Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Telynau Duw

Oddi ar Wicidestun
Y Celt Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Y Côr Asgellog

Y COR ASGELLOG.

HYNOD fwyn yw y swyn sydd
Ym miwsig côr y meusydd;
Nod amlwg boddlon deimlad,
Neu ufudd ddawn o foddhad,
Yw arwyrain berorol
Eu "Twi," "Twi," o dwyni dol.
Dan gynhyrfiad "Toriad dydd,"
Tôn ganant yn y gweunydd,—
Eilio salm mewn melus iaith
Gu, hudol, ei gweadwaith;
Geiriant eu mawl rhagoraf
Efo'r wawr fore o haf

Hawddgaraf, lwysaf laswig,—yno ceir
Mwynhau cân blethedig;
Eosaidd ydyw miwsig
Borëol gerdd y werdd wig.

Y gwanwyn faga ynni,—a mawr sêl
Ym mhreswylwyr perthi;
Gloyw wên y goleuni—o'r nefoedd,
A dwyma'r miloedd i dymer moli.


Bendigedig unawdau—hudolus
Leinw'r deiliog demlau;
Yng nghanol y canghennau
Mawl a hwyl sydd yn amlhau.

Aderyn du eiria'n deg
Ei naturiol watwareg
O hawddfyd ei orseddfainc—
Heb un gwall o ben y gainc:
Bob tymor y cantor cu
Ymlaenaf sy'n moliannu;
A'i dyner dôn dan wawr dydd
Yw bri addas boreuddydd.

Arbennig gerdd robin goch,—
Rydd fireingerdd y frongoch—
A'i aceniad sionc, anwyl,
O dwyn y waen, ffrydia'n ŵyl.

Hithau y dryw ar dwmpath drain,—a fyn,
Drwy ei phig fach, firain,
Heb arswyd, roddi ei bersain
Yn llys y mawl hefo'i llais main.

Ar brenfrig tery bronfraith
Odlau hoff mewn hyawdl iaith;
Swynol sain ei halaw sydd
Glysaf yn nheml y glaswydd:

Yr awenawg soprano
Ddigymar wefreiddia'r fro:
Ac o adar y coedydd
Hon yw prima-donna'r dydd.

Seinia cwcw ei sionc acen—o fawrhad,
Fry ar frig y fedwen:—
Mor hudawl a'i mawl i mi
Yw direidi yr hoeden.

Hynod hysain yw deusill
Ei miwsig mwyn ymysg mill,
A dena'i deunod anwyl
Bob ysbryd i hyfryd hwyl.

Wedi'r unawd arweiniol,—ceir ar bren
Nef emau'r awen yn fwy amrywiol.

Eilio'n wiw garol newydd
Bob yn ddau ar gangau'r gwŷdd,
Er dihafarch gyfarch gwawl,
Wna y doniau adeiniawl;
A byth ni ddaw deuawd well
O gyngerdd unrhyw gangell.

Yna gwawd mewn triawdau
Eirias o gwmpas sy'n gwau—
Cymhlethog, droellog drillais,—a'u hoenus
Gynghanedd uwch dyfais:

All awen amgen ymgais
Eto o'r llwyn na'r tri llais?

Ha dyna gydgan allan yn deillio
O randir heddwch, sy'n gywrain drwyddo;
Rhyw dorf aneiri yn cyd—egnio.
Ar wŷdd y laswig i beraidd leisio;
Eu Crewr garant, mynnant ymuno
I lunio haeddawl foliannau iddo:
Mwy na direswm yw nad aroso,—
Enwog gerwindeb na fyn eu gwrando:
Ior roddes, i'n llareiddio,—beroriaeth
O wir ragoriaeth, a chôr i'w geirio.

Wedi i'r nos ordoi'r nen
A rhoi sobrwydd dros wybren;
I ddistaw hwyrddydd osteg
O dwyn i dwyn daenu'n deg;
Yng ngwawl sêr, yn nyfnder nos,
Hyd fr—wiail daw'r eos:
A'i thyner nabl parabla,—o'i pharlwr
Ei pherlais ddyrchafa;
Mewn hedd ei salm a nydda,—
Eilio carol nefol wna.

Gain aderyn gwnaed aros
Er rhoddi i ni, bob nos,
Ychydig o'r miwsig mêl
Leisia hi o lys awel!


Nodiadau

[golygu]