Golchwyd Magdalen yn ddisglair
Gwedd
| ← Deuwch, hil syrthiedig Adda | Golchwyd Magdalen yn ddisglair gan William Morris (Gwilym Ddu o Fôn) |
A oes gobaith am achubiaeth → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
308[1] Ffynnon lawn o Rinwedd.
87. 87. D.
1 GOLCHWYD Magdalen yn ddisglair,
A Manasse ddu yn wyn,
Yn y ffynnon ddaeth o galon
Iesu ar Galfaria fryn:
Pwy a ŵyr na olchir finnau?
Pwy a ŵyr na byddaf byw?
Ffynnon rasol pen Calfaria,
Llawn o rinwedd dwyfol yw.
William Morris (Gwilym Ddu o Fôn)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 308, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930