Neidio i'r cynnwys

Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos/Pennod VII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VI Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos

gan Goronwy Jones, Prestatyn

Pennod VIII

PENNOD VII.

MAE yng nghymdogaeth Rhufain oddeutu deugain o Catacombs, hynny yw, mynwentydd tan- ddaearol. Fe ddywedir y mesurant gyda'u gilydd 600 o aceri, a phe byddai y llwybrau sydd ynddynt yn un llinell, y byddent dros 545 o filltiroedd o hyd; a chofier eu bod oll o dan y ddaear. Y maeY Mynwentydd tan-ddaearol. y llwybrau y naill uwchben y llall; y rhai uchaf ugain troedfedd o ddyfnder, a'r rhai isaf hanner can troedfedd. Pe meddai y llwybrau hyn dafodau, mynegent bethau rhyfedd ac ofnadwy am y rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, rhai a grwydrasant mewn anialwch, mynyddoedd, ac ogofeydd y ddaear.

Yn y mynwentydd tan-ddaearol hyn y bu cannoedd o'r Cristionogion boreuol yn ymguddio rhag llid a chynddaredd eu herlidwyr, yn enwedig o ddyddiau Nero greulon hyd y drydedd ganrif. Mynych y cyfodai y cwestiwn yn fy meddwl ynghanol y fath adgofion byw o'r hyn y rhaid eu bod wedi ei ddioddef, —"Pa wedd y daliem ni, broffeswyr crefydd yn yr ugeinfed ganrif, o dan y fath erledigaethau tanllyd, pe goddiweddent ni ?"

Yr oedd yr hen Rufeinwyr am bopeth ar raddfa eang. Y mae adfeilion aml i hen ymolchfa (public baths) yn dwyn tystiolaeth i hyn. Wedi bod yn ymdroi ymysg y beddau, aethum ar fy union i gael golwg ar Ymolchfeydd Caracalla. Adeiladwyd Dwfr.y rhai hyn tua'r flwyddyn 212. Yr oedd yno le i 1,600 o bersonau i ymdrochi ar unwaith, pob math o baths,—poeth,—claiar,—oer,—plunge a shower baths. Cofiwch, 1,700 mlynedd yn ol, a dim prinder dwfr. Yn wir, y mae yn Rhufain ddigonedd o ddwfr bob amser.

Yr oedd trigolion Rhufain, y pryd hynny, ac yn wir ymhell cyn hynny, yn fyw i gwestiwn y dwfr, ie, ddwy fil a mwy o flynyddoedd yn ol, cyn bod son am Lerpwl, a Manceinion, a Birmingham, sydd beunydd yn fawr eu helynt ynghylch eu water supply. Y mae yn Rhufain heddyw liaws mawr o fountains ardderchog yn lluchio yn afradlon ffrydiau grisialaidd o ddwfr o'r bore hyd yr hwyr, a chyflenwir y rhan fwyaf o'r rhai hyn o un ffynnon, sef yr Aqua Virgo, pellter o bedair milltir ar ddeg allan o'r ddinas, drwy bibell fawr wedi ei gosod yn ddwfn yn y ddaear yn y flwyddyn c.c. 19, ac o hynny hyd yn awr yn cludo yn gyson a di-ball 13,000,000 o alwyni o ddwfr i'r ddinas bob dydd.

Y mae yn arferiad gan Babyddion defosiynol, pan ar gychwyn i daith, dalu ymweliad ag un o'r fountains,—sef y Fontana Trevi, a gyflenwir o'r ffynnon hon,— ac wedi yfed o'i dyfroedd, rhoddant ddarn o arian yn y cwpan, gan gredu y sicrha hyn iddynt daith lwyddiannus a dychweliad diogel. Y mae ffynhonellau ereill o ba rai y cyflenwir y ddinas â dwfr, a beth bynnag ydyw cwynion dinasoedd ereill yma a thraw ar hyd y byd oherwydd prinder dwfr, sicr yw fod Rhufain, o leiaf, uwchben ei digon.

Mangre ddyddorol dros ben ydyw y Fforum. Enw ydyw hwn ar adfeilion hen demlau paganaidd adeiladwyd o bryd i bryd er anrhydeddu gwahanol Ymherawdwyr a duwiau. Yr oeddynt, nid yn unig yn lleoedd i addoli y duwiau paganaidd ynddynt, ond defnyddid hwy hefyd i gynnal llysoedd barn. Er engraifft, yma y gwelir adfeilion "Caesar's Forum." Dyma yr areithle lle yr eisteddai Areithfa Cesar. Cesar i wrandaw apel yr Apostol Paul. Treuliasom awr ddedwydd ar brynhawn Saboth dan gysgod colofnau adfeiliedig areithle Cesar, gyda'r wers am y dydd yn y Maes Llafur yn Efengyl Ioan ac Esboniad Cynddylan. Pedwar oedd ohonom,—arolygwr, ysgrifennydd, trysorydd, ac athraw. Fe ddichon mai dyma yr Ysgol Sabothol Gymreig gyntaf a gynhaliwyd erioed yn Rhufain, ond digon posibl mai nid yr olaf. Cafwyd dosbarth fel hyn bob Saboth ar hyd y daith, a gwnaed casgliad bob tro, a chyflwynwyd y cyfanswm i drysorydd y Fam Ysgol ar ein dychweliad.

Digwyddais fynd heibio i Swyddfa y Feibl Gymdeithas. Dyma beth rhyfedd i feddwl am dano,


ADFEILION Y FFORUM.
Sylwer ar y tair colofn draw i'r dde, dyna safle Areithfa Cesar.


onide? Perffaith ryddid i werthu Gair Duw yn Rhufain o bob man; a mwy na hynny, Cymro, y pryd hynny, yn brif arolygwr dros y Fam Gymdeithas, sef Mr. John Thomas, brodor o Y Feibl Gymdeithas,
—Cymro eto.
Feirion. Gwelais yn y ffenestr hysbysiad fod Testamentau i'w cael ym mhob iaith. Aethum i mewn, a gofynnais am Destament Cymraeg, ond nid oedd yno y fath beth; ac er fy mawr siomedigaeth, nid oedd y Cymro ar gael ychwaith,—yr oedd wedi mynd ar daith Saboth i efengylu i'r cenhedloedd, yn ddiau.

Gerllaw y Fforum, saif Eglwys fechan o'r enw Sant Joseph. Odditani y mae hen gelloedd tywyll, aflan. Dywed hanes mai yn y celloedd hyn y carcharwyd Pedr. Yr hyn sydd ryfedd ydyw, fod, ynghanol yr aflendid a'r tywyllwch, ffrwd o ddwfr grisialaidd yn byrlymu yn ddibaidChwedl ryfedd
am Pedr.
o waelod y gell. Y traddodiad ydyw i Pedr, tra yn garcharor, orchymyn i'r dwfr ffrydio o'r graig i'r diben iddo ei gael i fedyddio y milwyr oeddynt yn ei wylied, y rhai, wedi iddo bregethu iddynt, a edifarhasant ac a gredasant, ac a fedyddiwyd Dyna'r chwedl. Hyn a wn i, ac a welais i, y mae y gell dywell yno, a'r ffrwd loew, lân, hefyd.

O, hen adeilad ardderchog!—Y Pantheon. Cysegredig i'r "Holl Dduwiau,"—dyna ei ystyr. Dyma yr unig hen adeilad yn Rhufain sydd wedi cadw ei ddechreuad. Y mae hwn yr un fath a phan yr adeil— adwyd ef, 35 c.c. Teml baganaidd ydoedd ar y cyntaf i'r Saith Seren, sef Apollo, Diana, Mercurius, Venus, Mars, Jupiter a Saturn. Cynhygiwyd lle i'r Arglwydd Iesu yn y Pantheon, Y Pantheon. ond gwrthodwyd, gydag ysgorn, gan y Cristionogion, osod delw o'u Gwaredwr yno. Yn y flwyddyn 609 daeth i feddiant y Babaeth, fel y mae ambelli addoldy Protestanaidd Ymneilltuol yn dyfod i'w meddiant yng Nghymru y dyddiau hyn. Nid oes i'r adeilad ffenestri yn y muriau, daw y goleuni oll drwy gromen ardderchog sydd yn agos i hanner can llath o uchter, ac y mae yr effaith yn brydferth tuhwnt i bob desgrifiad.

Y distawrwydd, y tawelwch, yr ymdeimlad o berffaith ddiogelwch, ac amddiffyniad rhag twrf a therfysg y byd oddiallan. Bron na ddychmygwn fod yn llanw y lle ryw ysbryd mawr diddan, yn sisial mewn llef ddistaw, fain,—" Deuwch yma bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a chwi a gewch orffwystra i'ch eneidiau." Yma y dygir gweddillion marwol enwogion Itali i orffwys mewn hedd ac anrhydedd. Y Pantheon ydyw Westminster Abbey Rhufain. Y mae yn yr hen ddinas 300 o Eglwysydd, ac i bob un ei hanes a'i thraddodiadau swynol. Rhydd hyn ryw syniad egwan am yr amrywiaeth di-dorr o destynau dyddorol y byddai yn hawdd ymhelaethu arnynt.


Y PANTHEON.


Nodiadau

[golygu]