Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Hwiangerdd
Gwedd
| ← Morfudd | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Cân y Forwynig → |
HWIANGERDD.
(Alaw Wyddelig).
O CWSG di, blentyn gwyn dy fam,
Mwy gwerth na'r byd;
A phaid ag ofni unrhyw gam,
Cwsg yn dy gryd:
Hwi si, Hwi si;
Mae pobpeth tlws yn cysgu'n awr,
Ond tonnau'r lli,
A chysga dithau nes daw'r wawr
I'th ddeffro di.
O cwsg, a thi gei'r seren glaer
Sydd yn y nen;
Cei chware gyda choron aur
Y lleuad wen:
Hwi si, Hwi si;
A phan ddeffrôi o'th hapus hun,
Fy mach dinam,
Cei bore foru weld dy lun
Yn llygad mam.
Fe daena angel dros dy gryd
Ei aden dlos;
A thani byddi'n berffaith glyd
Ar hyd y nos:
Hwi si, Hwi si;
Heb boen na braw i'th wneud yn brudd,
Breuddwydia di
Am gusan mami ar dy rudd,
Hwi lwla li.