainc? Gwaeth na phum deg Hogue f'ai hyn!
Gwyddant mod i'n deyd y gwir! Credwch fi, mynedfa sydd!
Yr arweiniad rhowch i mi,
Llywiaf y llong fwya'n wir;
Pan fo'r Erchyll' hon yn glir,
Gwnewch i'r lleill ei dilyn hi,
Fe'i harweiniaf fawr a mân, drwy fynedfa wn, yn ffel,
Hyd Grève heibio Solidor,
Rhof hwy yno'n iach eu gwawr;
Os y cam-nawf un o'r côr—
Os un cilbren rygna'r llawr,
Wel, ni feddaf ond fy hoedl-dyma 'mhen!" eb Hervé Riel.

Ni chânt aros funud awr.
"Arwain ni, yn fach a mawr,
Wele'r llyw, t'wysa' rhes, cadw'r sgadran!" meddai'r glyw.
Geptyn, rhowch i'r morwr le!

Ar fyrr air, Llyngesydd yw,
Paid, Ogleddwynt, drwy ras Ne'!
Gwêl ei bryd wronaidd e'
Pan â naid, fel helgi,'r brif
Long â drwy'r fynedfa'n hyf—
Geidw'r llwybr fel pe bae'r fodfedd gul o le yn eang lif!
Gwêl, yn haid dilynant hwy
Rhwng bas fan a chraig heb glwy,
Un o'r llongau ni cham-nawf, un cil chwaith y llawr ni lŷf,
Ar un styllen nid oes friw!
Mae'r perygl drosodd oll,
Porthladd gânt, heb un ar goll,
Ar foment bloeddia Hervé Riel "Angor"—ffawd a'i gŵyr,
Daw y Saeson—ond, rhy hwyr!

Wedi'r storm tawelwch geir:
Gwelant sigliad coedydd chweg
Uwchlaw Grève ar dyrrau teg.
Bronau briw â balm iacheir.
"I fwynhau ein llonder llawn,
Boed i'r Saeson hela'r bau,
Rhincian dannedd, tremio draw'n
Syn wrth danio'u gynnau gwae!

Islaw'r cribog Solidor hyfryd hwylio'r Rhainc a wnawn!"
Gobaith yn lle dychryn ar wedd pob Capten gawn!
Pawb yn bloeddio'n unllais gair,
"Mae'n lle uffern in' nef ddel!
Rhodded Ffrainc, a'i Theyrn, heb feth
Glod i'r gŵr a wnaeth y peth!"
Dyna gymloedd, pawb 'run air,
"Hervé, Riel!"
Yntau eilwaith ddaw ymlaen,
Arwydd syndod ni cha le
Yn ei glir las-lygad e';
Ni newidiodd ddim o'i raen.
"Ffrind," eb Damfreville, "mae'm hawr
Innau i lefaru'n awr,
Er fod hynny'n anodd iawn.
Dyfnach clod na gwefus wael;
Cedwaist longau'n Teyrn, heb ffael,
Rhaid it' enwi'th wobrwy'n llawn.
Bron machludo bu ein haul!
Beth bynnag hawli di,
Ni thâl Ffrainc ei dyled hi.
Cais yr eithaf, ac fe'i cai! neu nid Damfreville wyf fi.'

Yna dros y barfog fin
Gwên hyfrytaf fwriai'i rhin,
Fel y chwarddai'r galon wir
Drwy'r Llydawaidd lygaid clir;

"Gan y rhaid im' ddweyd yn rhydd,
Gan nad oes ar y bwrdd ddim gwaith,
Ac nad ydyw o Fau Malo i Bwynt Croisic fawr o daith—
Gan mai eisieu gofyn sydd-
A'r lleill ânt i'r lan ynghyd-
Wel! rhoer imi un hir ddydd!
Hawl i fynd i weld fy ngwraig, Rhiain-wenddydd deca'r byd!"
Hynny geisiodd, hynny gafodd-dyna i gyd.

Angof enw a gwaith y gŵr:
Nid oes golofn, nid oes dŵr,
Ym mro Croisic geidw'n fyw yr orchest fawr ei budd;
Llun mewn deuliw ni chewch chwi
Ar un cwch pysgota, i
Gofio'r hwn waredodd o grafangau gwymon lli
Y cwbl achubodd Ffrainc o'r frwydr pan gariodd Lloegr y dydd.
Ewch i Paris: chwiliwch drwy
Ddi-drefn rengau'r arwyr sydd
Ar y Louvre, amgylchwch hwy!
Cyn y dowch at Hervé Riel, hir eich ymchwil fydd.
Nawr, er gwell, er gwaeth, fel bo,
Derbyn, Hervé Riel, fy nghlod!
Boed it eto, Hervé Riel, yn fy nghân
Gadw'r sgadran, mawrhau Ffrainc, caru'th Riain-wenddydd lân!


Nodiadau

[golygu]