Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/I'r Athro J Morris Jones, MA, ar ol darllen ei Ganiadau

Oddi ar Wicidestun
Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Dychweliad Arthur

I'R ATHRO JOHN MORRIS JONES
ar ol darllen ei GANIADAU.

Dy ganiadau gwin ydynt,
Ffrwyth gwinwydden Awen ŷnt;
Darperaist di o'r purwin
Mewn aur gawg, minnau o'r gwin,
Loew afon, a hael yfaf,
O modd yn wir meddwi wnaf.

Estyn im' hen stên Omar
A wnêst, a'm min y gwin gâr;
A newydd winoedd Heine
Ddygaist di i lonni 'ngwledd;
Dwyn drudwin o dir Eidal!
Ba weithred hon? Beth yw'r tâl?

I lonni serch gloyw-win sydd
Yn dy gathlau, fwyn gethlydd;
Ei felus flas a flysiaf,
Dro ar ol tro ato'r âf:
Ni raid menestr o estron,
Caf hedd wrth ddrachtio medd Môn.


Nodiadau

[golygu]