Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Y Nefol Gân
| ← Y Bardd a'r Baban | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Tanysgrifwyr → |
Y NEFOL GAN.
(The Heavenly Song).
Ryw hwyrddydd hafaidd tawel
Mi glywais newydd gân
Yn dyfod gyda'r awel
I lawr o'r wybren lân;
Mi dybiais fod y cantor
Yn canu'r gân i mi,
Ac na wrandawsai dyn erioed.
Bereiddied cân a hi.
Moliant i Dduw drwy'r uchelder,
Chwyddwch y gydgan gref;
Cenwch i'r Hwn sydd yn Geidwad,
Henffych i Frenin Nef.
Parhaodd miwsig pêr y gân
I lanw'm clustiau'n hir,
A chwyddo fel mawreddog donn
Wnai'r nodau llawn a chlir;
Hyfryted oedd y môr o swyn
Fel breuddwyd lanwai'r nen;
Chwenychwn weld y cantor mwyn
Yng ngoleu'r seren wen.
Ac yna wrth imi wrando
Ces weledigaeth fawr;
O'm hamgylch safai tyrfa
O engyl gwyn eu gwawr:
Pan welais linynnau euraidd
Telynau y sanctaidd lu,
Deallais fod y ddwyfol gân
Yn dod o Gaersalem fry.
Moliant i Dduw drwy'r uchelder,
Chwyddwch y gydgan gref;
Cenwch i'r Hwn sydd yn Geidwad,
Henffych i Frenin Nef.