Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Taith ac Oedfa

Oddi ar Wicidestun
Ewyllys Adda i'w Blant Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Derwen Arthur

Dyriau.

TAITH AC OEDFA.
i.—TAITH.

HEULWEN Mehefin fel rhiain fwyn
A gusanai ruddiau y Berwyn llwm,
Yntau a wridai yno'n ei gwydd
Fel bachgen deunaw: hyd lawr y cwm
Chwa Mehefin a grwydrai fel
Ysbryd tiriondeb yn ymfwynhau
Heb un reol, na neges heblaw
Dweyd wrth y blodau am ymdecâu:
Ar y glaswellt boreol wlith
A berliai cyn loywed a dagrau saint,
A phob glaswelltyn a grymai'i ben
Yn wylaidd dan bwysau'r oruchel fraint:
Myrdd o adar dröent bob llwyn
Yn gangell sanctaidd plygeiniol gân,
Hyfryd i'r Nef oedd aberth mawl
Calonnau bychain mor llon, mor lân:
Bore Sabboth mor deg a gwedd
Cariad haelionus a lanwai'r tir;
Llanfihangel yng Ngwynfa oedd
Y bore hwnnw yn Wynfa wir.


Drwy y weirglawdd o Ddolwar Fach
Fe gerddai merch un ar hugain oed;
Llonned a'r adar ydoedd ei bron,
Hoywed a'r awel ydoedd ei throed;
Dawnsiai nwyfiant yng ngwrid ei grudd
Oedd goched a gwaed ar eira cann,—
Nwyfiant ieuenctid na wyddai ddim
Am ofn na phryder pererin gwan:
Cân ddi—fawl dorrai dros ei min—
Hoenus, wageddus, anianol gainc,
Wnai i aderyn wrando'n fud
Mewn prudd-der syn ar ei ddeiliog fainc.

Cerddai y ferch i lawr y cwm
Heb weled un o'r prydferthion fyrdd
A wenent arni mewn gwyrdd a gwyn
Megis angylion o ddeutu'r ffyrdd;
Oriel Anian i'w llygaid hi—
Oriel lawn o ddarluniau nef
Baentiwyd â lliwiau teca'r wawr
Gan law anweledig ei gariad Ef—
Oedd dan orchudd; ei gwamal fryd
Y diwrnod hwnnw ni theimlai chwant
Casglu blodau; ni chlywai gerdd
Adar, na murmur arianlli'r nant;
Miri gwylmabsant fawr y dref
Feddiannai feddwl yr eneth fwyn,

Yno cai gwrdd â'i chyfoedion hoff,
Yno 'roedd pobpeth a feddai swyn.
Wrth brysuro meddyliai pwy
O'i chyfeillesau a ddoi i'r ŵyl,
A phwy yno fyddai deca'i gwisg-
Pwy gynyrchai fwyaf o hwyl.
Wrth roi ateb parod a phert
I gyfarchiadau y llanciau llon-
A phwy o'r bechgyn gai'i harwain hi
At fwrdd y ddiod a'r "deisen gron"!

Gwelai'i hunan ar lawnt y dre
Yn arwain y ddawns yngŵydd y llu,
Gwelai eiddigedd ar lawer gwedd,
A chlywai y gymeradwyaeth hy;
Adgofiai'r hwyl gadd mewn llawer dawns,
Ac wrth adgofio fe gochai'i grudd;
Ni wyddai Ann am un nefoedd uwch.
Na "mynd" fel ar aden yr awel rydd:
Onid hi oedd brenhines dawns
Yr holl ardaloedd? Gynifer gwaith
Cariodd y gamp mewn gwyl a ffair
Heb golli'i hanadl, na blino chwaith.
Ynni'i hysbryd ymchwyddai'n donn
Drosti wrth gofio y clod a roed
I'w medrusrwydd: prysurai'n gynt,
Prin clywai'r ddaear o dan ei throed!


Gwelai islaw y dreflan deg
Ar finion hyfryd y loyw Gain,
Drosti ymdaenai rhyw deneu len
A'i lliw megis glasliw gwe sidan main:
Ac ar ei chlust fe ddisgynnai pêr
Sain erddygan hen gloch y Llan—
Sain a gariai Sabboth yr Ior
Ar ei hadenydd—ond nid i Ann:
Llais o'r ddaear oedd llais y gloch
I'w gwamal galon ddi—Sabboth hi—
Llais yn galw i gadw gŵyl
Gynhyrfus duwies difyrrwch a bri.

Effro iawn ydoedd ynni Ann;
Mor effro ag ewig ar fryndir llwm
Oedd pob synwyr yn natur fyw
Y ferch—ond cysgai'i henaid yn drwm;
Sawr fforestydd ac awyr fwll
"Tir Arabia" fel anadl y nos
Farweiddiol, gadwai mewn esmwyth hun
Ddi—freuddwyd gydwybod yr eneth dlos:
Effro i lais pob gwagedd ffol;
Byddai i swn y difyrrwch gwell
Fwynhâ y saint ar lwybrau moes—
Difyrrwch sanctaidd ardaloedd pell:
Uchel ei llais ymysg y llu
Ganai fasweddol gerddi yr oes;
Mud yn anthem gogoniant Ior

A charol mawl y Preseb a'r Groes:
Effro i fwrw dirmyg a gwawd
Ar bererinion i'r Nefol Wlad,
Cysglyd a swrth pan wahoddid hi
I'r llwybr sy'n arwain i "Dŷ ein Tad."

"Ha! dyma eneth fywioca'r wlad"—
Dyna oedd iaith pleserwyr y dref:
"Ow! dyna enaid yn cysgu'n drwm
Ar draeth marwolaeth," eb engyl y Nef.


ii.—OEDFA.

Po dywyllaf byddo'r nos agosaf yw y wawrddydd wen
Weddnewidia gwmwl du yn hardd Shecina uwch fymhen;
A phan fyddo y distawrwydd fwyaf llethol, dyna'r pryd
Tyrr o'i fynwes daran—follt gynhyrfus a frawycha'r byd:
Pan fo ysbryd yn ei drymaf gwsg di—freuddwyd, gyrr y Nef
Ato angel i'w ddeffrôi âg un ysgydwad aden gref;
Yn yr awr ni thybio calon wamal, anystyriol, daw
Mab y Dyn, âg agoriadau carchar enaid yn ei law.


Pa athroniaeth all ddeongli cyfrin waith Rhagluniaeth Ior?
Pwy olrheinia'r dirgel ffyrdd? a gerdd y llwybrau sy'n y môr?
"Damwain ydoedd," ebe'r ddaear sydd yn ddall i Ddwyfol drefn—
"Damwain" a bwriadau gras a chadarn arfaeth wrth ei chefn!
"Cyd-ddigwyddiad" ydyw olaf air gwybodaeth goeg y byd
Nas gall weld llinellau bwriad Dwyfol ynddo'n cwrdd ynghyd.

Cerddai Ann i lawr yr heol heb i gysgod pen y daith
Bylu gloywder ei gwamalrwydd na thrymhau ei throediad chwaith;
Llongyfarchai ei chydnabod, gwelai eisieu mwy nag un,
"Cynnar eto ydyw'r diwrnod," ebe'r eneth wrthi'i hun,
"Mi gychwynais ddigon bore, cysgodd eraill yn rhy hwyr,
Ond cawn hirddydd i gyd—ddawnsio digon cyn y daw yr hwyr."

Yn y man gwêl rywun draw; siriola gwên ei gwyneb iach―
Hen gyfeilles fu'n cydfyw â hi yn hir yn Nolwar Fach,

Un fu ddengwaith yn gydymaith mewn nos lawen, dawns, a ffair,
Un gadd lawer o'i chyfrinach heb erioed fradychu gair.

Wedi cwrdd, mor serchog ydyw'r cyfarch well sydd rhwng y ddwy,
Hir wahaniad roes ddi rif destynau i'w chwedleuaeth hwy;
Hola'r naill, y llall a etyb, megis yn y dyddiau gynt,
A'u chwerthiniad iach, dirodres, gludir draw gan awel wynt.

"Y mae gennyf fil o bethau i'w dweyd wrthyt," meddai Ann,
"Gâd in fynd am dro i'r caeau, nid oes eto yn y Llan
Ddim digrifwch": ebe'r llall, â dwysder serchog yn ei llef,
"Yr wyf fi yn mynd i'r oedfa sydd yng nghapel Pen y Dref;
Er y gwelais di ddiweddaf mi a brofais beraidd flas
Yr Efengyl, O, mor hyfryd gwrando'r son am Ddwyfol ras!
Ni chaf bleser mewn gwylmabsant mwy, nac yn y ddawns a'i bri;
Gwell i tithau, hen gyfeilles, ddod i'r oedfa gyda mi."


Chwarddodd Ann, a dwedai'n wawdus: "Beth! wyt tithau wedi mynd
Dan gyfaredd y Pengryniaid? Tithau yn bererin, ffrynd!
Bryd cychwyni tua Meca'? Nid wyt hanner digon prudd
I wneud un o osgordd angau, y mae cochni yn dy rudd;
'Rwyt heb ddysgu peidio chwerthin: pam na chedwi'th ben i lawr?
A oes gennyt yn dy fynwes bump neu chwech ochenaid fawr?
Ni chaf mwy dy gwmni mewn nos lawen nac i ddawnsio cainc!
Dweyd dy bader a chyfadde dy bechodau wrth y fainc
Byddi bellach! Paid a digio, ond tyngaswn dy fod di
Yn rhy gall i droi'n grefyddol." Yna eilwaith chwarddodd hi.

Hithau'r llall atebai'n dyner, gyda llais erfyniol-drist:
"Ann, rho heibio'th gellwair, paid a gwawdio pobol Iesu Grist!
Methu'r ydwyf fynd i'r seiat, methu hefyd cadw draw,
Ond mi wn mai pobol ydynt wedi gweld y byd a ddaw;

A phe clywet tithau unwaith stori marw Calfari
Byth ni fedret ei hanghofio—tyrd i'r oedfa gyda mi!"

Malpai rhyw ddrychfeddwl newydd yn cyffrôi ei bywiog fryd
Gloywodd llygaid Ann, a dwedodd, gan dynhau'i gwefusau 'nghyd,
"Waeth im ddod i fwrw'r amser, bydd yn rhywbeth newydd im
Glywed pengrwn yn llefaru; ond paid a rhyfeddu dim
Os cei 'nghlywed cyn y diwedd yn moliannu, neu'n rhoi llef
O ddychryndod dan ddylanwad ei hyawdledd garw ef."

Cerdda'r ddwy i'r hen addoldy, pryder leinw galon un;
Chwardda calon iach y llall, sibryda'n wamal wrthi'i hun:
"Bach feddyliais gynneu'm gwelid gyda'r 'saint' yn cadw gwyl—
Wedi'u gweld a'u clywed bydd yn hawddach imi godi hwyl

Wrth ddynwared eu ffolineb; ond tra yma yn eu plith
Rhaid ymddangos mor ddifrifol a phe byddwn 'dan y gwlith.'"

Mae y dyrfa yn lliosog, enwog yw y cennad hedd
Saif i'w chyfarch gyda dewrder awdurdodol yn ei wedd,
Proffwyd ydyw ef a gadd ei genadwri'n nhân y berth,
A'i leferydd, os yn araf, sydd yn meddu dieithr nerth;
Mor ddifrifol yw'r ymadrodd pan gyhoedda hawliau Duw—
Mor doddedig pan ddarlunia fawr ynfydrwydd dynolryw
Fyn ddiystyr sathru'i ddeddfau cyfiawn dan eu traed yn sarn—
Mor frawychus pan y gwaedda—"Eto'n ol mae diwrnod barn."

"Sinai i gyd yn mygu" i'r rhai anystyriol yw y fan:
Deffry'r genadwri syml a goleu enaid cysglyd Ann;
Gwêl ei hun mewn newydd fyd, ac arno sylla'n ddistaw syn—
Byd sylweddau digyfnewid, byd lle mae cyfiawnder gwyn

Ar yr orsedd—gwêl ei hun yn ddeiliad tragwyddoldeb mawr,
Cofio ei gwamalrwydd hy wna iddi gywilyddio'n awr;
Cilia'r gwrid o'i gruddiau, cilia'r wawdus wên oddiar ei min,
Teimla'r gair yn ei chydwybod megis cleddyf llym ei fin,
A thrywanu i farwolaeth awydd am ddigrifwch ffol
Wna y frawddeg fyth i'w chofio—"Diwrnod barn sydd eto'n ol."

*******
Llawer oedfa ddieneiniad hanesyddodd dyn cyn hyn,
Llawer pregeth digon egwan roed yn llawn ar ddu a gwyn
Er ei chadw rhag difancoll: ond mae'r pethau mwya mawr
Yn rhy gyfrin, yn rhy Ddwyfol i'w rhoi yng nghroniclau'r llawr;
Mewn dau lyfr yn unig cedwir hanes oedfa Pen y Dref—
Calon merch y Ddolwar Fach a llyfyr bywyd Nef y Nef.


Nodiadau

[golygu]