Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Wrth fynd i orffwys

Oddi ar Wicidestun
Edifeirwch Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Ar ol Noswaith Dymhestlog

WRTH FYND I ORFFWYS.

YMWIBIED heibio 'mhabell-genhadon
Gwae a nwydwyllt ddichell,
Fe gysgaf fi ag asgell
Y Nef o 'nghylch yn fy nghell.


Nodiadau

[golygu]