Gobaith a nerth i'n yw Duw hael

Oddi ar Wicidestun

Mae Gobaith a nerth i'n yw Duw hael yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Gobaith a nerth i'n yw Duw hael,
Mae help i'w gael mewn cyfwng;
Daear a mynydd, aent i'r môr,
Nid ofnaf f'angor deilwng.


Y mae yr Arglwydd gyda ni,
Iôr anifeirif luoedd;
Y mae Duw Iago yn ein plaid,
Yn help wrth raid o'r nefoedd.