Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill/Yr Ehedydd
Gwedd
| ← Peroriaeth | Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill gan Jonathan Machreth Rees |
Cân yr Angylion → |
YR EHEDYDD.
O! MOR wefreiddiol im ar foreuddydd
Gwyn yw cariadus gainc yr ehedydd ;
Diluwia'n hyawdl frwd odlau newydd
Ei gywair hwyliog, loywaf garolydd:
Sirioli aur dyrrau'r dydd—wna molawd
Ei lwysber unawd o las wybrenydd.