Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor

Oddi ar Wicidestun
Y Côr Asgellog Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

I'r Athro J Morris Jones, MA, ar ol darllen ei Ganiadau

MIRI ENWI'R FFYRDD YM MANGOR,
1906.

Bu arw wanu'r bur heniaith
Ym Mangor, llofruddio'r iaith
A wnai cyngor rhonc, angall,
Hyfion ddysgedigion dall;
Darnio'i byw gystrawen bêr,
O wirfodd ei chamarfer,
A thrin ei heirdd lythrennau
Wrth goel ac athrawiaeth gau:
Urddwyd proffwyd y priffyrdd
I'w phwyo hi ar y ffyrdd,
A'r iaith sionc dan greithiau sydd
Ar waliau yr heolydd.

Ow f'hen iaith, gwaith go gethin,
A di-ras ydyw'th gam drin;
I dy swynol gydseiniaid
Chwerw dro eu briwio heb raid;
Ni ŵyr ffug-ddysgawdwyr ffol
Eu nodwedd gyfnewidiol,
Ni fyn impyn o fympwy
Weled dull eu treigliad hwy;
Ceir eu clwy yn cario clod
Brau dybiau rhai di-wybod.


"Ffordd Deiniol"! ai heol yw?
Neu arswydus gors ydyw ?
Mae i'w gwylio, mae'i golwg
Oddi draw yn addo drwg;
Daw i ŵr i'w rhodio êl
Wae'n drwch, ni fedr ei ochel;
Dwfn byllau, rhigolau gant,
Fel trapiau dieifl a'i tripiant,
Gwelwi wna ar siglen oer,
A sudda i'w ffos dduoer:
Ha, dyna ffawd y dyn ffol
A dynnir i "Ffordd Deiniol"!

I'w chollfarn, achlod arni,
Gadawn hon, a gwadwn hi!

I rydd ŵr mae ffordd arall,
A honno gyrch os yw'n gall-
"Ffordd Ddeiniol," ffordd ddiana,
Ar ei hyd yn ddifyr â;
Ffordd lydan, gyfan ei gwedd,
Pob darn yn gadarn gydwedd,
Ac erfawr greigiau Arfon,
Haenau tew, gynhaliant hon;
Ffordd ddistaw, priffordd wastad,
Gâr hen lu gwerin y wlad.


Nodiadau

[golygu]