Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Palmwydd a Helyg

Oddi ar Wicidestun
Cân y Forwynig Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Cyfaill y Trawd wyt Ti

PALMWYDD A HELYG.

AR lechwedd amlwg, palmwydd teg
Ddyrchafent frig yn hy,
Ac ar eu cangau beilchion hwy
Yr haul dywynnai'n gry'.

Ond min yr afon yn y pant
Oedd mangre'r helyg prudd,
A'u dail a blygent at y dŵr
I wylo drwy y dydd.

Holl brennau'r goedwig roddent le
I'r palmwydd praff eu bri;
Ond taenent eu cysgodion dros
Yr helyg ger y lli.

Cai cangau'r palmwydd harddu llys
A llwybrau clod a ffawd;
Ac uchaf swydd yr helyg oedd
Dal telyn fud y tlawd.

O fewn y Babell, Llys yr Ior,
Ar ddydd yr uchel ŵyl,
Yn ymyl cangau'r palmwydd tàl
'Roedd lle i'r helyg gŵyl.


Nid palmwydd llydain heulog fryn.
Yn unig gofia'r Nef,
Yr helyg prudd sy'n byw'n y pant
Arddelir ganddo Ef.


Nodiadau

[golygu]