Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Morfudd
Gwedd
| ← Wyt Ti'n Cofio | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Hwiangerdd → |
MORFUDD.
Mi gwrddais Morfudd gyntaf
Yn dod i lawr yr allt,
A deuros ar ei deurudd,
A heulwen yn ei gwallt;
Am eiliad tremiodd arnaf
Heb aros-megis merch:
A minnau drois i chwilio
Am lwybrau serch.
Pan gwrddais Morfudd wedyn
Ar lan y gloewlas li,
A blodau lond ei dwylo,
Fe wenodd arnaf fi;
A'r wên ddirodres honno,
Mor bur a gwylder merch,
A'm dysgodd i addoli
Wrth allor serch.
Drachefn mi gwrddais Morfudd
Dan dderwen ar yr allt;
Gofynnais gwestiwn iddi,
Ni fynnai hithau ddallt;
Gofynnais iddi eilwaith,
A gwrido wnaeth y ferch,
Ond yn ei gwrid darllennais
Ei hateb, ac mi brofais
Holl wynfyd serch.