Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Y Delyn Friw

Oddi ar Wicidestun
Crwydro Bum Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Wyt Ti'n Cofio

Y DELYN FRIW.

AR ganghennau'r helyg
Crogai telyn fud,
Ganodd geinciau peraidd gynt
Mewn llawer neuadd ddrud.

Curodd stormydd arni—
Stormydd hwyrddydd du,
Clywodd ddwrn y corwynt certh
Yn dryllio'i thannau cu.

Heibio'r aeth y ddrycin,
Blino wnaeth y gwynt;
A'r delyn eto yn parhau
Yn fudan megis cynt.

Gwelwyd hi yn crynnu
Yng ngoleuni'r lloer,
Crynnu i fudandod mwy
Dan law y llwydrew oer.

Rhy friwedig ydoedd
I gwyno'i gofid cudd
Ar hyd yr hirnos, methodd clwy
Gyffroi ei thannau prudd.


Gyda gwawr y bore,
Awel deneu fwyn
O rywle ddaeth, fel ysbryd ffydd
Ysgydwodd frigau'r llwyn.

Deffrodd yr awel honno
Y Delyn ar y coed,
Hi ganodd alaw "Toriad Dydd"
Bereiddied ag erioed.


Nodiadau

[golygu]