Gorhoffedd (Hywel ab Owain Gwynedd)

Oddi ar Wicidestun

gan Hywel ab Owain Gwynedd

Tonn wennorewyn a oelwych bet,
gwytua Ruuawn Bebyr, ben teyrnet.
Caraf trachas Lloegyr, lleudir goglet hediw,
ac yn amgant y Lliw lliwas callet.
Caraf am rotes rybuched met,
myn y dyhaet my meith gwyrysset.
Carafy theilu ae thew anhet yndi
ac wrth uot y ri rwyfaw dyhet.
Carafy morua ae mynytet
ae chaer ger y choed ae chein diret
a dolyt y dwfyr aw dyfrynnet
ae gwylein gwynnyon ae gwymp wraget.
Carafy milwyr ae aeirch hywet
ae chaoed ae chedyrn ae chyuannet.
Carafy meyssyt ae man ueillyon arnaw,
myn yd gauas faw fyryf oruolet.
Carafy brooet berint hywert
ae difeith mawrueith ae marannet.
Wy a un mab Duw, mawr a ryuet,
mor yw eilon mygyr meint y reuet.
Gwneithum a gwth gweith ardderchet
y rwg glyw Powys a glwys Wynet;
ac yar welw gann, gynnif rysset,
gorpwyf ellygdawd o alltudet.
Ny dalyaf diheu yny del ympleit,
breutwyd ae dywied a Duw ae met.
Tonn wenn orewyn a orlwych bet.


Tonn wenn orewyn, wychyr wrth dreuyt,
gyfliw ac aryen awr yd gynnyt.
Carafy morua y Meiryonnyt,
men ym bu ureich wenn yn abennyt.
Carafy eaws ar wyryaws wyr
yg kymer deu dyfyr, dyffrynt iolyt.
Arglwyt nef a llawr, gwar Gwyndodyt,
mor bell o Geri Gaer Lliwelyt.
Esgnneis ar uelyn o Uaelyenyt
hyd ynhir Reged rwg nos ymy a dyt.
Gorpwyfy kyn bwyf bet butei newyt,
tir Tegygyl, teccaf yn y eluyt.
Ked bwyfy karyadawc kerted Ouyt
gobwylle uy Nuwy uy nihenyt.
Tonn wenn orewyn, wychyr wrth dreuyt,
Kyurchaf yr dewin Gwertheuin,
gwerthuawr wrth y uod yn urenhin.
Kyssylltu canu kysseiun,
kert uolyant ual y cant Mertin;
yr gwraget ae met uy martrin,
mor hir hwyr wetawc ynt am rin.
Pennhaf oll yny gollewin
O byrth Kaer hyd Borth Ysgewin.


Un ywr vun a uyt kysseuin uolyant
Gwenlliant lliw hafin;
eil ywr llall or pall pell uy min
y wrthi y am orthorch eurin.


Gweiruyl dec uy rec uy ny geueis,
ny gauas neb om llin;
yr uy llat y a llaffneu deuuin
rym gwalaethy gwreic brawduaeth brenhin.


A Glladus wetus, wyl uebin uab wreic,
gouyneic y gwerin,
Achenaf ucheneid gyfrin.
Mi ae mawl a melyn eithin.


Moch gwelwyf am nwyf yn etein y wrthaw
ac ym llaw uy llain;
Lleucu glaer uy chwaer yn chwerthin,
ac ny chwart y gwr hi rac gortin.


Gortin mawr am dawr am daerawd
a hiraeth y ssywaeth y ssy nawd
am Nest dec, debic afallulawd,
am berw eur, beruet uymhechawd.


Am Enerys wyry ny warawd ym hoen;
ny orpo hi diweirdawd;
am Hunyt ddefnyt hyd dytbrawd,
am Hawis uy newis deuawd.


Keueisy vun dunn diwyrnawd;
keueisy dwy, handid mwy eu molawd;
keueisy deir a pheddir a phawd;
keueisy bymp o rei gwymp eu gwyngnawd;
keueisy chwech heb odech pechawd;
gwen glaer uch gwengaer yt ym daerhawd;
keueisy sseith ac ef gweith gordygnawd;
keueisy wyth yn hal pwyth peth or wawd yr geint;
ys da deint rac tauaed.