Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Salm CVII

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Geirfa


Salm CVII

TRWY droeau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadol ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur,
Ond da'i gymesur fantol?

Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyfF cler a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i fodlonrwydd.

Fe weryd wirion yn y frawd,
Rhag ynllib tafawd atgas:
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.


Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.