Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Y Bardd a'r Baban
| ← Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref, fy mun | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Y Nefol Gân → |
Y BARDD A'R BABAN
("Where did you come from, Baby dear?"—
Dr. GEO. MACDONALD).
O b'le y daethost ti, Faban gwyn?
O gôl y Tragwyddol i'r fan hyn.
Ble cêst ti dy lygaid glas eu gwawr?
Allan o'r awyr wrth ddod i lawr.
Paham y pefria'u llewyrch mor dêr?
Ynddynt yn aros mae gwreichion sêr.
Sut daeth y deigryn i'th lygad di?
Yma 'roedd hwnnw'n fy nisgwyl i.
Beth wnaeth dy dalcen mor llyfn a chun?
Serch dynnodd drosto ei law ei hun.
Paham mae dy rudd fel gwyn—ros hardd?
Mi welais fwy na freuddwydiodd bardd.
A'r wên dair—onglog lawned o swyn?
'Run adeg ces gusan tri angel mwyn.
Sut cêst ti'th glust sydd fel ewyn llaeth?
Llefarodd Duw, ac i'w wrando daeth.
Sut cêst ti'th freichiau a'th ddwylaw bach?
Fel hyn ymddolennodd cariad iach.
Dy glysion draed, o ble daeth rhai hyn?
O'r un blwch ag edyn y ceriwb gwyn.
Ond sut daeth yr oll ynghyd yn dydi?
O feddwl y Duwdod y tyfais i.
Paham y daethost, beth gwyn, atom ni?
Duw gofiodd am danoch, ac wele fi.