Gofala Duw a Thad Pob Dawn

Oddi ar Wicidestun

Mae Gofala Duw a Thad pob dawn yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Gofala Duw a Thad pob dawn
yn dyner iawn amdanom:
mae’n tai yn llawn o’i roddion rhad,
O boed ei gariad ynom.


Y cynnar law a’r tyner wlith,
diferant fendith unwedd;
y ddaear, rhydd ei ffrwythau da,
a’r haul, cyfranna’i rinwedd.


Am ffrwythau hael y flwyddyn hon
a’i mawrion drugareddau
moliannwn enw Duw bob dydd
gan iawn ddefnyddio’i ddoniau.