Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos/Pennod IV
| ← Pennod III | Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos gan Goronwy Jones, Prestatyn |
Pennod V → |
PENNOD IV.
PORTHLADD arall pwysig ydyw Leghorn. Dinas dawel, ddigyffro, ei phoblogaeth yn 120,000. Gwneir masnach led fawr yma mewn mar— mor, llin, olew, a chrwyn. Cefais beth siomedigaeth,—yr oeddwn wedi bod yn disgwyl y cawn gipolwg ar fyrdd a mwy o Leghorn Hats, ond erbyn holi, cefais mai Empoli, tref ryw ddeng milltir ar hugain oddiyno, ydyw canolfan gwneuthuriad y benwisg fyd—enwog hon. Cafodd yr enw hwn, sef y Leghorn Hat, cyn bod y march tân yn tramwy ar hyd a lled y Cyfandir, oherwydd y pryd hynny Leghorn ydoedd y porthladd drwy ba un yr oedd holl gynnyrch y rhan honno o'r wlad yn cael ei wasgaru i holl farchnadoedd y byd.
O Leghorn, aethom gyda'r trên i Pisa. Dinas henafol ar lan yr Afon Arno. Dywedir i'r Apostol Pedr lanio mewn porthladd, pwysig y pryd hynny, heb fod ymhell o'r lle hwn, pan ar ei daith i Rufain, ac y mae ar y llecyn hen Eglwys ardderchog, a godwyd yno er cof am yr amgylch— iad. Y mae llawer o gyrchu i Pisa i weld yr Eglwys Gadeiriol, ac Pisa.yn enwedig y Fedyddfaen (Baptistery), neu fel y geilw ymwelwyr hi, "The great Echo Dome." Y mae y gromen (dome) dros 60 llath o uchter, ac yn 35 llath ar ei thraws. Gwahoddir dieithriaid i sefyll o dani, ac os medrant, i ganu llinell neu ddwy.Hen Feibl
Mawr fy Mam.Cefais gan fy mhriod fentro ar y gorchwyl, a chanodd yn fwyn "Hen Feibl Mawr fy Mam," a chyda ei bod wedi dechreu, clywem geinciau perseiniol uwchben, ac o'r bron na ddychmygem fod yno liaws o lu nefol yn y Gromen wedi cipio yr alaw o'i genau, gan ddyblu a threblu fel y medr Cymry ac angylion. Nid ar frys yr anghofiaf y gyngerdd ryfedd honno, a gwelwyd arwyddion amlwg fod ereill yn y gynulleidfa, estroniaid hollol i ni, o dan deimladau dwys. Nid oes dim, wedi'r cwbl, yn debyg i hen alawon tyner a phruddaidd hen "Gymru lân, gwlad y gân," am gyffwrdd â thannau tyneraf y galon ddynol.
Ond rhyfeddod mwyaf yr ardal hon, yn ddiau, ydyw y Tŵr ar Ogwydd (The Leaning Tower of Pisa). Dechreuwyd adeiladu hwn yn 1174, a gorffenwyd yn 1350, felly cymerwyd yn agos i ddau can mlynedd i orffen y gwaith. Y maeY Twr ar
ei Ogwydd.oddeutu tri ugain llath o uchter, a gogwydda dros bedair llath, hynny ydyw, y mae ei gopa yn nes allan dair troedfedd ar ddeg na'i sylfaen, ac y mae wedi bod yn ddirgelwch i adeiladwyr ac arch-adeiladwyr yr oesau pa fodd y cafodd ei adeiladu fel hyn, a pha fodd nad yw wedi dymchwel ers llawer dydd. Y mae ynddo saith o glychau mawr, un ohonynt yn pwyso chwe tunnell. Dylwn egluro mai clochdy ydyw hwn yn perthyn i'r Eglwys Gadeiriol, er cryn bellter oddiwrthi. Felly y mae yn fynych yn Itali,— y clochdy ar wahan i'r Eglwys y perthyn iddi. Felly hefyd yn Henllan, Sir Ddinbych.
O Pisa aethom i Fflorens, pellter o 50 milltir. Fflorens, "dinas y blodau," y ddinas brydferth," "the fairest city in the world." Y decaf o holl ddinasoedd y byd, ac â hyn y cytuna pawb a'i gwel. Saif yn Nyffryn yr Afon Arno,—yr afon fawr yn llifo yn hamddenol drwy ei chanol. Saith pont ynFflorens.uno yr ochr dde â'r un orllewinol i'r ddinas, pedair ohonynt yn hen iawn, ac o ddyddordeb mawr, yn enwedig un ohonynt, sef y Ponte Vecchio (yr Hen Bont). Ar ganllawiau hon y mae ugeiniau o weithdai a masnachdai bychain, lle y gwneir ac y gwerthir pob math o dlysau, aur, arian, a phres, ac yn enwedig mân—waith mosenaidd (mosaic work).
Y mae y fath gyflawnder o wrthrychau dyddorol yn Fflorens fel mai nid hawdd gwybod pa beth i'w ddethol i sylwi arnynt mewn gofod gyfyngedig fel hon. Yma y gwelir prif orchestion Giotto a Michael Angelo. Yma y coffheir ni beunydd o athrylith Dante a gwrolder Savonarola. Un o'r adeiladau amlycaf a phwysicaf ydyw y Duomo, sef Eglwys Gadeiriol Fflorens. Y mae ei chopa,—117 o lathenni o uchter,—yn ganolbwynt y ddinas, ac i'w ganfod o bob cwrr ohoni. Dechreuwyd adeiladu yr Eglwys enwog hon yn y flwyddyn 1298, ac nis gellir dweyd ei bod wedi ei gorffen eto, gan fod rhyw ychwanegiadau parhaus yn mynd ymlaen ynddi ac arni.
Gerllaw iddi saif y clochdy, sef Tŵr Giotto. Fe ddywed beirniaid o fri mai hwn yw yr engraifft perffeithiaf o adeiladwaith yn yr holl fyd,—Clochdy yr Eglwys Twr Giotto.Gadeiriol ydyw. Y mae yn 97 llath o uchter. Gelwir ef yn Dŵr Giotto (The Tower of Giotto), am mai y gŵr enwog hwnnw a'i cynllun— iodd ac a arolygodd, gan mwyaf, y gorchwyl o'i adeiladu. Dechreuwyd arno yn y flwyddyn 1334, a chymerodd 53 mlynedd i'w orffen.
Hanes rhyfedd yw hanes Giotto,—y mae wedi bod yn siampl ac yn symbyliad i aml fachgen talentog a ddaeth ar ei ol. Mab ydoedd i amaethwr bychan a drigai mewn dyffryn tlws heb fod ymhell o Fflorens. Un diwrnod, pan ydoedd y bachgen yn gwylio praidd ei dad, difyrrai ei hun drwy dynnu darlun o un o'r defaid ar ddarn o graig gerllaw. Pwy ddigwyddodd ddyfod heibio yn ddiarwybod iddo, ond yr arlunydd enwog Cimabue. Synnodd y gŵr mawr pan ganfu y fath arwyddion o athrylith yn y llencyn tlawd.
Trefnodd i'w gael yn ddisgybl iddo ei hun, a chyfryw fu ei gynnydd fel yr aeth yn ebrwydd son am dano drwy yr holl fyd gwareiddiedig. Pan ddeall odd y Pab Boniface am ei enwogrwydd, anfonodd am dano i Rufain. Pan ddaeth y gennad at Giotto, dymunodd gael rhyw brawf mai efe yn wir ydoedd Giotto. Ar amrant, cymerodd y llanc ddalen wen, a chydag un cyffyrddiad o'i bwyntil, gwnaeth O Giotto gylch perffaith grwn, ac y mae yn ddywediad cyffredin gan werin Fflorens hyd y dydd hwn,— "Mor grwn ag O Giotto."
Yn gyfagos i'r Tŵr y mae heol gul o'r enw "Via de Morte," hynny yw, Heol y Marw." Ers amser maith yn ol, gorfodwyd boneddiges ieuanc gan ei thad i briodi gŵr oedd gas ganddi. Ar derfyn y gwasanaeth priodasol, syrthiodd y briodasferch i lewyg trwm. Tybiodd ei pherthynasau ei bod wedi marw, a chladdwyd hi. Ond Heol y Marw." ymhen ychydig oriau deffrodd y ferch, a llwyddodd i ddiane o'r fedd-gell. Aeth tua'i chartref ar hyd yr heol hon,—am hynny y gelwir hi hyd heddyw "Heol y Marw. Cymaint ydoedd dychryn y tad a'i fab- yng-nghyfraith fel y gwrthodasant roddi derbyniad iddi, gan, dybied mai drychiolaeth ydoedd. Yna aeth y ferch i annedd ei hen gariad, yr hwn na fynnai ei thad ei gydnabod. Derbyniodd ef hi yn llawen, a chan fod y cofrestriad o'i chladdedigaeth eisoes wedi dirymu ei phriodas gyntaf, nid oedd rhwystr iddi ymbriodi â'i chariad cyntaf, ac felly y bu, a chawsant,—yn ol yr hanes,—oes faith a dedwydd.