Neidio i'r cynnwys

Goleuni ac anfeidrol rym

Oddi ar Wicidestun
Disgynned y sanctaidd dywalltiad Disgynned y sanctaidd dywalltiad

gan William Williams, Pantycelyn

Mor gu, O Arglwydd, gennyf fi
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

274[1] Nerth trwy'r Gair.
M. C.

1 GOLEUNI ac anfeidrol rym
Yw hyfryd eiriau'r nen;
Pob sillaf a ddywedodd Ef
Sydd siŵr o ddod i ben.

2 Fe archodd imi dorri'r fraich,
A thynnu'r llygad de ;
Caf innau allu, mewn iawn bryd,
I wneud a archodd E'.

3 Mi ymddiriedaf yn ei air,
Er cymaint yw fy mai;
Ac fe derfynwyd dydd ac awr
Pan gaffwy' 'ngwir ryddhau.

4 Mi orfoleddaf draw o bell,
Wrth feddwl am y dydd
Pan ddêl addewid fawr ei grym
Â'm henaid gwan yn rhydd.

William Williams, Pantycelyn



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 274, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930