Neidio i'r cynnwys

Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

gan Jonathan Machreth Rees

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill


GERAINT
AC ENID


A
Chaniadau Eraill.



GAN
MACHRETH.



LERPWL:
EVANS, SONS AND FOULKES,
SWYDDFA "Y BRYTHON,"
MDCCCCVIII.



ℭ𝔶𝔣𝔩𝔴𝔶𝔫𝔢𝔡𝔦𝔤 𝔦 𝔊𝔬𝔣𝔣𝔞𝔡𝔴𝔯𝔦𝔞𝔢𝔱𝔥

FY MAM,

Yr hon a'm dysgodd i
garu laith a Llenyddiaeth
CYMRU.



At y Darllenydd.

NID ymesgusodaf am gyhoeddi'r gyfrol hon o'm caniadau, ac ni roddaf y bai am hynny ar "gymhelliad cyfeillion" chwaith, serch i mi gael fy annog gan fwy na dau neu dri. Yr wyf yn ddigon uchelgeisiol i chwennych ymddangos ymysg awdwyr fy ngwlad, ac yn ddigon hunanol i gredu yr ychwanega fy nghynhyrchion ychydig bach at drysor llenyddol fy nghenedl.

Pwy bynnag arall sy'n ddyledus i'r Eisteddfod am symbyliad i feithrin yr awen a'i hymarfer, myfi yn fwy. Magwyd fi ar aelwyd lle y mawrheid ein gŵyl genedlaethol, yr edmygid enillwyr ei chadeiriau a'i thlysau, ac y treulid hwyrnosau i ddarllen eu cynhyrchion. Dysgais garu barddoniaeth Cymru yn fore, ac nid yw'r "cariad cyntaf" wedi oeri hyd heddyw.

Gwelodd amryw o'r darnau sydd yn y gyfrol "oleu'r dydd" o'r blaen mewn gwahanol gyfnodolion. Bu nifer o honynt mewn cystadleuaethau eisteddfodol, a rhai o honynt yn ddigon ffodus i ennill gwobrau a chadeiriau. Ond y mae aml linell ac aml ymadrodd. hyd yn oed yn y rhai hynny wedi eu newid, er gwell, mi a hyderaf. Ni fynnwn gynnyg fy ŷd i'm cenedl heb ei nithio cyn laned ag y medrwn. Diau fod us eto yn aros: gwyntied y beirniaid y cwbl ohono ymaith.

Credaf fod cywirdeb iaith a cheinder ymadrodd ac arddull yn hanfodol i farddoniaeth—yn fwy hanfodol na meddyliau dieithr. A chredaf hefyd mai disgrifio. bywyd a thraethu profiad yw neges y bardd. Ni pherthyn iddo ef athronyddu nac athrawiaethu, mwy nag y perthyn i'r arlunydd neu'r cerddor. Gobeithiaf, felly, na chaiff neb achos i achwyn fod yn fy nghan— iadau "dywyllwch afluniaidd"; yr wyf yn ddigon boddlon i'r rhai a hoffant "awenyddiaeth ddofn" ddweyd mai arwynebol ydynt. Gwell gennyf fyw ym. myd heulwen ac awel a blodau nag ym myd y twrch daear.

Dymunaf gyflwyno fy niolchgarwch cynhesaf i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a'i Hysgrifennydd siriol a chymwynasgar am y caniatad caredig a gefais i argraffu yr awdl ar "Geraint ac Enid." Y mae nifer yr ewyllyswyr da a anfonasant i erchi'r gyfrol cyn ei chyhoeddi ymhell tuhwnt i'm disgwyliad. Can diolch iddynt oll.

MACHRETH.

LLUNDAIN,
Tachwedd 28ain. 1908.

GWALLAU.

Tud. 26, llin. 1, yn lle cudd ych darllener cerddych.
Tud. 45, Ilin. 18, yn lle rhaman darllener rhamant.
Tud. 100, Ilin. 22, yn lle Byddai darllener Byddar
Tud. 128, llin. 23, yn lle lles darllener llestr.


CYNHWYSIAD


Darnau Cynghaneddol.

GERAINT AC ENID,
(Awdl Cadair Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1904.)

i.
Antur oes yw hynt traserch,
A lle bo'r siom llwybra serch.

AR ryw hynt wyllt Geraint oedd
Hyd oror dieithr diroedd,
Ai'n angel darostyngiad
Marchog difoes roes sarhad
I Wenhwyfar yn hyfalch
O greulon bwyll, gerlyn balch.

Gyda'r hwyr daeth i deg dref—or—brysur,
Heb roesaw'n ei goslef;
Ni wyddai am un haddef
A ryddhai'r ddôr iddo ef.

Ni wenai arno wyneb,
A mwyn air ni roi min neb.

Drwy y dref y crwydrai dro,—gan fwmian:
"Pla ar y fan! Pa le yr âf heno?"


Ei gil droes, a gwelai drig
Lydan, ond adfeiliedig,
Gerllaw'r dref: eb ef, "Bu hon
Ryw adegau'n rhoi digon
O wir roesaw, a'r trysor
Fwynhai ddyn o fewn y ddôr."

Yna heb dario at honno tynnodd,
Yn ddig o'i orchwyl ei neuadd gyrchodd;
Ond yn nes pan ddynesodd,—llys tloted,
Na chyn waeled ei ddrych, ni welodd.

O'r rwyg henllys gŵr gwynllwyd
A gwelw ei wedd, mewn clog lwyd
Dyllog a rodiai allan;
Canfu ef, ac yn y fan
Meddai: "Gwel'd rwy', Facwy, fod
Rhyw daer iawn bryder ynod;
Ai llid tost yw'th drallod di?
I'th gysur beth a geisi?"

Ebr Geraint: "Barug hwyrol
O lathraidd wawr leithia'r ddôl,
Rhy oer yw i ŵr orwedd
Gyda'i bwys ar gauad bedd;
Mynnwn yn rhan o dan dô
Dy annedd gysgod heno."

"Briw annedd," ebe'r henwr,
"Un eithaf noeth yw fy nhŵr;

Llawnach o fwyd a llawenydd—unwaith
Fu ei hen fagwyrydd;
Ond rhoi a eill ein trullydd
A wna tra maen ar faen fydd."

A chyrchu Geraint orug y tirion
Wr hen, a'i annog o'i gyfrwy'n union;
Tywynnu fel.aur hyd hen falurion
Rhwysg ei wehelyth wnai gras ei galon:
Carai fwynder yr arferion—oedd ddrud,
Er difa'i olud, rhwng yr adfeilion.

Hyd risiau têr niferoedd o fynor
I fewn aent ill deuoedd:
Rhwygiedig iawn drig ydoedd,
A phetai waeth, rhyw lofft oedd.

Croesai'r Macwy drothwy'r drig
A meddwl oedd fflam eiddig
Wrth gofio taw dwylaw dyn,—heb arbed,
O dŷ fu hardded a wnaeth dlawd furddyn.

Gwelai hen wraig lana' 'rioed—
Un a'i hwyneb mewn henoed
Yn arwyddo gwawr addien
Ei newydd ne'n ddeunaw oed.

Arall oedd gerllaw iddi,—hardd eilun
A gwir ddelw ohoni
Yn ei gwanwyn, yn gweini,
A chu serch i'w heisieu hi.


Mor ddifyr y myfyr mwyn-a di-haint
A fu i Eraint o wel'd y forwyn;
Mireinaf em rhianedd-pob rhyw fro
Welai ef yno mewn gwaelaf annedd.

Gwyw liw yr henwisg liain
Wisgai'r heinyf wyryf fain,
A'i wael wead gai'i loywi
Gan geinder têr ei chnawd hi:
Un oedd gwawr ei diddig wedd
A diwall wawr Blodeuwedd;
Dwyfoch unlliw a deufin
Oll yn goch megis llwyn gwin;
Mwnwgl lyfned a mynor,
O liw myg alaw y môr,
Ac mor deg a gorne gwyn
Yr ôd fwrir hyd Ferwyn:
Ei gwallt, dros warr fel arian
Fwriai i'w gwasg ei frig aur,
Nes cuddio'i dwy ysgwydd dan
Fawreddog lif o ruddaur.

Ebr Ynywl: "Nod fy nhlodi,-a dwys yw,
Nid oes was march iti:
Eb Enid: "Diles poeni,
Hynny o fodd a wnaf fi."

Yna'n ddistaw â dwylaw dihalog,
Hyddysg merch, hi ddiosgai y Marchog


O'i farchwisg bali deg a godidog;
A chyfuwch braint i Eraint gyhyrog
Ni bu a dadglymu'r glog—gan fedrus
Law un gariadus, mor lân a gwridog.

Yntau braidd rhag maint y bri—a giliodd,
A mud wyleiddiodd am adael iddi;
Fe wyddai na feddai neb—di—alaeth
Hawl i wasanaeth y fath dlysineb.

Hawdd iawn oedd i weinyddes—o deg wedd
A phuraf fonedd gyffroi ei fynwes
Nes elai'n eirias aelwyd
Cyfrin dân tynera' nwyd.

Hithau Enid, wrth weini,
Oedd ŵyl iawn, meddyliai hi
A brwd fryd, am briod fraint
Y wraig a garai Geraint.

Wedi maeth drwy fwyd a medd
Cynheswyd caine hynawsedd;
Ar fainc wael, i'r ifanc ŵr,
Rhoi ei hanes wnai'r henwr:
Y'mhwyslais trwm ei oslef
Clywid swn ei ofid ef.

Traethai Geraint warth garw—y sarhad
A roddes rudd welw

I'r lân Wenhwyfar, a'i lw-troai'n ol
I'r nwyd hunanol y bryntni hwnnw.

Eb e wedyn: "Heb oedi,
O lym nwyd carlamwn i,
Hyderai'm tanllyd arial,
Ac ynni dig, cawn eu dal
Yn fuan, ond i f' awydd
A'm llid ffrom mawr wae siom sydd ;
I'm soriant, hwy gawsant gell,
Ac estyn wnaeth y castell
Nef o nawdd-ond, myn fy nig,
Foru udo'n friwedig
Ga'r Marchog ŵyr amherchi
Y wraig fwyn fawrygaf fi."

Yna eilwaith, gan welwi:
"Wrda," meddai, "sylwais i
Fod i'r Marchog talog, tyn,
Fawr roeso, mwyaf resyn!
Fe gai ef dorf i'w gyfarch
A gwrdd fawl pan gerdda'i farch
Drwy y dre, a'i hyder oedd
Yn cynneu hwyl y cannoedd.

Rhyw aneirif ddylifiad,
Megis ar ddull cynnull câd,
I'r dref oedd, a mawr dwrf fel
Twrf ffair cyn taro ffarwel.


Gymysg â therfysg, swn gweithio arfau
A rwygai fwyniant ddoi o'r trigfannau ;
Swn prysur lafur yn gloywi gleifiau,
A rhoi terwynnaf wawr i'r tariannau ;
A gwŷr ar eu meirch yn gwau—heb wybod
Yr iawn gyweirnod i'r hoywon garnau.

Mynega im', nac omedd,—yr achos
O'r uchel oferedd;
Rhyw wawd o wir anrhydedd
Yw stŵr hy ddistrywia hedd."

Ebe'r hen yn hamddenol:
"Oni wyddit ti fod dôl
Lydan iawn draw'n eitha'r dre',
A'i chae hir yn fan chware?
A gwŷs ymhell, ar gais meint
Taerion am hwyl twrneimeint,
Yrrai'r Iarll i wŷr o rin,
Wedi arfer â durfin,
I brif ornest brawf fawrnerth,
A dreia'n hagr fedr a nerth;
Foru yw'r dydd i fri'r dewr
Dorri honniad yr anewr.

Twrneimeint ar un amod—
A fo ŵr glew o fawr glod,
Ni cha hwnnw ei chynnyg
Heb arddel serch rhyw ferch fŷg;

A hithau raid ddwyn, weithian,
I'r drybestog, fywiog fan,
Ac yn enw y gain honno
A thwym iawn nerth ymwân o.

A'r Marchog eurog, a fedd gorr garw
Ro'i iti alar sarhad di elw—
A'i eofn fawredd wnai'r dref yn ferw—
Sy' hyf o fwyniant, sef ef yw hwnnw
Ddwywaith â'i nerthoedd hoyw—orthrechodd,
Ei riain lonnodd â breiniol enw.

Oni cha'i atal na'i drechu eto
Yforu unwaith, caiff mwy ei freinio
A hawl i'r urddas sy' addas eiddo,
Heb yr un ornest na barnu arno;
Yr addurn gedwir iddo,—cryfach gŵr
O ddig ymwanwr, ni ddwg mohono."

Ebr Geraint sobr a gwrawl:
"Fe heriaf fi'i freuaf hawl
I'r addurn, bid wiw roddi,
Er fy mhorth, arfau i mi;
Hydr i gwrdd pob hyder gau
Yw mraich hon, a'm march innau."
"Bydd wych, o mynnych y modd,
Rhof fi arfau o wirfodd:
Ond mae y wraig, geinwraig gu,
I'w harwain i'r ddôl foru?"


Ar hynny troes Geraint drem—ar Enid,
Rhyw dirionaf letrem:
Hithau, yr wyl anwylem,
Wnai gwrid yn fwy dengar em.

Ei wyneb, pan atebai,
Ymlonnai mal ynni Mai,
A dyma'i iaith: "Rhoist i mi
Nyth, a'm lluniaeth i'm llonni;
Rhoist arfau heb drist erfyn:
A oes fai o cheisiaf hyn—
Ai camwedd chwennych cymaint,
Ai ofer im' geisio'r fraint
O arddel mun o urddas,
A'i chlod o ryw uchel dras?
Y landeg, ŵyl, Enid gu
Yw'r firain wyryf foru
A gyhoeddaf, ac iddi
Y gofynnaf, hawliaf fi,
Lamystaen di staen, da stôr—
A gwae'r traws ddygai'r trysor.

Dy esmwythyd, os methaf
Yn y drin gethin a gaf,
Fydd hyn, na chafodd Enid
Yn d'ŵydd ddim gw'radwydd i'w gwrid.

Os di—warthrudd fo'm lludded,
Rhwymaf fy ngrym a fy nghred

Y ca, wrda, 'm cywirdeb,
I'w di—sodli ni ddaw neb;
Archaf iddi'r serch feddwyf—
A'r nef a'i barn—tra'n fyw bwyf."

Llonnodd Ynywl Iarll yn nydd henaint
I'r gu eurfron roi'r fath ragorfraint;
Newydd hyfryd i fun oedd difraint—
Ow, y chwerw gamwedd—ei charu gymaint:
O'i fri, pan adnabu'i fraint yn addfwyn
Wên y forwyn, llonnaf fu Eraint.

I'r hynaws Enid drwy y nos honno
Ni ddeuai ennyd o awydd huno,
Gwawr wendeg a'i cai'n gwrando—peroriaeth
Addewid hyffraeth ei breuddwyd effro.

Canai y Macwy'i hunan
I gwsg, a hon oedd ei gân—

"Enid lwys y mae dy lun
Mal llun y tair meillionen
Gwynion, teg, a wenent ar
Y dalar droediai Olwen;
A'th gnawd têr o geinder gwawl,
Swyn breiniawl tlysni Branwen.

Llu a ŵyr mai ti o'r llon
Forynion yw'r fireinaf;

Archai Duw dy drochi di
Yn lli'r goleuni glanaf,
A lliwio'th fin, a lliwio'th foch,
O goch y cwrel gwychaf.

Od oedd gwedd Blodeuwedd gu
Yn synnu torf â'i swynion,
Y gwir llwyr, bait ti gerllaw
Ei gadaw wnelsai Gwydion:
Wyched wyt dy degwch di
Eill loywi llys Caer Lleon.

Enid gu yn d'ŵydd nid gwyn
Yw'r ceinwyn eira cynnar;
Neu'r ewyn têr ar gerrynt aig
Rhag gem o wraig mor hygar;
Glod yr oes! bydd gwel'd dy wrid
Yn ofid i Wenhwyfar!"

Wedi ennyd o huno—
A pheraidd oedd—deffrodd o.

Y'ngloewbrid ie'nctid y dydd,
A'r henwr yn arweinydd,
Ai'r pedwar i'r gwyrdd farian
Er bri y'miri'r ymwân
I Eraint: mynnai'r bore.
Roi arlliw aur ar y lle
Ireiddwawr, cyn lli rhuddwaed,
Cyn cenlli o gochni gwaed.

A pherarogl mwsogl maes
Hyd Wynfa o'r llydanfaes
Esgynnai, rhos a gwinwydd
Y berth a roent ebyrth rhydd,
Onid oedd foroedd o fyrr
Rhywiog yn lleithio'r awyr.

Eto i'r maes y tyrrai myrdd,
Cyrchu y cae wnai'r croch eu cerdd,
Gwych farchogion, a gweision gwrdd,
Am hwyl i'r cylch doi aml wraig hardd.

Ac yn y cynhwr', yn fwya'i dwrw,
Doi'r Marchog talog dros fraint ei elw;
Tân y twrneimeint hwnnw-roi, hyd fedd,
I wychu'i fonedd, yr uchaf enw.

Eisteddai'n uchel ar farch canwelw,
Ei wisg yn newydd, a'i osgo'n hoyw;
Ei eirf a'i darian gydffyrf â derw,
Yn ail i lewyrch yr haul o loyw:
O ddialedd yn ddelw-a cholofn-
Un fyddai eofn i feiddio'i wayw.

Yn dlws wrth ei ystlys e'-marchogai
Merch hygar, ucheldrem;
Ddygai bob awr y llawryf
Am hyder hyf a llym drem.


Dihafal wisg o bali
Guddiai ei chorph, harddgorph hi,
A'i liw'n ail i'r melynaur
O gylch pen banadlen aur:
Ac o weled deced dull.
Hon, acennai y cynnull
Ei chlod; ac uchel ydoedd
Y nwyfus, foliannus floedd.
Annerch ei ordderch arddun
Wnai efe: "Mireinaf un
Y weirglawdd wyt, ac erglyw,
Addurn clod d'eiddot ti yw;
Y teg lamystaen gest ti
Ddwy flynedd, ef eleni
Gei hefyd, ynddo gafael,
Dy wen ffawd nid edwyn ffael."

O gwrr y maes doi laes lef,
Rhyw wrddlais roi waharddlef-
Rhy wych yw it, na chyrch ef."

Ar hynny Geraint ddi-gryn a gwrol
Arweiniai Enid, feinir eneiniol,.
Yn ei rhwyg henwisg liain, i'r canol;
Meddai "Fe weddai i'r fwya' haeddol
Ddwyn y llamystaen o'r ddôl,-ac wele'r
Un rhaid ei hadde'r fwya' prydweddol."


Ac ebe'r llall mewn angall nwyd :
"O'th araith ddewr, rhy hy i'th oed,
Daw mwy na rhoi, tyrd, y mae'n rhaid
Ymwân â mi hyd golli gwaed."

Ac i orchest ymgyrchu'r
Aent ill dau, y mentyll dur
A wisgent dincient encyd
Ryw ing oer wrth daro 'nghyd:
Trywenynt o'u tariannau
Ddi ri danfyllt i wyllt wau:
Rhoi glew i'r glew aml arw glais,
Diamgen fu'r gydymgais;
Cydnerth y ddau ryferthwy,
Di-nych oedd eu gwydnwch hwy:
A bu alw mawr am belydr
Dri thro wedi rhuthraw hydr.

Yna'n flin gan erwin nwyd—
Gan wyllt egni llidiognwyd-
Gwnai Geraint gynnyg arall
Erchyll iawn; cyrchu y llall
A gwayw drom orug o draw,
Ac wedyn tost ergydiaw,
Nes torri ei laes darian
Yn holltau mawr, yn ddellt mân;
I'w anglod torri'r cenglau
Oent breiff, mal pe baent wê brau;
A'i fwrw o'r cyfrwy eurwawr
Yn welw a hurt i'r gwyrdd lawr.

O'i gyfrwy'r Macwy'r un modd
Mewn nwyd yn chwim a neidiodd
I'r llawr, ond cyfodai'r llall
Yn ei hewyd aniwall:
I'w hing hwy gyrchent y'nghyd
Ragor, ac ar y gweryd
Bu dulio enbyd eilwaith,
Curo hir, a hacra waith;
Do, bu llymdost ddidostur
Glwyfo dwfn â gleifiau dur;
Rhudd aberoedd o burwaed,
Ffrydiau chwys gymysg â gwaed,
Foddent a throch eu cochwy
Leufer têr eu llygaid hwy.

Ond cof o amarch sarhad y Marchog
Fywhâi ddigofaint Geraint gyhyrog
I un wrdd orchest fyddai'n ardderchog ;
Agorai wedyn â'i gleddau gwridog
Wahanglwyf mawr ym mhenglog—ei elyn,
Hanerai'i goryn yn annhrugarog.

Ac Edern falch, gadarnaf wedd,
Yno'n ei waed lareiddiai'n hawdd ;
Yn friw ei glod, yn fyrr o'i gledd,
A'i fraich yn wyw, fe erchai nawdd.

Rhoi nawdd yn dirion iddo-a orug
Geraint, a llw arno

Na oedai'r iawn am ei dro-anghynnes
I'r wiw frenhines a'r forwyn honno.

A Geraint yn gymaint gŵr,
Bu daer awch pob edrychwr
I roi parch a chyfarch well,
Ac estyn croeso'i gastell
Fynnai'r Iarll: "Cei yn fy nhrig,"-ebe ef,
"Y balm i'th friwedig
Ben a'th fron, Bennaeth o frig-brenhinol-
Olew dewisol aelodau ysig."

"Nid all cymaint braint," ebr yntau,-" fy nwyn
Neu fy nenu innau
I'th dŵr, er ffraethed d'eiriau,
Mae gallu uwch i'm gwellhau.

Y fan gorphwysaf heno-yw y nyth
Y bum neithiwr ynddo,
Hwnnw fynnaf, caf, rhag haint,
Bur ennaint i'm briw yno.

Eos anwyl y sy' yno,-yn sŵn
Cân ei serch caf huno;
Oni wn y cân honno
Waetha nghur ymaith o ngho'."

A hithau Enid, dan wrido,-a droes
Drem o hyder arno,

Treiddiodd yn ynni trwyddo
Laddai ei daer ludded o.
Y'mraich ei gariad, mor wych a gwrol—
Nid fel un drethid gan flinder aethol—
Y cerddai'r Macwy urddol—i gael hedd
A newydd hoenedd mewn man oedd ddenol.

Ac ufudd weinwyr a gafodd yno
O'r llu gweis a fynnai'r Iarll eu gwysio ;
Cadd i'w enau win, cadd ei eneinio,
A hyfryd oedd yr adferiad iddo:
Ac i'r ddawns fe gerddai o—heb hanes
Dyrnodiau'i ornest a'r niwed arno.

Geraint drwy wir ragoriaeth,
Heb un fost, yn bennaf aeth:
Ni ddug warth ar lys Arthur,
Ni friwiodd ef fri ei ddur:
O'i lwydd cadd Ynywl haeddol
I'w lonni'i hen hawl yn ol,
Ac henllys y gŵr gwynllwyd
Ni wybu am brinhau bwyd
Wedyn; ond mwya' llondid,—yn deg ran
Iddo ei hunan enillodd Enid.

Oriau'u cur wnaeth yn burach—i'r ddau hyn
Beraidd awr cyfrinach
Eu Hafallon, cyfeillach
Di glwy nef dwy galon iach.


Ewyllysiai'r Iarll osod
Y gwychaflin bali'n bod
Am Enid, rhag gofid cas
Beio harddwch heb urddas.

Y gair a roddes Geraint:
"Gwenhwyfar yw'r un ga'n fraint
Wisgo fy Enid lwysgain,
Em wŷch, yn y sidan main;
Mewn lliain wisg, henwisg wyw,
Mwya' hudol im ydyw,
Ei gwisg ni ddryga'i gosgedd.
Na gwych haf ei gwengoch wedd;
Gloywa hon bob gwael henwisg,
Heneiddiai wawr newydd wisg;
Odid ceid a decâi hon
O'r lliwiau sy' Nghaer Lleon."

O'r holl wenau a'r lloniant
Hoenus, a thwrf dawns a thant,
Rhagddynt parth a llys Arthur
Oedd bell, yr aeth y ddau bur.

Ac eres groesaw gwresog—o'i gyrraedd
Gafodd Geraint Farchog:
Llawenydd llawn oedd y llog—am hydrwaith;
Ai ef o'i glodwaith yn fwy goludog.


Cwrel fin ei frenhines—a eiriai
Ddiolchgarwch cynnes,
Arno hi wenai ernes—ffafrau haf
Ei nawdd dirionaf, pan ddwedai'r hanes.

Y deca Enid cai honno—hefyd
Wên Gwenhwyfar erddo;
Ac esgud arch i'w gwisgo—mewn sidan
Ddewisai'i hunan a roddes yno.

Yn y sidan clws odiaeth,
O newydd wê,'r rhiain ddaeth
Gerbron, a'i gorddengar bryd
Ferch wylaidd, ddifrycheulyd.
Swynai'r llys, unai'r lleisiau
Am oriau hir i'w mawrhau.

Yno rhwymyn yr amod
Oedd gadarn hyd farn i fod,
Yn ddedwydd gadd ei ddodi—ar Eraint
Arwrol, uchelfri;
A'i ŵyl Enid—haelioni
Iach fron oedd ei chyfran hi.


ii.
Ei bla a wysia traserch,
Dwys iawn yw gofidiau serch.

Bu heulwenau dair blynedd
I'r ddau, mor bur oedd eu hedd!
Tân cariad ieuanc Geraint
Gryfhai'i wres, cywir i'w fraint
Y ceid ef, cadwai o hyd
Fyw wawr haf i'w fri hefyd;
Bywioca wr ymhob camp,
Garai hwylgerdd gwrolgamp;
Ei anian yn fyth heiny,
Hyttra oedd mewn antur hy:
Yn rhwydd, fel yr awel rydd,
Ei glod dramwyai'r gwledydd.

Wedyn ei hewyd hoyw a wanhãodd,
Ei feiddiol ynni a ymfoddlonodd;
Moethau di-raid ac esmwythder hudodd
Y gŵr amlwg, ac o olwg ciliodd;
Ei lyswyr esgeulusodd,-a bywyd
Tawel seguryd di-les a garodd.

Maws dof ac ymgom stafell
I'w duedd ef ydoedd well
Na berw y llys, na bri llu,

Na thrachwant am orthrechu;
A gwên ei hawddgar Enid
Nag urddineb lle b'ai llid.

Nod ei enw a edwinodd,—a chalon
Yr uchelwyr gollodd;
Llais clod y lliaws gledodd
Yn wawd trist a gogan trodd.

Enid fernid, a mawr feio arni
Gan wyrda oedd, ac anair roed iddi,
Hwy dybient, mynnent mai hi—gadwynai
Drwy wên ac amnaid ei dirion gwmni.

Hithau glybu, bu fawr boen
Iddi, guriodd ei gorhoen;
I'w chariad ir, teimladwy,
'Roedd eu hoer sarugwydd hwy
Fel yr awel a rewa
Egin rhos rhy gynnar ha'.

Doi gur o weled Geraint
Mor ddifraw am ei hardd fraint,
Mor ddiofal, mor ddifyr,
Ei gân ynghanol gwawd gwŷr;
Er gwybod fod arno fai
Mwya'i radd nad ymroddai,
I ddwedyd rhy brudd ydoedd,
Llwfrhau rhag llefaru 'r oedd:

Gyrru gwawr rhos, gwywo'r gwrid,
O'i dwyfoch wnai'r mud ofid.

Hyn ddarniai hedd ei hwyrnos,—a hirion
Fu oriau ei gwylnos;
Yn lle hun, rhoed i'r llinos.
Wylo'n hallt drwy gydol nos.

Ryw fore o haf eurwawr
Gwenai'r haul ar gynnar awr
Ei wawl i'r stafell wely,
A'i eirig wres oedd mor gry'
Oni ddihunodd Enid—o'i hysgafn
Gwsg i fyd ei gofid:
Bore i hon hefo'i brid—ddisgleirder
A ddug ail lawnder o ddigalondid.

A Geraint yno'n gorwedd
A fwynhai hun yn nwfn hedd
Diofalwch dadfeiliant,
Heb na broch, na chyffro chwant
I glod uwch mor gysglyd oedd!—ei galon.
I freuddwydio'n rhy farwaidd ydoedd!
Enid a'i gwyliai'n huno,—a'i heirias
Gariad bured iddo
A'r diwrnod rhoi'i chred arno;—ni chadd brad
Un rhwth ddymuniad anrheithiaw mono.


Tybiai na welwyd tebyg
Erioed i'w mad briod myg;
Dan wawl bore deced oedd
Ei wrid, mor aruthr ydoedd
Ei ddifriw gadarn ddwyfron,
Y gorfawr rym gaerai'i fron;
Lluniaidd, gawraidd gyhyrau
Geid i gyd gwedi eu gwau
O fawr nerth cyfrin Arthur,
Cadernid cadwyni dur.

Rhoddai ochenaid arwydda'i chyni,
A geiriau'i halaeth leithiai ddeigr heli:
"Gwae im' os o'm hachos i-y mae'r haint
Orug i Eraint fyw heb ragori."

"Ai myfi yw'r achos y mae'i freichiau
Cryfion a thirfion heb glodwaith arfau?
Na ŵyr ennill i'w fronnau-castellog
Eto liosog gyfrdelid dlysau?"

"Onid oedd warth im gadw oddiwrtho
Anfwynaidd ogan fynnai 'i ddiwygio?
Ateb a raid im eto-na ddwedswn,
Eiddil iawn oeddwn-anffyddlon iddo!"

Afonydd ar ei fynwes-dywalltai
O heillt ddagrau cynnes
Mwy llym na grym y gwres;-lled ddeffroai
O'i hun, a chaffai ryw ddarn o'i chyffes.



Ac yntau'n anghall a gamddeallodd
Ei garw glwy, a'r rhwyg eiriau a glywodd;
Dibwyll eiddigedd dybiodd—i Enid
Dorri'i haddewid—a'i awyr dduodd.

Ei fawr serch a friwiai saeth—wenwynig
Anianol amheuaeth;
Yn ei galon ymson wnaeth,—chwerw y gwall!
"Am rywun arall mae arni hiraeth."

Arwed yr iasau gai'r hyder ysig,
Ac hael fu adwyth cariad clwyfedig;
Gwelai ei gred siomedig—ar ei lwydd
Ddu nod gwaradwydd nwydau gwyredig.

Cyffrôdd a llidiodd yn llym,
A'i wefl ysgydwai'n gyflym;
Ei was yn chwyrn a wysiodd,
Ac am ddeufarch yr arch rodd.
Yna anerchodd Enid,
Ac e'n floesg gan nwyf ei lid:
Tithau nac oeda, teithiwn
Ymhell o wae'r lle mall hwn;
Rho i ffwrdd yr hoff harddwisg,
Brysia wisgo'r waela wisg;
A boed mefl, heb wâd, i mi,
Dua' wewyr, os deui
Yma'n ol yn ameu'm nerth,
A gwydnwch f'eiddig adnerth:

Dy anghymwys ddwys bruddhad
Mi a wn, a'th ddymuniad—
Daw i ben pan gred y byd
Wanhau'm hawen a'm hewyd."

"Pa iaith yw hon," eb hithau,—" arglwydd,
Erglyw, ddaw o'th enau?
Dir, ni wn ystyr d'eiriau,—anhydyn
Ydwyf i ddilyn rhawd dy feddyliau."

Ebr ef, gan ei briwio hi:
"Buddiol yw nas gwybyddi."

Rhag ei lid Enid grynnai.
Heb arni fai, mewn braw'n fud;
Deufwy llwfr i'w stafell âi,
Hi a wisgai'n anesgud—
Yn brudd, fel un mewn breuddwyd—
Yn lle harddwisg, lomwisg lwyd.

Cyni'n wir oedd canu'n iach
Lle cofiai well cyfeillach;
Bu wylo yno ennyd,
A gwaedd drwy'r neuadd i gyd.

At Eraint, i'r anturiaeth,
A bryd dwys, yn barod daeth;
"Im', hir," ebr ef, "d'ymaros,
Afraid waith, i'th gyfrwy dos;

O mlaen cerdd, tro lle cudd ych
O lwybr asp a bwystfil brych;
Minnau ar d'ol yn d'olwg
I'm hing af; bydd mwy o ngwg
Arnat, oni fyddi fud,
Gwir wae a ddwg gair ehud;
Clyw di hyn, clo dy enau,
Neu annwn dost gawn ein dau."

Ymaith i'w thaith aeth hithau,
Ni feiddiai ond ufuddhau ;
Ei gwae oedd ddwfn, a'i gwedd hi
Welwach na gwynlliw'r lili

Gyda gorlem drem mor drist—a chystudd,
O ercha' gythrudd y Marchog athrist
Ddilynai'r eiddil Enid,—o'i ddifyr
Oror, a'i fyfyr ar fwy o ofid.

Gan ado'r priffyrdd a'r llwybrau gwyrddion,
Draw y trodd Geraint i'r tiroedd geirwon
Lenwid o ofnau,—i'r glynnau dyfnion
Oedd froydd tryblith, lledrith, a lladron,
A phydewau seirff duon,—cyfeiriodd,
Yno'i nwyd yrrodd ei Enid dirion.

Drysodd trallodus draserch,
Yn nydd siom creulanodd serch.

Yn wrol Enid flaenorai,—y llwybr
Garw a llaith nis ofnai;
Ei Geraint fwyfwy garai,
Ac er ei fwyn ymgryfhai.

Er cloi'i hiaith, er cael ei arch
Ddig ef nad oedd i'w gyfarch,
Beiddiaw yr holl rybuddion
A niwed nwyd a wnai hon,
O gwelai draw argoel drwg,
A gelyn yn y golwg.

"Dwedaf heb gêl," ebr hi, "doed a ddelo,
Y dua' warth fydd im dewi wrtho;
Oni fyddaf fi iddo fyth yn bur,—
O daw mwy dolur,—Duw im a dalo!
O golli Ngeraint nis gallai ngeiriau
F'amddiffyn wedyn rhag holl ofidiau
Marw mwy gerwin, a gwell i minnau,
O ddwysaf ingoedd ddewis fy angau.
O'i law ef, byddai'm clwyfau—'n ysgafnach,
Ac yn felusach mi gawn fy loesau."

Hyllig wawd dig oedd y tâl
A gafodd am ei gofal,
A bu gwaeth y bygythion
Y doi briw enbyd i'w bron

Oni thawai; 'n ei thywydd.
Crynai, ond ni phallai'i ffydd.

Ac er ymosod o rai grymusion.
O lid ar Eraint â phelydr hirion,
O flaen medr uwch a diflin ymdrechion
Ei ynni gwelwodd y ffyrnig alon;
Hwy a fwriwyd yn feirwon,—a'r llawr llwyd
O'i ddeutu wridwyd â rhuddwaed drudion.

Wedi aml orchest mewn tost ornestau
Heb arw anaf, na briwio'i ewynau—
Er diengyd cyhyd ar rawd angau
Mal dan nawdd ffawd wnai wawd o niweidiau—
I antur cerddodd yntau—barodd gur,
O'i lidiog lafur cadd waedlyd glwyfau.

Y niwed a wanhäodd—ei wych nerth,
A chan nych llewygodd,
Yn swrth o'i gyfrwy syrthiodd—megis marw
Yn wyw a gwelw, a'i synwyr giliodd.

Ymdorrai storm o dristâd—ar Enid,
Ffrydiodd o'i bron ddifrad
Brudd osper, sobr ddiaspad,
Yn groch lef goruwch y wlad.


Gwyrodd uwch ei ben, a garw—iddi oedd
Ei weld ef mor welw;
Ei chariad a wylai'n chwerw—âi pryder
Drwy'i henaid tyner y diwrnod hwnnw.

Ei friw hagr gyda'i dagrau—a olchodd,
Eilchwyl rhoi'i gwefusau
Ar ei fin oer; ei fywhau—o'i wendid
A geisiai Enid â thwym gusanau.

Disber ac enbyd ysbaid—fu iddi,
Ni ddoi i ddofi'i chyni ochenaid
O'i fynwes—dristaf ennyd!—clywai dranc
Yn lleibio ieuanc ffynhonnell bywyd!

O rywle, i le'r alaeth,
Iarll Limwris ddibris ddaeth;
Gwelodd Enid brid mewn braw
A galar yno'n gwyliaw,
Ei ddu ornwyd drodd arni,
Rhwth edrych i'w chwennych hi.

Ei dafod dyhir lefarai'n dirion
Er denu Enid i'w rwydau'n union—
"Awn a'th ŵr o'r fan noeth hon—i'm llys draw,
A phaid ag wylaw, fe gaiff dy galon
Eto lawenydd, atal—dy ddagrau,
A thi gei wenau gloywach i'th gynnal."


Rhoed Geraint ar ei darian—i'w gario,
Ac i'r gaerog drigfan
Aed ag ef yn llwyd a gwan,
Heb wybod mwy na baban.

Yno'n dawel ar elor
Gorweddai ef ger y ddôr.
Ebe'r Iarll wrth Enid brudd:
"Atal di d'ofid difudd,
Afreidiol lifddwfr ydyw
Firain ferch; o farw yn fyw
Ni ddaw ef; bid iti'n ddoeth
Ei anghofio; o nghyfoeth,
O'm hiarllaeth, ac o'm heurllys
It' rhof fraint meddiant ar frys.
Yn lle anghlod mawr dlodi
Cei eiddo teg heiddit ti,
Ceinwisg yn lle'th lomwisg lwyd,
Ddi fai, yr harddaf wewyd;
A hyfryted, fwyned fydd
Ein gŵyl ynghwmni'n gilydd.

"Y wisg hon," ebe yr ysig Enid,
Oddi am danaf ni ddaw mwy hyd onid
Archo'm Geraint; a chwerwach y'm gyrrid,
Dolur mwy dwysgur gawn pe'm diosgid;
Pe rhown o nghof fy ngofid—byddai'r llog
Yn ofnau euog—ni wnaf ei newid.


Ys im rhoed, os marw ydyw,
Faethu nghlwyf fra fyddwyf fyw."

Eilwaith yr Iarll gan welwi
O wŷn llosg, i'w hennill hi
A lefarodd: "Clyw, forwyn,
Mefl yw it' na fyddit fwyn;
Drwy hir ympryd d'ysbryd di
O wae lanwyd; i'th lonni
Mi a'th borthaf, mwynaf maeth
Llawenydd ydyw lluniaeth:
Ha yf win, ac o'th fynwes
Dy gur oer ymlidia gwres."
A llyn o fedd, llonnaf win,
Gloewfedd o liw gwawl hefin,
Ar wefus o wawr afal
Roddodd ef-er iddo ddal
Yrhawg i amur gymell
Efô o'i waith ni fu well.

Troi eilwaith tua'r elor
Wnai y fun, a'i gruddiau'n fôr;
A dyma'i hiaith: "O! paid â mi,―y gŵr
A garaf acw weli;
Dy winoedd byth, hyd oni
Yfo ef, nid yfaf fi."


A dygyfor digofaint
Yn ei lw'n enynnol haint,
"Os o'm mwyniant nis mynni "—ebe ef,
"Bid fy melltith iti: "
Taranodd uwch trueni
Enid ddwys, cernodiodd hi!

Dan anghlod y gernod gas,
A'r gofid chwerw a gafas,
Dyrchafodd treiddiol ddolef
O'i mynwes hi—rhyw gri gref
Am ddialydd; meddyliai—am Eraint,
Mwy o hiraeth deimlai;
Eb hi: "Byth ni cheid, pe bai—e'n fywiog,
Gamweddwr nwydog a'm hy ddyrnodiai!

Gwaedd ei Enid o'i lewyg ddihunodd
Eraint, o'i glefyd dybryd dadebrodd;
Y'mhlyg y darian ei arf feddiannodd,
Hydr megis cadarn o'i drwmgwsg cododd;
Wedyn i'r llawr fe neidiodd—yn sydyn,
A'i eiddig elyn rhagddo a giliodd;
Ei gleddyf fry a chwyfiodd,—er dycned
Mawr iasau'i ludded, Limwris laddodd.

A'r dewr weision drwy'r drysau—a redent,
Hwy gefnent rhag ofnau:
Nod diddig gai'r cynteddau,
O'u mewn nid oedd namyn dau.


Enid frawychus roi naid i freichiau
Ei hanwyl Eraint, cysurol eiriau
Loywodd ei hwyneb, glywodd o'i enau ;
Ac eisieu 'i henaid lanwai'i gusanau;
Pwysai'i chalon ar fronnau-ei harglwydd,
A'i dieuogrwydd felusai'i dagrau.
*****
Trosodd aeth penyd traserch,
Ei ieuanc salm bynciai serch.


Caniadau Eraill

Y CELT.

i
O WYLL llaes fantellai wawr
Ein hanesfyd cynhwysfawr
Allan cerddai llanc harddwedd,
A'i ieuanc law ar ddwrn cledd;
Yn agwedd un fywiogai
Maint ei rym i'w antur âi;
Gloywi'i drem wnai glewder iach
Hawliai oror ddisgleiriach;
Pelydrai'i deg lygaid glwys
Bryder bryd ar baradwys;
Draw gwelai fwynder golud,
A llonna draeth llawnder hud.

Y Celt oedd ac hawlio tant-hudolus
Delyn uwch wna'i ramant:
Dyro gord aur gywirdant
Fywha nabl leddf un o'i blant.

Dilynaf hyd ei linell
O eitha bwynt ei daith bell;
Ac asbri gwefredig fron,
Roddai hud i'w freuddwydion,

Wyliaf mewn bwth a phalas,
Dan wawr lwyd, dan awyr las;
Hanes hirnos a'i hoerni,
A dyddiau haf, eiliaf fi.

Am ei fore aelwyd mwy ofer holi,
Gwyll di—wawr estyn ei asgell drosti;
Claddwyd ei mwyniant, cloddiwyd ei meini.
Sêl y fynwent sydd ar ei sylfeini:
Fel niwl âi'i hadfeilion hi—i ddiflan,
Ac ef ei hunan heb gof ohoni.

ii.
PAN welaf gyntaf y gŵr
Drem eon, mae'n dramwywr;
Gan ddiflino geisio gwell—preswylfod,
Llwybra heb wybod lle bwria'i babell;
O dud i dud yn frwd â,—gan ddiwyd
Goledd ei fywyd â'i gledd a'i fwa.

Ar ei daith brysured oedd,—rhy brysur
I brisio goludoedd
Cuddiedig y coedwigoedd—droediai'n lew,
A ffrydiau olew yr hoff ardaloedd.

Hafdir oedd hynaws ni fedrai'i ddenu
A di—rwyg fwyniant i'w hir drigfannu;
Fe luniai haeddwaith, ei aflonyddu
Wnai natur rithiol swyn anturiaethu ;

Amhwyllog rym ei allu—megis tân
O fewn ei anian yn cryf enynnu.

Glynoedd rhwysg glennydd y Rhôn,
Maenorau ir min y Rhein,
Gerddi gwinoedd, cymoedd cain,
Lonnai myrr awelon mwyn,

Droediai e'n freuddwydiwr dall;—ymlaen âi
Mal un oedd heb ddeall
Addewid eu gwawr ddiwall!—a chnydau
Gwyn eu trysorau gaent aros arall
Ddyfodiad oedd i fedi—'n effeithiol
A llaw haeddiannol yr holl ddaioni.

Trwy gry alluoedd tua'r gorllewin
At wobrwy euraidd y Celt—bererin
Ymwthiai, beiddiai i wyneb byddin
A'i heirf yn eirias, yn tyrfu'n erwin;
Ei nwyf ef nid ofnai fin—caledi,
O lwybr ei ynni y ciliai brenin.

Golud sigledig wêl disgwyliadau
Yn niwedd antur a'i swynodd yntau;
Ymlid addewid wawdiai 'i weddiau
Fu'i waith aneisior am feithion oesau:
Addfedodd ei ofidiau—ynghanol
Gwrhydri hudol ei aml grwydriadau.


Yma oedd yn llwm iddo,
Yn erwinaf, fryntaf fro;
Draw acw ceid uwch drycin
Rodio ger y ffrydiau gwin.

Fe lamai hefo'i luman—yn wrol
I gyfeiriad Canaan;
Odlai o hyd i'r wlad lân
Rhyw hoywaf orohïan.

Cyrraedd y deca oror,—yr Eden
Gariadus ei thrysor,
Ni fedrodd—hyf wawdiai'r ddôr
Ei gynygion i'w hagor.

O freuddwyd cyfareddol!—O ofer
Afiaeth bereriniol!
Mwynhad drud fu mynd ar ol
Hyder awydd di—reol.

Hardd fro ddifyr ddihafal—a fu nod
Ei eofn nerth gwamal:
Llwm weunydd, lle mwy anial,
Oedd fwy di—hedd fu ei dâl.

Y gwyrdd ddeiliog ir ddolydd—a gai'n llwyd
Ac yn lleidiog gorsydd;
Yn lle haf, duaf dywydd,
Yn lle ffrwythlon, noethion wŷdd.


Y gwinwydd mor deg a wenent-o draw,
Yn berthi drain dröent;
Holl liwiau'r eurwyll wywent-o'r llethrau,
Dan lwydrew angau cydunol drengent.

Breuddwyd y bore addien-ddiflannodd
Fel ennyd o heulwen
Yn Ionawr, ei wawr burwen
Drengai'n wyll cyn dringo nen.

Y Celt dewr! pam coeliet ti-hudoliaeth
O'i dilyn wnai'th siomi?
Ai'th buraf reddf, ai'th brif fri,-ymhob man,
Yw beiddiol anian na cha'i boddloni
O dan haul, nad edwyn hi, i'w mawr gŵyn,
Unlle daw gwanwyn eill ei digoni?
Nodyn:Bwlch5em}}iii.
HEN bererin bro Ewrob
O wae i wae! mae ymhob
Lle bu'i rym yn llwybro ol
Dyfal hoen a diflannol
Wareiddiad cynnar weddi
Am fyw heb raib, am fwy bri.
O flaen cryfach, hacrach wŷr,
Eon a rhwth anrheithwyr,
Ildiai ef yr hudol dud,
Ildiai'i hawl i'w da olud.


Er dewred rhuthrai i daro,—ni fwynhai
Anhrefn hyf yn rhwygo;
Gŵr gwylaidd garai gilio
O fyd di—ddeddf ydoedd o.

Rhy ddidwyll, rhy freuddwydiol—i ornest
A mawrnerth difrodol
Gŵr â thrachwant gorthrechol
Anturiai hynt ar ei ol.

Ryw awr gynnar, ei arial
Aniddig ef, noddai Gâl;
Ac yno, dan y gwinwydd,
Cai faeth gwir cyfoeth y gwŷdd;
Yno cai wledd ar fainc las,
Hardd arlwy byrddau irlas;
I'w draed, bob pryd y rhodiai,
Carped o wyrdd felfed f'ai,
A siriol feillion Olwen
Yn rhoi lliw haf ar y llen;
Mawrygai daith y'mrig dydd
Drwy arogl mwsogl meusydd
Mor bêr a'r myrr a burodd
Cariad cu i'r Iesu'n rhodd.
Ond Gâl a'i mwyndeg olud
Ildiai ei reddf i'w âl drud,
Clywid bloedd, cydfloedd cadflaen
Y llym lu" mae'i gwell ymlaen."


Drws i'w agor dros eigion—a welai
I heulog Afallon;
Doi'r eondaith drwy wendon
A'i chwyrn serch i'r Ynys hon.

Ynys Wen; dawnsiai'i ynni—o loniant
Pan y glaniodd ynddi;
Ymladdodd am hawl iddi,
Gorchfygodd, meddiannodd hi.

Yn Iarll—lywiawdwr ei herwau llydain,
Yn Ymherawdwr caid hwn ym Mhrydain :
Bedydd ei meusydd fu salmau'i wiwsain—
Caniadau uchel cyn nodau ochain;
Cyn i wanc crafanc Rhufain—ei bruddhau,
O'i phrid ororau ffrydiai'i arwyrain.

O Gaint fraisg i Went, ei fri—adwaenid,
Bu'i donnog faneri
'N chwyfio'n ei hawelon hi
O'r Dafwys hyd i'r Deifi.

Ar firain fau'r Hafren fâd,
Ar y Fersi cyn lli llwyd,
Lledai'i hwyl, y llyw di wâd
Ddifyrrodd clir ddyfroedd Clwyd.'[1]

I'w reddf frwd, mor ddifyr oedd,
Ar chweg lennyrch ei glynoedd,

Byw yn ŵr rhydd, heb bwn rhaith
Ormesol ar rymuswaith;
Bywyd syml cyn nabod swyn
Gwarth enfawr rhagrith anfwyn,
A'i wrhydri dirodres
Yn denu llwydd, yn dwyn lles:
Llwybreiddio 'ngwyll boreuddydd
Gan ochelgar hela'r hydd;
A'i ddawn dwym gwefreiddio'n deg
Oer osteg hen fforestydd:
Chware camp yn ochr y cwm,
I wŷr cedyrn rhoi codwm;
Anelu saeth yn glws i
Welltyn a'i gywir hollti;
Mynd i drybest gornestu
Yn enw Gwen, feinwen gu,
Trwy ddyrnod hardd, ddiwyrni,
Ennill ei wobr o'i llaw hi.

Hanes y cynddydd hwnnw—i hiraeth
Erys yn fyth loyw;
Yn awr ei galar geilw—prudd galon
O dir encilion ryw ddidranc elw.

Diwrnod, dim ond diwrnod oedd—dan heulwen
Hyfryd Eden—O, fyrred ydoedd!


.iv.
AR y Celt tru caled drais-droai drem
Ei drahaus uchelgais,
Hyf olwg lawn o falais
Frudiai glwy, fwriadai glais.

Os boddhaus y byddai o-mewn cil dlos,
Mewn clyd le'n breuddwydio,
A dyrnod deuai arno-gleddyf nwyd,
A'i loyw freuddwyd a gai'i lofruddio.

Trais diatal traws Deuton
Lle bynnag âi frathai'i fron;
Diystyr o'i dlawd astalch
Oedd bost y gorthrymydd balch;
Anrheithio'i nerth a'i wanhau
Wnai dig gawod y gwaeau,
A chiliodd i ochelyd
Creulawn bwys cwerylon byd.

Er cilio, mynnai'r celyd-elynion
Gael ei einioes hefyd ;
Rhodiai ef ei rawd o hyd
Yn briodfab briw adfyd.

O'i haddef haeddol y Celt ddifuddiwyd,
Ei holl neuaddau a'i dyrrau dorrwyd;
Ag arfau gerwin o'i gaer fe'i gyrrwyd,
O ddifyr wledydd ef a erlidiwyd;

O dir bir a llawnder bwyd—mewn anfri
I fysg y meini fe'i hesgymunwyd.

Hallt ydoedd yr alltudiaw—o Gâl lon
I feinciau llwydion ar fanciau Llydaw,
O holl lennyrch gwinllannoedd—cyfoethog,
A doldir deiliog, i dlawd ardaloedd.

Ac ym Mhrydain gain gwanwyd—ei fri ef,
A'i rym ddarostyngwyd;
Y gwas di—hedd gystuddiwyd,—a llawr dôl
Y wlad ireiddiol â'i waed a ruddwyd.

Trymhai eirias dramoriaid—gur a gwae
Er gwewyr Prydeiniaid,
Torf a'i bloedd fel twrf bleiddiaid,—hil anfoes
Yn cyfarth einioes y cu Frythoniaid.

Hen aruthr faner y nerth Rhufeinig
Draw a symudodd hyder siomedig;
Hulio trallodion i'r Celt drylliedig
Wnai llosg gasineb y llew Sacsonig:
I geisio nodded, y dyn lluddedig
O'i wastadeddau di—drwst a diddig,
A fudodd yn glwyfedig—rhag tanau
Eirf llidiog gadau mor felltigedig.
Cariai'i glwy i'r creigleoedd, ei waeau
I gyfaneddau'r cribog fynyddoedd;

Ac o fewn ogof unig,
Noeth dŷ yr afr, gwnaeth ei drig:
Bara i 'nhad yn brin oedd—ar wywlyd
A chaled weryd yr ucheldiroedd.

Diadwy nodded ydoedd—er hynny
Ar riniog tymhestloedd,
Yn nheml cwmwl y cymoedd
A gaerodd Ior, gŵr rhydd oedd.

Dilyn ni fedrai'r dialydd gwynias
I agenau'r gelltydd;
Llyncu'i wersyll wnai corsydd,—ar ryfyg
Arllwys eu dirmyg wnai'r holl ystormydd.

Gwell llwyd olud Gwyllt Walia,—neu fyw'n gul
Drwy arw helbul ar noeth dyrrau'r Alban—
Ie byw ar ysborion—a chibau,―
Arlwy byrddau yr oerwleb Iwerddon—
Gwell sinidr mewn lle didrais,
Na rhannau o seigiau Sais
Mewn tir bras, yn gaethwas gwael,
A hyder wedi 'madael.
"Ond Gwyllt Walia "—dyna dôn
Awr waethaf y Celt—Frython:
"Ond Gwyllt Walia "—dyna'r dôn
Fywhai obaith i'w feibion:
Os gerwin ei gwylltineb,
Ei hennill ni allai neb;

Gwir hynotaf gaer Natur
Yn diymod wawdio dur:
Cryd newyddfyd a noddfa—i ŵr rhydd
Ar draethau'r Werydd, ar drothwy'r eira.
Yn nhir arwriaeth, yn nhŵr Eryri,
Llai oedd y clydwch, llai oedd caledi;
Uwch arian lynnoedd, uwch oerion lwyni,
Ail chwyfiai'n wrol ei feilch faneri:
Ennillodd glod a thlodi—ar eirwon
Binaglau gwynion y ban glogwyni.

V.
Fy hen daid, fy nhad ydoedd,
A'i friw ef yn ddirfawr oedd;
Tremio'n ol o'r trumau wnai,
O'i dŵr uchel edrychai
Ar fedd ei ogonedd gynt;
Hir wylai am yr helynt
Anafodd dôn ufudd dant—ei delyn,
Friwiodd yr emyn hyd fröydd rhaman.

Awdl loes yr hen Daliesin—a wiria
Arwed fu y ddrycin
A gariodd â'i rhuthr gerwin
Ffoadur ffawd i'r wyw ffin:
I drallod y Gododin—murmur traeth
Eigion o hiraeth wasgai Aneurin.


Ganwaith ar fin y Gonwy,
Dan gangen helygen lwyd,
Briw Gelt yn aberu gaid
I'w dôn ofidiau'i enaid.

Cyweirnodau crynedig—a leithient
Ei drwm lwythog fiwsig,
A llanwai'i gangell unig—â rhyfedd
Osperau dwysedd ei ysbryd ysig.

Ar fyw for ei fyfyrion—hiraethus
Ymrithiai adgofion
Am oriau'i lwydd, am wawr lon
Ei dai llawn a'u dillynion.

Meddyliai am ddi—alar
Fore'i fyd cyn i fawr fâr
Unrhyw estron creulon, cry,
Chwennych tir iach ei Ynys,
A rhoi'i haddurn i'r oddaith—
Hyf, ddeifiol waith, foddiai flys!

Gwelai'i hun yn gloywi'i arf
Ar frys mawr i daraw'r dorf
O elynion talion, tirf:
Gwelai'r tân, fe glywai'r twrf.

Myfyriai am fôr o waed,
Am fawr ing a threm ei frawd

Ruddfannodd, drengodd dan draed
Yn y ffos-O, erwin ffawd!
Clywai'r waedd, "Encilio raid"-
Y waedd wanodd ei enaid!
Y waedd wyllt a gariodd i
Ddest aelwydydd wŷs tlodi!

Gwelai ei fonedd mewn gwael efynau,
Ei friw anwyliaid dan farn hualau;
Gwelai rianedd o ddisglair riniau
A chraith anobaith ar eu hwynebau ;
A gwelai wir weddwon a gwelw ruddiau
Yn troi am noddiant tua'r mynyddau :
Clywai hyfion galonnau-yn crechwen
Ddifrodi Eden ddifyr ei dadau.

Myfyriai, cofiai'r cyfan,-a'i ofid
A ddylifodd allan;
Rhyw eigionfor o gwynfan
Greodd ei gur oedd ei gân.

Y mae gur gerwin i minnau,-amled
Y teimlaf arteithiau
Siom mor ddwys! ie, mhruddhau
Bâr adrodd stori'r brwydrau.

Cry luniwr y creulonedd,-ni wadaf,-
Yw nôd fy nigllonedd ;

Gwarth f'ai i mi'n min fy medd
Ddod i gymod â'i gamwedd.

O hyd yngan diangof—chwedl chwerw
Y niwed hwnnw mae'm henaid ynof.

Ireiddlawr Morfa Rhuddlan—gawodwyd
Å gwaed y Celt druan;
Rhu y môr wrth leithio'r lan—ddeffry'n glau
Adgof o lefau'r enbyd gyflafan.

O lwyni cudd yn Glencoe—doi'r bradwr
Heb wrid i'w lofruddio;
Annwn synnodd y nos honno,—âi'n fud!
Ofnadwy funud o wae fu yno!

Er erlid o'r tir irlwys
I lety oer, y Celt dwys,
A'i droi i warchod ar erchwyn—byd Ewrob,
Dyhirwch y gelyn
Ni liniarai, daliai'n dynn
I'w ofidio ef wedyn.
Ni pheidiodd ei anffodion—na'i helbul
Yn Alban na'r 'Werddon;
A llawnder digter y donn
Dorrodd dros Walia dirion.
Ow, ferthyr amarch! ef a orthrymwyd,
Ei natur hynaws yn frwnt drywanwyd;

Gan Saeson meddwon, anllad, fe'i maeddwyd,
Ei waith, ei hyder, a'i iaith a wawdiwyd:
Ei rym â chadwyn rwymwyd—wrth wagedd,
Ei radd a'i fonedd a hagr ddifenwyd.

Ond trymach farn ddaeth arno—na garwaf
Gerynt llid y Saeson;
Holl allu du ellyllon
Fwriai ei nerth i'r farn hon.

Fe wybu hwn am feibion—yn fradwyr
I ddelfrydau'i galon—
Garent yn fwy wobrwyon—gwaith dyhir,
Ac elw anwir o law gelynion—

Na'r dioddef anrhydeddus—ar gaerau
Ei gariad pryderus,
A bywioliaeth helbulus.
Yn nhir llwm y brwyn a'r llus.

Hal fradwyr diofrydig!—ni erys
Iscariot golledig
Mwy'n ei le'i hun yn unig,—a'i waeau
Yn nod amneidiau'r rhai condemniedig.

Er ei ddydd hir o ddioddef
Alaeth dwys, ni lethwyd ef.

Rhy lân, rhy loyw ei ynni—i'w ddifa
Gan ddeifiol galedi;

Daliai'i hyder drwy dlodi—a rhyfedd
Orwyllt erwinedd yr holl drueni.

Melusach, mwya'i loesion,—âi ei gân,
Gwynnach ei freuddwydion;
Awen frwd barhai'n ei fron,
A goleu yn ei galon.

Ei anian bereriniol
Ai'n hyfach a mwy nwyfol,
Hi flinai ar ddiflannol
Sâl lwyddiant ansylweddol ;
Dymunai 'myd y mewnol
Well lloniant na'r allanol:
Ei gyson reddf geisiai'n rhan
Fyw Ganaan fwy ogonol.

"Heibio â dull y byd hwn!"—clywai ef
Sicrwydd clir y byrdwn;
A chwiliodd am uwch elw—na gwael fri'r
Enw a enynnir yn nhanau annwn.

vi.
WEDI i'r Celt grwydro cyd, a'i fedydd
O brofiadau enbyd,
Yr un yw, a'r un hewyd
Eofn o'i fewn ef o hyd.


Ymhob hin, ymhob annedd,—iddo'i hun
Mae'n ddeddf ac ymgeledd,
Ac â swyn rhyw gysonedd—cyfriniol
Yn wir ddeniadol gwna'i hir ddinodedd.

Eneiniol blentyn Anian,
A'i fryd ar fyw ar wahan—

Ar wahan i erwinedd—genhedlir
Gan waedlyd eiddigedd,
A hwyl nwydlawn hyawdledd
Emynnau clod min y cledd.

Byw mewn hedd, byw a mwynhau—ei ddilwgr
Feddyliol greadau
A gais ef—ni phaid gashau
Acen anwar cynhennau.

Holl wychder balchder y byd,—ei bleser
A'i balasau hyfryd,
Afiaith cydymgais hefyd—
Gyda gwên fe'i gwâd i gyd,

Am oriau diloes, am wir dawelwch
Dinod neuaddau dan edyn heddwch;
I'r bardd gwyryfol rhyw brudd ddigrifwch
Yw nwyf esgeiriau ac anfoesgarwch;
Fe ŵyr mai gwobr difyrrwch—a diwedd
Rhyddid oferedd yw edifeirwch.


Heddyw'n coledd encilion—y ceir ef,
Câr wawl y gorwelion;
Yn wael was o dan loesion
Am "ein hoes aur" y myn sôn.

Mewn sychdir yr hydd gwirion—frefa am
Ddifyr fin yr afon;
A'r Celt isel tan bob tonn—a'i tery
Hiraetha felly am draeth Afallon.

Ffŷ o derfysglyd fyd ei ofidiau
I dramwyo hwnt yng ngwlad rhamantau—
Y wlad a'i hawel yn anadl duwiau
Ac am ei heulwen 'does byth gymylau;
Lle nad all malldod gyffwrdd y blodau
Wisg ei rhianedd yn llaes goronau;
Yno gorloywon a dengar liwiau
Y wawr deg roddir i wrido gruddiau:
Mae yno doreth o bob mwynderau,
Ond ofer bleser sy'n deffro blysiau;
Yno mae gwir yn amgâu—boddlonrwydd,
A dieuogrwydd yn atal dagrau.

Hon yw gwlad Arthur hyglod ei wyrthiau,
Am y truenus deifl rym tariannau;
Urdd ei oreugwyr yn fraw i ddrygau,
A'u bri yn addurn i bob rhinweddau:
Uno hedd wna'i neuaddau—godidog
A swyn toreithiog llais anturiaethau.


Yno y ca, ar fainc werdd,
Ddysgu y gyfaddasgerdd
I lawenydd calonnau
Nad yw nwyd wedi wanhau:
Ca ymuno'n nefion iach
Hoender egni dirwgnach;
Ca wynfyd mwsoglyd sedd
Dawel wrth ochr Blodeuwedd,
A rhoddi tro ddeutu'r wig
Efo'r anwyl forwynig;
Rhodio'r ddol gydag Olwen,
A'i chyfarch hi, wiwferch wenn !
A gŵyl fawrhau ei gloyw fryd
A'i chalon ddifrycheulyd;
Amhwyllo wrth weld meillion
Yn toi'r tir lle sang troed hon.

Fe wawdir hwn am fod "ar ol—yr oes,"
Heb brisio y buddiol,
Byth a'i ffydd ar bethau ffol,—ymhob stâd
Yn mawrhau'i fwriad anymarferol.

I'w wawdiwr tramgwydd ydyw,
Ar gwrs y traws craig rhwystr yw.

"Ow'r Celt tlawd!" medd gwawd y gŵr—llawn o win
Ar ei ddeulin sydd aur addolwr.
Ond "tlawd Gelt" i olud gwir
Ne'r awenau arweinir—


Golud gryfha y galon
Wyw a llesg, ddiwalla hon:
Os yw'n gwisgo carpiog gôb,
Mewn osgo mae yn esgob;
Os heb dŷ llawn, os bwyd llwy
Yn ei oerlys ga'n arlwy,
Y dawnus ŵr wedyn sydd
Lawenach na miliynydd ;
Hwn ar bob awr i'w babell
Ddigyfoeth gasgl "gyfoeth gwell"
Broydd hud a breuddwydion—
Cloddfeydd aur delfrydau'r fron.

Ffol freuddwydiol fardd ydyw—
Na, ceriwb llawn crebwyll yw.

Ba waeth os delfryd bethau—yw yr holl
Ffrwyth o'i gyflawniadau ?
Mawr yw y ged, y mae'r gwr
Yn waddolwr meddyliau.

Rhy wael yw daearol waith—i'w reddf ef—
Yng ngwyrdd fyd y perffaith
Hwn gywreinia goronwaith
Nad â'n grin, na edwyn graith.

Ni wêl werth mân drafferthion,—oddiwrth
Ryw ddôf dasgau blinion,
A chelyd oruchwylion,
Fe red i greu ei "Ford Gron."


Nid tlodwaith y teleidion
Gerfia mor rhwydd ger fy mron,
Yn nhegwch "Mabinogi"
Erys swyn a'm drysa i.

Rhof dro'n ei lwysion lysoedd,—ŷnt addas
Gynteddau brenhinoedd;
Gwawr eu heulog orieloedd—sydd hafal
I liw y grisial na lygra oesoedd.

Ac o'u mewn caf gwmni cu'r—iach, hygar
Farchogion bu'u gloywddur
Yn nerth i goron Arthur—
Glewion "Bord" y galon bur.

Yno'r arab Rhonabwy—drwy ffrydiol
Araith wefreiddiol dreutha ei freuddwyd;
Am helyntion aml antur—ddiorffwys
Ar rawd Paradwys sieryd Peredur.

O, urddedig freuddwydiwr!
A weli di, geinfryd ŵr,
Ar emog diroedd rhamant
Y ddinas ddeisyfa sant?


vii.
Fu awenydd addfwynach
Yn eilio tôn na'r Celt iach?

Cu weinidog caniadau,—a phuraf
Offeiriad cywyddau,
Coronog gâr awenau—Parnasus,
A'u hasbri dawnus bywhëir ei dannau.

I'w reddf, harddaf yw urddau—awen fyw,
O, mae'n falch o'i thlysau;
Ac hawlia'i nwyf i'w glanhau
Fedydd yr Eisteddfodau.

O'r nwyf a loewai'r hynaf alawon
Odlai hyd weryd Gwyllt Walia dirion!
Er niwed mynych, mae'r nodau mwynion
Weodd yn newydd, heddyw yn hoywon:
Noswylia su awelon—gan wrandaw
Rhyw ieuanc alaw ddaw o'r encilion.

O gerddi anwyl! a geir rhyw ddoniau
O dant hyawdledd a hudant odlau
Lawned o fiwsig ? eilun dyfeisiau
Yw urddas a hoen eu gorddwys seiniau;
Ffrwd eu mélodedd gyffry deimladau
Engyl eneiniol, a 'nghalon innau
Ar grindir wlithir â hudoliaethau
Afon fireinaf nef yr awenau:
Tra bo tôn, tra bo tannau—perseiniol,
Gwyrdd fo eneidiol gerddi fy nhadau.


Acen ir y cynaraf—hoen a geir
Yn ei gerdd ddiweddaf;
Dihuno drud nodau'r haf—wna llinyn
Yr hyfwyn delyn i'r funud olaf.

Hwyliog Gelt o deml y gân—nid â mwy,
Ond myn yno'i drigfan;
Y gŵyl ŵr wasanaetha'i glân
Allorau â llaw arian.

Ar awr gynnar, ei garol
Drydana'r gwŷdd, ddeffry ddôl;
A'i aur alaw sy'n trylwyr
Ddileu ofnau oriau hwyr.

Meloda, mal ehedydd,
Am weld haul, am wawl y dydd ;
A deuawd gyda eos.
A gân ef dan farug nos.

Yr heulwen gyffry'i alaw
A'i emyn glym yn y gwlaw:
O bae y gŵr heb ei gân
Collai'i hoen,—collai'i hunan.

Rhoi i'r gerdd yr oriau i gyd,—dyna'i goll,
A dyna'i gamp hefyd;
Ei warth yw ei nerth o hyd,
Ac o'i fai y ca fywyd.


Hwn ytyw etifedd Natur,—iddo
Hi roddes wŷs eglur
I gael gwlith ei bendith bur,—cyd—fwynhau
Y mêl o'r diliau, cyd—deimlo'r dolur.

Os i eraill rhoes arian—yn helaeth,
Cadwai'n ol well cyfran;
Ei hun roes i'r Celt yn rhan—fendigaid,
Fe biau'i henaid—Cariadfab Anian.

Hon â'i dillynion o hyd a'i llonna,
Ei bri dihalog a'i hysbrydola;
Am wynnaf olud mwy ni ofala,
Oriau'i ing hefyd a lwyr anghofia:
Ei chwmni na gwin ga—yn felusach,
Yn ei chyfrinach efô wiriona.
I'w fryd, dewisol geinfri duwiesau
Yw arddull hudol ei gwyrdd ddilladau,
Gloywa ei awen uwch y gwawl—liwiau
I harddu'i bron a yrrodd wybrenau:
Anwyla lewyrch gwyn y liliau,
A châr swynion y rhuddgoch rosynau;
O lwysed gwêl aur dlysau—dôl a bryn,
A'u tresi melyn tros eu hymylau.

Bywiol dŵ pob blodeuyn—a fawrha,
A thirf frig pob gwelltyn;
Synna 'ngŵydd y symlrwydd sy'n—mireinder
Y grug aroglber a rhwydwe'r rhedyn.


Yn holl swn lleisiau Anian
Awen y Celt glyw sain cân
Ieuainc engyl o'u cangell,
Odlau pur ardalau pell.

"Nant y Mynydd "rydd ei rhawd
A'i swyna â'r dlos unawd
A berora berw arian
Ei grym hi hyd y gro mân;
Ar fin y "croyw loyw" lân li
Caredig y câr oedi
I wylio teg dreigliad dwfr,
Lliw a glwysddull y glasddwfr;
Si leddf a "sisial" addfwyn
Hoyw aber iach "rhwng y brwyn "
Ddihuna gudd ddawn y gân
Fwyn o'i fewn ef ei hunan;
Iddo fyth cyhoedda fod
Antur well tu hwnt trallod.

Cyweirnod y sionc gornant
Ar hyd ei oes dery'i dant.

Tuhwnt hyawdledd tannau tywodlyd
Y gwyrdd eigionfor clyw gerddi gwynfyd;
Ca lawer oedfa hoywa'i ddyhëwyd
Lle y tyrr unllef y lli taranllyd:
A'i awen dyner wrendy—drydanol
Areithiau Dwyfol ar draethau deufyd.


Ai swynion Anian a'i seiniau'n unig
Rwyda'i fwriadau, a'i gwna'n frwdfrydig?
Na, hawlia adwy i'r anweledig
Is agwedd hudol hon sy' guddiedig;
Ac â'n feudwy gwynfydig-ar ol hedd
O nefol nodwedd aniflanedig.

I'w ddiwair galon ym mud ddirgelwch
Ei mawredd uthrol mae mawr ddieithrwch;
Ond gŵyr ei enaid mai nid gerwinwch
O tano orwedd-dim ond tynerwch
O ddigymar hawddgarwch:-a'r dewr ddyn
Nid ofna'i dilyn i'w dwfn dawelwch.

Dan sobrwydd dawnus wybren.
Saif yn hir pan nosi'r nen,
Gosper ei dwyster distaw
Dery ei fron i wir fraw;
A mudandod syndod sydd-ar enau
A gloyw ddoniau'r gwylaidd awenydd.

Yna breuddwydia ba euraidd edyn.
A raid i'r ymdaith hirfaith hyd derfyn
Y glas eangder-pa hyder edwyn
Yn wobrwy'i orchest drem heibio'r erchwyn!
O, awenydd eneiniol!
Tro, hed yn is, tyrd yn ol:
Onid digon yw tegwch
Y llawr i blentyn y llwch?


Ai rhy fach ein disglair fyd
I foddhau'th dirf ddyhewyd?
A yw gwên serchog Anian,
A'i diliau drud, yn dlawd ran?
Ai heibio'r oll mae'r fro brid-gais angen
A dewredd Awen-"Gwlad yr Addewid"?

viii.
ER rhoi y Celt yng nghysegr cân,-a'i freinio
A chyfrinach Anian,
Awenyddu aniddan-ochenaid
Y bydd ei enaid heb Dduw ei hunan.

Cymundeb ei burdeb Ef
Ddiwedda ei ddioddef.

Ei galon ffyddiog a gwylaidd-a red
Ar ol y "Cawg Sanctaidd
Fywha ei fyd, ac fe faidd
Holl lid tanau melltenaidd.

Ar hyd rhawd ddi-ffawd ei ffydd-â'n wrol
O ca wyryfol addewid crefydd.

Anffyddiaeth a ffieiddia,-oer wawdiwr
Ei gred a'i brawycha;
O ŵydd di-ddeddf eisteddfa
Yr amwyll wr ymhell â.


Darllenna ar droell Anian
Arwydd glir ei Chreydd glân,
Edmyga y damhegion
Wêl yn aur ddalennau hon.

Nod Ior ga ar geinder gwig,—ei air dŷf
Ar y dail trwsiedig;
Ac edwyn yn y goedwig—gangell faith
O adeiladwaith ysbrydoledig.

Arwain hwn wna'r hyn a wêl
I aur riniog yr anwel.

Ar gu Luniwr y goleuni—y geilw
A'i galon ar dorri,
I drig wen Awdwr y gwawl
Gyrr ei feiddiawl gref weddi.

Ei ddolur sydd am ddiluw
Munud awr o gwmni Duw.

Cawn ar wefus canrifoedd—air ei fod
Yn dewr fyw i'r nefoedd;
Urddedig Dderwydd ydoedd.
Wr Duw, a'i offeiriad oedd.

Gwêl lanaf nod goleuni—yn nheg liw
Ei wisg laes o bali,
Cynnar eira'r Eryri
Roi'i gann wawr i'w gwynnu hi.


Dan y gwŷdd deiliog hwyliog addolai,
Ir lwyni'r glasdir droai'n eglwysdai;
O arw gerrig ei allor gyweiriai,
A rhan o'i borthiant ar hon aberthai:
O'i enaid salm esgynnai,—ac hyd fawl—
Lwybrau eirianwawl hi bererinai.

Anwel Dad heb ei adwaen
Fawrhai efô ar ei faen.

Yn y man, goleuni mwy—o'r Ne fry,
Yn ei fron deimladwy
A lewyrchodd, treiddiodd trwy
Ddefodaeth oedd ddifadwy.

Ac i wawriad dydd "rhad ras"—bendigaid
Ei wresog enaid roi groesaw gwynias.

Bywhai arianwawr y bore hwnnw
Ei hen ddyhewyd yn newydd hoyw;
Gwelai yn waddol i'w galon weddw
Y tir mwy euraidd tu hwnt i'r marw—
Yr ystâd sydd ynghadw—uwch loesion.
A holl drallodion y llaid a'r lludw.

Y wŷs i Wynfa'r Iesu—wnai i'r Celt
Yn awr cur foliannu;
Llanw ei leddf orfoledd fu—fel cref donn,
Ai hen fro'i gŵynion yn fôr o ganu.


Mae swyn y dwym "Hosanna"—yn eirias
Farworyn yng Ngwalia,
Ac o newydd cyneua—'n fflam cyn hir,
Yr hwyl ail loywir i "Haleliwia."

Ei wir wron, yr arwr
A fawryga ef yw'r gwr
Wahodda yr aniddig
Freuddwydiwr hyf i'r dda drig
Addawodd ei ddyhead
Hwnt ofnau ing—"Tŷ fy Nhad."

Yno'n y wlad sydd yn anweledig
Tàlaf fwriadau'r Celt duwiolfrydig
Gyflawna Nêr, a'i hyder crwydredig
Edwyn briodol Eden buredig:
Ca ei gred anwywedig—fwynhau hedd
O ddwyfol nodwedd ddiddiflanedig.

Yn y fro ddedwydd try'i hen freuddwydion.
Yn gywir bethau, dengar obeithion
Ei gynneddf daniol ga'n addfed wynion,
Ac i'w lawenydd ni thyrr gelynion;
Yno y gwlawia wybrennau gloywon
Fyth mwy eu cynnes faeth i'w amcanion;
Ni cheir yno gur yn mallu'r meillion,
Na drycin wywa geinder caneuon;
Yno ca'i wefus "Gwpan" y cyfion—
Ac O, yn felus bydd gwin nefolion:
Bro'r Oen i'w bererinion—Efe fry
All ei rhoi felly—y wir AFALLON.


TELYNAU DUW.
DAT. xv. 2.

i.

DELYNAU DUW a luniwyd iaith—odla
Eich hyawdledd perffaith?
Eill eirio'r ddigoll araith
A foddia fyrdd nefoedd faith?

O fwynber, dyner dannau,—a mêl hwyl
Mawl Ior yn eich seiniau!
Yn hoenedd eich llinynnau—ceir nwyfiant
Yn taro lloniant yr holl awenau.

Telyn, daw o'i hemyn hi
Frwd hwyl i'm hyfrydoli,
Geiria hon ddengar hanes
Rhyw bell haf o loewaf les;
Hi ddwed am ddedwyddyd hael
Heria ofid cry'i afael
I'w ddryllio, a chyffro chwant
I hyf wanu ei fwyniant:
Mae'n hudol iaith emyn dlos
Tannau aur eto'n aros
Adseiniadau sŵn Eden
A thinc y beroriaeth hen.


Heb delyn ai bodolaeth—yn rhyfedd
Bennod o wagedd, yn boenedigaeth.

Câr yr angel ei delyn
Mewn di—hydref gartref gwyn;
Gŵyr dyn werth emyn, a thant
Heinyf iddo sy'n foddiant;
Carai drig, pe cai, ar draeth
Rhyw werydd o beroriaeth,
Byddai di—ysbaid osper
Ei lanw byth i'w glyw'n bêr.

Ond heb delyn, dyn i'w daith,
Na mwyn emyn, â ymaith.

Llawenydd tant allanol—a gais ef;
Ymgais ofer hollol
Yw honno, tra'r tant mewnol,
A foddia Nêr, fydd yn ol.

Tarawiadau toredig—yw'r odlau
Ar delyn nwydau'r di-ailanedig.

Ing enaid di-gynghanedd—yw yr ing
Rhyngom a hyfrydedd;
Ni all hagr seiniau llygredd
Lunio in' alawon hedd.

Rhaid i gariad gyweirio—yr enaid,
A gwirionedd buro

Anian dyn, cyn edwyn o
Y mwyniant mae'n ddymuno.

Ha caf foddion cyfaddas
Yn hyfawl rym nefol ras
I droi dyn yn delyn Duw,
Rhoi iddo gerdd y Gwirdduw:
Nwydau fu dan nod y fall,
Yn gwau'i gerddi'n ddi-ddeall.
A'u haflafar hyf lefau-fel adfloedd
Nâd gerwin ingoedd, neu udgyrn angau,
Adferir, rhoddir iddynt
Nodau y gân genid gynt
Dan awyr iach Eden rydd
Foreuddydd difyr Adda:
Hwy ddont oll yn feddiant Duw,
A hudolus y diluw
Euraidd o fiwsig cariad
O enaid dyn huda'n Tad.
Fy Ior, adgyweiria fi-yn delyn
Deilwng i berori
Alaw anwyl goleuni,
Ac alaw frwd Calfari.


ii.
TELYN DUW! fy Nuw fwynha—lawenydd
Sydd lanw di-atal;
A chân ei ddigrifwch Ef
A wna'i Nef yn anhafal.

Ca Ior o dannau y cread unol
Y mwyna fiwsig, mae'i Wynfa oesol
Yn oriel lydan carolau hudol,
A chynghanedd melodedd ymledol;
Tonna o hyd ato'n ol—fawl—deyrnged
Ei fore "Fydded" yn fyw ryfeddol.

Y mae i'n Hior fwy mwynhad—na melus
Seiniau mawl ei gread;
Oer yw lleisiol arllwysiad
Wrth emyn telyn y Tad.

Ei fywyd Ef yw ei dant,
Ef ei hun yw ei fwyniant,
Ymchwydd ei sancteiddrwydd dyrr
Iddo Ef yn salm ddifyr.

O'i natur bur ca'n ddi baid—gynghanedd
Uwch cu arabedd iach y cerubiaid;
Cynhyrfiad ei gariad gwyn
Yw hud-alaw ei delyn.


O! Dduw, a oes modd i mi,—er fy mod
Drwy fy mai mewn cyni,
Gael rywdro gyfranogi
O'th ddi—dor beroriaeth Di?

O fywyd i gyd sydd gân!—O! foroedd
Difyrrwch digeulan!
Minnau, drwy glwy Iesu glân,
Af i hwnnw fy hunan.

Hawl uniawn i lawenydd
O'i groes Ef yn gwawrio sydd.

Bywyd Duw, drwy Fab y Dyn—a'i haeddiant,
Etifedda gelyn;
Ei gymod a ddwg emyn,—adnabod
Cywair y Duwdod y mae credadyn.

Estron rydd ei fron i frad,—hwn ni chlyw
Wych alawon cariad;
Ond yn nod ei enwaediad
Ca plentyn delyn ei Dad.

Y "dduwiol anian" a fedd lawenydd
Heibio dirnadaeth hyf pob darnodydd ;
Hedd—gainc wyryfol a ddwg ein crefydd
I loewi nwyfiant y galon ufydd:
Mwynder anthem Salem sydd—yng ngharol
Irder anwywol "creadur newydd."


O, mor ir yma'r awrhon—pyncia ffydd
Ei newydd ganeuon;
Daw yn wir o dannau hon
Lif o loewaf alawon.

Yr Ion, i'r enaid feithrino rinwedd,―
Na thry ei wyneb oddiwrth wirionedd,―
Gyweiria felus dannau gorfoledd
Fel bo gyfrannog o'i gu fireinedd;
A gwna'r da ei duedd—yn brofedig
O hwyl wefredig Dwyfol hyfrydedd.

Oni bae telyn bywyd—a huda
Hyder i'm llesg ysbryd,
I lawr awn lawer ennyd
O dan bwys trallodion byd.

Pwy, ar ol y Dwyfol dant,
Ofynna annuw fwyniant?

Enaid swynwyd â seiniau—priodol
Paradwys y duwiau,
Ni fyn wedyn leddf nodau
Oeraidd gerdd anwiredd gau.

Dilawenydd delynau—i hwnnw
Yw anianol nwydau;
A hwyl aflesol flysiau,
Yn briwio'i ddeddf, wna'i bruddhau.


Llonna pan eill ei hunan
Daro'n glir y gywir gân
A grea hwyl cysegr Ior,
Gaua ingoedd o'i gyngor;
Un nodyn ar delyn Duw
I addolwr dry'n ddiluw,
Dafn yr Ior yn fôr a fydd
I awen y dyn newydd:
Efe dynn o'r isaf dant
I'w fynwes buraf fwyniant
I'w dueddiad sancteiddiol
Tannau uwch sydd eto'n ol.

Os yw'r ymdrech i drechu
Deifiol dwyll y bwystfil du―
I lwyr ddilêu'r ddelw a âd—nod llygredd
A rhwyg amhuredd ar gymeriad,
Yn galed—o'r fuddugoliaeth—daw hawl
I delyn nef—afiaeth;
A chofio'r oruchafiaeth—o briod
Wynfa'r Duwdod fydd hyfryd odiaeth.

Gwelaf tuhwnt i'r afon,—hefo'r Oen
Fry ar fynydd Seion,
Aneiri delynorion—a'u tannau,
Unwedd a'u gynau, yn newydd geinion.

Rhai drwy'i waed a waredodd
Efe ŷnt, rhai gawsant fodd

I gario y maes ar y gormesydd,
I dorri'n ddarnau rwymau'r gorthrymydd,
Rhai na phallai eu ffydd—yn hir auaf
Ac oriau duaf y garwa dywydd.

Uwchlaw clwy eu gwobrwy gânt,
Odlau Ion a delynant.

O'i bur afiaeth, o'i brofiad,—y rhoddir
Iddynt gyfranogiad;
Nod haeddol eu sancteiddiad—a'u rhinwedd
Yw hedd—ogonedd a newydd ganiad.

Acen côr y concwerwyr
Drwy Wynfa'n bêr daran dyrr,
Ac Ior a glyw yn eu cân—wyryfol
Nodau eneiniol ei dannau'i Hunan.

"Iddo Ef," mewn hwyl ddifyr,——cydleisia
Y dorf a rodia ar fôr o wydyr.

Una myrdd telynau mwyn
Y teg lu o seintiau glân,
Yng nghlod y gollyngdod llawn
Gaed drwy ing a Gwaed yr Oen.

Cynyrchu miwsig bendigaid—uchel
Fawl—gerdd achub enaid
Ni all crebwyll ceriwbiaid,—na medrus
Leisiau yr hoffus loyw seraffiaid.


Crynedig ddysgu'r nodau—yr wyf fi'n
Oer fyd gorthrymderau,
Ond yn fuan ar dannau—telyn, rydd
Ddwfn lawenydd, bydd fy nwylaw innau.

Wedi hir deithio ar dir adwythus,
A gwanu f'enaid gan gri gwynfannus
Calon ddrylliedig, gwaeddi gwageddus,
Ac ofer helynt gwanc afreolus,
Seiniau euraidd soniarus—yr hylaw
Ddianaf alaw a fydd yn felus.

Heb ddim cur, boddhau'm cariad
Yn nhŷ fy Nuw—dyna fwynhad.


Y COR ASGELLOG.

HYNOD fwyn yw y swyn sydd
Ym miwsig côr y meusydd;
Nod amlwg boddlon deimlad,
Neu ufudd ddawn o foddhad,
Yw arwyrain berorol
Eu "Twi," "Twi," o dwyni dol.
Dan gynhyrfiad "Toriad dydd,"
Tôn ganant yn y gweunydd,—
Eilio salm mewn melus iaith
Gu, hudol, ei gweadwaith;
Geiriant eu mawl rhagoraf
Efo'r wawr fore o haf

Hawddgaraf, lwysaf laswig,—yno ceir
Mwynhau cân blethedig;
Eosaidd ydyw miwsig
Borëol gerdd y werdd wig.

Y gwanwyn faga ynni,—a mawr sêl
Ym mhreswylwyr perthi;
Gloyw wên y goleuni—o'r nefoedd,
A dwyma'r miloedd i dymer moli.


Bendigedig unawdau—hudolus
Leinw'r deiliog demlau;
Yng nghanol y canghennau
Mawl a hwyl sydd yn amlhau.

Aderyn du eiria'n deg
Ei naturiol watwareg
O hawddfyd ei orseddfainc—
Heb un gwall o ben y gainc:
Bob tymor y cantor cu
Ymlaenaf sy'n moliannu;
A'i dyner dôn dan wawr dydd
Yw bri addas boreuddydd.

Arbennig gerdd robin goch,—
Rydd fireingerdd y frongoch—
A'i aceniad sionc, anwyl,
O dwyn y waen, ffrydia'n ŵyl.

Hithau y dryw ar dwmpath drain,—a fyn,
Drwy ei phig fach, firain,
Heb arswyd, roddi ei bersain
Yn llys y mawl hefo'i llais main.

Ar brenfrig tery bronfraith
Odlau hoff mewn hyawdl iaith;
Swynol sain ei halaw sydd
Glysaf yn nheml y glaswydd:

Yr awenawg soprano
Ddigymar wefreiddia'r fro:
Ac o adar y coedydd
Hon yw prima-donna'r dydd.

Seinia cwcw ei sionc acen—o fawrhad,
Fry ar frig y fedwen:—
Mor hudawl a'i mawl i mi
Yw direidi yr hoeden.

Hynod hysain yw deusill
Ei miwsig mwyn ymysg mill,
A dena'i deunod anwyl
Bob ysbryd i hyfryd hwyl.

Wedi'r unawd arweiniol,—ceir ar bren
Nef emau'r awen yn fwy amrywiol.

Eilio'n wiw garol newydd
Bob yn ddau ar gangau'r gwŷdd,
Er dihafarch gyfarch gwawl,
Wna y doniau adeiniawl;
A byth ni ddaw deuawd well
O gyngerdd unrhyw gangell.

Yna gwawd mewn triawdau
Eirias o gwmpas sy'n gwau—
Cymhlethog, droellog drillais,—a'u hoenus
Gynghanedd uwch dyfais:

All awen amgen ymgais
Eto o'r llwyn na'r tri llais?

Ha dyna gydgan allan yn deillio
O randir heddwch, sy'n gywrain drwyddo;
Rhyw dorf aneiri yn cyd—egnio.
Ar wŷdd y laswig i beraidd leisio;
Eu Crewr garant, mynnant ymuno
I lunio haeddawl foliannau iddo:
Mwy na direswm yw nad aroso,—
Enwog gerwindeb na fyn eu gwrando:
Ior roddes, i'n llareiddio,—beroriaeth
O wir ragoriaeth, a chôr i'w geirio.

Wedi i'r nos ordoi'r nen
A rhoi sobrwydd dros wybren;
I ddistaw hwyrddydd osteg
O dwyn i dwyn daenu'n deg;
Yng ngwawl sêr, yn nyfnder nos,
Hyd fr—wiail daw'r eos:
A'i thyner nabl parabla,—o'i pharlwr
Ei pherlais ddyrchafa;
Mewn hedd ei salm a nydda,—
Eilio carol nefol wna.

Gain aderyn gwnaed aros
Er rhoddi i ni, bob nos,
Ychydig o'r miwsig mêl
Leisia hi o lys awel!


MIRI ENWI'R FFYRDD YM MANGOR,
1906.

Bu arw wanu'r bur heniaith
Ym Mangor, llofruddio'r iaith
A wnai cyngor rhonc, angall,
Hyfion ddysgedigion dall;
Darnio'i byw gystrawen bêr,
O wirfodd ei chamarfer,
A thrin ei heirdd lythrennau
Wrth goel ac athrawiaeth gau:
Urddwyd proffwyd y priffyrdd
I'w phwyo hi ar y ffyrdd,
A'r iaith sionc dan greithiau sydd
Ar waliau yr heolydd.

Ow f'hen iaith, gwaith go gethin,
A di-ras ydyw'th gam drin;
I dy swynol gydseiniaid
Chwerw dro eu briwio heb raid;
Ni ŵyr ffug-ddysgawdwyr ffol
Eu nodwedd gyfnewidiol,
Ni fyn impyn o fympwy
Weled dull eu treigliad hwy;
Ceir eu clwy yn cario clod
Brau dybiau rhai di-wybod.


"Ffordd Deiniol"! ai heol yw?
Neu arswydus gors ydyw ?
Mae i'w gwylio, mae'i golwg
Oddi draw yn addo drwg;
Daw i ŵr i'w rhodio êl
Wae'n drwch, ni fedr ei ochel;
Dwfn byllau, rhigolau gant,
Fel trapiau dieifl a'i tripiant,
Gwelwi wna ar siglen oer,
A sudda i'w ffos dduoer:
Ha, dyna ffawd y dyn ffol
A dynnir i "Ffordd Deiniol"!

I'w chollfarn, achlod arni,
Gadawn hon, a gwadwn hi!

I rydd ŵr mae ffordd arall,
A honno gyrch os yw'n gall-
"Ffordd Ddeiniol," ffordd ddiana,
Ar ei hyd yn ddifyr â;
Ffordd lydan, gyfan ei gwedd,
Pob darn yn gadarn gydwedd,
Ac erfawr greigiau Arfon,
Haenau tew, gynhaliant hon;
Ffordd ddistaw, priffordd wastad,
Gâr hen lu gwerin y wlad.


I'R ATHRO JOHN MORRIS JONES
ar ol darllen ei GANIADAU.

Dy ganiadau gwin ydynt,
Ffrwyth gwinwydden Awen ŷnt;
Darperaist di o'r purwin
Mewn aur gawg, minnau o'r gwin,
Loew afon, a hael yfaf,
O modd yn wir meddwi wnaf.

Estyn im' hen stên Omar
A wnêst, a'm min y gwin gâr;
A newydd winoedd Heine
Ddygaist di i lonni 'ngwledd;
Dwyn drudwin o dir Eidal!
Ba weithred hon? Beth yw'r tâl?

I lonni serch gloyw-win sydd
Yn dy gathlau, fwyn gethlydd;
Ei felus flas a flysiaf,
Dro ar ol tro ato'r âf:
Ni raid menestr o estron,
Caf hedd wrth ddrachtio medd Môn.


DYCHWELIAD ARTHUR.

Fy Ngwlad os wyt brofiadol—o benyd,
Mae'th boenau'n derfynol;
A'th wron, Arthur nerthol,
I'th ddwyn o warth ddaw yn ol.

Mae adeg gyfamodol—i'w ysgwyd
O'r cwsg angenrheidiol
I'w yforu anfarwol—
Er oedi'n hir, daw yn ol.

Wedi gofid gauafol,—a garwaf
Gorwynt anystyriol,
Fe geir haf a gwyryfol
Hin Eden wenn, daw yn ol.

Er i gur droi y garol—bereiddiaf
Yn brudd gerdd hiraethol;
Ailenir hwyl adlonnol
Dy awen wyw, daw yn ol.

Doniau fuont fudanol,—a unant
Yn y gân fawrygol
I'w agwedd dywysogol,
A'i newydd nerth, pan ddaw'n ol.


Y werin â'i frenhinol—awdurdod,
A'r dewrder naturiol
Drinia'i frodyr yn frawdol,
A ddena ef pan ddaw'n ol.

Ei wych aden warcheidiol—gysgoda'r
Gwasgedig yn hudol,
A difodi adfydiol
Anhunedd wna pan ddaw'n ol.

Yn lle'r cledd dialeddol,—a mawr ru
Môr o waed ymchwyddol;
Ha|cawn heddwch cynyddol
Yn nawdd ei nerth pan ddaw'n ol.

Ei hydrwaith ymerodrol—arafa
Bob rhyfyg estronol;
Adferir ein difyrol
Eiddo i ni pan ddaw'n ol.

Hen anghyfiawnder heriol—a gilia
Rhag golwg geryddol
Ei gryfder, trawster trystiol
A'n ddi nerth pan ddaw yn ol.

Dofi arferion deifiol—a fyn ef;
Fe wna waith rhinweddol,
A chyrhaeddyd uwchraddol
Fri, 'n hawdd i ni pan ddaw'n ol.


Fe'n harwain ni'n gyfriniol—i'w ddilyn,
Dorf o ddeiliaid unol,
Byw yn addurn beunyddiol
I'w nawdd a wnawn pan ddaw'n ol.


ELIS WYN O WYRFAI.

YN nheml serch, am Elis Wyn—o Wyrfai,
Dagrau torf sy'n disgyn,
A thalaeth bruddha'i thelyn
O'i gloi ef yng nghlai y glyn.

Bur wron! mab Eryri!—ac mor wir
Gymreig a chlogwyni
Ei wlad hoff, i'w galwad hi
Ei ddawn fu'n ufudd weini.

Hygar ddyn, cysegrodd oes—i annog
Ei genedl rhag drygfoes,
Llwyr ei gred yng ngallu'r Groes
I droi enaid, drwy'i einioes.

Gwr byw, gwir geriwb awen,—a'i gerdd ef
Fel gardd ir Ceridwen;
Swydd ei ymgais ddiamgen
Fu puro a llwyddo'n llên.

Yn heddwch y mynyddoedd—maethai ef
Rym a thw'i alluoedd;
Dysgedig dwysog ydoedd,
A barnu'n iawn, brenin oedd.


Tra bore yn toi'r Berwyn,-tra gloewlif
Treigl Alwen trwy'r dyffryn,
Bedd dinodedd ni edwyn.
Y tawel sant, Elis Wyn.


Y PARCHEDIG JOHN THOMAS, D.D.

O LOES drom—Doctor Thomas—yn ei fedd!
Un fu cyd dan urddas
Di-ddynwared ddawn eirias,
Yn ddewr, gryf gyhoeddwr gras.

Ow, siomedig symudiad!—rhy anodd
I fron friw ei ddirnad!
Rhoi dan len Solon enwad!
Rhoi clo glyn ar oracl gwlad!

Gwelw iawn ydyw Gwalia heb—un a fu
Iddi'n fab doethineb;
Arwyddol yw ei grudd wleb
O lawnder ei ffyddlondeb.

Ymroai mewn mawr awydd—dwyn ei oes
Dan iau moes a chrefydd;
Mawrha haf-feib "Cymru Fydd"
Holl dwym eiriau Lladmerydd.

O fy Nhad pe'm llefain i—wnai y tro
Mewn trefn it gyfodi,
Dolefwn, wylwn ddŵr heli,
O fodd hyd wawr ar dy fedd di!


HERBER.

AM Herber hoff, Cymru brudd—a gwyna,
Mae'r genedl mewn cystudd,
A llifo'n afon ufudd
Wna'i dagrau heillt hyd ei grudd.

Ysig loes i'r eglwysi—ei daro
O dŵr ei uchelfri;
Ow! roi eu nawdd cadarn i
Oer weryd yr Eryri.

Haul i'w oes, apostol Iesu—fu ef
Yn ffurfafen Cymru,
A'i loywa wawr wnai i lu
O'i achos lawenychu.

Arweinydd o feiddgar ynni,—a'i sêl
Dros Walia yn llosgi;
Meithrinai'i moes, rhoes ei fri,
Yn addas darian iddi.

HERBER fawr, buraf wron!—ei ail ef
Ni fedd ei wlad weithion;
Yn ei hing gruddfanna hon
Heb ei cheriwb a'i choron.


YNG NGORSEDD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y RHYL.

Yn y Rhyl gwena'r heulwen—ei gwresog
Roesaw i wyl awen,
Ac a'i haur nawdd caera nen
Dŷ cariadau Ceridwen.

Dur a'i awch heddyw drechwyd,——allor hedd
I wella'r hil godwyd;
A llid i wawd alltudiwyd
O riniog clws Dyffryn Clwyd.

Hanes craith nis ceir weithian—ar wyneb
Graenus Morfa Rhuddlan;
Cuddia'r haf ol cyflafan
A lle bu'r cur llwybra cân.

Ond rhag cri bryntni a brad——ni chiliwn,
A choelied gwyr diriad;
Medrwn ddal os daw galwad
Y noeth gledd dros iaith a gwlad.


GORSEDDU DYFED YN ARCHDDERWYDD, 1906.

"YNG ngwyneb haul" dringai'n Pen—i'w "Faen Llog"
O fewn llys Ceridwen;
Teyrn newydd tirion Awen
Ddaeth mewn hedd i'w orsedd wen.

Rhodd ei lw i feirdd ei wlad—y dilesg
Geidw'u hawliau'n wastad;
Ar ei faen mae'n brif ynad
I weini deddf—ac yn Dad.

Er mwyned yw llyw'r meini,—iddo ef
Ufuddhawn heb goegni,
Neu daw'n drom iawn arnom ni
Fedwen Dyfed i'n dofi.


TELYN CYMRU.

A'I SEINIAU heddwch, hynaws weinyddes,
Nwyd anymunol a dynn o'm mynwes;
Ni loywa mron â'i hacenion cynnes,
Ei hoender hydrin a'i swyn dirodres:
Anghofiaf storm a gormes—tan ddylif
Hudolion dirif y "Delyn Deir-rhes."


PERORIAETH.

HYNAWS Beroriaeth! â'i hudoliaethau
Hi ddwg lawenydd i brudd galonnau;
Er profi beunydd fedydd gofidiau,
Daw heulwen wedyn o'i hyawdl nodau:
Nabl hon dyrr ein blinderau,—geilw hedd,
Cawn nef a'i hoenedd yn lle cwynfannau.


YR EHEDYDD.

O! MOR wefreiddiol im ar foreuddydd
Gwyn yw cariadus gainc yr ehedydd ;
Diluwia'n hyawdl frwd odlau newydd
Ei gywair hwyliog, loywaf garolydd:
Sirioli aur dyrrau'r dydd—wna molawd
Ei lwysber unawd o las wybrenydd.


CAN YR ANGYLION.

Bu loywa' ganiad ar awr blygeiniol—
Uwch Ephrath torrai'n bêr, gywrain garol;
Llais awen hyfedr y "lliaws nefol"
Lanwai'r awyr i'r gwylwyr bugeiliol;
Cywair miwsig grymusol—y glân lu
Oedd geni'r Iesu—erddygan rasol!

Daioni rhyfedd dawn yr Iehofa,
Yn frwd gyhoeddent, seinient "Hosanna,"
Y dwym wys hyawdl i weld Messia
Grëai newyddfyd, agorai noddfa :
Wele hedd i hil Adda,—efengyl
Yn alaw engyl i'r anheilynga.


Parchedig WILLIAM NICHOLSON,
Lerpwl.

ENWOG lusern eglwysi—Ion a fu
Nicholson fawr ei ynni,
A chennad yn gwreichionni
Dawn nef i'n heneidiau ni.


"NAC OEDA."

'Y MRAWD, paham yr oedi?—hon yw'r awr,
Yn yr Oen os credi,
Cei fywyd, ond cofia di
Geill hir gellwair ei golli.



EDIFEIRWCH.

OFER, heb edifarhau,—im' ydyw
'Medydd a 'mhaderau;
Fore a hwyr rhaid dyfrhau
Dieuogrwydd â dagrau.


WRTH FYND I ORFFWYS.

YMWIBIED heibio 'mhabell-genhadon
Gwae a nwydwyllt ddichell,
Fe gysgaf fi ag asgell
Y Nef o 'nghylch yn fy nghell.


AR OL NOSWAITH DYMHESTLOG.

ER maethu o'r storm ei thrwst hi,-hunais
Heb anaf na chyni;
Duw Ior, mawr ei dosturi,
Trwy y nos fu'm tarian i.



"Y MAE EFE YN ATAL EI WYNT
GARW AR DDYDD DWYREINWYNT."

Os curo wna rhwysg oerwynt,-a thramwy
O'r gorthrymus ruthrwynt,
I 'nghadw rhag y garw gorwynt-rhydd Nâf
Ei nawdd dirionaf yn "nydd dwyreinwynt."


Y TRI LLANC.

O BU'r ffwrn yn wobrwy ffydd—y Tri Llanc,
Caent, er llawn lawenydd,
Rhag deifiadau torchau tân
Darian yn "null pedwerydd."


Y WYBREN HWYROL.

O! MOR ddenol mae'r ddunos—yn gwisgo
Ei theg wasgod wiwdlos;
Onid yw engyl yn dangos
Rosette y nef ar siwt y nos?



DAU WEINIDOG.

DIFYR, lle byddo dyfal—arweinydd,
Yw rhan "pobl ei ofal";
Ond gweinidog anwadal
Wna galon Seion yn sâl.


ALAWON CYMRU.

ALAWON gwlad fy nhadau—yn y fan
Dania l'enaid innau;
Mae hyawdledd fflam odlau
Ymhob cerdd i'm bywiocâu.


Y GWYNFRYN RHYDAMAN.

Tŷ tawel, man i'r delyn—diwnio cainc
Dan y coed, yw'r Gwynfryn;
Tŷ onglog at wau englyn,
Tŷ cain oll, tŷ Watcyn Wyn.



CI Y BUGAIL.

GWAS mud, sionc ei symudiad,—un a ŵyr
Y nod cyn daw'r archiad;
Ci, y gwn, pe cai gennad,
Fugeiliai'i hun wrth ddeddf gwlad.


EWYLLYS ADDA I'W BLANT.

CAED 'chydig dai gwych i drigo,—llawer
Y lle wnânt ddymuno,
Yn llu o tan y gwellt do—
Llwm awenydd lle mynno.


Dyriau.

TAITH AC OEDFA.
i.—TAITH.

HEULWEN Mehefin fel rhiain fwyn
A gusanai ruddiau y Berwyn llwm,
Yntau a wridai yno'n ei gwydd
Fel bachgen deunaw: hyd lawr y cwm
Chwa Mehefin a grwydrai fel
Ysbryd tiriondeb yn ymfwynhau
Heb un reol, na neges heblaw
Dweyd wrth y blodau am ymdecâu:
Ar y glaswellt boreol wlith
A berliai cyn loywed a dagrau saint,
A phob glaswelltyn a grymai'i ben
Yn wylaidd dan bwysau'r oruchel fraint:
Myrdd o adar dröent bob llwyn
Yn gangell sanctaidd plygeiniol gân,
Hyfryd i'r Nef oedd aberth mawl
Calonnau bychain mor llon, mor lân:
Bore Sabboth mor deg a gwedd
Cariad haelionus a lanwai'r tir;
Llanfihangel yng Ngwynfa oedd
Y bore hwnnw yn Wynfa wir.


Drwy y weirglawdd o Ddolwar Fach
Fe gerddai merch un ar hugain oed;
Llonned a'r adar ydoedd ei bron,
Hoywed a'r awel ydoedd ei throed;
Dawnsiai nwyfiant yng ngwrid ei grudd
Oedd goched a gwaed ar eira cann,—
Nwyfiant ieuenctid na wyddai ddim
Am ofn na phryder pererin gwan:
Cân ddi—fawl dorrai dros ei min—
Hoenus, wageddus, anianol gainc,
Wnai i aderyn wrando'n fud
Mewn prudd-der syn ar ei ddeiliog fainc.

Cerddai y ferch i lawr y cwm
Heb weled un o'r prydferthion fyrdd
A wenent arni mewn gwyrdd a gwyn
Megis angylion o ddeutu'r ffyrdd;
Oriel Anian i'w llygaid hi—
Oriel lawn o ddarluniau nef
Baentiwyd â lliwiau teca'r wawr
Gan law anweledig ei gariad Ef—
Oedd dan orchudd; ei gwamal fryd
Y diwrnod hwnnw ni theimlai chwant
Casglu blodau; ni chlywai gerdd
Adar, na murmur arianlli'r nant;
Miri gwylmabsant fawr y dref
Feddiannai feddwl yr eneth fwyn,

Yno cai gwrdd â'i chyfoedion hoff,
Yno 'roedd pobpeth a feddai swyn.
Wrth brysuro meddyliai pwy
O'i chyfeillesau a ddoi i'r ŵyl,
A phwy yno fyddai deca'i gwisg-
Pwy gynyrchai fwyaf o hwyl.
Wrth roi ateb parod a phert
I gyfarchiadau y llanciau llon-
A phwy o'r bechgyn gai'i harwain hi
At fwrdd y ddiod a'r "deisen gron"!

Gwelai'i hunan ar lawnt y dre
Yn arwain y ddawns yngŵydd y llu,
Gwelai eiddigedd ar lawer gwedd,
A chlywai y gymeradwyaeth hy;
Adgofiai'r hwyl gadd mewn llawer dawns,
Ac wrth adgofio fe gochai'i grudd;
Ni wyddai Ann am un nefoedd uwch.
Na "mynd" fel ar aden yr awel rydd:
Onid hi oedd brenhines dawns
Yr holl ardaloedd? Gynifer gwaith
Cariodd y gamp mewn gwyl a ffair
Heb golli'i hanadl, na blino chwaith.
Ynni'i hysbryd ymchwyddai'n donn
Drosti wrth gofio y clod a roed
I'w medrusrwydd: prysurai'n gynt,
Prin clywai'r ddaear o dan ei throed!


Gwelai islaw y dreflan deg
Ar finion hyfryd y loyw Gain,
Drosti ymdaenai rhyw deneu len
A'i lliw megis glasliw gwe sidan main:
Ac ar ei chlust fe ddisgynnai pêr
Sain erddygan hen gloch y Llan—
Sain a gariai Sabboth yr Ior
Ar ei hadenydd—ond nid i Ann:
Llais o'r ddaear oedd llais y gloch
I'w gwamal galon ddi—Sabboth hi—
Llais yn galw i gadw gŵyl
Gynhyrfus duwies difyrrwch a bri.

Effro iawn ydoedd ynni Ann;
Mor effro ag ewig ar fryndir llwm
Oedd pob synwyr yn natur fyw
Y ferch—ond cysgai'i henaid yn drwm;
Sawr fforestydd ac awyr fwll
"Tir Arabia" fel anadl y nos
Farweiddiol, gadwai mewn esmwyth hun
Ddi—freuddwyd gydwybod yr eneth dlos:
Effro i lais pob gwagedd ffol;
Byddai i swn y difyrrwch gwell
Fwynhâ y saint ar lwybrau moes—
Difyrrwch sanctaidd ardaloedd pell:
Uchel ei llais ymysg y llu
Ganai fasweddol gerddi yr oes;
Mud yn anthem gogoniant Ior

A charol mawl y Preseb a'r Groes:
Effro i fwrw dirmyg a gwawd
Ar bererinion i'r Nefol Wlad,
Cysglyd a swrth pan wahoddid hi
I'r llwybr sy'n arwain i "Dŷ ein Tad."

"Ha! dyma eneth fywioca'r wlad"—
Dyna oedd iaith pleserwyr y dref:
"Ow! dyna enaid yn cysgu'n drwm
Ar draeth marwolaeth," eb engyl y Nef.


ii.—OEDFA.

Po dywyllaf byddo'r nos agosaf yw y wawrddydd wen
Weddnewidia gwmwl du yn hardd Shecina uwch fymhen;
A phan fyddo y distawrwydd fwyaf llethol, dyna'r pryd
Tyrr o'i fynwes daran—follt gynhyrfus a frawycha'r byd:
Pan fo ysbryd yn ei drymaf gwsg di—freuddwyd, gyrr y Nef
Ato angel i'w ddeffrôi âg un ysgydwad aden gref;
Yn yr awr ni thybio calon wamal, anystyriol, daw
Mab y Dyn, âg agoriadau carchar enaid yn ei law.


Pa athroniaeth all ddeongli cyfrin waith Rhagluniaeth Ior?
Pwy olrheinia'r dirgel ffyrdd? a gerdd y llwybrau sy'n y môr?
"Damwain ydoedd," ebe'r ddaear sydd yn ddall i Ddwyfol drefn—
"Damwain" a bwriadau gras a chadarn arfaeth wrth ei chefn!
"Cyd-ddigwyddiad" ydyw olaf air gwybodaeth goeg y byd
Nas gall weld llinellau bwriad Dwyfol ynddo'n cwrdd ynghyd.

Cerddai Ann i lawr yr heol heb i gysgod pen y daith
Bylu gloywder ei gwamalrwydd na thrymhau ei throediad chwaith;
Llongyfarchai ei chydnabod, gwelai eisieu mwy nag un,
"Cynnar eto ydyw'r diwrnod," ebe'r eneth wrthi'i hun,
"Mi gychwynais ddigon bore, cysgodd eraill yn rhy hwyr,
Ond cawn hirddydd i gyd—ddawnsio digon cyn y daw yr hwyr."

Yn y man gwêl rywun draw; siriola gwên ei gwyneb iach―
Hen gyfeilles fu'n cydfyw â hi yn hir yn Nolwar Fach,

Un fu ddengwaith yn gydymaith mewn nos lawen, dawns, a ffair,
Un gadd lawer o'i chyfrinach heb erioed fradychu gair.

Wedi cwrdd, mor serchog ydyw'r cyfarch well sydd rhwng y ddwy,
Hir wahaniad roes ddi rif destynau i'w chwedleuaeth hwy;
Hola'r naill, y llall a etyb, megis yn y dyddiau gynt,
A'u chwerthiniad iach, dirodres, gludir draw gan awel wynt.

"Y mae gennyf fil o bethau i'w dweyd wrthyt," meddai Ann,
"Gâd in fynd am dro i'r caeau, nid oes eto yn y Llan
Ddim digrifwch": ebe'r llall, â dwysder serchog yn ei llef,
"Yr wyf fi yn mynd i'r oedfa sydd yng nghapel Pen y Dref;
Er y gwelais di ddiweddaf mi a brofais beraidd flas
Yr Efengyl, O, mor hyfryd gwrando'r son am Ddwyfol ras!
Ni chaf bleser mewn gwylmabsant mwy, nac yn y ddawns a'i bri;
Gwell i tithau, hen gyfeilles, ddod i'r oedfa gyda mi."


Chwarddodd Ann, a dwedai'n wawdus: "Beth! wyt tithau wedi mynd
Dan gyfaredd y Pengryniaid? Tithau yn bererin, ffrynd!
Bryd cychwyni tua Meca'? Nid wyt hanner digon prudd
I wneud un o osgordd angau, y mae cochni yn dy rudd;
'Rwyt heb ddysgu peidio chwerthin: pam na chedwi'th ben i lawr?
A oes gennyt yn dy fynwes bump neu chwech ochenaid fawr?
Ni chaf mwy dy gwmni mewn nos lawen nac i ddawnsio cainc!
Dweyd dy bader a chyfadde dy bechodau wrth y fainc
Byddi bellach! Paid a digio, ond tyngaswn dy fod di
Yn rhy gall i droi'n grefyddol." Yna eilwaith chwarddodd hi.

Hithau'r llall atebai'n dyner, gyda llais erfyniol-drist:
"Ann, rho heibio'th gellwair, paid a gwawdio pobol Iesu Grist!
Methu'r ydwyf fynd i'r seiat, methu hefyd cadw draw,
Ond mi wn mai pobol ydynt wedi gweld y byd a ddaw;

A phe clywet tithau unwaith stori marw Calfari
Byth ni fedret ei hanghofio—tyrd i'r oedfa gyda mi!"

Malpai rhyw ddrychfeddwl newydd yn cyffrôi ei bywiog fryd
Gloywodd llygaid Ann, a dwedodd, gan dynhau'i gwefusau 'nghyd,
"Waeth im ddod i fwrw'r amser, bydd yn rhywbeth newydd im
Glywed pengrwn yn llefaru; ond paid a rhyfeddu dim
Os cei 'nghlywed cyn y diwedd yn moliannu, neu'n rhoi llef
O ddychryndod dan ddylanwad ei hyawdledd garw ef."

Cerdda'r ddwy i'r hen addoldy, pryder leinw galon un;
Chwardda calon iach y llall, sibryda'n wamal wrthi'i hun:
"Bach feddyliais gynneu'm gwelid gyda'r 'saint' yn cadw gwyl—
Wedi'u gweld a'u clywed bydd yn hawddach imi godi hwyl

Wrth ddynwared eu ffolineb; ond tra yma yn eu plith
Rhaid ymddangos mor ddifrifol a phe byddwn 'dan y gwlith.'"

Mae y dyrfa yn lliosog, enwog yw y cennad hedd
Saif i'w chyfarch gyda dewrder awdurdodol yn ei wedd,
Proffwyd ydyw ef a gadd ei genadwri'n nhân y berth,
A'i leferydd, os yn araf, sydd yn meddu dieithr nerth;
Mor ddifrifol yw'r ymadrodd pan gyhoedda hawliau Duw—
Mor doddedig pan ddarlunia fawr ynfydrwydd dynolryw
Fyn ddiystyr sathru'i ddeddfau cyfiawn dan eu traed yn sarn—
Mor frawychus pan y gwaedda—"Eto'n ol mae diwrnod barn."

"Sinai i gyd yn mygu" i'r rhai anystyriol yw y fan:
Deffry'r genadwri syml a goleu enaid cysglyd Ann;
Gwêl ei hun mewn newydd fyd, ac arno sylla'n ddistaw syn—
Byd sylweddau digyfnewid, byd lle mae cyfiawnder gwyn

Ar yr orsedd—gwêl ei hun yn ddeiliad tragwyddoldeb mawr,
Cofio ei gwamalrwydd hy wna iddi gywilyddio'n awr;
Cilia'r gwrid o'i gruddiau, cilia'r wawdus wên oddiar ei min,
Teimla'r gair yn ei chydwybod megis cleddyf llym ei fin,
A thrywanu i farwolaeth awydd am ddigrifwch ffol
Wna y frawddeg fyth i'w chofio—"Diwrnod barn sydd eto'n ol."

*******
Llawer oedfa ddieneiniad hanesyddodd dyn cyn hyn,
Llawer pregeth digon egwan roed yn llawn ar ddu a gwyn
Er ei chadw rhag difancoll: ond mae'r pethau mwya mawr
Yn rhy gyfrin, yn rhy Ddwyfol i'w rhoi yng nghroniclau'r llawr;
Mewn dau lyfr yn unig cedwir hanes oedfa Pen y Dref—
Calon merch y Ddolwar Fach a llyfyr bywyd Nef y Nef.


DERWEN ARTHUR.

DDERWEN Arthur! mae'th ganghennau
Preiffion eto uwch fy mhen,
Minnau'n eistedd ar y garreg
Wrth dy fôn, frenhinol bren.

Gwres y dydd sydd wedi crino
Ynni'm natur bron yn llwyr;
Mi lechaf ennyd yn dy gysgod
A disgwyliaf am yr hwyr.

Disgwyl am yr hwyr yw'r cwbwl
Eto'n ol y sydd i mi:
Ond parod ydwyf i'w roesawu
Dan dy gangau llydain di.

Yma'r wyf mewn hen gynefin
Wedi oes o grwydro ffol;
Yma try hen olwyn Amser
Hanner canrif yn ei hol;


Yma clywaf leisiau ieuainc
Yn galw, megis murmur pell—
Hyfryted yw a llais gollyngdod
I'r condemniedig yn ei gell;

Lleisiau'n gwahodd i ymryson
Neidio a rhedeg ar y twyn—
I weled nyth y dryw ddarganfu
Gwenhwyfar neithiwr yn y llwyn;

Yma daw angylion gobaith
Heb arnynt arwydd cur na loes;
Yma'r wyf ymysg ysbrydion
Breuddwydion cynnar wanwyn oes.

P'run oedd lasaf y pryd hynny,
Ai dy ddeilen gyrliog di,
Dderwen Arthur, ynte wybren
Ddigymylau 'mywyd i?

P'run lawenaf, y fwyalchen
Bynciai'i hemyn ar dy gainc,
Ai'r dengmlwydd, wrth ei gwrando, geisiai
Ei gwatwar ar fwsoglyd fainc?

Dringo'th frigau wnawn cyn hoywed
A'r awel ddawnsiai ar dy ddail;
Ac ar yr uchaf frigyn cwrddem,
Ymgomiem yno bob yn ail.


Adroddodd imi lawer stori
Ryfedd a gyffrôdd fy mryd
I'w holi, ond gwrthododd ateb.
Fy ngofyniadau doeth i gyd.

Gwybod fynnwn o b'le daethai,
A phryd cyrhaeddai ben ei thaith,
Paham y cariai bêr-aroglau,
Paham yr oedd ei dwylo'n llaith?

Bryd bynnag yr erfyniwn arni
Adael imi weld ei llun,
"Dal fi," meddai, yna dawnsiai
Ymaith megis gwamal fun.

Minnau ddigiwn wrthi'n erwin,
Treiglai dagrau'm siom yn lli;
Hithau droai'n ol i'w sychu,
A rhoddi cusan hedd i mi.

Dy ddeiliog frigau 'ngŵydd ein cymod
A gurent ddwylaw mewn boddhad:
O ddigrifwch dwfn, difrifol!
O ddifrifwch llawn mwynhad!

*****
Dderwen dalfrig! ni newidiaist
Ti, mae'th ddeilen heddyw'n werdd;
Ac uwch fy mhen mi glywaf hyfryd
Swn cynghanedd dawns a cherdd.


Paham y rhaid i minnau grino
Fel yr hesg pan sycho'r rhos?
Paham y try fy nghân yn ochain,
A'm goleu ddydd yn drymllyd nos?

Cellweirio wnai a gyffelybodd
Ddyddiau gŵr i ddyddiau pren;
Yn d'ymyl di y mae ei eiriau
Yn swnio megis coeglyd sen.

Trigain mlynedd a dreuliasant
Ymaith stôr fy nghryfder i;
Trigain mlynedd—nid yw hynny
Ond diwrnod yn dy hanes di.

Deg cenhedlaeth o fy nheidiau
Fu yn chware yn ddi-glwy
Dan dy gysgod—deg cenhedlaeth
Roed i huno'n "erw'r plwy."

Tithau wyt o hyd yn gadarn,
Yn hardd frenhinbren ar dy sedd,
Heb arwydd henaint ar dy foncyff
Nac arwydd gwywder yn dy wedd.


CRWYDRO BUM.

CRWYDRO bum yng ngwlad yr Alpau
'Mhlith mynyddoedd fwy na mwy;
Gwelais dyrrau'r ia tragwyddol,
Dringais eu haruthredd hwy;
Uwch y naill y lleill ymgodent
Nes ymgolli'n uchder nen—
Ni ches yno Gadair Idris,
Ni ches yno Wyddfa wen.

Hwylio bum y dyfroedd llydain
Lifant drwy yr Affrig fawr,
Gan ddiodi myrdd ynysoedd
Gwridgoch fel y decaf wawr;
Wrth yr awel siglai'r hwyliau,
Cwynais mewn aniddig dôn
Am hanner awr o rwyfo'r Fenai
Sy'n diodi glennydd Môn.

Rhodio bum ar hyd dyffrynoedd
Y trofanau—gerddi'r gwin,
Lle ni chollir byth mo'r heulwen,
Lle ni welir blodyn crin;
Gwyrdd wastadedd yn ymestyn
Draw hyd eitha'r gorwel llwyd:
Ac mi dorrais yno'm calon
Eisieu gweled Dyffryn Clwyd.


Y DELYN FRIW.

AR ganghennau'r helyg
Crogai telyn fud,
Ganodd geinciau peraidd gynt
Mewn llawer neuadd ddrud.

Curodd stormydd arni—
Stormydd hwyrddydd du,
Clywodd ddwrn y corwynt certh
Yn dryllio'i thannau cu.

Heibio'r aeth y ddrycin,
Blino wnaeth y gwynt;
A'r delyn eto yn parhau
Yn fudan megis cynt.

Gwelwyd hi yn crynnu
Yng ngoleuni'r lloer,
Crynnu i fudandod mwy
Dan law y llwydrew oer.

Rhy friwedig ydoedd
I gwyno'i gofid cudd
Ar hyd yr hirnos, methodd clwy
Gyffroi ei thannau prudd.


Gyda gwawr y bore,
Awel deneu fwyn
O rywle ddaeth, fel ysbryd ffydd
Ysgydwodd frigau'r llwyn.

Deffrodd yr awel honno
Y Delyn ar y coed,
Hi ganodd alaw "Toriad Dydd"
Bereiddied ag erioed.


WYT TI'N COFIO.

WYT ti'n cofio'r nawnddydd hwnnw.
Pan rodiannem ger y lli,
Ac y rhoddaist im' dy galon
Wedi dwyn fy nghalon i?
Dawnsiai'r tonnau eu llawenydd,
Pynciai'r adar yn y dail;
Pynciem ninnau serch-alawon,
A chusanem bob yn ail.

Wyt ti'n cofio'r nawnddydd cyntaf
Yn y bwthyn yn y coed?
Bwthyn haeddai'i alw'n gartref
Os yr haeddodd un erioed:
Wyt ti'n cofio holl bryderon.
A gobeithion "dechreu byw"?
Wyt ti'n cofio'r cydymbilio.
Am ffafr ac amddiffyniad Duw?

Wyt ti'n cofio'r nawnddydd hwnnw,
Pan gydsafem uwch y cryd
Wedi iti roddi ynddo
Angel-faban clysa'r byd ?
Wyt ti'n cofio'r gariad-gawod
Wlychodd ei obenydd ef?
Wyt ti'n cofio'r weddi hedodd
Yn wlyb ei haden tua'r nef?


Wyt ti'n cofio nawnddydd arall
Yn y fynwent ar y bryn,
Pan eneiniai serch hiraethlawn
Oer orweddfa baban gwyn?
Wyt ti'n cofio, wrth ddychwelyd,
Tua'r aelwyd brudd ei gwedd,
Troi yn ol, a gweled enfys
Yn disgleirio uwch y bedd?


MORFUDD.

Mi gwrddais Morfudd gyntaf
Yn dod i lawr yr allt,
A deuros ar ei deurudd,
A heulwen yn ei gwallt;
Am eiliad tremiodd arnaf
Heb aros-megis merch:
A minnau drois i chwilio
Am lwybrau serch.

Pan gwrddais Morfudd wedyn
Ar lan y gloewlas li,
A blodau lond ei dwylo,
Fe wenodd arnaf fi;
A'r wên ddirodres honno,
Mor bur a gwylder merch,
A'm dysgodd i addoli
Wrth allor serch.

Drachefn mi gwrddais Morfudd
Dan dderwen ar yr allt;
Gofynnais gwestiwn iddi,
Ni fynnai hithau ddallt;
Gofynnais iddi eilwaith,
A gwrido wnaeth y ferch,
Ond yn ei gwrid darllennais
Ei hateb, ac mi brofais
Holl wynfyd serch.


HWIANGERDD.
(Alaw Wyddelig).

O CWSG di, blentyn gwyn dy fam,
Mwy gwerth na'r byd;
A phaid ag ofni unrhyw gam,
Cwsg yn dy gryd:
Hwi si, Hwi si;
Mae pobpeth tlws yn cysgu'n awr,
Ond tonnau'r lli,
A chysga dithau nes daw'r wawr
I'th ddeffro di.

O cwsg, a thi gei'r seren glaer
Sydd yn y nen;
Cei chware gyda choron aur
Y lleuad wen:
Hwi si, Hwi si;
A phan ddeffrôi o'th hapus hun,
Fy mach dinam,
Cei bore foru weld dy lun
Yn llygad mam.


Fe daena angel dros dy gryd
Ei aden dlos;
A thani byddi'n berffaith glyd
Ar hyd y nos:
Hwi si, Hwi si;
Heb boen na braw i'th wneud yn brudd,
Breuddwydia di
Am gusan mami ar dy rudd,
Hwi lwla li.


CAN Y FORWYNIG.

MORWYNIG ieuanc ysgafn galon
A rodiai 'nghanol blodau'r glyn;
Hi wyliai'r afon loyw'n llifo,
Gwrandawai'r adar mân yn pyncio,
A hithau ganai gân fel hyn:

Gwenwch, gwenwch, wylaidd flodau,
Yn yr heulwen glir,
Eich pêr sawr a'ch hudol liwiau
Sy'n sancteiddio'r tir:
Carwn innau fyw dan wenu,
Gan sirioli'r byd o'm deutu,
Byw yn hardd, a byw i garu
Pob prydferthwch gwir.

Llifo'r ydwyt, afon loywaf,
Heb wylofus gri;
Minnau ar y lan wrandawaf
Dy furmuron di;
Dysgaf felly fyw yn ddiddig,
A diodi'r rhai sychedig,
Rhoddi balm i bob clwyfedig
Gyfarfyddaf fi.


Cenwch chwithau, adar mwynion,
Eich caniadau rhydd,
Pyncio wnewch am wanwyn tirion
Wedi gauaf prudd;
Eich cyweirnod rhoddwch imi,
Fel y canwyf glod daioni
Cariad Duw, a'i bur dosturi-
Canu carol bro'r goleuni,
Gwlad y bythol ddydd.


PALMWYDD A HELYG.

AR lechwedd amlwg, palmwydd teg
Ddyrchafent frig yn hy,
Ac ar eu cangau beilchion hwy
Yr haul dywynnai'n gry'.

Ond min yr afon yn y pant
Oedd mangre'r helyg prudd,
A'u dail a blygent at y dŵr
I wylo drwy y dydd.

Holl brennau'r goedwig roddent le
I'r palmwydd praff eu bri;
Ond taenent eu cysgodion dros
Yr helyg ger y lli.

Cai cangau'r palmwydd harddu llys
A llwybrau clod a ffawd;
Ac uchaf swydd yr helyg oedd
Dal telyn fud y tlawd.

O fewn y Babell, Llys yr Ior,
Ar ddydd yr uchel ŵyl,
Yn ymyl cangau'r palmwydd tàl
'Roedd lle i'r helyg gŵyl.


Nid palmwydd llydain heulog fryn.
Yn unig gofia'r Nef,
Yr helyg prudd sy'n byw'n y pant
Arddelir ganddo Ef.


CYFAILL Y TLAWD WYT TI.

"MAE'n nos! a minnau'n wael a thlawd
Yn crwydro'n amddifad heb na châr na brawd,
Pwy wrendy'm cwyn!
Oes neb a glyw gri plentyn llesg a gwan?
Oni ddaw im ymwared o un man?
Paham y rhaid im oddef cymaint clwy?
Creulon yw'r byd! Nis gallaf ddal yn hwy!"
A'r plentyn carpiog, blin, eisteddai i lawr
Ar garreg oer wrth ddrws rhyw adail fawr:
Ond arno ef fan honno seren wen
Yn siriol iawn a wenai; tua'r nen
Dyrchafai yntau brudd-obeithiol drem,
Fel un yn gweled Seren Bethlehem:
A murmur wnai—
"Iesu tosturiol, gwrando fi;
Cymer drugaredd ar blentyn,
Agor dy fynwes i'm derbyn:
Iesu! Iesu!
Cyfaill y tlawd wyt Ti!"

Caredig gwsg gofleidiai'r plentyn gwan,
A'r seren wen yn gwylio uwch y fan;
Ei ysbryd pur aeth gyda'i ddrylliog lef
Fry i'r nef.


Fe dorrai'r wawr: ond cysgai ef o hyd
O gyrraedd twrf, o gyrraedd poen y byd;
A thros y wedd, a fu gyhyd mor wyw,
Ymdaenodd gwrid rhosynau gerddi Duw ;
Tu hwnt i'r llen fe gafodd gartref gwir:
Eto fe glyw y ddaear adsain glir
Ei weddi fach—
"Iesu tosturiol, gwrando fi;
Cymer drugaredd ar blentyn,
Agor dy fynwes i'm derbyn:
Iesu Iesu!
Cyfaill y tlawd wyt Ti!"


EMYN PRIODAS.

MEWN priodas gynt yng Nghana.
Buost, Iesu mawr, dy Hun;
Rho Dy bresenoldeb yma
Lle y rhwymir dau yn un.

Uno'r dwylo yn ol defod
Hardd Dy eglwys a wnawn ni;
Ond sancteiddio y cyfamod
Wna Dy bresenoldeb Di.

O'th foddlonrwydd daw cysuron
A dedwyddwch yn y byd,
A Dy gariad yn y galon
Geidw serch yn bur o hyd.

Dysg hwy'n dyner iawn i feithrin
Teg rasusau ar y daith;
Yn eu cartref bydd yn Frenin,
Hwythau'n ffyddlon yn dy waith.

Aros, Iesu, gyda'r ddeuddyn,
Dyro iddynt nawdd dy Groes;
A'th dangnefedd fo'n eu dilyn
Tra parhâo dyddiau'u hoes.


Cyfieithiadau ac Efelychiadau.

HERVÉ RIEL.[2]
(CYFIEITHIAD O BROWNING).

Ar y dyfroedd ac yn Hogue, un-ar-bymtheg naw deg dwy,
Brwydrai'r Saeson â gwŷr Ffrainc—gwae i Ffrainc!
Ar yr olaf ddydd o Fai, dianc yn blith drafflith drwy'r
Aig, fel haid moch-bysg mewn braw rhag y morgwn roddant glwy,
Wnai'r llongau'n llu, tyrrent i Sant Malo ar y Rhainc,
Dilynai llynges Prydain hwy.

Sgadran a ddihangodd oedd, erlyn wnai'r gorchfygydd cry';
Caed o'r gyrr ymlaenaf oll, Damfreville'n ei long o fri;
A chyd-ffoai'n fach a mawr,
Ddwy-ar-hugain teg eu gwawr;
Drwy arwyddion galwai'r llu,
"Help i gampwyr rhedfa hy!

Dowch i'n tywys, rhowch in' borthladd, brysiwch—
neu yn gynt na chwi
Cymer y Prydeiniaid ni!"

Llong—arweinwyr doeth y lle neidient ar y bwrdd yn chwim;
Chwarddent: "A oes siawns i'r llongau yma basio'n glau?
Creigiau ar y dde a'r chwith, y fynedfa'n fylchog lym―
All yr Erchyll hon y sydd a'i gynnau'n naw deg dau o rif
Hwylio i fyny'r aber gul nad yw byth yn caniatâu
I fad bach o ugain tunnell ar ei dyfroedd nofio'n hyf
Pan fo'r llanw ynddi'n llawn?
'Nawr, mae'r trai yn isel iawn.
Mynd i'r lanfa! Na'n ddiau,
Tra saif craig, neu'r dwfr a lif,
Nis gadawa llong y bau!"

Cyngor yn y fan gai'i alw.
'Roedd y ddadl yn ferr a chwerw:
"Wele'r Saeson ar ein sawdl; fynnir iddynt lusgo'n rhestr
Y cwbl o'n llynges sydd ar ol, wedi rhwymo lles! wrth lestr,
I Plymouth yn ysbail drud?
Gwell fai colli'r llongau i gyd!"

(Damfreville derfynai'i draith).
"Nid oes funud hwy ynghadw!
Boed i'r Ceptyn ar un waith
Lanio, ffrwydro, llosgi'r llestri ar y tywod llaith!
Dyged Ffrainc ei thynged arw.

Rhowch y gair!" Y gair, er gwadd,
Ei roddi byth ni chadd;
Codi wnaeth, ymlaen aeth i'w plith hwy yn ddinacâd―
Cadben? Rhaglaw? Swyddog—o'r brif, ail, neu'r drydedd radd?
Na, nid gŵr o gyfryw nod,
Teilwng o rai mwy eu clod!
Ond Llydawaidd forwr wasgodd Tourville i'w gâd-long i ddod,
Glàn-long-lywiwr tlawd oedd ef, Hervé Riel y Croisiciad.

Ebe Hervé Riel: "Pa goeglyd wawd neu falais yma gawn?
Y'ch chwi'n wallgof, Faloiaid? Y'ch chwi'n llwfr, yn ffals, neu'n syn?
Son am greig a beisfan wnewch wrthyf fi fu'n plymio—fi
Wyr am bob rhyw dywod fryn, pob bas fan, pob ymchwydd lli,
Rhwng y traethfor hwn a Grêve lle y câ yr afon lyn?

Brynwyd chwi âg aur y Sais? A gaiff serch o'r celwydd les?
Gwawr a nawn, nos a dydd,
Drwy'ch bau llywiais, ac yn rhydd
Drwodd aethum, bwrw angor wrth droed Solidor a wnes.
Llosgi'r llynges? Tlodi Ffrainc? Gwaeth na phum deg Hogue f'ai hyn!
Gwyddant mod i'n deyd y gwir! Credwch fi, mynedfa sydd!
Yr arweiniad rhowch i mi,
Llywiaf y llong fwya'n wir;
Pan fo'r Erchyll' hon yn glir,
Gwnewch i'r lleill ei dilyn hi,
Fe'i harweiniaf fawr a mân, drwy fynedfa wn, yn ffel,
Hyd Grève heibio Solidor,
Rhof hwy yno'n iach eu gwawr;
Os y cam-nawf un o'r côr—
Os un cilbren rygna'r llawr,
Wel, ni feddaf ond fy hoedl-dyma 'mhen!" eb Hervé Riel.

Ni chânt aros funud awr.
"Arwain ni, yn fach a mawr,
Wele'r llyw, t'wysa' rhes, cadw'r sgadran!" meddai'r glyw.
Geptyn, rhowch i'r morwr le!

Ar fyrr air, Llyngesydd yw,
Paid, Ogleddwynt, drwy ras Ne'!
Gwêl ei bryd wronaidd e'
Pan â naid, fel helgi,'r brif
Long â drwy'r fynedfa'n hyf—
Geidw'r llwybr fel pe bae'r fodfedd gul o le yn eang lif!
Gwêl, yn haid dilynant hwy
Rhwng bas fan a chraig heb glwy,
Un o'r llongau ni cham-nawf, un cil chwaith y llawr ni lŷf,
Ar un styllen nid oes friw!
Mae'r perygl drosodd oll,
Porthladd gânt, heb un ar goll,
Ar foment bloeddia Hervé Riel "Angor"—ffawd a'i gŵyr,
Daw y Saeson—ond, rhy hwyr!

Wedi'r storm tawelwch geir:
Gwelant sigliad coedydd chweg
Uwchlaw Grève ar dyrrau teg.
Bronau briw â balm iacheir.
"I fwynhau ein llonder llawn,
Boed i'r Saeson hela'r bau,
Rhincian dannedd, tremio draw'n
Syn wrth danio'u gynnau gwae!

Islaw'r cribog Solidor hyfryd hwylio'r Rhainc a wnawn!"
Gobaith yn lle dychryn ar wedd pob Capten gawn!
Pawb yn bloeddio'n unllais gair,
"Mae'n lle uffern in' nef ddel!
Rhodded Ffrainc, a'i Theyrn, heb feth
Glod i'r gŵr a wnaeth y peth!"
Dyna gymloedd, pawb 'run air,
"Hervé, Riel!"
Yntau eilwaith ddaw ymlaen,
Arwydd syndod ni cha le
Yn ei glir las-lygad e';
Ni newidiodd ddim o'i raen.
"Ffrind," eb Damfreville, "mae'm hawr
Innau i lefaru'n awr,
Er fod hynny'n anodd iawn.
Dyfnach clod na gwefus wael;
Cedwaist longau'n Teyrn, heb ffael,
Rhaid it' enwi'th wobrwy'n llawn.
Bron machludo bu ein haul!
Beth bynnag hawli di,
Ni thâl Ffrainc ei dyled hi.
Cais yr eithaf, ac fe'i cai! neu nid Damfreville wyf fi.'

Yna dros y barfog fin
Gwên hyfrytaf fwriai'i rhin,
Fel y chwarddai'r galon wir
Drwy'r Llydawaidd lygaid clir;

"Gan y rhaid im' ddweyd yn rhydd,
Gan nad oes ar y bwrdd ddim gwaith,
Ac nad ydyw o Fau Malo i Bwynt Croisic fawr o daith—
Gan mai eisieu gofyn sydd-
A'r lleill ânt i'r lan ynghyd-
Wel! rhoer imi un hir ddydd!
Hawl i fynd i weld fy ngwraig, Rhiain-wenddydd deca'r byd!"
Hynny geisiodd, hynny gafodd-dyna i gyd.

Angof enw a gwaith y gŵr:
Nid oes golofn, nid oes dŵr,
Ym mro Croisic geidw'n fyw yr orchest fawr ei budd;
Llun mewn deuliw ni chewch chwi
Ar un cwch pysgota, i
Gofio'r hwn waredodd o grafangau gwymon lli
Y cwbl achubodd Ffrainc o'r frwydr pan gariodd Lloegr y dydd.
Ewch i Paris: chwiliwch drwy
Ddi-drefn rengau'r arwyr sydd
Ar y Louvre, amgylchwch hwy!
Cyn y dowch at Hervé Riel, hir eich ymchwil fydd.
Nawr, er gwell, er gwaeth, fel bo,
Derbyn, Hervé Riel, fy nghlod!
Boed it eto, Hervé Riel, yn fy nghân
Gadw'r sgadran, mawrhau Ffrainc, caru'th Riain-wenddydd lân!


Y MAE GWRID AR RUDDIAU'R RHOSYN.
(Efelychiad).

Y MAE gwrid ar ruddiau'r rhosyn,
Y mae gwrid ar ruddiau Men,
A phan i'r ardd y rhodia
Fe wrida y wawrddydd wên;
Mae y nos yn ffoi o wyddfod
Y forwynig lana 'rioed,
Ac o'u cwsg fe ddeffry'r blodau
Pan glywant swn ei throed.

Y mae gwlith ar ruddiau'r rhosyn,
A thrwy'r gwlith y rhodia Men
At y ffynnon fechan loyw
Sy' dan gangau'r deiliog bren;
Ni ysigir un friallen
Gan ei throediad ysgafn hi
Pan nesha yn swil i edrych
Ar ei darlun yn y lli.


Mae ei cherdd yn galw'r bore
Ac yn swyno gwenau'r haul,
Cydymroddi i'w dynwared
Wna yr adar yn y dail;
Ac yn ddistaw 'nghlust yr awel
Sibryda'r lili hardd
Fod fy nghariad i yn rhodio
Dan gysgodion coed yr ardd.


MAE'R FFRWD YN LLIFO'N GREF,FY MUN.
("The river floweth strong, my love.")

MAE'r ffrwd yn llifo'n gref, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref;
Ac felly llifa nghariad i
Yn wastad tuag atat ti,
Gyrr i'th gyfarfod dyner donn
I'th ddwyn i orffwys ar ei fron :
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n gref.

Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn;
Ymchwydda gylch mwsoglyd frwyn,
Treigla drwy'r coed a'r glynoedd mwyn,
A rhuthra'n wyllt dros greig i lawr
I fynd yn ol i'r eigion mawr:
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n llawn.


Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd;
A llifed felly'th gariad di
Nes dod yn un a'r eiddof fi,
Cwrdd fel y ffrwd a'r môr a wnawn,
Ac aros fyth yn un a gawn:
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd.


Y BARDD A'R BABAN
("Where did you come from, Baby dear?"—
Dr. GEO. MACDONALD).

O b'le y daethost ti, Faban gwyn?
O gôl y Tragwyddol i'r fan hyn.

Ble cêst ti dy lygaid glas eu gwawr?
Allan o'r awyr wrth ddod i lawr.

Paham y pefria'u llewyrch mor dêr?
Ynddynt yn aros mae gwreichion sêr.

Sut daeth y deigryn i'th lygad di?
Yma 'roedd hwnnw'n fy nisgwyl i.

Beth wnaeth dy dalcen mor llyfn a chun?
Serch dynnodd drosto ei law ei hun.

Paham mae dy rudd fel gwyn—ros hardd?
Mi welais fwy na freuddwydiodd bardd.

A'r wên dair—onglog lawned o swyn?
'Run adeg ces gusan tri angel mwyn.


Sut cêst ti'th glust sydd fel ewyn llaeth?
Llefarodd Duw, ac i'w wrando daeth.

Sut cêst ti'th freichiau a'th ddwylaw bach?
Fel hyn ymddolennodd cariad iach.

Dy glysion draed, o ble daeth rhai hyn?
O'r un blwch ag edyn y ceriwb gwyn.

Ond sut daeth yr oll ynghyd yn dydi?
O feddwl y Duwdod y tyfais i.

Paham y daethost, beth gwyn, atom ni?
Duw gofiodd am danoch, ac wele fi.


Y NEFOL GAN.
(The Heavenly Song).

Ryw hwyrddydd hafaidd tawel
Mi glywais newydd gân
Yn dyfod gyda'r awel
I lawr o'r wybren lân;
Mi dybiais fod y cantor
Yn canu'r gân i mi,
Ac na wrandawsai dyn erioed.
Bereiddied cân a hi.
Moliant i Dduw drwy'r uchelder,
Chwyddwch y gydgan gref;
Cenwch i'r Hwn sydd yn Geidwad,
Henffych i Frenin Nef.

Parhaodd miwsig pêr y gân
I lanw'm clustiau'n hir,
A chwyddo fel mawreddog donn
Wnai'r nodau llawn a chlir;
Hyfryted oedd y môr o swyn
Fel breuddwyd lanwai'r nen;
Chwenychwn weld y cantor mwyn
Yng ngoleu'r seren wen.


Ac yna wrth imi wrando
Ces weledigaeth fawr;
O'm hamgylch safai tyrfa
O engyl gwyn eu gwawr:
Pan welais linynnau euraidd
Telynau y sanctaidd lu,
Deallais fod y ddwyfol gân
Yn dod o Gaersalem fry.
Moliant i Dduw drwy'r uchelder,
Chwyddwch y gydgan gref;
Cenwch i'r Hwn sydd yn Geidwad,
Henffych i Frenin Nef.


TANYSGRIFWYR.

Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe (drwy law Mr. D. R. Phillips).
Y Parch. D. Adams, B.A. (Hawen), 145 Grove St., Lerpwl.
Alafon, Ysgoldy, Clwtybont.
Anthropos, Derwyn, Caernarfon.
Yr Athro Edward Anwyl, M.A., 62 Marine Terrace, Aberystwyth.
Mr. J. Ballinger, Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd.
Llyfrgell Gymreig Coleg Bangor (drwy law y Parch. T. Shankland)
Mr. D. Bowen, Abercarn.
Mr. Lemuel Bowyer, Ponciau, Rhiwabon.
Y Parch. Llewelyn Bowyer, 275 Strone Road, East Ham.
Mr. Robert Bryan, 3 Vaenol Street, Caernarfon.
Y Parch. D. Bryant, B.A., B.C.L., Walworth.
Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd.
Cadfan, Croesoswallt.
Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd (drwy law Mr. J. Ballinger).
Llyfrgell Rydd Caernarfon.
Cenech, Pentre, Cwm Rhondda.
Crymlyn, Llansamlet.
Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion (drwy law Mr. E. Vincent Evans).
Mr. D. R. Daniel, Four crosses, Sir Gaernarfon.
Mr. W. Daniel, 160 High Street, Balham.
Eos Dâr, Llety'r Eos, Maerdy.
Mr. Arthian Davies, 37 Wilton Road, Llundain.
Y Parch. Ben Davies, Y Pant Teg, Ystalyfera.
Mr. D. Davies, B.A., Penygroes.
Mr. D. Davies (Bwthynog), Heolgerrig, Merthyr Tydfil.
Mr. D. J. Davies, 84 Wandsworth Bridge Road, Llundain.
Y Parch. D. Morgan Davies, 4 Chaddesley Terrace, Abertawe
Y Parch. D. Tyler Davies, 2 Winsham Grove, Clapham Common.
Dr. E. Davies, 22 Wolseley Street, Bermondsey.

Mr. E. Maengwyn Davies, 34 Clifton Road, Maida Vale.
Mr. E. R. Davies, Y Coleg Coffadwriaethol, Aberhonddu.
Mr. Griffith Davies, 8 Highbury Place, Llundain.
Mr. H. Davies (Abon), Cofnmawr (12 copi).
Mr. Haydn Davies, 63 Balham Hill, Balham.
Mr. H. Ll. Davies, 57 Harborough Road, Streatham.
Y Parch. J. Davies, Llithfaen, Pwllheli.
Mr. J. Davies, 50 Amner Road, Clapham Common.
Mr. John Davies, 17 Fountain Street, Manchester.
Mr. J. Brynach Davies, Llanfyrnach, Penfro.
Y Parch. J. E. Davies, M.A. (Rhuddwawr), 84 Trinity Road, Wood Green.
Y Parch. Gwynoro Davies, Abermaw.
Mr. J. H. Davies, M.A., Y.H., Cwrtmawr, Llangeithio.
Mr. J. J. Davies (Myfyr Arthen), Monk Street, Aberdar.
Y Parch. Athro J. M. Davies, M.A., Coleg Bala-Bangor.
Mr. J. Stanley Davies, Oxford Street, Llundain.
Mr. Joseph Davies, 310 Earl's Court Road, Kensington.
Mr. Ll. Davies, Argraffydd, High Street, Merthyr Tydfyl.
Mrs. Mary Davies, 107 King's Cross Road, Llundain.
Mr. Rees Davies, 76 Fullham Palace Road, Llundain.
Mr. Robert Davies, 1 Eversley Street, Lerpwl.
Y Parch. R. Glyn Davies, 2 Sedgford Road, Shepherd's Bush.
Mr. R. Norman Davies, Quellyn, Caernarfon.
Mr. R. O. Davies, Y.H., Grasgarth, Acton (2 gopi).
Mr. Samuel Davies, 31 St. Anne's Hill, Wandsworth.
Mr. Samuel Davies, 294 Trinity Road, Wandsworth.
Mr. Timothy Davies, A.S., Walham Green.
Mr. Thomas Davies, 56 St. Quintin's Avenue, Kensington (2 gopi).
Mr. Tom Davies, 22 London Road, Southwark.
Y Parch. T. Davies (Bethel), 4 Windsor Esplanade, Caerdydd.
Y Parch. T. Eynon Davies, Woodford Green, Essex.
Mr. T. Huws Davies, B.Sc., Y Clwb Cymreig, Llundain (2 gopi)
Y Parch. T. Price Davies, 14 Lathom Avenue, Liscard.
Y Parch. T. R. Davies, 75 Rectory Road, Burnley.
Yr Athro T. Witton Davies, M.A., Ph.D., Bron Haul, Bangor
Y Parch. W. Davies, The Walk, Llandeilo.
Mr. William Davies, Y.H., L.C.C., 18 Alexandra Avenue, Battersea Park.
Mr. William Davies, 6 Westbourne Street, Chelsea.
Mr. W. Davies, Ysgol y Cyngor, Treforris.
Mr. W. E. Davies, 310 Earls Court Road, Kensington.
Mr. W. E. Davies, Broad Sanctuary, Westminster.
Mr. W. Lloyd Davies, B.A., Exchange & Audit Department, Llundain.

Deiniol Fychan, Tŷ Deiniol, Bangor.
Dyfed, Cathays, Caerdydd.
Dyfnallt, Pontypridd.
Mr. W. Edmunds, 11 Vere Street, Llundain.
Miss E. A. Edwards, 23 Lawrence Pounburg Lane, Llundain
Mrs. Edwards, Cefnmaelan, Dolgellau.
Mr. David Edwards, 290 Mansfield Road, Nottingham.
Mr. D. W. Edwards, 10 Ynysfach, Merthyr Tydfyl.
Yr Athro Edward Edwards, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.
Syr Francis Edwards A.S., The Cottage, Knighton (2 gopi)
Mr. Hugh Edwards (Huwco Penmaen), y Rhyl.
Mr. Hugh Edwards, Ty Cerrig, Rhydymain, Dolgellau (7 gopi)
Y Cynghorydd John Edwards, Rhymni.
Y Parch. John Hugh Edwards, The National Liberal Club, Llundain.
Mr. J. Kelt Edwards, Y Clwb Cymreig, Llundain.
Mr. O. M. Edwards, M.A., Arolygydd Ysgolion, Llanuwchllyn
Y Parch. T. Cynonfardd Edwards, D.D., Kingston, America (2 gopi).
Eifion Wyn, Porthmadog.
Eifionydd, Caernarfon.
Elfed, 37 Highbury New Park, Llundain.
Y Parch. Griffith Ellis, M.A., 10 Pembroke Road, Bootle
Y Parch. J. Crowle Ellis, 177 Chevening Road, Brondesbury Park.
Mrs. T. E. Ellis, 6 Laura Place, Aberystwyth.
Mr. T. G. Ellis, Tyddyn Dderwen, Brithdir, Dolgellau.
Mrs. Evans, Tudor Lodge, Putney.
Y Parch. A. Owen Evans, Diocesan Inspector of Schools, Bangor.
Y Parch. Ben Evans, Barry Dock.
Mr. Beriah Gwynfe Evans, Caernarfon.
Mr. Christopher Evans, Colliery Proprietor, Merthyr Tydfil.
Mr. Cyrus J. Evans, 30 Canonbury Lane, Llundain.
Mr. D. Evans, Plashet Lane, East Ham.
Mr. D. Evans, Woodgrange Road, East Ham.
Mr. D. Emlyn Evans, Bron-y-Gân, Cemmaes.
Mr. D. H. Evans, 58 Abbeville Road, Clapham Park (2 gopi).
Mr. D. Owen Evans, Silverdale, Berkhamsted.
Mr. Edward Evans, 114 Burnthwaite Road, Fulham.
Mr. Evan Evans, 77 Cornwall Road, Llundain.
Mr. Evan Evans, Ystumgwadnerth, Llanfachreth.
Mr. E. Islwyn Evans, 10 Heol y Capel, Tregaron.

Y Parch. E. Keri Evans, M.A., Heol y Prior, Caerfyrddin.
Mr. E. T. Evans, 13 The Parade, Tooting.
Mr. E. Vincent Evans, 64 Chancery Lane, Llundain.
Y Parch. E. Wnion Evans, Derwendy, Machynlleth (2 gopi).
Y Parch. Gwilym Evans, Aberaeron.
Mr. Harry Evans, 26 Princes Avenue, Lerpwl.
Mr. Hugh Evans, 150 Blackfriars Road, Southwark.
Mr. Humphrey Evans, Argraffydd, Bala.
Mr. John Evans, 150 Blackfriars Road, Southwark.
Mr. J. Evans-Jones, 61 Bolton Road, Stratford.
Mr. J. E. Evans, 68 St. George's Road, Llundain.
Dr. J. Gwenogfryn Evans, Tremvan, Llanbedrog.
Mr. J. H. Evans, Coleg Bala-Bangor.
Mr. J. O. Evans, Bwlcheynyd, Chubut.
Mr. J. Owain Evans, 16 Wilton Road, Llundain (2 gopi).
Y Parch. J. Rosser Evans, Y Gwynfryn, Rhydaman.
Mr. J. V. Evans, 99 Northcote Road, Clapham.
Mr. J. Winton Evans, 128 Albert Place Mansions, Battersea Park.
Mr. Morgan Evans (Pencerdd Mellte), Ystradfellte, Aberdâr.
Y Parch. Owen Evans, D.D., Sun Lea, Serpentine Road, Liscard.
Mr. Pierce J. Evans, 80B Queen's Road, Battersea.
Mr. Rees Evans, Old Ford.
Dr. Richard Evans, Wrexham.
Mr. R. J. Evans, 23 Dallin Road, Plumstead.
Y Parch. R. O. Evans, 47 Lewis Road, Castellnedd.
Syr Samuel T. Evans, A.S., 11 Lancaster Gate W.
Mr. Thomas Evans, Voelas Iron Works, Pentre Foelas.
Mr. Thomas Evans, 52 Upceme Road, Chelsea.
Mr. Tim Evans, Park Avenue South, Hornsey.
Mr. T. Glyn Evans, 11 Burgoyne Road, Harringay.
Mr. T. J. Evans, "Glan Teify," Munster Road, Fulham.
Mr. T. J. Evans, 13 Canonbury Park North, Llundain.
Mr. Tudor Evans, 58 Wallbutton Street, Llundain.
Mr. William Evans, C.B., 111 Warwick Road, Kensington (2 gopi).
Mr. William Evans, 296 Battersea Park Road, Battersea.
Y Parch. William Evans, Salem, Merthyr Tydfyl.
Y Parch. W. Justin Evans, "Emlyn," Bromley.
Mr. W. R. Evans, 5 Loughboro Road, Buxton.
Mr. E. Francis, 754 Fulham Road, Fulham.

Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., 11 Downing Street, Westminster.
Mr. W. George, Garthcelyn, Criccieth.
Y Parch. J. Morgan Gibbon, 7 Springfield, Clapton Common.
Glynhefin, Y Waenfawr, Caernarfon.
Miss Griffiths, 11 Grosvenor Place, Westminster.
Mr. C. Griffiths, 10 Penton Street, Islington.
Y Parch. C. O. Griffiths, B.A., Stretford, Manchester.
Y Parch. D. Griffith, Bethel, Arfon.
Mr. D. Griffiths (Dewi Aeron), Aberaman.
Y Parch. D. A. Griffiths, Troedrhiwdalar.
Mr. Evan Griffiths, 40 King's Road, Chelsea.
Y Parch. Gibbon Griffiths, Gwersyllt, Gwrecsam.
Mr. Griffith Griffiths, 48 Elsbeth Road, Clapham Common.
Mr. Ifor Griffiths, 310 Earls Court Road, Kensington.
Mr. J. G. Griffiths, Bookinghall, L. & N.W. Ry., Y Rhyl.
Mr. J. M. Griffiths, Clothier, Sussex Road, Y Rhyl.
Y Parch. Peter Hughes Griffiths, 136 Shaftesbury Avenue, Llundain.
Mr. R. A. Griffith (Elphin), 3 Elm Court Temple, Llundain.
Y Parch. T. Ogwen Griffiths, Y Rhyl.
Mr. W. J. Gruffydd, M.A., 3 Fitzalan Place, Caerdydd.
Grugog, 24 Florist Street, Oxford Street, Lerpwl.
Gweledydd, Abercrave.
Gwili, Coleg yr Iesu, Rhydychen.
Gwylfa, New Road, Llanelli.
Mr. Thomas Hamer, 50 Abbeyfield Road, Llundain.
Mr. Edward Harris, Cyfreithiwr, Abertawe.
Mr. Ben Harries, 260 Oxford Street, Llundain.
Y Parch. Gwilym H. Havard, M.A., B.D., 58 Canonbury Park North, Llundain.
Mr. Gwilym Hinds, 3 Old Cavendish St., Llundain (2 gopi).
Mr. John Hinds, Brynteg, Lee Park, Blackheath.
Mr. Millwyn Howells, Pentre, Cwm Rhondda.
Mr. Cadwaladr Hughes, Abergeirw Bach, Llanfachreth.
Mr. D. R. Hughes, 122 Oglander Road, East Dulwich.
Mr. E. Hughes, Wadham Road, Harringay.
Y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd.
Mr. J. Ll. Hughes, 212 Battersea Park Road, Battersea.
Mr. Lewis Hughes, Y.H., Amlwch.
Mr. Richard Hughes, Ty Hen Isaf, Llanerchymedd.
Y Parch. W. Ross Hughes, Borthygest.
Y Parch. John Humphreys, 45 Almorah Road, Islington.
Y Parch. Rhys J. Huws, Bethesda, Arfon.
Y Parch. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau

Mr. T. H. W. Idris, A.S., Camden Town.
Y Parch. H. T. Jacob, Peniel, Caerfyrddin.
Y Parch. D. Emrys James, Buckley.
Y Parch. W. James, Abertawe.
Miss Bessie M. Jenkins, 128 Westminster Bridge Road, Llundain.
Mr. Edward Jenkins, Y.H., Gwalia, Llandrindod.
Mr. E. Jenkins, 113 Queen's Road, Battersea.
Mr. G. Jenkins, 53 Chryssell Road, Buxton.
Capten J. C. Jenkins, Y Clwb Cymreig, Llundain.
Y Parch. S. R. Jenkins, B.A., Gravesend.
Mr. T. Jenkins, 76 Heolgerrig, Merthyr Tydfyl
Y Parch. J. T. Job, Carneddi, Bethesda, Arfon.
Mr. J. Lewis John, Strone Road, East Ham.
Mr. Morgan John, 99 Great Dover Street, Llundain.
Mr. S. R. John, 129 Alexandra Road, Wimbledon.
Y Parch. T. Johns, D.D., Llanelli.
Mr. Abel E. Jones, A.C., Rhymni.
Mr. B. Jones (Merthyrfab), Merthyr Tydfyl.
Mr. Cadwaladr Jones, Llundain.
Yr Athro C. Brymer Jones, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.
Mr. Daniel Jones, Clarendon Street, Pimlico..
Mr. Daniel Jones, 49 Cornwall Road, Llundain.
Mr. D. Jones, Y.H., Rock Villa, Ebbw Vale (3 chopi).
Y Parch. D. Jones, 30 Park Terrace, Abertawe.
Mr. D. Jones, Council House, Llanfyllin.
Y Parch. D. C. Jones, 119 Burton Road, Buxton.
Y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon. (2 gopi)
Mr. D. Tysilian Jones, 37 St. Peter's Street, Llundain.
Mr. Edgar Jones, M.A., Yr Ysgol Sir, Y Barry.
Y Parch. Edmund O. Jones, M.A., Y Ficerdy, Llanidloes.
Y Parch. Edward Jones, M.A., B.D., Dowlais.
Mr. Edward Jones, Caehuad, Llanfachreth.
Mr. Edward Jones (Iorwerth Ceithio), 12 Barforth Road, Peckham Rye.
Mr. E. A. Jones, 552 Commercial Road, Stepney.
Y Parch. Elias B. Jones, Caergybi
Y Parch. Ellis Jones, Bangor.
Mr. Evan Jones, 36 Ynysfach, Merthyr Tydfyl.
Miss E. J. Jones, 74 Cornhill, Llundain.
Y Parch. Fred Jones, B.A., Rhymni.
Y Parch. Gwilym Jones, B.A., Cyfarthfa, Merthyr Tydfyl

Y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., D.D., Rheithiordy, Nutfield, Surrey.
Mr. G. H. Jones (Gutyn Arfon), Rhiwddolion, Bettws y Coed.
Mr. G. W. Jones, 35 St. Margaret's Road, Brockley.
Mr. Henry Jones, 131 Boughton, Caerlleon.
Mr. Henry Jones, Aquarium Street, Y Rhyl.
Y Parch. H. Ifor Jones, 17 Raymond Street, Caerlleon (3 chopi)
Mr. H. R. Jones, 7 Suffolk Street, Llundain,
Mr. James Jones, 135 Union Street, Southwark.
Mr. J. Jones, Y.H., Penlan, Pentrefoelas.
"J.J., Tynybraich," Dinas Mawddwy (3 chopi).
Mr. J. Jones, 39 Exmouth Street, Llundain.
Mr. J. Jones, Argraffydd, Llanerchymedd.
Mr. J. Jones, Green Street, East Ham.
Mr. J. Jones, 2 Bowtflower Road, Clapham Junction.
Mr. J. Jones, 57 Queen's Road, Battersea.
Mr. J. Blodeufryn Jones, Caemarydwn, Merthyr Tydfyl.
Mr. J. C. Jones, Y Llythyrdy, Llanarth, Ceredigion.
Y Parch. J. C. Jones, Llys Einion, Glan Dyfi.
Mr. J. Lewis Jones, High Street, East Ham.
Mr. J. Lloyd Jones, B.A., Cartrefle, Dolwyddelen.
Yr Athro J. Morris Jones, M.A., Tŷ Coch, Llanfair P.G.
Mr. J. M. Jones, Crooked Lane, Llundain.
Mr. J. O. Jones, National Provincial Bank, Manor Park.
Mr. J. Pritchard Jones, Y.H., 76 Canfield Gardens, Hampstead (2 gopi).
Mr. J. R. Jones (Gerallt). Maentwrog.
Mr. J. Rhys Jones, 3 Ramsden Road, Balham.
Y Parch. J. Towyn Jones, Arosfa, Llandebie.
Y Parch. J. Westbury Jones, B.A., 39 Marquess Road, Canonbury (2 gopi).
Y Parch. J. W. Wynne Jones, M.A., Y Ficerdy, Caernarfon.
Y Parch. Athro Joseph Jones, M.A., B.D., y Coleg Coffadwriaethol, Aberhonddu.
Mr. Kenrick Jones, Fulham Road, Chelsea
Mr. Lewis Jones, 114 Bedford Street, Lerpwl.
Mr. L. D. Jones (Llew Tegid), Bangor.
Mrs. Mary Jones, Maelarfryn, Heolgerrig, Merthyr Tydfyl.
Mr. M. Pennant Jones, Hafod y Dre, Pinner.
Mr. O. W. Jones, 10 Snowdon Street, Penygroes.
Mr. Robert Jones, Ithelfryn, Y Rhyl.
Mr. R. O. Jones, 18 Manton Road, Lerpwl.
Mr. R. O. Jones, 24 Northampton Park, Canonbury.
Y Parch. R. Sirhowy Jones, 9 Hardy Road, Blackheath.
Mrs. R. P. Jones, 34 Marquess Road, Canonbury.

Y Parch. R. W. Jones, 10 Snowdon Street, Penygroes (9 gopi)
Miss S. Jones, 189 Lavender Hill, Clapham Common.
Y Parch. Samuel Jones, Brynmawr.
Mr. Thomas Jones, Y.H., Brynmelyn, Gwrecsam.
Mr. Thomas Jones (Cynhaiarn), Cyfreithiwr, Porthmadog (2 gopi).
Mr. Thomas Jones, 15 Hill Street, Knightsbridge (2 gopi).
Mr. Thomas Jones, Y Genhadaeth Ddinesig, Llundain.
Yr Athro Thomas Jones, M.A., Anwylfan, East Kilbride.
Mr. Tom Jones (Darenog), Penydarren, Merthyr Tydfyl.
Mr. Tom Jones (Telorydd Taf), Heolgerrig, Merthyr Tydfyl.
Mr. T. Carno Jones, Llangollen.
Y Parch. T. F. Jones, 40 Springwell Avenue, Harlesden.
Mr. Tudor Jones, 9 Cloncurry Street, Llundain.
Y Parch. Volander Jones, Llanymddyfri.
Mr. Watkin Jones, 60 Hereford Road, Kensington.
Mr. W. Jones, 5 Hyman's Green, Lerpwl.
Mr. W. Foulkes Jones, Y.H., Colomendy, Corwen.
Yr Athro W. Lewis Jones. M.A., Coleg y Gogledd, Bangor.
Mr. W. R. Jones (Pelidros), Merthyr Tydfyl.
Y Parch. T. Knoyle, B.A., 37 Dewhurst Road, West Kensington Park
Mr. B. Morris Lewis, 24 Marney Road, Clapham Common.
Y Parch. D. Lewis, Elim, Tredegar,
Mr D. W. Lewis, F.T.S.C., Brynaman.
Mr. Henry Lewis, Brynhyfryd, Conwy.
Y Parch. J. Lewis, Hebron, Aberaman.
Y Parch. J. Gomer Lewis, D.D., Abertawe.
Mr. J. Herbert Lewis, A.S., Penucha, Caerwys.
Mr. J. T. Lewis, 54 Chancery Lane, Llundain (2 gopi).
Y Parch. Peter Hugh Lewis, A.T.S., Llanfihangel-ar-arth, Sir Gaerfyrddin.
Mr. T. O. Lewis, 1 Tedworth Gardens, Chelsea.
Mr. W. Lewis (Gwilym Alma), Gadlys, Aberdâr.
Mr. W, Lewis, 15 Brynmorlais, Penydarren, Merthyr Tydfyl.
Mr. W. Lewis, Abergeirw Bach, Llanfachreth.
Dr. E. Lewys-Lloyd, Gothic House, Towyn, Meirionydd.
Llifon, Bryn, Corwen.
Mr. Edward Lloyd, Y.H., 31 Falkner Square, Lerpwl (3 chopi)
Mr. H. Lloyd (Ab Hevin), Aberdâr.
Yr Athro J. Edward Lloyd, M.A., Gwaen Deg, Bangor.
Y Parch. J. Miles, Aberystwyth.

Y Parch. Aaron Morgan, Blaen-y-ffos, Penfro.
Mr. E. Morgan (Alaw Tydvil), Merthyr Tydfyl.
Mr. F. Ithel Morgan, Whitehall House, Charing Cross.
Y Parch. Herbert Morgan, B.A., 13 Nassington Road, Hampstead.
Y Parch. T. Morgan, Awelfa, Skiwen.
Mr. J. Mostyn, Ysgol y Cyngor, Llanelltyd.
Mr. D. Morris, 353 High Street, Penydarren, Merthyr Tydfyl.
Mr. D. P. Morris, 10 Princes Street, Y Rhyl.
Mr. E. B. Morris (Myfyr Teifi), Weekly Post, Aberdâr.
Mr. J. Alban Morris, 33 Belle Vue Street, Abertawe.
Mr. T. E. Morris, M.A., LI.M., 8 Fig Tree Court, The Temple, Llundain.
Y Parch. Thomas Nicholson, 89 Brondesbury Road, Kilburn.
Y Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog.
Y Parch. D. Oliver, D.D., Treffynnon.
Y Parch. D. Oliver, 12 Landseer Road, Bow.
Y Parch. Edward Owen, B.A., Bontnewydd, Caernarfon.
Mr. Edward Owen, 2 Bridge Street, Dolgellau.
Y Parch. E. T. Owen, 80n Queen's Road, Battersea.
Mr. E. Vaughan Owen, 19 Nevill Street, Y Fenni.
Mr. Goronwy Owen, B.A., 37 Albion Street, Islington.
Mr. Hugh Owen, C.S., Llandudno Junction (4 copi).
Mr. John Owen, 5 Mount View Road, Stroud Green.
Mr. John Owen, 40 King's Road, Chelsea..
Mr. J. R. Owen, Y.H., Aelygarth, Porthmadog (2 gopi).
Mr. Morris Owen (Isaled), Yr Erw, Caernarfon.
Mr. O. Llewelyn Owen, Talysarn.
Y Parch. O. Lloyd Owen, 82 Whetstone Lane, Birkenhead.
Dr. Robert Owen, Bodnant, Penygroes.
Y Parch. R. W. Lloyd Owen (Mathafarn), Ficerdy Aberannell, Y Garth.
Mr. Tom Owen, Cerrig y Drudion, Corwen (6 chopi).
Mr. T. J. Owens, 21 Beaconsfield Road, Southall.
Mr. W. R. Owen, 69 Canning Street, Lerpwl.
Mr. A. Ivor Parry, Cyfreithiwr, Pwllheli.
Mr. E. T. Parry, 9 Stratford Road, Kensington.
Y Parch. Griffith Parry, Llanbadarn, Aberystwyth.
Mr. John Parry, Y.H., Glan Tegid, Y Bala.
Y Parch. J. Hywel Parry, Llansamlet.
Mr. W. J. Parry, Y.H., Coetmor Hall, Bethesda.
Mr. J. M. Peate, King's Cross Road, Llundain (2 gopi).

Pedr Hir, 21 Wadham Road, Bootle.
Pedrog, 30 Stanley Street, Fairfield, Lerpwl (2 gopi).
Y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymní.
Mr. E. Phillips, 9 Sloane Street, Chelsea
Y Parch. J. Tegryn Phillips, Hebron, Penfro.
Mr. Sam Phillips, Cavendish Buildings, Oxford Street, Llundain.
Mr. W. Phillips, "Bryn Taf," Gwaelod-y-Garth, Caerdydd.
Mr. Evan Pierce, Pandy Bach, Dolgellau.
Mr. J. Pierce, Bodnant, Penygroes.
Mr. R. Pierce-Jones, Bodafon, Porthaethwy.
Y Parch T. Mordaf Pierce, Llanidloes.
Yr Athro T. Powell, M.A., Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
Mr. W. Powell, Saddler, Penydarren, Merthyr Tydfyl.
Syr William Henry Preese, K.C.B., F.R.S., Penrhos, Caernarfon.
Mr. Evan Price, "Fronalchen," Muswell Hill.
Mr. E. Price (Cynog). Town Hall, Merthyr Tydfyl.
Mr. Griffith Price, Cors-y-garnedd, Llanfachreth.
Mr. John Price, 23 Wood Street, Westminster.
Mr. Morgan Price, Coleg Bala-Bangor.
Mr. Rice Price, Abereden, Y Ganllwyd (2 gopi).
Mr. Thomas Price, Bryncoch, Llanfachreth.
Mr. W. Price, 93 Cambridge Gardens, Paddington.
Mr Griffith Pritchard, Penygroes.
Mr. L. J. Pritchard, Menai Lodge, Wellesby Rd., Chiswick.
Dr. Owen Pritchard, 41 Gloucester Square, Hyde Park.
Mr. R. W. Pritchard, 180 Uxbridge Road, Shepherd's Bush.
Mr. Edgar L. Probert, Clydach Villa, Ton, Cwm Rhondda.
Y Parch. Brifathro L. Probert, D.D, Coleg Bala-Bangor.
Mr. R. Protheroe, 74 Shepperton Road, Clapton.
Y Parch. S. E. Prydderch, 57 Sudbourne Road, Brixton (2 gopi).
Mrs. Pugh, Brynllinos, Y Brithdir, Dolgellau.
Miss Pugh, Doluwchafon, Llanfachreth.
Mr. E. P. Pugh, 37 Kelvin Grove, Lerpwl.
Mr. Meurig Pugh, 20 Redburn Street, Chelsea.
Mr. W. Pugh, 3 Calabria Road, Islington.
Mr. Hywel Puw, Tyddyn Bach, Llanfachreth.
Mrs. Rees, Magnott Street, Llundain.
Mr. Arthur Ll. Rees, Qu'appelle, Canada.
Mr. B. Rees, 3 Carthusian Street, Llundain (2 gopi).
Mr. Daniel Rees, The Cottage, St. Paul's Cray.
Y Parch. D. Rees, Y.H., Ty Calch, Môn.
Mr. D. W. Rees, 53 Swansea Road, Merthyr Tydfyl.

Mr. E. A. Rees, 13 Meath Street, Battersea Park.
Mr. E. W. Rees, Technical Institute, Caergybi.
Y Parch. Gwilym S. Rees, B.A., Llandyssul.
Mr. J. Rees (Glan Cynon), Aberdâr.
Miss M. L. Rees, 13 Meath Street, Battersea Park.
Mr. Richard Rees (Maldwyn), Y.H., C.S., Machynlleth.
Mr. Rowland Rees, 27 Streatly Road, Kilburn.
Y Parch. Athro T. Rees, M.A., Y Coleg Coffadwriaethol,
Aberhonddu.
Y Parch. T. Rees, Sirhowy.
Y Parch. T. Mardy Rees, 44 Markham Square, Chelsea.
Mr. William Rees, Tynymynydd, Llanfachreth.
Mr. Llywarch Reynolds, B.A., Old Church Place, Merthyr
Tydfyl.
Mr. D. Rhys, B.A., 6 Plump Court, Temple, Llundain.
Mr. Ernest Rhys,
Derwen," West Hampstead.
Syr John Rhys, M.A., D.Lit., Prifathro Coleg yr Iesu,
Rhydychen.
Y Parch. Athro T. Rhys, B.A., Coleg Bala-Bangor.
Y Parch. D. Rhydderch, B.A., Llanymddyfri.
Mr. J. Rice, 71 Anson Road, Llundain.
Mr. D. Richards, 4 Park Walk, Chelsea.
Mr. D. Richards, 21 Sutherland Terrace, Pimlico.
Mr. D. M. Richards (Myfyr Dar), Y Wenallt, Aberdâr.
Y Parch. J. Richards, Bethel, Arfon.
Mr. J. Richards, 20 Redburn Street, Chelsea (3 chopi).
Mr. J. Richards, 4 Gallia Road, Llundain.
Y Parch. R. Richards, Belle View Terrace, Y Rhyl.
Mr. Ellis Roberts, Cyfreithiwr, Llanfyllin.
Mr. F. Roberts, 51 Ashbourne Road, Lerpwl.
Mr. H. P. Roberts, Y Clwb Cymreig, Llundain.
Y Barnwr J. Bryn Roberts, Bryn Adda, Bangor (3 chopi).
Syr J. Herbert Roberts, Barwnig, A.S., Bryngwenallt,
Abergele (4 copi).
Mr. J. H. Roberts, "Angorfa," Casnewydd.
Y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), Porthmadog.
Mr. Lewis H. Roberts, Plas Hendre, Aberystwyth.
Mr. L. J. Roberts, M.A., Arolygydd Ysgolion, Tegvan, Y Rhyl
Y Parch. Ll. Bryniog Roberts, Caernarfon.
Mr. O. Roberts, Y Llythyrdy, Penygroes.
Y Parch. O. L. Roberts, 7 Hampstead Road, Lerpwl (4 copi).
Mr. O. P. Roberts, 96 Mulgrave Street, Lerpwl.
Mr. Richard Roberts, Cyfreithiwr, Pwllheli (3 chopi).
Y Parch. R. Silyn Roberts, "Afallon," Blaenau Ffestiniog.
Y Parch. Samuel Roberts, Llanbrynmair.

Y Parch. T. Roberts, Yr Wyddgrug.
Mr. T. Roberts, Brynhyfryd, Abertawe.
Mr. T. C. Roberts, 109 Ashbourne Road, Lerpwl.
Mr. W. P. Roberts, 94 Woodvale, Manor Oak (3 chopi).
Mr. A. E. Rowlands, Iffley Road, Hammersmith.
Mr. J. Rowland, Y Trysorlys, Llundain.
Mr T. Rowlands, 32 Abbeville Road, Clapham Park.
Mr. T. J. Rowlands, Cyfreithiwr, 21 Spring Garden, Manchester
Mr. D. Samuel (Dewi o Geredigion), M.A., Yr Ysgol Sir, Aberystwyth.
Y Parch. T. Shankland, Llyfrgellydd Cymreig Coleg y Gogledd, Bangor.
Mr. Robert Stephen, M.A., Penygroes.
Y Parch. T. Stephens, B.A., The Manse, New Malden.
Y Parch. B. Thomas, Harlesden.
Y Parch. C. Tawelfryn Thomas, Y Groeswen (3 chopi).
Mr. D. Thomas, 7 Charter House Square, Llundain.
Mr. D. Thomas, 11 Finsbury Street, Llundain.
Mr. David Thomas, Y Coleg Coffadwriaethol, Aberhonddu.
Mr. D. J. Thomas, 112 Gower Street, Llundain.
Dr. D. J. Thomas, M.O.H., Acton.
Dr. D. L. Thomas, M.O.H., 23 Bromley Street, Stepney.
Mr. D. Rowland Thomas, The National Liberal Club, Llundain.
Mr. Dewi Thomas, Secretary's Office, Euston Station, Llundain.
Mr. E. Thomas, 84 Peelhouse Lane, Widnes.
Miss G. Thomas, 7 Queen Victoria Street, Llundain.
Mr. G. Caradog Thomas, 88 Moseley Street, Manchester.
Mr. Howel Thomas, Y Bwrdd Llywodraeth Leol, Llundain (2 gopi).
Y Parch. John Thomas, Soar, Merthyr Tydfyl.
Mr. James Thomas, 7 Alexandra Terrace, Towyn, Merthyr Tydfyl.
Mr. J. B. Thomas, 9 Sloane Street, Chelsea.
Mr. J. E. Thomas, 19 Salisbury Mansions, Harringay.
Mr. Josiah Thomas, Y.H., Rutherglen, West Derby (8 copi)
Y Parch. Keinion Thomas, Y Fronheulog, Porthaethwy.
Y Parch. Owen Thomas, M.A., 53 Dunsmure Road, Stamford Hill (4 copi).
Mr. P. H. Thomas, I.S.O., Rusham Gate, Balham. (3 copi)
Y Parch. R. Thomas, Glandŵr, Abertawe.
Mr. R. Grice Thomas, 3 Dallin Road, Plumstead.

Miss S. Thomas, 310 Earl's Court Road, Kensington.
Mrs. Sarah Thomas, Glasgoed, I.lanfachreth.
Mr. Thomas Thomas, 81 Twyn'rodyn, Merthyr Tydfyl.
Y Parch. T. E. Thomas, Coepdoeth.
Dr. T. W. Thomas, Bryn Derwen, Caerffili.
Y Parch. W. Thomas, Memorial Hall, Llundain.
Mr. W. Melhuish Thomas, Y Clwb Cymreig, Llundain.
Y Parch. D. E. Walters, M.A., B.D., (Eurof), Merthyr Tydfyl
Mr. Philip Walters, 1 Summer Terrace, South Kensington (2 gopi).
Mr. Abraham Watkins (Myfyr Brychan), Hirwaen, Aberdâr.
Mr. Harry Watkins, 6 Brief Street, Llundain.
Miss Williams, Southlands, Lerpwl.
Miss Williams, Queen's Gate, Llundain
Y Parch. Crwys Williams, "Voel," Brynmawr.
Mr. D. Williams, Scotland Yard, Llundain.
Y Parch. D. D. Williams, 63 Cecil Street, Manchester.
Y Parch. D. H. Williams, M.A., Y Barry.
Mr. E. Ogwen Williams, F.R.G.S., Aberdâr.
Mr. G. O. Williams, B.A., Yr Ysgol Sir, Penybont-ar-ogwy.
Mr. H. Williams, Y Clwb Cymreig, Llundain.
Y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen.
Yr Athro Ifor Williams, B.A., Tre'rgarth, Bangor.
Mr. Isaac Williams, 27 Gridlers Road, West Kensington Park
Syr John Williams, Barwnig, Plas Llansteffan.
Y Parch. J. Williams, Towyn, Meirionydd.
Mr. J. Williams, Ysgol y Waen Wenn, Abertawe.
Mr. J. Williams, Ysgol y Cyngor, Llangoed.
Mr. J. Williams, "Gwynfa," Lerpwl.
Mr. J. Williams, Jamaica Road, Bermondsey.
Mr. J. Ellis Williams, Coleg Bala-Bangor.
Mr. J. H. Williams, Tyddyn y Bwlch, Y Ganllwyd.
Y Parch. J. J. Williams, Pentre, Cwm Rhondda,
Mr. J. Jay Williams, Raphael House, Moorfields, Llundain (3 chopi).
Y Parch. J. Lewis Williams, M.A., B.Sc., 12 Alroy Road, Lerpwl.
Y Parch. J. Lloyd Williams, B.A., Dinbych y Pysgod.
Mr. Joseph Williams, 6 Allen Road, Stoke, Newington.
Mr. M. D. Williams, 7 Regency Street, Westminster.
Mr. O. D. Williams, 15 Park Road, Battersea.
Mr. Peter Williams, Y.H., Penygarth, Brymbo (2 gopi).
Mr. P. M. Williams (Pedr Mostyn). Y Rhyll.
Mr. Philip Williams, 310 Earls Court Road, Kensington (2 gopi)

Mr. Richard Williams, "Bod Gwilym," Clapham Park.
Mr. Richard Williams (Croesfryn), Penygroes (3 chopi).
Y Parch. R. Williams, M.A., Y Ficerdy, Llandeilo.
Mr. R. Williams, Confectioner, Prestatyn.
Y Parch. Robert Williams, B.A., Y Rheithiordy, Llanbedr, Talycafn.
Y Parch. R. A. Williams (Berw), Y Waenfawr, Caernarfon.
Mr. R. Môn Williams, Caergybi.
Y Parch. R. P. Williams, Caergybi.
Y Parch. R. Peris Williams, Gwrecsam.
Y Parch. T. Williams, Capel Helyg, Chwilog.
Yr Athro T. Hudson Williams, M.A., Coleg y Gogledd, Bangor
Syr T. Marchant Williams, Y.H., Taff House, Caerdydd.
Y Parch. W. Cynwyd Williams, Llanrwst.
Mr. W. G. Williams, 27 Staverton Road, Brondesbury Park.
Mr. W. J. Williams, 67 Crescent Lane, Clapham.
Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., 135 Church Street, Chelsea (2 gopi).
Mr. W. P. Williams, "Cae'ronen," Bangor.
Mr. W. Prydderch Williams, "Myfyrion," Isleworth.
Mr. W. A. Willington, "Derwen," Hanover Road, Kilburn.





Evans, Sons & Foulkes, Argraffwyr, Lerpwl.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.