Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Y mae Gwrid ar Ruddiau'r Rhosyn
Gwedd
| ← Y mae Gwrid ar Ruddiau'r Rhosynl | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref, fy mun → |
Y MAE GWRID AR RUDDIAU'R RHOSYN.
(Efelychiad).
Y MAE gwrid ar ruddiau'r rhosyn,
Y mae gwrid ar ruddiau Men,
A phan i'r ardd y rhodia
Fe wrida y wawrddydd wên;
Mae y nos yn ffoi o wyddfod
Y forwynig lana 'rioed,
Ac o'u cwsg fe ddeffry'r blodau
Pan glywant swn ei throed.
Y mae gwlith ar ruddiau'r rhosyn,
A thrwy'r gwlith y rhodia Men
At y ffynnon fechan loyw
Sy' dan gangau'r deiliog bren;
Ni ysigir un friallen
Gan ei throediad ysgafn hi
Pan nesha yn swil i edrych
Ar ei darlun yn y lli.
Mae ei cherdd yn galw'r bore
Ac yn swyno gwenau'r haul,
Cydymroddi i'w dynwared
Wna yr adar yn y dail;
Ac yn ddistaw 'nghlust yr awel
Sibryda'r lili hardd
Fod fy nghariad i yn rhodio
Dan gysgodion coed yr ardd.