Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Peroriaeth
Gwedd
| ← Telyn Cymru | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Yr Ehedydd → |
PERORIAETH.
HYNAWS Beroriaeth! â'i hudoliaethau
Hi ddwg lawenydd i brudd galonnau;
Er profi beunydd fedydd gofidiau,
Daw heulwen wedyn o'i hyawdl nodau:
Nabl hon dyrr ein blinderau,—geilw hedd,
Cawn nef a'i hoenedd yn lle cwynfannau.