Neidio i'r cynnwys

Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos/Pennod V

Oddi ar Wicidestun
Pennod IV Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos

gan Goronwy Jones, Prestatyn

Pennod VI

PENNOD V.

YCHYDIG yn nes ymlaen na'r Eglwys Gadeiriol, i gyfeiriad yr afon, y mae canolfan prysurdeb a masnach Fflorens yn y presennol, fel y mae hefyd yn ganolbwynt ei hanes a'i helyntion, ac, yn wir, i fesur mawr, Itali yn y gorffennol, sef y "Piazza della Signoria." Gair Italaeg am betryal (square) ydyw Piazza. Fflorens, fel dinasoedd ereill Itali, wedi ei ffurfio yn squares,—neu Piazzas; ac ym mhob Piazza o'r bron fe geir hen adeilad neu adeiladau â hanes iddynt. Yr hynotaf yn Fflorens ydyw y Piazza della Signoria. Yma y mae y llysoedd a'r Swyddfeydd cyhoeddus, yma yr ymgasgl y torfeydd ar adegau o gynhyrfiadau gwladol. Dyma'r fan y cyflawnwyd aml i drychineb alaethus a fydd yn anfri ar enw y ddinas ddyddiau'r ddaear.

Yma y rhoddwyd i farwolaeth y mynach duwiol, a'r pregethwr hyawdl, Savonarola. Ar yr ochr ddwyreiniol i'r Piazza y mae yr adeilad a elwir Palazzo Vecchio, hynny yw, Hen Balas, yn yr hwn y mae swyddfeydd y Llywodraeth. GwelaisSavonarola.yno y gell ym mha un y carcharwyd Savonarola a gwroniaid ereill. Danghosir yma hefyd gapel bychan lle y bu Savonarola a'i ddau gyfaill yn cyfranogi o'r Sacrament Santaidd cyn eu harwain i'r stanc, wrth ba un y llosgwyd hwy yng ngwydd ac yn sŵn crochlefain y dorf fileinig, ac wedi hynny y bwriwyd eu llwch yn ddiystyrllyd i ddyfroedd yr Afon Arno. Trosedd mawr Savonarola yng ngolwg yr awdurdodau ydoedd pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb,— ymladd dros egwyddorion rhyddid a chyfiawnder. Erlid arwyr y gwir a fynn y byd ym mhob oes, ac ym mhob cylch. Dyna sydd wir heddyw; os mynn dyn sefyll i fyny dros iawnder a rhyddid, cenfigen ac erledigaeth fydd ei ran. Cyn pen ychydig flynyddau ymledodd y syniadau y dadleuai Savonarola drostynt, nes peri i Rufain ei hunan grynnu hyd ei sylfaeni. Yfwyd yn helaeth o'i ysbryd, a syrthiodd ei fantell ar ysgwyddau mynach ieuanc o'r enw Martin Luther, a chyn hir torrodd gwawr y Diwygiad Protestanaidd. A phwy all ddweyd pa mor ddyledus ydym ni, yng Nghymru lonydd, i ymdrechion y dewr Savonarola bedwar can mlynedd yn ol, am y rhyddid gwladol a chrefyddol a fwynheir gennym heddyw?

Gerllaw saif y Galleria del Uffizzi, lle y ceir y casgliad rhyfeddaf a chyfoethocaf fedd y byd o ddarluniau a cherfluniau. Mewn cwrr arall i'r Piazza hwn, saif y "Loggia de Lanzi," llawn o gerfluniau godidog. Cyfrifir bwä u (arches) yr adeilad hwn yn gynllun perffaith o'r dosbarth yma o adeiladwaith. Math o neuadd agored ydyw y "Loggia," a adeiladwyd yn y flwyddyn 1376, fel man i'r Ynadon Heddwch i alw ynghyd y dinasyddion i drafod materion pwysig ar adegau neilltuol. Ni chaniata gofod i mi ymdroi yn hwy yn Fflorens, er nad wyf wedi cyffwrdd â'r filfed ran o ryfeddodau y ddinas ardderchog hon, a brofant safle uchel ei phreswylwyr ers canrifoedd lawer mewn athrylith a diwylliant.

Oddiyma aethum i gyfeiriad Rhufain, pellter o ddau can milltir, ar hyd gwlad dda odiaeth, golwg fendigedig ar y gwinllanoedd, a'r perllannau oranges, lemons, olives, &c. Pob troedfedd o'r tir yn cael ei amaethu fel gardd, y meusydd oll yn agored heb glawdd na therfyn iddynt. Cedwir a phorthir yr anifeiliaid, gan mwyaf, mewn corau. Gwelem, weithiau, ddeadell o ddefaid neu Gwlad dda Odiaeth. geifr yn porri yn y maes, ac yn cael eu gwylio gan blant; bryd arall, ychydig wartheg mewn congl o'r maes, a'u perchennog ar gefn ei asyn yn eu gwylio, ac yn dal gwlaw-len fawr uwch ei ben yn gysgod rhag pelydrau llosgawl yr haul. Ychain ddefnyddir, gan mwyaf, i drin y tir, i droi a llyfnu, ac i wneud pob trym-waith; anifeiliaid mawr a chryfion, gwyn eu lliw, fel rheol, ond mewn rhai ardaloedd yn llwydion, cyffelyb i liw llygoden.

Ceffylau bychain, meinion, a gwael yr olwg, ond hynod wydn. Digon o harness a thipyn dros ben, ac wedi eu gorchuddio â rubannau o bob lliw. Cer— bydau bychain prydferth, ac eir i draul a thrafferth fawr,—ie, gan y werin,—i'w haddurno, ac yn ben ar y cwbl, ffrewyll anferth,—mwy o chwip nag o gerbyd,—a mwy o harness nag o farch. Swynol iawn ydyw y daith o Fflorens i Rufain, Meirch y Wlad. a chyda theimladau dwys yr agoshaem at "Y Ddinas Dragwyddol"—The Eternal City. Meddiennir yr ymwelydd mwyaf difeddwl a gwamal â graddau o brudd-der yn yr olwg ar yr olion fyrdd a welir o'i mawredd a'i chadernid yn y dyddiau gynt; i'r meddylgar, y mae yn llethol.

Y mae rhyw ogoniant yn ei hadfeilion, a swyn hyd yn oed yn yr olwg ar weddillion eu dinistr Nid oedd fy arhosiad yno ond byrr,—rhy fyrr o lawer. Prin y cefais hamdden i ad-ennill fy hunan-feddiant, ac ymryddhau oddiwrth effeithiau dieithrol yr olwg gyntaf ar yr hen ddinas, a rhyfyg ynnof fyddai tybio y gallaf roddi ond drychfeddwl egwan o'r hyn ydyw Rhufain i'r rhai na fuont yno. Rhaid boddloni ar geisio rhoddi hanes syml o rai pethau a mannau a welais.


CERBYD GWERIN "ITALIA DLOS."


Nodiadau

[golygu]