Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl

Oddi ar Wicidestun
Herber Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill

gan Jonathan Machreth Rees

Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd

YNG NGORSEDD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y RHYL.

Yn y Rhyl gwena'r heulwen—ei gwresog
Roesaw i wyl awen,
Ac a'i haur nawdd caera nen
Dŷ cariadau Ceridwen.

Dur a'i awch heddyw drechwyd,——allor hedd
I wella'r hil godwyd;
A llid i wawd alltudiwyd
O riniog clws Dyffryn Clwyd.

Hanes craith nis ceir weithian—ar wyneb
Graenus Morfa Rhuddlan;
Cuddia'r haf ol cyflafan
A lle bu'r cur llwybra cân.

Ond rhag cri bryntni a brad——ni chiliwn,
A choelied gwyr diriad;
Medrwn ddal os daw galwad
Y noeth gledd dros iaith a gwlad.


Nodiadau

[golygu]