Neidio i'r cynnwys

Glalanha dy Eglwys, Iesu mawr

Oddi ar Wicidestun
Oruchaf Iôr y nef Glalanha dy Eglwys, Iesu mawr

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)


wedi'i gyfieithu gan anhysbys
O! Frenin nef a daear lawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

314[1] Gweddi am lanhad yr Eglwys.
M.C.

1 GLALANHA dy Eglwys, Iesu mawr—
Ei grym yw bod yn lân;
Sancteiddia'i gweddi yn ei gwaith,
A phura hi'n y tân.


2 Na chaffed bwyso ar y byd,
Nac unrhyw fraich o gnawd:
Doed yn gyfoethog, doed yn gryf,
Drwy helpu'r gwan a'r tlawd.

3 Na thynned gwychder gwag y llawr
Ei serch oddi ar y gwir;
Na chuddied addurniadau dyn
Ddwyfoldeb d'eiriau pur.

4 Heb nawdd na nerth, ond tarian ffydd
A chledd yr Ysbryd Glân,
Byth boed rhinweddau angau'r groes
O'i chylch yn fur o dân.

Howell Elvet Lewis (Elfed)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 314, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930