Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref, fy mun

Oddi ar Wicidestun
Y mae Gwrid ar Ruddiau'r Rhosynl Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Y Bardd a'r Baban

MAE'R FFRWD YN LLIFO'N GREF,FY MUN.
("The river floweth strong, my love.")

MAE'r ffrwd yn llifo'n gref, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref;
Ac felly llifa nghariad i
Yn wastad tuag atat ti,
Gyrr i'th gyfarfod dyner donn
I'th ddwyn i orffwys ar ei fron :
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref.

Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn;
Ymchwydda gylch mwsoglyd frwyn,
Treigla drwy'r coed a'r glynoedd mwyn,
A rhuthra'n wyllt dros greig i lawr
I fynd yn ol i'r eigion mawr:
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn.


Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd;
A llifed felly'th gariad di
Nes dod yn un a'r eiddof fi,
Cwrdd fel y ffrwd a'r môr a wnawn,
Ac aros fyth yn un a gawn:
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd.


Nodiadau

[golygu]