Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Y Celt
| ← Geraint ac Enid | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Telynau Duw → |
Caniadau Eraill
Y CELT.
i
O WYLL llaes fantellai wawr
Ein hanesfyd cynhwysfawr
Allan cerddai llanc harddwedd,
A'i ieuanc law ar ddwrn cledd;
Yn agwedd un fywiogai
Maint ei rym i'w antur âi;
Gloywi'i drem wnai glewder iach
Hawliai oror ddisgleiriach;
Pelydrai'i deg lygaid glwys
Bryder bryd ar baradwys;
Draw gwelai fwynder golud,
A llonna draeth llawnder hud.
Y Celt oedd ac hawlio tant-hudolus
Delyn uwch wna'i ramant:
Dyro gord aur gywirdant
Fywha nabl leddf un o'i blant.
Dilynaf hyd ei linell
O eitha bwynt ei daith bell;
Ac asbri gwefredig fron,
Roddai hud i'w freuddwydion,
Wyliaf mewn bwth a phalas,
Dan wawr lwyd, dan awyr las;
Hanes hirnos a'i hoerni,
A dyddiau haf, eiliaf fi.
Am ei fore aelwyd mwy ofer holi,
Gwyll di—wawr estyn ei asgell drosti;
Claddwyd ei mwyniant, cloddiwyd ei meini.
Sêl y fynwent sydd ar ei sylfeini:
Fel niwl âi'i hadfeilion hi—i ddiflan,
Ac ef ei hunan heb gof ohoni.
ii.
PAN welaf gyntaf y gŵr
Drem eon, mae'n dramwywr;
Gan ddiflino geisio gwell—preswylfod,
Llwybra heb wybod lle bwria'i babell;
O dud i dud yn frwd â,—gan ddiwyd
Goledd ei fywyd â'i gledd a'i fwa.
Ar ei daith brysured oedd,—rhy brysur
I brisio goludoedd
Cuddiedig y coedwigoedd—droediai'n lew,
A ffrydiau olew yr hoff ardaloedd.
Hafdir oedd hynaws ni fedrai'i ddenu
A di—rwyg fwyniant i'w hir drigfannu;
Fe luniai haeddwaith, ei aflonyddu
Wnai natur rithiol swyn anturiaethu ;
Amhwyllog rym ei allu—megis tân
O fewn ei anian yn cryf enynnu.
Glynoedd rhwysg glennydd y Rhôn,
Maenorau ir min y Rhein,
Gerddi gwinoedd, cymoedd cain,
Lonnai myrr awelon mwyn,
Droediai e'n freuddwydiwr dall;—ymlaen âi
Mal un oedd heb ddeall
Addewid eu gwawr ddiwall!—a chnydau
Gwyn eu trysorau gaent aros arall
Ddyfodiad oedd i fedi—'n effeithiol
A llaw haeddiannol yr holl ddaioni.
Trwy gry alluoedd tua'r gorllewin
At wobrwy euraidd y Celt—bererin
Ymwthiai, beiddiai i wyneb byddin
A'i heirf yn eirias, yn tyrfu'n erwin;
Ei nwyf ef nid ofnai fin—caledi,
O lwybr ei ynni y ciliai brenin.
Golud sigledig wêl disgwyliadau
Yn niwedd antur a'i swynodd yntau;
Ymlid addewid wawdiai 'i weddiau
Fu'i waith aneisior am feithion oesau:
Addfedodd ei ofidiau—ynghanol
Gwrhydri hudol ei aml grwydriadau.
Yma oedd yn llwm iddo,
Yn erwinaf, fryntaf fro;
Draw acw ceid uwch drycin
Rodio ger y ffrydiau gwin.
Fe lamai hefo'i luman—yn wrol
I gyfeiriad Canaan;
Odlai o hyd i'r wlad lân
Rhyw hoywaf orohïan.
Cyrraedd y deca oror,—yr Eden
Gariadus ei thrysor,
Ni fedrodd—hyf wawdiai'r ddôr
Ei gynygion i'w hagor.
O freuddwyd cyfareddol!—O ofer
Afiaeth bereriniol!
Mwynhad drud fu mynd ar ol
Hyder awydd di—reol.
Hardd fro ddifyr ddihafal—a fu nod
Ei eofn nerth gwamal:
Llwm weunydd, lle mwy anial,
Oedd fwy di—hedd fu ei dâl.
Y gwyrdd ddeiliog ir ddolydd—a gai'n llwyd
Ac yn lleidiog gorsydd;
Yn lle haf, duaf dywydd,
Yn lle ffrwythlon, noethion wŷdd.
Y gwinwydd mor deg a wenent-o draw,
Yn berthi drain dröent;
Holl liwiau'r eurwyll wywent-o'r llethrau,
Dan lwydrew angau cydunol drengent.
Breuddwyd y bore addien-ddiflannodd
Fel ennyd o heulwen
Yn Ionawr, ei wawr burwen
Drengai'n wyll cyn dringo nen.
Y Celt dewr! pam coeliet ti-hudoliaeth
O'i dilyn wnai'th siomi?
Ai'th buraf reddf, ai'th brif fri,-ymhob man,
Yw beiddiol anian na cha'i boddloni
O dan haul, nad edwyn hi, i'w mawr gŵyn,
Unlle daw gwanwyn eill ei digoni?
Nodyn:Bwlch5em}}iii.
HEN bererin bro Ewrob
O wae i wae! mae ymhob
Lle bu'i rym yn llwybro ol
Dyfal hoen a diflannol
Wareiddiad cynnar weddi
Am fyw heb raib, am fwy bri.
O flaen cryfach, hacrach wŷr,
Eon a rhwth anrheithwyr,
Ildiai ef yr hudol dud,
Ildiai'i hawl i'w da olud.
Er dewred rhuthrai i daro,—ni fwynhai
Anhrefn hyf yn rhwygo;
Gŵr gwylaidd garai gilio
O fyd di—ddeddf ydoedd o.
Rhy ddidwyll, rhy freuddwydiol—i ornest
A mawrnerth difrodol
Gŵr â thrachwant gorthrechol
Anturiai hynt ar ei ol.
Ryw awr gynnar, ei arial
Aniddig ef, noddai Gâl;
Ac yno, dan y gwinwydd,
Cai faeth gwir cyfoeth y gwŷdd;
Yno cai wledd ar fainc las,
Hardd arlwy byrddau irlas;
I'w draed, bob pryd y rhodiai,
Carped o wyrdd felfed f'ai,
A siriol feillion Olwen
Yn rhoi lliw haf ar y llen;
Mawrygai daith y'mrig dydd
Drwy arogl mwsogl meusydd
Mor bêr a'r myrr a burodd
Cariad cu i'r Iesu'n rhodd.
Ond Gâl a'i mwyndeg olud
Ildiai ei reddf i'w âl drud,
Clywid bloedd, cydfloedd cadflaen
Y llym lu" mae'i gwell ymlaen."
Drws i'w agor dros eigion—a welai
I heulog Afallon;
Doi'r eondaith drwy wendon
A'i chwyrn serch i'r Ynys hon.
Ynys Wen; dawnsiai'i ynni—o loniant
Pan y glaniodd ynddi;
Ymladdodd am hawl iddi,
Gorchfygodd, meddiannodd hi.
Yn Iarll—lywiawdwr ei herwau llydain,
Yn Ymherawdwr caid hwn ym Mhrydain :
Bedydd ei meusydd fu salmau'i wiwsain—
Caniadau uchel cyn nodau ochain;
Cyn i wanc crafanc Rhufain—ei bruddhau,
O'i phrid ororau ffrydiai'i arwyrain.
O Gaint fraisg i Went, ei fri—adwaenid,
Bu'i donnog faneri
'N chwyfio'n ei hawelon hi
O'r Dafwys hyd i'r Deifi.
Ar firain fau'r Hafren fâd,
Ar y Fersi cyn lli llwyd,
Lledai'i hwyl, y llyw di wâd
Ddifyrrodd clir ddyfroedd Clwyd.'[1]
I'w reddf frwd, mor ddifyr oedd,
Ar chweg lennyrch ei glynoedd,
Byw yn ŵr rhydd, heb bwn rhaith
Ormesol ar rymuswaith;
Bywyd syml cyn nabod swyn
Gwarth enfawr rhagrith anfwyn,
A'i wrhydri dirodres
Yn denu llwydd, yn dwyn lles:
Llwybreiddio 'ngwyll boreuddydd
Gan ochelgar hela'r hydd;
A'i ddawn dwym gwefreiddio'n deg
Oer osteg hen fforestydd:
Chware camp yn ochr y cwm,
I wŷr cedyrn rhoi codwm;
Anelu saeth yn glws i
Welltyn a'i gywir hollti;
Mynd i drybest gornestu
Yn enw Gwen, feinwen gu,
Trwy ddyrnod hardd, ddiwyrni,
Ennill ei wobr o'i llaw hi.
Hanes y cynddydd hwnnw—i hiraeth
Erys yn fyth loyw;
Yn awr ei galar geilw—prudd galon
O dir encilion ryw ddidranc elw.
Diwrnod, dim ond diwrnod oedd—dan heulwen
Hyfryd Eden—O, fyrred ydoedd!
.iv.
AR y Celt tru caled drais-droai drem
Ei drahaus uchelgais,
Hyf olwg lawn o falais
Frudiai glwy, fwriadai glais.
Os boddhaus y byddai o-mewn cil dlos,
Mewn clyd le'n breuddwydio,
A dyrnod deuai arno-gleddyf nwyd,
A'i loyw freuddwyd a gai'i lofruddio.
Trais diatal traws Deuton
Lle bynnag âi frathai'i fron;
Diystyr o'i dlawd astalch
Oedd bost y gorthrymydd balch;
Anrheithio'i nerth a'i wanhau
Wnai dig gawod y gwaeau,
A chiliodd i ochelyd
Creulawn bwys cwerylon byd.
Er cilio, mynnai'r celyd-elynion
Gael ei einioes hefyd ;
Rhodiai ef ei rawd o hyd
Yn briodfab briw adfyd.
O'i haddef haeddol y Celt ddifuddiwyd,
Ei holl neuaddau a'i dyrrau dorrwyd;
Ag arfau gerwin o'i gaer fe'i gyrrwyd,
O ddifyr wledydd ef a erlidiwyd;
O dir bir a llawnder bwyd—mewn anfri
I fysg y meini fe'i hesgymunwyd.
Hallt ydoedd yr alltudiaw—o Gâl lon
I feinciau llwydion ar fanciau Llydaw,
O holl lennyrch gwinllannoedd—cyfoethog,
A doldir deiliog, i dlawd ardaloedd.
Ac ym Mhrydain gain gwanwyd—ei fri ef,
A'i rym ddarostyngwyd;
Y gwas di—hedd gystuddiwyd,—a llawr dôl
Y wlad ireiddiol â'i waed a ruddwyd.
Trymhai eirias dramoriaid—gur a gwae
Er gwewyr Prydeiniaid,
Torf a'i bloedd fel twrf bleiddiaid,—hil anfoes
Yn cyfarth einioes y cu Frythoniaid.
Hen aruthr faner y nerth Rhufeinig
Draw a symudodd hyder siomedig;
Hulio trallodion i'r Celt drylliedig
Wnai llosg gasineb y llew Sacsonig:
I geisio nodded, y dyn lluddedig
O'i wastadeddau di—drwst a diddig,
A fudodd yn glwyfedig—rhag tanau
Eirf llidiog gadau mor felltigedig.
Cariai'i glwy i'r creigleoedd, ei waeau
I gyfaneddau'r cribog fynyddoedd;
Ac o fewn ogof unig,
Noeth dŷ yr afr, gwnaeth ei drig:
Bara i 'nhad yn brin oedd—ar wywlyd
A chaled weryd yr ucheldiroedd.
Diadwy nodded ydoedd—er hynny
Ar riniog tymhestloedd,
Yn nheml cwmwl y cymoedd
A gaerodd Ior, gŵr rhydd oedd.
Dilyn ni fedrai'r dialydd gwynias
I agenau'r gelltydd;
Llyncu'i wersyll wnai corsydd,—ar ryfyg
Arllwys eu dirmyg wnai'r holl ystormydd.
Gwell llwyd olud Gwyllt Walia,—neu fyw'n gul
Drwy arw helbul ar noeth dyrrau'r Alban—
Ie byw ar ysborion—a chibau,―
Arlwy byrddau yr oerwleb Iwerddon—
Gwell sinidr mewn lle didrais,
Na rhannau o seigiau Sais
Mewn tir bras, yn gaethwas gwael,
A hyder wedi 'madael.
"Ond Gwyllt Walia "—dyna dôn
Awr waethaf y Celt—Frython:
"Ond Gwyllt Walia "—dyna'r dôn
Fywhai obaith i'w feibion:
Os gerwin ei gwylltineb,
Ei hennill ni allai neb;
Gwir hynotaf gaer Natur
Yn diymod wawdio dur:
Cryd newyddfyd a noddfa—i ŵr rhydd
Ar draethau'r Werydd, ar drothwy'r eira.
Yn nhir arwriaeth, yn nhŵr Eryri,
Llai oedd y clydwch, llai oedd caledi;
Uwch arian lynnoedd, uwch oerion lwyni,
Ail chwyfiai'n wrol ei feilch faneri:
Ennillodd glod a thlodi—ar eirwon
Binaglau gwynion y ban glogwyni.
V.
Fy hen daid, fy nhad ydoedd,
A'i friw ef yn ddirfawr oedd;
Tremio'n ol o'r trumau wnai,
O'i dŵr uchel edrychai
Ar fedd ei ogonedd gynt;
Hir wylai am yr helynt
Anafodd dôn ufudd dant—ei delyn,
Friwiodd yr emyn hyd fröydd rhaman.
Awdl loes yr hen Daliesin—a wiria
Arwed fu y ddrycin
A gariodd â'i rhuthr gerwin
Ffoadur ffawd i'r wyw ffin:
I drallod y Gododin—murmur traeth
Eigion o hiraeth wasgai Aneurin.
Ganwaith ar fin y Gonwy,
Dan gangen helygen lwyd,
Briw Gelt yn aberu gaid
I'w dôn ofidiau'i enaid.
Cyweirnodau crynedig—a leithient
Ei drwm lwythog fiwsig,
A llanwai'i gangell unig—â rhyfedd
Osperau dwysedd ei ysbryd ysig.
Ar fyw for ei fyfyrion—hiraethus
Ymrithiai adgofion
Am oriau'i lwydd, am wawr lon
Ei dai llawn a'u dillynion.
Meddyliai am ddi—alar
Fore'i fyd cyn i fawr fâr
Unrhyw estron creulon, cry,
Chwennych tir iach ei Ynys,
A rhoi'i haddurn i'r oddaith—
Hyf, ddeifiol waith, foddiai flys!
Gwelai'i hun yn gloywi'i arf
Ar frys mawr i daraw'r dorf
O elynion talion, tirf:
Gwelai'r tân, fe glywai'r twrf.
Myfyriai am fôr o waed,
Am fawr ing a threm ei frawd
Ruddfannodd, drengodd dan draed
Yn y ffos-O, erwin ffawd!
Clywai'r waedd, "Encilio raid"-
Y waedd wanodd ei enaid!
Y waedd wyllt a gariodd i
Ddest aelwydydd wŷs tlodi!
Gwelai ei fonedd mewn gwael efynau,
Ei friw anwyliaid dan farn hualau;
Gwelai rianedd o ddisglair riniau
A chraith anobaith ar eu hwynebau ;
A gwelai wir weddwon a gwelw ruddiau
Yn troi am noddiant tua'r mynyddau :
Clywai hyfion galonnau-yn crechwen
Ddifrodi Eden ddifyr ei dadau.
Myfyriai, cofiai'r cyfan,-a'i ofid
A ddylifodd allan;
Rhyw eigionfor o gwynfan
Greodd ei gur oedd ei gân.
Y mae gur gerwin i minnau,-amled
Y teimlaf arteithiau
Siom mor ddwys! ie, mhruddhau
Bâr adrodd stori'r brwydrau.
Cry luniwr y creulonedd,-ni wadaf,-
Yw nôd fy nigllonedd ;
Gwarth f'ai i mi'n min fy medd
Ddod i gymod â'i gamwedd.
O hyd yngan diangof—chwedl chwerw
Y niwed hwnnw mae'm henaid ynof.
Ireiddlawr Morfa Rhuddlan—gawodwyd
Å gwaed y Celt druan;
Rhu y môr wrth leithio'r lan—ddeffry'n glau
Adgof o lefau'r enbyd gyflafan.
O lwyni cudd yn Glencoe—doi'r bradwr
Heb wrid i'w lofruddio;
Annwn synnodd y nos honno,—âi'n fud!
Ofnadwy funud o wae fu yno!
Er erlid o'r tir irlwys
I lety oer, y Celt dwys,
A'i droi i warchod ar erchwyn—byd Ewrob,
Dyhirwch y gelyn
Ni liniarai, daliai'n dynn
I'w ofidio ef wedyn.
Ni pheidiodd ei anffodion—na'i helbul
Yn Alban na'r 'Werddon;
A llawnder digter y donn
Dorrodd dros Walia dirion.
Ow, ferthyr amarch! ef a orthrymwyd,
Ei natur hynaws yn frwnt drywanwyd;
Gan Saeson meddwon, anllad, fe'i maeddwyd,
Ei waith, ei hyder, a'i iaith a wawdiwyd:
Ei rym â chadwyn rwymwyd—wrth wagedd,
Ei radd a'i fonedd a hagr ddifenwyd.
Ond trymach farn ddaeth arno—na garwaf
Gerynt llid y Saeson;
Holl allu du ellyllon
Fwriai ei nerth i'r farn hon.
Fe wybu hwn am feibion—yn fradwyr
I ddelfrydau'i galon—
Garent yn fwy wobrwyon—gwaith dyhir,
Ac elw anwir o law gelynion—
Na'r dioddef anrhydeddus—ar gaerau
Ei gariad pryderus,
A bywioliaeth helbulus.
Yn nhir llwm y brwyn a'r llus.
Hal fradwyr diofrydig!—ni erys
Iscariot golledig
Mwy'n ei le'i hun yn unig,—a'i waeau
Yn nod amneidiau'r rhai condemniedig.
Er ei ddydd hir o ddioddef
Alaeth dwys, ni lethwyd ef.
Rhy lân, rhy loyw ei ynni—i'w ddifa
Gan ddeifiol galedi;
Daliai'i hyder drwy dlodi—a rhyfedd
Orwyllt erwinedd yr holl drueni.
Melusach, mwya'i loesion,—âi ei gân,
Gwynnach ei freuddwydion;
Awen frwd barhai'n ei fron,
A goleu yn ei galon.
Ei anian bereriniol
Ai'n hyfach a mwy nwyfol,
Hi flinai ar ddiflannol
Sâl lwyddiant ansylweddol ;
Dymunai 'myd y mewnol
Well lloniant na'r allanol:
Ei gyson reddf geisiai'n rhan
Fyw Ganaan fwy ogonol.
"Heibio â dull y byd hwn!"—clywai ef
Sicrwydd clir y byrdwn;
A chwiliodd am uwch elw—na gwael fri'r
Enw a enynnir yn nhanau annwn.
vi.
WEDI i'r Celt grwydro cyd, a'i fedydd
O brofiadau enbyd,
Yr un yw, a'r un hewyd
Eofn o'i fewn ef o hyd.
Ymhob hin, ymhob annedd,—iddo'i hun
Mae'n ddeddf ac ymgeledd,
Ac â swyn rhyw gysonedd—cyfriniol
Yn wir ddeniadol gwna'i hir ddinodedd.
Eneiniol blentyn Anian,
A'i fryd ar fyw ar wahan—
Ar wahan i erwinedd—genhedlir
Gan waedlyd eiddigedd,
A hwyl nwydlawn hyawdledd
Emynnau clod min y cledd.
Byw mewn hedd, byw a mwynhau—ei ddilwgr
Feddyliol greadau
A gais ef—ni phaid gashau
Acen anwar cynhennau.
Holl wychder balchder y byd,—ei bleser
A'i balasau hyfryd,
Afiaith cydymgais hefyd—
Gyda gwên fe'i gwâd i gyd,
Am oriau diloes, am wir dawelwch
Dinod neuaddau dan edyn heddwch;
I'r bardd gwyryfol rhyw brudd ddigrifwch
Yw nwyf esgeiriau ac anfoesgarwch;
Fe ŵyr mai gwobr difyrrwch—a diwedd
Rhyddid oferedd yw edifeirwch.
Heddyw'n coledd encilion—y ceir ef,
Câr wawl y gorwelion;
Yn wael was o dan loesion
Am "ein hoes aur" y myn sôn.
Mewn sychdir yr hydd gwirion—frefa am
Ddifyr fin yr afon;
A'r Celt isel tan bob tonn—a'i tery
Hiraetha felly am draeth Afallon.
Ffŷ o derfysglyd fyd ei ofidiau
I dramwyo hwnt yng ngwlad rhamantau—
Y wlad a'i hawel yn anadl duwiau
Ac am ei heulwen 'does byth gymylau;
Lle nad all malldod gyffwrdd y blodau
Wisg ei rhianedd yn llaes goronau;
Yno gorloywon a dengar liwiau
Y wawr deg roddir i wrido gruddiau:
Mae yno doreth o bob mwynderau,
Ond ofer bleser sy'n deffro blysiau;
Yno mae gwir yn amgâu—boddlonrwydd,
A dieuogrwydd yn atal dagrau.
Hon yw gwlad Arthur hyglod ei wyrthiau,
Am y truenus deifl rym tariannau;
Urdd ei oreugwyr yn fraw i ddrygau,
A'u bri yn addurn i bob rhinweddau:
Uno hedd wna'i neuaddau—godidog
A swyn toreithiog llais anturiaethau.
Yno y ca, ar fainc werdd,
Ddysgu y gyfaddasgerdd
I lawenydd calonnau
Nad yw nwyd wedi wanhau:
Ca ymuno'n nefion iach
Hoender egni dirwgnach;
Ca wynfyd mwsoglyd sedd
Dawel wrth ochr Blodeuwedd,
A rhoddi tro ddeutu'r wig
Efo'r anwyl forwynig;
Rhodio'r ddol gydag Olwen,
A'i chyfarch hi, wiwferch wenn !
A gŵyl fawrhau ei gloyw fryd
A'i chalon ddifrycheulyd;
Amhwyllo wrth weld meillion
Yn toi'r tir lle sang troed hon.
Fe wawdir hwn am fod "ar ol—yr oes,"
Heb brisio y buddiol,
Byth a'i ffydd ar bethau ffol,—ymhob stâd
Yn mawrhau'i fwriad anymarferol.
I'w wawdiwr tramgwydd ydyw,
Ar gwrs y traws craig rhwystr yw.
"Ow'r Celt tlawd!" medd gwawd y gŵr—llawn o win
Ar ei ddeulin sydd aur addolwr.
Ond "tlawd Gelt" i olud gwir
Ne'r awenau arweinir—
Golud gryfha y galon
Wyw a llesg, ddiwalla hon:
Os yw'n gwisgo carpiog gôb,
Mewn osgo mae yn esgob;
Os heb dŷ llawn, os bwyd llwy
Yn ei oerlys ga'n arlwy,
Y dawnus ŵr wedyn sydd
Lawenach na miliynydd ;
Hwn ar bob awr i'w babell
Ddigyfoeth gasgl "gyfoeth gwell"
Broydd hud a breuddwydion—
Cloddfeydd aur delfrydau'r fron.
Ffol freuddwydiol fardd ydyw—
Na, ceriwb llawn crebwyll yw.
Ba waeth os delfryd bethau—yw yr holl
Ffrwyth o'i gyflawniadau ?
Mawr yw y ged, y mae'r gwr
Yn waddolwr meddyliau.
Rhy wael yw daearol waith—i'w reddf ef—
Yng ngwyrdd fyd y perffaith
Hwn gywreinia goronwaith
Nad â'n grin, na edwyn graith.
Ni wêl werth mân drafferthion,—oddiwrth
Ryw ddôf dasgau blinion,
A chelyd oruchwylion,
Fe red i greu ei "Ford Gron."
Nid tlodwaith y teleidion
Gerfia mor rhwydd ger fy mron,
Yn nhegwch "Mabinogi"
Erys swyn a'm drysa i.
Rhof dro'n ei lwysion lysoedd,—ŷnt addas
Gynteddau brenhinoedd;
Gwawr eu heulog orieloedd—sydd hafal
I liw y grisial na lygra oesoedd.
Ac o'u mewn caf gwmni cu'r—iach, hygar
Farchogion bu'u gloywddur
Yn nerth i goron Arthur—
Glewion "Bord" y galon bur.
Yno'r arab Rhonabwy—drwy ffrydiol
Araith wefreiddiol dreutha ei freuddwyd;
Am helyntion aml antur—ddiorffwys
Ar rawd Paradwys sieryd Peredur.
O, urddedig freuddwydiwr!
A weli di, geinfryd ŵr,
Ar emog diroedd rhamant
Y ddinas ddeisyfa sant?
vii.
Fu awenydd addfwynach
Yn eilio tôn na'r Celt iach?
Cu weinidog caniadau,—a phuraf
Offeiriad cywyddau,
Coronog gâr awenau—Parnasus,
A'u hasbri dawnus bywhëir ei dannau.
I'w reddf, harddaf yw urddau—awen fyw,
O, mae'n falch o'i thlysau;
Ac hawlia'i nwyf i'w glanhau
Fedydd yr Eisteddfodau.
O'r nwyf a loewai'r hynaf alawon
Odlai hyd weryd Gwyllt Walia dirion!
Er niwed mynych, mae'r nodau mwynion
Weodd yn newydd, heddyw yn hoywon:
Noswylia su awelon—gan wrandaw
Rhyw ieuanc alaw ddaw o'r encilion.
O gerddi anwyl! a geir rhyw ddoniau
O dant hyawdledd a hudant odlau
Lawned o fiwsig ? eilun dyfeisiau
Yw urddas a hoen eu gorddwys seiniau;
Ffrwd eu mélodedd gyffry deimladau
Engyl eneiniol, a 'nghalon innau
Ar grindir wlithir â hudoliaethau
Afon fireinaf nef yr awenau:
Tra bo tôn, tra bo tannau—perseiniol,
Gwyrdd fo eneidiol gerddi fy nhadau.
Acen ir y cynaraf—hoen a geir
Yn ei gerdd ddiweddaf;
Dihuno drud nodau'r haf—wna llinyn
Yr hyfwyn delyn i'r funud olaf.
Hwyliog Gelt o deml y gân—nid â mwy,
Ond myn yno'i drigfan;
Y gŵyl ŵr wasanaetha'i glân
Allorau â llaw arian.
Ar awr gynnar, ei garol
Drydana'r gwŷdd, ddeffry ddôl;
A'i aur alaw sy'n trylwyr
Ddileu ofnau oriau hwyr.
Meloda, mal ehedydd,
Am weld haul, am wawl y dydd ;
A deuawd gyda eos.
A gân ef dan farug nos.
Yr heulwen gyffry'i alaw
A'i emyn glym yn y gwlaw:
O bae y gŵr heb ei gân
Collai'i hoen,—collai'i hunan.
Rhoi i'r gerdd yr oriau i gyd,—dyna'i goll,
A dyna'i gamp hefyd;
Ei warth yw ei nerth o hyd,
Ac o'i fai y ca fywyd.
Hwn ytyw etifedd Natur,—iddo
Hi roddes wŷs eglur
I gael gwlith ei bendith bur,—cyd—fwynhau
Y mêl o'r diliau, cyd—deimlo'r dolur.
Os i eraill rhoes arian—yn helaeth,
Cadwai'n ol well cyfran;
Ei hun roes i'r Celt yn rhan—fendigaid,
Fe biau'i henaid—Cariadfab Anian.
Hon â'i dillynion o hyd a'i llonna,
Ei bri dihalog a'i hysbrydola;
Am wynnaf olud mwy ni ofala,
Oriau'i ing hefyd a lwyr anghofia:
Ei chwmni na gwin ga—yn felusach,
Yn ei chyfrinach efô wiriona.
I'w fryd, dewisol geinfri duwiesau
Yw arddull hudol ei gwyrdd ddilladau,
Gloywa ei awen uwch y gwawl—liwiau
I harddu'i bron a yrrodd wybrenau:
Anwyla lewyrch gwyn y liliau,
A châr swynion y rhuddgoch rosynau;
O lwysed gwêl aur dlysau—dôl a bryn,
A'u tresi melyn tros eu hymylau.
Bywiol dŵ pob blodeuyn—a fawrha,
A thirf frig pob gwelltyn;
Synna 'ngŵydd y symlrwydd sy'n—mireinder
Y grug aroglber a rhwydwe'r rhedyn.
Yn holl swn lleisiau Anian
Awen y Celt glyw sain cân
Ieuainc engyl o'u cangell,
Odlau pur ardalau pell.
"Nant y Mynydd "rydd ei rhawd
A'i swyna â'r dlos unawd
A berora berw arian
Ei grym hi hyd y gro mân;
Ar fin y "croyw loyw" lân li
Caredig y câr oedi
I wylio teg dreigliad dwfr,
Lliw a glwysddull y glasddwfr;
Si leddf a "sisial" addfwyn
Hoyw aber iach "rhwng y brwyn "
Ddihuna gudd ddawn y gân
Fwyn o'i fewn ef ei hunan;
Iddo fyth cyhoedda fod
Antur well tu hwnt trallod.
Cyweirnod y sionc gornant
Ar hyd ei oes dery'i dant.
Tuhwnt hyawdledd tannau tywodlyd
Y gwyrdd eigionfor clyw gerddi gwynfyd;
Ca lawer oedfa hoywa'i ddyhëwyd
Lle y tyrr unllef y lli taranllyd:
A'i awen dyner wrendy—drydanol
Areithiau Dwyfol ar draethau deufyd.
Ai swynion Anian a'i seiniau'n unig
Rwyda'i fwriadau, a'i gwna'n frwdfrydig?
Na, hawlia adwy i'r anweledig
Is agwedd hudol hon sy' guddiedig;
Ac â'n feudwy gwynfydig-ar ol hedd
O nefol nodwedd aniflanedig.
I'w ddiwair galon ym mud ddirgelwch
Ei mawredd uthrol mae mawr ddieithrwch;
Ond gŵyr ei enaid mai nid gerwinwch
O tano orwedd-dim ond tynerwch
O ddigymar hawddgarwch:-a'r dewr ddyn
Nid ofna'i dilyn i'w dwfn dawelwch.
Dan sobrwydd dawnus wybren.
Saif yn hir pan nosi'r nen,
Gosper ei dwyster distaw
Dery ei fron i wir fraw;
A mudandod syndod sydd-ar enau
A gloyw ddoniau'r gwylaidd awenydd.
Yna breuddwydia ba euraidd edyn.
A raid i'r ymdaith hirfaith hyd derfyn
Y glas eangder-pa hyder edwyn
Yn wobrwy'i orchest drem heibio'r erchwyn!
O, awenydd eneiniol!
Tro, hed yn is, tyrd yn ol:
Onid digon yw tegwch
Y llawr i blentyn y llwch?
Ai rhy fach ein disglair fyd
I foddhau'th dirf ddyhewyd?
A yw gwên serchog Anian,
A'i diliau drud, yn dlawd ran?
Ai heibio'r oll mae'r fro brid-gais angen
A dewredd Awen-"Gwlad yr Addewid"?
viii.
ER rhoi y Celt yng nghysegr cân,-a'i freinio
A chyfrinach Anian,
Awenyddu aniddan-ochenaid
Y bydd ei enaid heb Dduw ei hunan.
Cymundeb ei burdeb Ef
Ddiwedda ei ddioddef.
Ei galon ffyddiog a gwylaidd-a red
Ar ol y "Cawg Sanctaidd
Fywha ei fyd, ac fe faidd
Holl lid tanau melltenaidd.
Ar hyd rhawd ddi-ffawd ei ffydd-â'n wrol
O ca wyryfol addewid crefydd.
Anffyddiaeth a ffieiddia,-oer wawdiwr
Ei gred a'i brawycha;
O ŵydd di-ddeddf eisteddfa
Yr amwyll wr ymhell â.
Darllenna ar droell Anian
Arwydd glir ei Chreydd glân,
Edmyga y damhegion
Wêl yn aur ddalennau hon.
Nod Ior ga ar geinder gwig,—ei air dŷf
Ar y dail trwsiedig;
Ac edwyn yn y goedwig—gangell faith
O adeiladwaith ysbrydoledig.
Arwain hwn wna'r hyn a wêl
I aur riniog yr anwel.
Ar gu Luniwr y goleuni—y geilw
A'i galon ar dorri,
I drig wen Awdwr y gwawl
Gyrr ei feiddiawl gref weddi.
Ei ddolur sydd am ddiluw
Munud awr o gwmni Duw.
Cawn ar wefus canrifoedd—air ei fod
Yn dewr fyw i'r nefoedd;
Urddedig Dderwydd ydoedd.
Wr Duw, a'i offeiriad oedd.
Gwêl lanaf nod goleuni—yn nheg liw
Ei wisg laes o bali,
Cynnar eira'r Eryri
Roi'i gann wawr i'w gwynnu hi.
Dan y gwŷdd deiliog hwyliog addolai,
Ir lwyni'r glasdir droai'n eglwysdai;
O arw gerrig ei allor gyweiriai,
A rhan o'i borthiant ar hon aberthai:
O'i enaid salm esgynnai,—ac hyd fawl—
Lwybrau eirianwawl hi bererinai.
Anwel Dad heb ei adwaen
Fawrhai efô ar ei faen.
Yn y man, goleuni mwy—o'r Ne fry,
Yn ei fron deimladwy
A lewyrchodd, treiddiodd trwy
Ddefodaeth oedd ddifadwy.
Ac i wawriad dydd "rhad ras"—bendigaid
Ei wresog enaid roi groesaw gwynias.
Bywhai arianwawr y bore hwnnw
Ei hen ddyhewyd yn newydd hoyw;
Gwelai yn waddol i'w galon weddw
Y tir mwy euraidd tu hwnt i'r marw—
Yr ystâd sydd ynghadw—uwch loesion.
A holl drallodion y llaid a'r lludw.
Y wŷs i Wynfa'r Iesu—wnai i'r Celt
Yn awr cur foliannu;
Llanw ei leddf orfoledd fu—fel cref donn,
Ai hen fro'i gŵynion yn fôr o ganu.
Mae swyn y dwym "Hosanna"—yn eirias
Farworyn yng Ngwalia,
Ac o newydd cyneua—'n fflam cyn hir,
Yr hwyl ail loywir i "Haleliwia."
Ei wir wron, yr arwr
A fawryga ef yw'r gwr
Wahodda yr aniddig
Freuddwydiwr hyf i'r dda drig
Addawodd ei ddyhead
Hwnt ofnau ing—"Tŷ fy Nhad."
Yno'n y wlad sydd yn anweledig
Tàlaf fwriadau'r Celt duwiolfrydig
Gyflawna Nêr, a'i hyder crwydredig
Edwyn briodol Eden buredig:
Ca ei gred anwywedig—fwynhau hedd
O ddwyfol nodwedd ddiddiflanedig.
Yn y fro ddedwydd try'i hen freuddwydion.
Yn gywir bethau, dengar obeithion
Ei gynneddf daniol ga'n addfed wynion,
Ac i'w lawenydd ni thyrr gelynion;
Yno y gwlawia wybrennau gloywon
Fyth mwy eu cynnes faeth i'w amcanion;
Ni cheir yno gur yn mallu'r meillion,
Na drycin wywa geinder caneuon;
Yno ca'i wefus "Gwpan" y cyfion—
Ac O, yn felus bydd gwin nefolion:
Bro'r Oen i'w bererinion—Efe fry
All ei rhoi felly—y wir AFALLON.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Clyde.