Neidio i'r cynnwys

Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos (testun cyfansawdd)

gan Goronwy Jones, Prestatyn

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Yr Eidal
ar Wicipedia

Y TWR AR OGWYDD.

GORONWY

AR

GRWYDR:

LLYFR I.

ITALIA DLOS.



GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1916.



ANNERCH.

FEL hyn yr ysgrifenna Jerome K. Jerome pan yn cyflwyno un o'i lyfrau i'r cyhoedd,—

"One or two friends to whom I showed these papers in MS. having observed that they were not half bad,' and some of my relations having promised to buy this book if it ever came out, I feel I have no right longer to delay its issue."

Y mae yn ddyledswydd arnaf grybwyll ma fy hen gyfaill, Morris Thomas, Ysw., C.S., Corris, a'm cymhellodd gyntaf oll i gyhoeddi ychydig o hanes fy nghrwydriadau, ac i rai o'r ysgrifau hyn ymddangos yn Y Negesydd.

Ni chwanegaf.

G. J.

Prestatyn, 1909.

CYNHWYSIAD.
ITALIA DLOS.

I.—Coffadwriaeth yr Enwogion—Gallu i fwynhau—Prynnu Ffon—Cymedroldeb y Trigolion—Ymborth—Sylw Michael Jones o'r Bala—Y Foneddiges Gystuddiol—Cymro yn Rhufain—Llaeth—Halen—Tybaco—Matches— Toll a Threth

II.—Llys Gwladol—Addysg—Cerddoriaeth—Coel-Grefydd—Y Rhyw Deg a Chrefydd—Meibion a Chrefydd—Dylanwad y Babaeth

III.—Gibraltar—Cwrs y Daith—Genoa— Carreg Fedd John Roberts—Hen Wreigan y Cnau.

IV.—Pisa—Hen Feibl Mawr fy Mam—Y Tŵr ar ei Ogwydd—Fflorens—Tŵr Giotto— O Giotto—Heol y Marw

V.—Savonarola—Gwlad dda odiaeth—Meirch y Wlad

VI.—Cymraes yn Rhufain—Hyde Park Rhufain—Eglwys Sant Pedr—Bawd troed Pedr—Palas y Pab—Y Colosseum—Ffordd Appii Fforum—Pedr a Phaul—Eglwys Sant Paul

VII.—Y Mynwentydd tan-ddaearol—Dwfr— Areithfa Cesar—Y Feibl Gymdeithas— Cymro eto—Chwedl ryfedd am Pedr— Y Pantheon

VIII. Cyrraedd Naples—Y Llythyrdy—Mewn Penbleth — Bau Naples — Diwrnod Golchi—Nôd Cariad Rhyfedd—Vesuvius—Niagara

IX.—Anlladrwydd y Rhufeiniaid—Pompeii— Dinistr Pompeii—Cloddio yn adfeilion Pompeii—Tystiolaeth yr Adfeilion

X.—Sicily — Brwmstan Pobol Greulon—Trobwll — Messina — Y Dosbarth Gweithiol—Catania—Etna—Syracusa —Rhegiwm —Puteoli—Palermo—Yr Hen Grythor—Caprera—Garibaldi

DARLUNIAU.

1—Y Tŵr ar Ogwydd
2—Hen Wreigan y Cnau.
3—Cerbyd Gwerin " Italia Dlos "
4—Eglwys Sant Pedr a Phalas y Pab
5—Y Colosseum
6—Y ffordd i Appii-Fforum (Actau xxviii. 15).
8—Adfeilion y Fforum
9—Y Pantheon
10—Messina


ITALIA DLOS.

PENNOD I.

Y MAE Itali yn wlad ag iddi hanes,—hen, hen hanes. Y mae y Proffwyd Esaiah yn cyfeirio ati wrth yr enw Italia,—Es. lxvi. 19. Bu Pedr a Phaul yn ymdaith llawer ynddi. Fel un o ddeiliaid yr Ysgol Sabothol yng Nghymru, yr oedd imi ryw swyn yn y syniad o gael gweld rhai o'r mannau y buont hwy yn pregethu yr Efengyl dragwyddol ynddynt.

Y mae trigolion y wlad yn ymffrostio yn ei hanes, yn hanes ei harwyr, ei rhyfelwyr, ei Coffadwriaeth
yr Enwogion.
cherflunwyr, ei harlunwyr, ei beirdd a'i cherddorion ym mhob oes, a mawr y gofal a gymerir i gadw yn fyw eu coffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Y mae y gwahanol ddinasoedd fel pe yn ymgystadlu yn erbyn eu gilydd i sicrhau a diogelu cywreinbethau a gorchestion y celfau o oes i oes.

Pob dinas yn gyfrol fawr, pob heol yn bennod, a phob hen adeilad yn ddalen yn Gallu i
fwynhau
hanes y wlad a'i gwroniaid; ac nid rhyfedd fod Itali yn gyrchfan pobloedd lawer o bedwar cwrr byd. Ond i fwynhau i bwrpas yr olwg ar y trysorau afrifed sydd i'w canfod ar bob llaw, rhaid wrth wybodaeth eang, a diwylliant arbennig, a sicr yw nad oes ond ychydig o'r miloedd estroniaid ymdyrant i'r wlad bob tymor, yn abl, mwy na minnau, i sylweddoli yn iawn werth hanesyddol y gwrthrychau sydd i'w canfod yno.

Ond er anwybodaeth o'r clasuron, a dieithrwch i hanesyddiaeth y wlad, eto y mae yno destynau fil yn llawn dyddordeb i'r estron mwyaf cyffredin ei wybodaeth a'i gyrhaeddiadau i'w cael yn null y trigolion o fyw, a'u harferion, y rhai sydd mor wahanol i'r eiddom ni yn y wlad hon. Pobl siriol, groesawgar, yw'r Italiaid, eithr ni thybiant yn drais gymeryd mantais ariannol ar estron, yn enwedig os tybiant mai Sais fydd. Cefais awgrym gan gyfaill fod y masnachwyr brodorol yn dueddol i ofyn crogbris gan estroniaid, ond yn cymeryd llai o lawer yn hytrach na cholli Prynnu Ffon. gwerthu. Aethum un bore i brynnu ffon. Gofynwyd i mi ddeg swllt am un; ond wrth fygwth mynd hebddi, cefais hi am ddau swllt! Cawswn un gyffelyb am lai yn y wlad hon. Pobl ddiwyd iawn ydynt,—codant yn fore, ânt yn hwyr i gysgu, a mynych y gofynwn, —Pa bryd y gorffwysant?

Pobl gymedrol a sobr. Yn ystod fy ymdaith yn y wlad, ni welais gynifer ag un o'r trigolion o dan ddylanwad y diodydd meddwol. Gwelais rai dynion yn feddwon iawn, ond un ai Germaniaid neu Saeson oeddynt. Gwin yw prif ddiod y wlad,—gwin coch sur; y mae yn rhatach nag unrhyw ddiodydd ereill. Nid yw Cymedroldeb
y Trigolion
.
yr Italiaid yn yfed er mwyn yfed. Anfynych y gwelir hwy yn yfed heb gymeryd ymborth hefyd. Ym mhob lle y gwerthir diodydd, y mae yno hefyd fwydydd ar werth. Diodydd meddwol ar wahan i fwydydd, yn ddiau, ydyw un o felldithion y wlad hon, a da fyddai i Brydain efelychu rhai o wledydd y Cyfandir yn y cyfeiriad hwn.

Pobl gynnil, ddarbodus, fe ddichon, i fesur mawr, o angenrheidrwydd felly, yw llawer ohonynt; byw y maent gryn lawer ar fara a llysiau a macaroni; defnyddiant olew gyda phob math Ymborth. o ymborth. Ac ond i'r Sais neu Gymro beidio gofyn cwestiynau, eithr bwyta mewn llawn hyder ffydd yr hyn a osodir ger ei fron, y mae y gwahanol fwydydd yn flasus ac iachus, ac yn sicr o fod yn cyfateb yn rhagorol i amodau ac hinsawdd y wlad

Byddai y diweddar Brifathraw Michael Jones o'r Bala yn arfer dweyd mai yr ymborth mwyaf addas ydoedd cynnyrch naturiol y wlad neu y gymdogaethSylw Michael
Jones o'r Bala.
ei hun. Meddai, "Cyrch dŵf oreu ym Mhenllyn, a haidd yn Edeyrnion, felly bara cyrch i breswylwyr Penllyn, a bara haidd i drigolion Edeyrnion." Dichon y gallasai ychwanegu, gwenith dŵf oreu yn Nyffryn Clwyd; felly bara gwenith i bobl Dyffryn Clwyd.

Pan ar y daith hon, yr oedd gennyf o dan fy ngofal dair boneddiges, ac yr oedd un ohonynt yn methu dygymod â bwydydd yr Italiaid, a dywedai yn fynych, "O, na chawn lond dysgl o lymru, neu faidd, a thafell o fara haidd neu geirch, mi wn beth ydi hwnnw." Y diwedd fu iddi fynd yn bur wael,Y Foneddiges
Gystuddiol.
ac erbyn cyrraedd Rhufain yr oeddwn yn wir bryderus yn ei chylch; ond ni fynnai son am feddyg. "Doctor dieithr mewn lle fel hyn; pwy ŵyr beth 'roith o i mi," meddai; ac yr oeddwn mewn penbleth difrifol.

Gyda'r hwyr, aethum am dro wysg fy mhen, heb wybod i ba le yr oeddwn yn mynd, ond yn rhyw ddirgel ddisgwyl y torrai gwawr yn y man. Wrth rodio ar hyd un o brif heolydd y ddinas, Via Condotti, gwelais fasnachdy fferyllydd â'r enw "Evans" uwch ei ben. "Yn wir," meddwn dacw Gymro," ac i mewn a mi. Gofynnais yn Gymraeg am flwch o " Eli Treffynnon." Edrychai y gŵr yn syn arnaf, ac atebai "Non Inglese,"—dim Saesneg. Welsh," meddwn innau; ac ymaith ag ef o'r neilltu, a chlywn ef yn galw "Signor Evans."

A chyn pen hir dyma borcyn o ddyn bychan, crwn, siriol, ataf. "Good evening," meddai. "Cymro?" meddwn innau. "Cymro am byth," meddai yntau. Gŵr wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru ydyw, ond wedi bod Cymro yn
Rhufain.
yn Rhufain bellach ers deng mlynedd ar hugain a mwy. Bu yn hynod o garedig, rhoddodd feddyginiaeth i mi i'r foneddiges wael, ac yn ddiau, drwy rym yr ymwybyddiaeth mai Cymro a'i cymysgodd, yr oedd, er fy llawenydd, wedi mendio yn iawn erbyn bore drannoeth, ac yn barod i fwyta malwod a llyffaint,—os byddai raid.

Camgymeriad o'r mwyaf i deithwyr ymhell o dir eu gwlad ydyw disgwyl nac amcanu cael popeth yr un fath ag a geir gartref. Y sawl all gyfaddasu ei hunan yn ebrwydd at amodau y wlad y bydd ar ymweliad â hi, ydyw y tebycaf i wir fwynhau a derbyn lleshad oddiwrth gyfnewidiad hinsawdd a golygfeydd. "When in Rome, do as the Romans do."

Un peth a'm synnodd yn fawr ydoedd fod llaeth mor ddrud yno, y wlad lle y mae cynifer o wartheg godidog, a geifr llaethog, yn wir, mynn rhai mai ystyr wreiddiol y gair Itali ydyw heffrod neu loi, a gellir yn llythrennol ddweyd am Llaeth.dani mai gwlad yn llifeirio o laeth a mêl ydyw. Eto, drud yw llaeth yno, llaeth newydd yn bump i chwech cheiniog y chwart. Y mae gwin, a gwin lled dda, yn rhatach yno na llaeth.

Yr wyf yn tybied mai un o'r pethau mwyaf prin yn Itali ydyw halen, ac un o'r troseddau mwyaf echrydus yng ngolwg y swyddogion gwladol yno ydyw ceisio Halen. smyglo tipyn o halen o'r llong i'r lan. Y mae halen o dan dreth drom.

Nwydd arall cysegredig iawn yng ngolwg y Llywodraeth yno ydyw myglys. Y maent yn hynod o ofalus yn y porthladdoedd na ddaw neb a thybaco tramor i'r lan heb dalu treth drom. Y rheswm am hynny ydyw fod y gweithfeydd tybaco Tybaco yno i gyd ym meddiant y Llywodraeth; nid oes gan neb arall hawl i'w wneud, a rhaid cymeryd yr hyn a welo y Llywodraeth yn dda ei ddarparu, neu dalu crogbris am yr ychydig dybaco tramor sydd ar werth yno.

Y mae yno dybaco o'r America ac o Loegr. Gwelais dybaco Caer mewn un siop. Ei bris yng Nghymru ydyw 3½c. yr owns, ond yr oeddynt yn gofyn swllt a chwe cheiniog yr owns yn Itali am dano. Ac nid oedd dim i'w wneud ond boddloni ar ddail cabbage a charn yr ebol wedi eu trwytho mewn coal tar,— dyna'r peth tebycaf wn i am dano i dybaco Llywodraeth Victor Imanuel.

Peth arall y rhaid i'r teithiwr fod yn ofalus wrth groesi terfynau y wlad ydyw, na bydd ganddo lawer o fflachellau (matches) yn ei feddiant. Ie, matches, y pethau bychain hynny yr ydym ni yn y Matches. wlad hon mor ddibris ohonynt. Fe ddichon pe byddai mwy o bris arnynt, y byddai llai o waith i'r fire brigades ar hyd a lled y wlad; ond yn Itali y mae gwneuthur matches hefyd yn edwicaeth (monopoly) y Llywodraeth. Fedd neb hawl yno i wneud matches ond swyddogion y Brenin. Y mae blwch bychan yn costio ceiniog, y mae y drethnodyn (stamp) sydd arno yn werth hatling, sef y ddegfed ran o'u ceiniog hwy.

Beichus iawn yw y trethi yn Itali. Mewn gair, y mae swm y trethi yno oddeutu y ddegfed ran o werth marchnadol pob nwyddau. Wrth bob mynedfa i dref neu ddinas, y mae swyddfa (octroi) ym mha un y mae swyddogion y Llywodraeth yn gwylio na ddygir dim i mewn o'r wlad nac o unrhyw dref arall, heb dalu toll arno. Un diwrnod, pan yn dychwelyd o dro yn y wlad, gwelwn wrth borth y ddinas wraig a chanddi fasged ar ei braich, ac yn y fasged bum pwys o ymenyn, a 30 o wyau, a rhaid oedd i'r Dogana, sef y swyddog wrth y porth, chwilio i mewn i'w chynnwys, a hawlio, dros yr awdurdodau gwladol, hanner pwys o'r ymenyn, a thri o'r wyau, neu eu gwerth mewn arian, sef y ddegfed ran o bob un. Byddai hwyl fawr ambell dro yn y tramcars, gweld y Dogana yn chwilio basgedi a llogellau rhyw hanner cant o bobl o'r wlad ar eu taith i'r farchnad yn y dref. Ie, trwm yw baich y trethi ar y werin yn Italia dlos. Dyweder fod amaethwr yn gwerthu buwch am ddeg punt, y mae yr awdurdodau yn hawlio un bunt o'r deg fel toll. Dyna fel y trethir cynnyrch y wlad o fewn y wlad ei hun. Toll a Threth. Nid yw lai na deg punt y cant ar gyfanswm y gwerth, cofier, ac nid ar swm yr elw oddiwrth y gwerthiant. Siopwr, dyweder, yn gwerthu mewn blwyddyn werth £1,000, y mae £100 yn mynd o hono i goffrau'r Llywodraeth, yn y ffurf o drethi.

Bu agos i mi gael fy arwain un tro i brofedigaeth mewn lle o'r enw Sorrento. Daeth gwraig dlawd ataf yn ddisymwth, a chanddi ddwy dorth o fara. Estynai un i mi, a sibrydai, "Dogana, Dogana," gan gyfeirio at y porth gerllaw. O'r diwedd deallais mai gofyn i mi yr ydoedd i gario y dorth fechan drwy y porth i'r dref, er osgoi y doll. Yr oedd caniatad iddi gymeryd un dorth yn ddidreth, ond dim mwy. Yn hytrach na rhoddi fy hun yng nghrafangau y gyfraith mewn gwlad estronol, rhoddais geiniog iddi i dalu y dreth, oherwydd un o'r dyddiau cynt yr oeddwn wedi bod mewn llys gwladol, ac nid yn fuan yr anghofiaf yr olygfa.

PENNOD II.

SAFAI y Llys Gwladol mewn heol fechan gul a budr, ond yr oedd yno olion mawredd ac urddas i'w canfod yn amlwg. Y cyntedd nesaf allan yn eang, colofnau cedyrn, esgynfa ardderchog, lloriau trwchus, yr oll o farmor caboledig o bob lliw; ystafelloedd mawr, ond y cwbl yn orchuddedig gan lwch a llaid henafol, a gwe pryf copyn yn gymylau amgylch ogylch y fan a fwriedid i fod yn eisteddfa cyfiawnder a barn.

Yn un pen i'r neuadd fawr (Hall of Justice) eisteddai y barnwr,— ei olwg wedi pylu, ac yn hwyrdrwm o glyw, a barnu oddiwrth ei waith yn gwisgo dau bâr o spectols, ac yn rhoddi corn hwrdd wrth ei glust bob tro y siaradai rhywun heblaw ef.

Ar yr ochr dde i'r barnwr eisteddai y rheithwyr, yn treulio y rhan fwyaf o'u hamser yn ysmocio ac yn ymgomio â'u gilydd; ar yr ochr arall, ar eu cyfer, yr oedd math o gawell (cage) anferth wedi ei wneud of farau haearn trymion, a Llys Gwladol.meinciau oddifewn iddo, y naill uwchben y llall fel gallery, ac arnynt eisteddai 30 o garcharorion, —aelodau o ryw secret society,—ar eu prawf am lofruddio pedwar o pedwar o ddynion rai blynyddau cyn hynny. Araf iawn y try olwynion y gyfraith yn Itali. Yr oedd amryw o'r carcharorion wedi eu dal adeg y llofruddiaeth, ond dim wedi ei brofi yn bendant yn eu herbyn.

Mynych y pery treialon am flynyddau, a chedwir carcharorion yn dihoeni mewn celloedd aflan, tywyll, a thruenus iawn. Ni roddir carcharorion i farwolaeth drwy ddienyddiad yn Itali,—nid oes yno gollfarnu (capital punishment); ond fe ddewisai aml i garcharor y grogbren yn hytrach na nychu yn raddol i farwolaeth yn awyr afiach a gwenwynig y carcharau, a dychrynfeydd y solitary punishment, megis Brecci,— yr adyn lofruddiodd y Brenin. Aeth hwnnw yn wallgof, cyn hir, wedi ei gloi i fyny yn unigedd y ddaeargell (dungeon). Cosb ofnadwy i ddyn ydyw ei gau i fyny heb obaith gweld gwedd na chlywed llais dynol byth mwy. Dyna gosb eithaf ddrwg-weithredwyr Itali.

Y mae gan Itali lawer o le i wella, fel ninnau, ynglŷn â chyfundrefn addysg. Y mae yno ryw fath o Fyrddau Ysgol ym mhob ardal, ond y felldith ydyw eu bod Addysg.yn ormodol o dan lywodraeth yr offeiriaid Pabaidd yn ddiau er anfantais dirfawr i'r plant yn y presennol, ac i'r genedl yn y dyfodol. Nid oes gorfodaeth i anfon y plant i'r ysgol,—hyn rydd gyfrif am fod cynifer ohonynt yn crwydro yn garpiog a diymgeledd ar hyd yr heolydd yn flinder i gnawd ac ysbryd dieithriaid.

Ymffrost mawr yr Italiad ydyw cerddoriaeth. Parod ydyw i aberthu popeth er cadw i fyny safle ei genedl yn y gelf hon. Y compliment mwyaf, yn ol ei syniad ef, y mae yn bosibl iddo ei dalu i'r dieithr, ydyw dangos yr Opera House iddo, ac yn enwedig cynnyg benthyg ei Opera Box iddo am noson. Er nad wyf yn gerddor, rhaid i mi addef mai gwledd na Cerddoriaeth.chefais erioed ei chyffelyb ydoedd noson yn yr Italian Opera yn Genoa, yn gwrandaw ar gant o offerynwyr, a rhai o'r lleisiau mwyaf swynol a diwylliedig yn y byd, yn rhoddi datganiad o "The Bride of Lammermoor" (Donizetti), seiliedig ar un o weithiau Syr Walter Scott.

A chasglu oddiwrth nifer, maint, a gorwychder yr addoldai, y dybiaeth naturiol ydyw fod yr Italiaid yn bobl grefyddol iawn. Temtir yr ymwelydd i ddweyd yng ngeiriau yr Apostol Paul, "Ha wŷr Italiaid, mi a'ch gwelaf chwi yn dra choelgrefyddol." Allorau ar bob llaw,—creirfäau (shrines), —a chanhwyllau neu Coel-Grefydd. lampau goleuedig ynddynt ym mhob man, yn y tai, yn y siopau, ar furiau yr heolydd, ac ar y croesffyrdd, a phob gwir Babydd wrth fynd heibio iddynt yn ymgrymu ac yn ymgroesi. Yr eglwysi yn agored o fore hyd yr hwyr. Y bobl yn mynd i fewn ac allan yn ddirwystr, ond gyda gwylder a pharchedig ofn.

Cynhelir gwasanaeth mewn ryw ran o'r adeilad, yn enwedig yn y Basilicas,—hynny yw, yr Eglwysi Cadeiriol,—bob awr o'r dydd. Y mae y rhai hyn yn cynnwys liaws o gapelau (chapels), pob un yn eglwys helaeth ynddi ei hun, a phob un wedi ei gysegru i ryw sant neilltuol, a rhyw rinwedd neu ddylanwad arbennig yn cael ei briodoli i bob un.

Mewn un o'r capelau, ond odid, na welir ar adeg benodol, nifer o famau yn erfyn am amddiffyniad grasol y sant dros eu bechgyn sydd ar y môr, a'u llwybrau yn y dyfroedd dyfnion. Mewn capel arall yn yr un eglwys, fe welir boneddiges o weddw, ar ei gliniau ger bron ei sant penodol hithau. Y Y Rhyw Deg a Chrefydd. mae ei hunig ferch yn glaf, ar fin trengu, ac mae y meddygon wedi ei rhoddi i fyny; dacw y fam a'i dagrau yn lli yn taer ymbil am ymyriad y Sant, ac am ymwared o'i chyfyngder, ac yn addunedu, ond i'w phlentyn gael ei hadfer iddi, y bydd yn cyflwyno y gemau mwyaf gwerthfawr yn ei meddiant i addurno yr allor.

Pethau cyffelyb i hyn welir bob dydd a phob awr o'r dydd mewn cannoedd o Eglwysi Pabyddol Itali; a hyn, yn ddiau, i fesur, rydd gyfrif am gyfoeth aruthrol yr Eglwys Babaidd, a'r casgliadau godidog o drysorau amhrisiadwy a geir yn yr Eglwysi, —anrhegion ydynt a gyflwynwyd o bryd i bryd gan addolwyr ofergoelus fel cydnabyddiaeth am waredigaethau a dybiant estynwyd iddynt gan rai o'r seintiau.

Yr oeddwn un prynhawn yn ymdroi yng nghymdogaeth yr Eglwys Gadeiriol yn Palermo, a gwelwn orymdaith anferth o ferched yn cerdded yn araf bob yn bedair, o dan arweiniad hen fynach. Sefais wrth y porth, a chyfrifais ddeuddeg cant o ferched o bob oed, dri o'r gloch ar brynhawn dydd Mawrth, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Aethum innau i mewn i'r addoldy. Pedwar o feibion oedd yn bresennol,—yr offeiriad, a minnau, a rhyw ddau arall. Yr oedd Yr oedd gan bob un o'r merched lyfr bychan tebyg i'r Hyfforddwr, yr hen offeiriad yn gofyn y cwestiynau, a'r dorf o ferched yn cyd-adrodd yr atebion, ac felly am awr o amser, bron na thybiwn fy mod mewn Cyfarfod Ysgolion.

Ychydig o ddynion, mewn cymhariaeth, welir yn mynychu lleoedd o addoliad yn Itali. Y mae yr un peth, i fesur, i'w ganfod yng Nghymru; hynny yw, y mae y chwiorydd yn anhraethol fwy ffyddlawn na'r brodyr i foddion crefyddol Meibion
a Chrefydd.
cyhoeddus. Ni fynn y meibion yn Itali yr Anghrist na Christ ychwaith, ysywaeth, i deyrnasu arnynt. Extremes meet; ar un llaw gwelir yma eithaf penboethni coelgrefyddol, ac ar y llaw arall, rhyw ysbryd digofus o amheuaeth ac anghrediniaeth. Y mae yn gyffelyb mewn gwledydd ereill. Lle y c eir y byddai Pabyddiaeth yno gynt mewn bri mawr, fe welir anuwiaeth ac anffyddiaeth yn cael dyfnder daear ac yn blaguro.

Nid yw y Babaeth yn Itali y gallu ydoedd cyn dyddiau Garibaldi, ac ni bydd mwyach. Eto y mae gan ei hoffeiriaid ystrywgar ryw ddylanwad dirgelaidd ac ofnadwy, sydd yn llygru moes a dedwyddwch teuluoedd wrth y miloedd yno. Bum yn ymddiddan â boneddwr cyfrifol yn un o'r porthladdoedd yno (ni feiddiaf roddi enw y lle). Yr oedd y gŵr hwn i bob golwg allanol mewn amgylchiadau cysurus iawn. Aethum am dro gydag ef drwy ei balas, ei ardd, a'i winllan; ac O! mor ddymunol yr oedd popeth i'r golwg. "Wel wir," meddwn, "dyma baradwys o gartref, rhaid eich bod chwi a'r teulu yn ddedwydd iawn mewn lle fel hwn."

Edrychai yn brudd, ysgydwai ei ben. Meddai, "Gyfaill, peidiwch camgymeryd. Nid yn fynych y ceir yn Itali benteulu yn feistr yn ei gartref ei hun. Yr offeiriad sydd yn rheoli. Y mae gan yr offeiriad fwy o ddylanwad na'r gŵr ar y wraig, ac na'r tad ar y plant." Meddwn innau, "Tybed fod y fath beth yn bosibl ? Sut yr ydych chwi ddynion yn goddef peth fel hyn ?" Cofiwch," atebai yn wyliadwrus, "nid wyf yn cydnabod mai felly y mae gyda mi; ond tybiwch ei bod felly, ac fy mod yn cau drws fy annedd yn nannedd yr offeiriad, ac yn gwarafun i'm gwraig a'm plant roddi eu presenoldeb yn yr offeren a'r gyffesgell, beth fyddai y canlyniad, nis gwn. Y mae yn bosibl mai yn rhwym ac yng ngharchar y byddwn cyn pen mis, dan ryw gamgyhuddiad neu gilydd, ac y byddai fy holl amgylchiadau wedi eu dyrysu cyn pen ychydig wythnosau. Dyna sefyllfa aml i benteulu yn Itali heddyw. Pa hyd? nid oes neb a ŵyr; ond odid na ddaw gwawrDylanwad
y Babaeth.
cyn hir, ac y cyfyd eto ryw Garibaldi i gwblhau rhyddid ein cenedl. Nid oes derfyn ar ddichellion ac ystrywiau dieflig y rhai a honnant fod yn olynwyr yr Apostolion ac yn weision i'r addfwyn Iesu."

"Felly nid ydych yn credu yn y Babaeth?"

"O, nac ydwyf, ond yn ei chashau â chas cyflawn."

"Wel, beth am Gristionogaeth?"

Atebai,—"Crist ydyw y cymeriad mwyaf prydferth a pherffaith a welodd ein byd ni erioed, ond nid yw ei gyfundrefn yn ymarferol. Y mae ei ddilyn yn amhosibl i gig a gwaed. Dywed wrthym am garu ein gelynion, a gweddio dros y sawl a wnant niwed i ni. I Italiad, y mae y peth yn afresymol,—caru dynion sydd wrth eu proffes yn ysgaru gwŷr a gwragedd, rhieni a phlant, ac yn gwneud yr aelwyd yn uffern. Na, na! gormod yw hyn i mi," meddai yn gynhyrfus. Dyna gipolwg ar agwedd meddwl llu mawr o bennau teuluoedd mwyaf diwylliedig a meddylgar y wlad ryfedd hon yn y dyddiau hyn.

PENNOD III

CYCHWYNASOM o Lerpwl mewn agerlong ar fore dydd Gwener y Groglith, ac wedi rhai dyddiau o forio blin, daethom i olwg craig enwog Gibraltar. Y mae tref ar y graig hon ag oddeutu 30,000 o bobl yn trigo ynddi, ac yn eu plith 6,000 i 7,000 o filwyr Prydain Fawr. Wrth agoshau at Gibraltar. y graig, ymddengys yn debyg i lew mawr ar ei led orwedd, fel pe yn gwylio môr y Werydd ar y dde, a môr y Canoldir ar y chwith, a gwlad Morocco ar y lan draw, rhyw naw milltir o bellter.

Ar ol y dyddiau blin ac ystormus gafwyd o Lerpwl i Gibraltar, hyfryd oedd cael ein hunain ar fynwes gynnes Môr y Canoldir, ac er fod eira trwchus i'w ganfod yn y pellter ar fynyddau yr Hispaen, heulwen ac awelon tesog a balmaidd gawsom bellach bron yr oll o'r daith. Y porthladd Curs y Daith. cyntaf i ni alw ynddo ydoedd Genoa, ryw 2,500 milltir ar hyd y môr o Lerpwl; oddiyno i Leghorn, yna gyda'r trên i Pisa, wedi hynny i Fflorens, yna i Rufain, wedi hynny i Naples a Pompeii, lle yr oedd y llong yn ein haros. O Naples hwyliasom i Messina yn Ynys Sicily, yna Catania a Palermo, yn ol wedi hynny i'r Cyfandir, gan alw yn Minori, Maori, a Sorrento, gan gyfeirio oddiyma tua chartref, heibio i Ynys Capri, Sardinia, &c., a glanio yn Lerpwl ymhen dau fis o'r adeg y cychwynasom.

Aroshasom yn Genoa rai dyddiau,—dinas y Palasau; a elwir felly oherwydd y nifer fawr o hen balasau ardderchog sydd ynddi,—prif borthladd Itali, rhifa ei phoblogaeth oddeutu 250,000. Y mae trigolion y ddinas hon yn hynod am eu hynni masnachol a'u hysbryd anturiaethus er yn fore iawn. Mynnant hwy mai yma yr agorwyd yr ariandy cyntaf yn y byd, gan hen gwmni enwog St. Sior, yn y flwyddyn 1147, ac y mae yr hen adeilad heddyw yn un o atdyniadau y lle. Ond mynn ereill fod ariandai ym Mabilon cyn dyddiau Abraham.

Yma y ganwyd ac y magwyd Christopher Columbus, darganfyddwr Gwlad y Gorllewin; hefyd Mazzini. Bu Byron yma yn byw; hefyd Charles Dickens; ac yma y treuliodd Daniel O'Connell,—y Gwyddel gwladgarol, y rhan ddiweddaf o'i Genoa.oes, ac y bu farw; ac nid yw y trigolion yn ol o ddangos parch i'w goffadwriaeth. Y mae y gofal mwyaf yn cael ei gymeryd gan yr awdurdodau o'r tri thŷ y buont yn trigo ynddynt, ac y mae llechau hardd o farmor gwyn wrth fynedfa pob un, ac yn gerfiedig arnynt fanylion am yr enwogion ymadawedig ac estronol hyn.

Rhyw ugain mlynedd yn ol bu Cymro ieuanc farw yn y porthladd hwn. Morwr ydoedd; gafaelwyd ynddo gan y geri marwol, anfonwyd brysneges at ei dad i Gymru, aeth hwnnw yno heb oedi, ond yr oedd y bachgen wedi marw a'i gladdu cyn iddo gyrraedd. Cyn troi adref talodd am osod carreg ar ei fedd. Aeth blynyddau heibio ; ond ni chlywodd y teulu air byth, pa un ai peidio, a ydoedd rhywbeth i ddynodi gorweddle John. Llawer a boenodd y fam, druan,—mynych y wylai ddagrau yn hidl wrth feddwl am lwch ei phlentyn mewn amharch yn naear estron wlad.Carreg Fedd John Roberts. Addewais wrth ei rieni y mynnwn olwg ar ei fedd, a chyda i mi lanio aethum i chwilio am dano i'r Campo Santo,—y Maes Santaidd,—claddfa fawr o'r tu allan i'r ddinas. Ychydig flynyddau cyn hyn, yr oedd yr awdurdodau wedi penderfynu cau pob mynwent oddi fewn i'r ddinas, a symud gweddillion y meirw i'r Campo Santo. Y mae adran arbennig wedi ei neilltuo i wahanol genhedloedd yn y fynwent hon. Chwiliais yn fanwl drwy y Gofrestr Brydeinig, ond nid oedd neb o'r enw erioed wedi ei gladdu yn y Campo Santo. Wrth ymddiddan â'r cofrestrydd, cefais nad oedd,—oherwydd rhyw ddiffyg dealltwriaeth cydrhwng awdurdodau y ddinas a chynrychiolwyr Prydain,—yr hen gladdfa Brydeinig wedi aflonyddu arni hyd hynny, ond ei bod o dan glo ers llawer o flynyddau.

Dyna'r cwbl a wyddai, neu a ddywedai, y swyddog hwn. Aethum oddiyno i Swyddfa y British Consul. Cefais yno hysbysrwydd gyda golwg ar safle yr hen fynwent, a chyfarwyddyd pa le i gael yr allwedd. Ond drwy anhawsterau lawer y daethpwyd o hyd i'r fan. Llannerch fechan ydoedd, rhyw 50 llath ysgwar, wedi ei hamgylchu â muriau uchel, ychydig o goed ŷw ym mhob congl, ac yma a thraw dwmpathau toreithiog o flodau Gorffennaf a llygaid y dydd. Gyda i mi fynd i mewn, gwelwn o'm blaen feddfaen prydferth o farmor, a'r enw "JOHN ROBERTS' mewn llythrennau eglur arno. A dyna ddywedais,— "Wel, John bach, dyma fan dawel a dymunol i orffwys hyd ganiad yr udgorn diweddaf, yn hytrach o lawer nag ynghanol rhwysgfawredd a swn cerddediad y cannoedd yn y Campo Santo fawr."

Llwyddais i gael darlun rhagorol o'r gongl honno o'r fynwent, ac y mae y garreg a'r ysgrifen yn eglur arni i'w ganfod yn amlwg ynddo. Dadwreiddiais flodeuyn prydferth oedd yn tyfu wrth ben y bedd, a chymerais ddigon o'r pridd i'w ail blannu gyda mi, a chefais yr hyfrydwch prudd o gyflwyno y darlun a'r blodeuyn byw i'r fam, druan, ar fy nychweliad adref. Byth ni anghofiaf wedd ei gwyneb, na'r llef o lawenydd pan sylweddolodd y rhoddion syml. Dywedodd ganwaith ar ol hynny wrthyf mai ei thrysorau daearol pennaf oeddynt y darlun a'r blodeuyn a ddygais iddi o hen fynwent Genoa.

Y mae gofal am goffadwriaeth yr ymadawedig yn nodweddiadol o'r wlad. Y mae y Campo Santo yn Genoa yn engraifft nodedig o hyn. Ni arbedir traul na thrafferth i wneud "tŷ yr hir gartref " yn brydferth a dymunol i'r golwg. Y mae yma gannoedd lawer o monuments gan y prif gerflunwyr,—hen a diweddar,—engreifftiau digymar o farddoniaeth mewn marmor. Un o'r cofgolofnau mwyaf dyddorol yn ddiau yn y Campo Santo ydyw un gan gerflunydd enwog uwchben beddrod hen wreigan a fu am flynyddau yn gwerthu pipgnau (chestnuts) ar gongl un o heolydd y ddinas.

Hen Wreigan
y Cnau.
Uchelgais yr hen chwaer yn ystod ei bywyd ydoedd cael gorffwys ar ddiwedd ei gyrfa mewn llecyn neilltuol yn y Campo Santo, a chofgolofn ddrudfawr uwch ei phen. Hunan-ymwadodd, a chynhilodd a chasglodd swm mawr o arian, a chafodd y boddhad o weld, cyn tynnu ei hanadl olaf, ddarlun perffaith ohoni ei hun wedi ei gerfio allan o farmor gwyn, ac wedi costio iddi dros £500, yn barod i'w osod yn ei le; ac yn fuan iawn ehedodd ei hysbryd at yr Hwn a'i rhoes, mewn tangnefedd.


HEN WREIGAN Y CNAU.


Y mae plant dynion yn hynod o debyg i'w gilydd ym mhob gwlad,—'does neb, rywfodd, yn hoffi y syniad o'r posibilrwydd iddo gael ei lwyr anghofio. Fe ddichon mai hon yw un o'r elfennau sydd wrth wraidd yr holl helynt, ac yn fynych y gor-helynt ynglŷn â chladdu y marw, a chadw mewn cof yr hyn a fu, gan nad pa mor wael ac annefnyddiol a fu i'w oes a'i genhedlaeth. Y gofadail werthfawroca, wedi'r cyfan, yw honno y sonia Pantycelyn am dani,—

"Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Ni raid marmor ar ei fedd."


PENNOD IV.

PORTHLADD arall pwysig ydyw Leghorn. Dinas dawel, ddigyffro, ei phoblogaeth yn 120,000. Gwneir masnach led fawr yma mewn mar— mor, llin, olew, a chrwyn. Cefais beth siomedigaeth,—yr oeddwn wedi bod yn disgwyl y cawn gipolwg ar fyrdd a mwy o Leghorn Hats, ond erbyn holi, cefais mai Empoli, tref ryw ddeng milltir ar hugain oddiyno, ydyw canolfan gwneuthuriad y benwisg fyd—enwog hon. Cafodd yr enw hwn, sef y Leghorn Hat, cyn bod y march tân yn tramwy ar hyd a lled y Cyfandir, oherwydd y pryd hynny Leghorn ydoedd y porthladd drwy ba un yr oedd holl gynnyrch y rhan honno o'r wlad yn cael ei wasgaru i holl farchnadoedd y byd.

O Leghorn, aethom gyda'r trên i Pisa. Dinas henafol ar lan yr Afon Arno. Dywedir i'r Apostol Pedr lanio mewn porthladd, pwysig y pryd hynny, heb fod ymhell o'r lle hwn, pan ar ei daith i Rufain, ac y mae ar y llecyn hen Eglwys ardderchog, a godwyd yno er cof am yr amgylch— iad. Y mae llawer o gyrchu i Pisa i weld yr Eglwys Gadeiriol, ac Pisa.yn enwedig y Fedyddfaen (Baptistery), neu fel y geilw ymwelwyr hi, "The great Echo Dome." Y mae y gromen (dome) dros 60 llath o uchter, ac yn 35 llath ar ei thraws. Gwahoddir dieithriaid i sefyll o dani, ac os medrant, i ganu llinell neu ddwy.Hen Feibl
Mawr fy Mam.
Cefais gan fy mhriod fentro ar y gorchwyl, a chanodd yn fwyn "Hen Feibl Mawr fy Mam," a chyda ei bod wedi dechreu, clywem geinciau perseiniol uwchben, ac o'r bron na ddychmygem fod yno liaws o lu nefol yn y Gromen wedi cipio yr alaw o'i genau, gan ddyblu a threblu fel y medr Cymry ac angylion. Nid ar frys yr anghofiaf y gyngerdd ryfedd honno, a gwelwyd arwyddion amlwg fod ereill yn y gynulleidfa, estroniaid hollol i ni, o dan deimladau dwys. Nid oes dim, wedi'r cwbl, yn debyg i hen alawon tyner a phruddaidd hen "Gymru lân, gwlad y gân," am gyffwrdd â thannau tyneraf y galon ddynol.

Ond rhyfeddod mwyaf yr ardal hon, yn ddiau, ydyw y Tŵr ar Ogwydd (The Leaning Tower of Pisa). Dechreuwyd adeiladu hwn yn 1174, a gorffenwyd yn 1350, felly cymerwyd yn agos i ddau can mlynedd i orffen y gwaith. Y maeY Twr ar
ei Ogwydd.
oddeutu tri ugain llath o uchter, a gogwydda dros bedair llath, hynny ydyw, y mae ei gopa yn nes allan dair troedfedd ar ddeg na'i sylfaen, ac y mae wedi bod yn ddirgelwch i adeiladwyr ac arch-adeiladwyr yr oesau pa fodd y cafodd ei adeiladu fel hyn, a pha fodd nad yw wedi dymchwel ers llawer dydd. Y mae ynddo saith o glychau mawr, un ohonynt yn pwyso chwe tunnell. Dylwn egluro mai clochdy ydyw hwn yn perthyn i'r Eglwys Gadeiriol, er cryn bellter oddiwrthi. Felly y mae yn fynych yn Itali,— y clochdy ar wahan i'r Eglwys y perthyn iddi. Felly hefyd yn Henllan, Sir Ddinbych.

O Pisa aethom i Fflorens, pellter o 50 milltir. Fflorens, "dinas y blodau," y ddinas brydferth," "the fairest city in the world." Y decaf o holl ddinasoedd y byd, ac â hyn y cytuna pawb a'i gwel. Saif yn Nyffryn yr Afon Arno,—yr afon fawr yn llifo yn hamddenol drwy ei chanol. Saith pont ynFflorens.uno yr ochr dde â'r un orllewinol i'r ddinas, pedair ohonynt yn hen iawn, ac o ddyddordeb mawr, yn enwedig un ohonynt, sef y Ponte Vecchio (yr Hen Bont). Ar ganllawiau hon y mae ugeiniau o weithdai a masnachdai bychain, lle y gwneir ac y gwerthir pob math o dlysau, aur, arian, a phres, ac yn enwedig mân—waith mosenaidd (mosaic work).

Y mae y fath gyflawnder o wrthrychau dyddorol yn Fflorens fel mai nid hawdd gwybod pa beth i'w ddethol i sylwi arnynt mewn gofod gyfyngedig fel hon. Yma y gwelir prif orchestion Giotto a Michael Angelo. Yma y coffheir ni beunydd o athrylith Dante a gwrolder Savonarola. Un o'r adeiladau amlycaf a phwysicaf ydyw y Duomo, sef Eglwys Gadeiriol Fflorens. Y mae ei chopa,—117 o lathenni o uchter,—yn ganolbwynt y ddinas, ac i'w ganfod o bob cwrr ohoni. Dechreuwyd adeiladu yr Eglwys enwog hon yn y flwyddyn 1298, ac nis gellir dweyd ei bod wedi ei gorffen eto, gan fod rhyw ychwanegiadau parhaus yn mynd ymlaen ynddi ac arni.

Gerllaw iddi saif y clochdy, sef Tŵr Giotto. Fe ddywed beirniaid o fri mai hwn yw yr engraifft perffeithiaf o adeiladwaith yn yr holl fyd,—Clochdy yr Eglwys Twr Giotto.Gadeiriol ydyw. Y mae yn 97 llath o uchter. Gelwir ef yn Dŵr Giotto (The Tower of Giotto), am mai y gŵr enwog hwnnw a'i cynllun— iodd ac a arolygodd, gan mwyaf, y gorchwyl o'i adeiladu. Dechreuwyd arno yn y flwyddyn 1334, a chymerodd 53 mlynedd i'w orffen.

Hanes rhyfedd yw hanes Giotto,—y mae wedi bod yn siampl ac yn symbyliad i aml fachgen talentog a ddaeth ar ei ol. Mab ydoedd i amaethwr bychan a drigai mewn dyffryn tlws heb fod ymhell o Fflorens. Un diwrnod, pan ydoedd y bachgen yn gwylio praidd ei dad, difyrrai ei hun drwy dynnu darlun o un o'r defaid ar ddarn o graig gerllaw. Pwy ddigwyddodd ddyfod heibio yn ddiarwybod iddo, ond yr arlunydd enwog Cimabue. Synnodd y gŵr mawr pan ganfu y fath arwyddion o athrylith yn y llencyn tlawd.

Trefnodd i'w gael yn ddisgybl iddo ei hun, a chyfryw fu ei gynnydd fel yr aeth yn ebrwydd son am dano drwy yr holl fyd gwareiddiedig. Pan ddeall odd y Pab Boniface am ei enwogrwydd, anfonodd am dano i Rufain. Pan ddaeth y gennad at Giotto, dymunodd gael rhyw brawf mai efe yn wir ydoedd Giotto. Ar amrant, cymerodd y llanc ddalen wen, a chydag un cyffyrddiad o'i bwyntil, gwnaeth O Giotto gylch perffaith grwn, ac y mae yn ddywediad cyffredin gan werin Fflorens hyd y dydd hwn,— "Mor grwn ag O Giotto."

Yn gyfagos i'r Tŵr y mae heol gul o'r enw "Via de Morte," hynny yw, Heol y Marw." Ers amser maith yn ol, gorfodwyd boneddiges ieuanc gan ei thad i briodi gŵr oedd gas ganddi. Ar derfyn y gwasanaeth priodasol, syrthiodd y briodasferch i lewyg trwm. Tybiodd ei pherthynasau ei bod wedi marw, a chladdwyd hi. Ond Heol y Marw." ymhen ychydig oriau deffrodd y ferch, a llwyddodd i ddiane o'r fedd-gell. Aeth tua'i chartref ar hyd yr heol hon,—am hynny y gelwir hi hyd heddyw "Heol y Marw. Cymaint ydoedd dychryn y tad a'i fab- yng-nghyfraith fel y gwrthodasant roddi derbyniad iddi, gan, dybied mai drychiolaeth ydoedd. Yna aeth y ferch i annedd ei hen gariad, yr hwn na fynnai ei thad ei gydnabod. Derbyniodd ef hi yn llawen, a chan fod y cofrestriad o'i chladdedigaeth eisoes wedi dirymu ei phriodas gyntaf, nid oedd rhwystr iddi ymbriodi â'i chariad cyntaf, ac felly y bu, a chawsant,—yn ol yr hanes,—oes faith a dedwydd.

PENNOD V.

YCHYDIG yn nes ymlaen na'r Eglwys Gadeiriol, i gyfeiriad yr afon, y mae canolfan prysurdeb a masnach Fflorens yn y presennol, fel y mae hefyd yn ganolbwynt ei hanes a'i helyntion, ac, yn wir, i fesur mawr, Itali yn y gorffennol, sef y "Piazza della Signoria." Gair Italaeg am betryal (square) ydyw Piazza. Fflorens, fel dinasoedd ereill Itali, wedi ei ffurfio yn squares,—neu Piazzas; ac ym mhob Piazza o'r bron fe geir hen adeilad neu adeiladau â hanes iddynt. Yr hynotaf yn Fflorens ydyw y Piazza della Signoria. Yma y mae y llysoedd a'r Swyddfeydd cyhoeddus, yma yr ymgasgl y torfeydd ar adegau o gynhyrfiadau gwladol. Dyma'r fan y cyflawnwyd aml i drychineb alaethus a fydd yn anfri ar enw y ddinas ddyddiau'r ddaear.

Yma y rhoddwyd i farwolaeth y mynach duwiol, a'r pregethwr hyawdl, Savonarola. Ar yr ochr ddwyreiniol i'r Piazza y mae yr adeilad a elwir Palazzo Vecchio, hynny yw, Hen Balas, yn yr hwn y mae swyddfeydd y Llywodraeth. GwelaisSavonarola.yno y gell ym mha un y carcharwyd Savonarola a gwroniaid ereill. Danghosir yma hefyd gapel bychan lle y bu Savonarola a'i ddau gyfaill yn cyfranogi o'r Sacrament Santaidd cyn eu harwain i'r stanc, wrth ba un y llosgwyd hwy yng ngwydd ac yn sŵn crochlefain y dorf fileinig, ac wedi hynny y bwriwyd eu llwch yn ddiystyrllyd i ddyfroedd yr Afon Arno. Trosedd mawr Savonarola yng ngolwg yr awdurdodau ydoedd pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb,— ymladd dros egwyddorion rhyddid a chyfiawnder. Erlid arwyr y gwir a fynn y byd ym mhob oes, ac ym mhob cylch. Dyna sydd wir heddyw; os mynn dyn sefyll i fyny dros iawnder a rhyddid, cenfigen ac erledigaeth fydd ei ran. Cyn pen ychydig flynyddau ymledodd y syniadau y dadleuai Savonarola drostynt, nes peri i Rufain ei hunan grynnu hyd ei sylfaeni. Yfwyd yn helaeth o'i ysbryd, a syrthiodd ei fantell ar ysgwyddau mynach ieuanc o'r enw Martin Luther, a chyn hir torrodd gwawr y Diwygiad Protestanaidd. A phwy all ddweyd pa mor ddyledus ydym ni, yng Nghymru lonydd, i ymdrechion y dewr Savonarola bedwar can mlynedd yn ol, am y rhyddid gwladol a chrefyddol a fwynheir gennym heddyw?

Gerllaw saif y Galleria del Uffizzi, lle y ceir y casgliad rhyfeddaf a chyfoethocaf fedd y byd o ddarluniau a cherfluniau. Mewn cwrr arall i'r Piazza hwn, saif y "Loggia de Lanzi," llawn o gerfluniau godidog. Cyfrifir bwä u (arches) yr adeilad hwn yn gynllun perffaith o'r dosbarth yma o adeiladwaith. Math o neuadd agored ydyw y "Loggia," a adeiladwyd yn y flwyddyn 1376, fel man i'r Ynadon Heddwch i alw ynghyd y dinasyddion i drafod materion pwysig ar adegau neilltuol. Ni chaniata gofod i mi ymdroi yn hwy yn Fflorens, er nad wyf wedi cyffwrdd â'r filfed ran o ryfeddodau y ddinas ardderchog hon, a brofant safle uchel ei phreswylwyr ers canrifoedd lawer mewn athrylith a diwylliant.

Oddiyma aethum i gyfeiriad Rhufain, pellter o ddau can milltir, ar hyd gwlad dda odiaeth, golwg fendigedig ar y gwinllanoedd, a'r perllannau oranges, lemons, olives, &c. Pob troedfedd o'r tir yn cael ei amaethu fel gardd, y meusydd oll yn agored heb glawdd na therfyn iddynt. Cedwir a phorthir yr anifeiliaid, gan mwyaf, mewn corau. Gwelem, weithiau, ddeadell o ddefaid neu Gwlad dda Odiaeth. geifr yn porri yn y maes, ac yn cael eu gwylio gan blant; bryd arall, ychydig wartheg mewn congl o'r maes, a'u perchennog ar gefn ei asyn yn eu gwylio, ac yn dal gwlaw-len fawr uwch ei ben yn gysgod rhag pelydrau llosgawl yr haul. Ychain ddefnyddir, gan mwyaf, i drin y tir, i droi a llyfnu, ac i wneud pob trym-waith; anifeiliaid mawr a chryfion, gwyn eu lliw, fel rheol, ond mewn rhai ardaloedd yn llwydion, cyffelyb i liw llygoden.

Ceffylau bychain, meinion, a gwael yr olwg, ond hynod wydn. Digon o harness a thipyn dros ben, ac wedi eu gorchuddio â rubannau o bob lliw. Cer— bydau bychain prydferth, ac eir i draul a thrafferth fawr,—ie, gan y werin,—i'w haddurno, ac yn ben ar y cwbl, ffrewyll anferth,—mwy o chwip nag o gerbyd,—a mwy o harness nag o farch. Swynol iawn ydyw y daith o Fflorens i Rufain, Meirch y Wlad. a chyda theimladau dwys yr agoshaem at "Y Ddinas Dragwyddol"—The Eternal City. Meddiennir yr ymwelydd mwyaf difeddwl a gwamal â graddau o brudd-der yn yr olwg ar yr olion fyrdd a welir o'i mawredd a'i chadernid yn y dyddiau gynt; i'r meddylgar, y mae yn llethol.

Y mae rhyw ogoniant yn ei hadfeilion, a swyn hyd yn oed yn yr olwg ar weddillion eu dinistr Nid oedd fy arhosiad yno ond byrr,—rhy fyrr o lawer. Prin y cefais hamdden i ad-ennill fy hunan-feddiant, ac ymryddhau oddiwrth effeithiau dieithrol yr olwg gyntaf ar yr hen ddinas, a rhyfyg ynnof fyddai tybio y gallaf roddi ond drychfeddwl egwan o'r hyn ydyw Rhufain i'r rhai na fuont yno. Rhaid boddloni ar geisio rhoddi hanes syml o rai pethau a mannau a welais.


CERBYD GWERIN "ITALIA DLOS."


PENNOD VI.

DINAS ar fryn ni ellir ei chuddio." Nid rhyfedd fod Rhufain mor amlwg yn hanes y byd a'i helyntion, oherwydd y mae hi a'i sail ar saith o fryniau. Pwy na chlywodd am y "Seven Hills of Rome?"

Cymraes
yn Rhufain.
Buom yn hynod o ffodus yma yn disgyn mewn gwesty cysurus iawn, ac er ein syndod, gwraig y tŷ yn Gymraes, ac yn chwaer-yng-nghyfraith i Syr David Evans, cyn-Arglwydd Faer Llundain. Hir gofiwn ei mwynder a'i charedigrwydd dihafal.

Ni chollwyd dim amser wedi cyrraedd y ddinas heb ddringo i gopa un o'r bryniau, sef y Pincio,— Bryn y Gerddi,—dyma "Hyde Park" Rhufain; ac o dreulio awr yno, ceir, nid yn unig gipolwg,—bird's eye view,—ardderchog, o'r holl ddinas, ond ceir hefyd gyfle i weld pob dosbarth o'r bobl, gwreng a bonedd, tlawd a chyfoethog, pobl y dref a phobl y wlad, milwyr a morwyr, ac i mi, ddosbarth hynod ddyddorol, sef myfyrwyr y gwahanol golegau, oll yn eu gynau nodweddiadol, fel y gall y cyfarwydd yn hawdd ddweyd o ba wlad y deuant, ac i ba goleg y perthynant. Mewn gair, y mae y Pincio beunydd yn gyrchfan pobloedd lawer o bob llwyth, iaith, a chenedl, yn mwynhau cysgod y coed a'r llwyni, perarogl y blodau a'r llysiau, a cherddoriaeth ddigymar y Military Bands.Hyde Park Rhufain. Hawdd adnabod, yn y pellter draw, dyrrau hen Eglwys Gadeiriol Sant Pedr a Phalas y Pab. Dyma, yn ddiddadl, yr Eglwys ardderchocaf yn y byd. Gorffwys ei sylfaeni ar yn agos i bum acer o dir. Y mae ei hyd yn 212 o lathenni, uchter ei chromen (dome) yn 145 o lathenni, y mae ynddi 150 o golofnau, 30 o gapelau,—pob un ynddo ei hun yn eglwys led helaeth ac allor ynddi. Lliaws mawr o ddarluniau a cherfluniau, gan brif gelfwyr y byd,—hen a diweddar. Eglwys
Sant Pedr.
O dan y gromen fawr y mae canopy o bres, yn agos i 100 troedfedd o uchter. O dan hwn y mae y brif allor, lle nad oes neb ond yr anffaeledig,—y Pab ei hun,—i weinyddu. O dan yr allor hon y mae rhan o weddillion yr Apostol Pedr,—rhan o'i weddillion, meddaf, oherwydd dyna yw chwedl y Babaeth, mai ei ben yn unig gladdwyd yma, ac fod y rhan arall o'i gorff wedi ei rannu rhwng Eglwys Sant Paul a San Sebastiano.

Gerllaw y brif allor y mae delw bres fawr o'r Apostol, yr hon sydd, o leiaf, yn 800 mlwydd oed. Y mae yn eistedd yn naturiol iawn ar orsedd wen

EGLWYS SANT PEDR A PHALAS Y PAB.


Bawd troed
Pedr.
fawr o farmor, a'i draed noeth ar droedfainc, wedi ei osod yn y fath fodd, fel ag i fod yn gyfleus i bererinion defosiynol ei gusanu, a chymaint y cusanu sydd wedi bod arno, fel y mae bawd y troed de bron wedi ei gwisgo ymaith er mai pres ydyw.

"O! ynfydrwydd," meddwn, wrth syllu ar ddefosiwn a sel y pererinion ddeuent wrth yr ugeiniau, o un i un, i gusanu y "fawd bres," eithr i'w golwg hwy, rhagorfraint oruchel ydoedd. Llawer ohonynt, o bosibl, drwy lafur a hunanymwadiad mawr, wedi teithio miloedd o filltiroedd i ddim arall ond i gael golwg ar wedd ei santeiddrwydd y Pab, ac i gusanu bawd bres yr Apostol Pedr. Hawdd canfod ar ystum a difrifoldeb llawer un ohonynt mai pobl â'u hamcan yn gywir oeddynt. Ac os yw munud o edrych ar ei santeiddrwydd wedi ei wisgo â llian main a gwyn, ac os yw cyffwrdd y wefus â'r fawd bres, yn gynhorthwy i gredinwyr syml i fod o hynny allan yn lanach eu rhodiad, ac yn burach eu gwefusau, —wel, bydded felly. Y mae i bob ffurf o grefydd ddefodau, oll ynddynt eu hunain yn ddibwys. Dibwys ynddynt eu hunain ydyw temlau gorwych y dinasoedd mawr, dibwys ynddynt eu hunain yw addoldai syml y cymoedd tawel, dibwys ynddynt eu hunain pob ffurf a defod; ond rhaid yw i blant dynion wrthynt hyd nes delo yr awr "pryd nad addolir y Tad yn Jerusalem, nac yn y mynydd hwn, ond mewn ysbryd ac mewn gwirionedd."

Mewn congl ar y llaw chwith wrth fynd allan o Eglwys Sant Pedr, y mae bedyddfaen brydferth ; ac y mae pob merch i rieni Rhufeinig,—a enir yn Rhufain, ac a fedyddir wrth yr allor hon,—yn derbyn ar ddydd ei phriodas 300 ffranc gan y Pab. Yn gyfagos i'r Eglwys y mae Palas y Pab,—y Vatican.Palas y Pab.Mynn rhai fod ynddo 1,100 o ystafelloedd,—anhawdd credu hyn. Bum yn crwydro amser maith drwy lawer ohonynt, yn cynnwys myrdd o brif weithiau arwyr y pwyntil a'r cun, ond buasai yn well gennyf gael pum munud o sgwrs â'r "hen ewythr," y Pab ei hun. Ond y mae henaint a phenwynni wedi ei oddiweddyd, ac ofer i heretic fel myfi obeithio am y fraint o anadlu yr un awyr ag ef,—eiddo y gwir olynwyr a'r santaidd etholedigion yn unig ydyw hynny.

Golygfa brudd sydd ar adfeilion y Colosseum, math o theatre neu circus anferth, a adeiladwyd yn agos i ddwy fil o flynyddau yn ol. Y mae yn mesur 573 o lathenni o amgylch, yn agos i ddau can llath ar draws, a'r muriau yn 32 llath o uchter. Ni bu tô erioed arno. Yn ystod y chwareuon, byddai cwrlid (canvas) mawr yn cael ei daenu o fur i fur i gyd drosto, er diogelu y dyrfa rhag gwres neu wlaw. Son am tents a pavilions Eisteddfodau y dyddiau hyn, nid


Y COLOSSEUM.


ydynt ond megis cicaion Jonah o'u cymharu â Colosseum dyddiau Nero greulon. Cyfrifir fod olion ynddo o eisteddleoedd cysurus i 80,000 o bobl. Y mae y llawr y cymerai y campau le arno yn gan llath o hyd, ac yn dri ugain o led. Odditan yr eisteddleoedd y mae y celloedd lle y cedwid y bwystfilod gwylltion yn hwylus wrth law at amcanion y campau creulon. Dyma'r fan y merthyrwyd cannoedd o Gristionogion, drwy eu taflu i grafangau y bwystfilod rheibus, er difyrrwch i'r Y Colosseum. tyrfaoedd penboeth. Byddai yr hynafiaid yn ystyried y Colosseum yn fath o gysgod o fawredd Rhufain, ac yr oedd dywediad yn eu plith,—

"Tra saif y Colosseum, saif Rhufain,
Pan gwymp y Colosseum, cwymp Rhufain,
A phan gwymp Rhufain, cwymp y byd."


Syrthiodd y Colosseum, a dinistriwyd yr adeilad anferth, yn ol pob tebyg gan ddaeargryn, ers mil a mwy o flwyddi. Rhufain hithau a gwympodd, a'i chwymp a fu fawr. Ond ar ei draed y mae y byd hyd yn hyn, ac i bob golwg yn mynd rhagddo.

Ychydig ymlaen tua'r dehau o'r Colosseum, deuwn i'r ffordd lle y dywed Paul i'r brodyr ddyfod i'w gyfarfod hyd Appii Forum a'r Tair Tafarn; ac, Ffordd
Appii Forum.
wrth gwrs, danghosir y llecyn gan y brodorion gyda difrifwch a sicrwydd diamheuol. Dywed traddodiad i'r Apostol Pedr ddianc o'r carchar yn Rhufain, ac i'r Arglwydd Iesu ymddangos iddo ar y ffordd hon, a'i geryddu am ei lwfrdra yn ffoi, ac iddo yntau yn y fan droi yn ol a gwynebu yn eofn ei elynion, ac y mae Eglwys fechan o'r enw "Domine quo Vadis " yn awr ar y llecyn, er cof am yr amgylchiad.

Mewn Eglwys arall gyfagos, sef "San Sebastiano," y mae i'w weld ddarn o faen, ac arno ôl troed, a chred y ffyddloniaid mai ôl troed yr Iesu ydyw, pan ddisgynnodd yn ddisymwth i gyfarfod Pedr a Phaul. â Phedr pan ar fedr ffoi o Rufain. Dyma'r Eglwys, fel y crybwyllwyd eisoes, lle y cedwir rhan o gorff yr Apostol Pedr. Dywed traddodiad hefyd fod Pedr a Phaul wedi cyfarfod, ac wedi ffarwelio â'u gilydd am y tro olaf gerllaw y ffordd hon, ac ar y llecyn tybiedig y mae capel bychan wedi ei godi i'r amcan o gadarnhau y chwedl.

Eglwys
Sant Paul.
Adeilad ardderchog ydyw Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Sylfaenwyd yr Eglwys hon gan yr Ymherawdwr Theodosius, yn y flwyddyn 388, fel y dywed yr hanes uwchben beddrod yr Apostol Paul.Yma, fel yr awgrymwyd, y mae yng nghadw ran hefyd o gorff yr Apostol Pedr. Ychwanegwyd at yr adeilad ganwahanol Ymherawdwyr, o bryd i bryd, fel yn nechreu y ganrif ddiweddaf yr ydoedd yr Eglwys ardderchocaf yn yr holl fyd. Ond yn


Y FFORDD I APPII FFORUM (Actau xxviii. 15).



EGLWYS SANT PAUL, RHUFAIN (oddifewn).


y flwyddyn 1823, dinistriwyd hi bron yn hollol gan dân. Gan y dywedir ei bod wedi ei hadeiladu gan mwyaf o farmor, a'r oll o'i dorrau o bres, anhawdd deall pa fodd y dinistriwyd hi mor llwyr gan dân. Eglurwyd i mi fod yr Eglwys gyntefig yn llawn o eisteddleoedd o goed trwchus, y rhai oeddynt y prif achos o'r goelcerth aniffoddadwy.

Dechreuwyd ail-adeiladu Sant Paul yn ddi-ymdroi, yn 1823. Cysegrwyd rhan ohoni yn 1840, a'r oll ohoni yn 1854, felly buwyd ddeng mlynedd ar hugain yn ei hadeiladu, ac nis gellir dweyd ei bod eto wedi ei gorffen. Ei maint yn bresennol ydyw 130 llath o hyd, 65 o led, a 75 o uchter. Nid oes eisteddle ynddi, ac ni bydd mwyach, oddigerth ambell gadair neu fainc ysgafn yma a thraw, rhag ofn tân. Rhaid i'r gynulleidfa sefyll yn ystod pob gwasanaeth. Nid oes yno le i "gythraul y seti," fodd bynnag, roddi ei droed i lawr.

PENNOD VII.

MAE yng nghymdogaeth Rhufain oddeutu deugain o Catacombs, hynny yw, mynwentydd tan- ddaearol. Fe ddywedir y mesurant gyda'u gilydd 600 o aceri, a phe byddai y llwybrau sydd ynddynt yn un llinell, y byddent dros 545 o filltiroedd o hyd; a chofier eu bod oll o dan y ddaear. Y maeY Mynwentydd tan-ddaearol. y llwybrau y naill uwchben y llall; y rhai uchaf ugain troedfedd o ddyfnder, a'r rhai isaf hanner can troedfedd. Pe meddai y llwybrau hyn dafodau, mynegent bethau rhyfedd ac ofnadwy am y rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, rhai a grwydrasant mewn anialwch, mynyddoedd, ac ogofeydd y ddaear.

Yn y mynwentydd tan-ddaearol hyn y bu cannoedd o'r Cristionogion boreuol yn ymguddio rhag llid a chynddaredd eu herlidwyr, yn enwedig o ddyddiau Nero greulon hyd y drydedd ganrif. Mynych y cyfodai y cwestiwn yn fy meddwl ynghanol y fath adgofion byw o'r hyn y rhaid eu bod wedi ei ddioddef, —"Pa wedd y daliem ni, broffeswyr crefydd yn yr ugeinfed ganrif, o dan y fath erledigaethau tanllyd, pe goddiweddent ni ?"

Yr oedd yr hen Rufeinwyr am bopeth ar raddfa eang. Y mae adfeilion aml i hen ymolchfa (public baths) yn dwyn tystiolaeth i hyn. Wedi bod yn ymdroi ymysg y beddau, aethum ar fy union i gael golwg ar Ymolchfeydd Caracalla. Adeiladwyd Dwfr.y rhai hyn tua'r flwyddyn 212. Yr oedd yno le i 1,600 o bersonau i ymdrochi ar unwaith, pob math o baths,—poeth,—claiar,—oer,—plunge a shower baths. Cofiwch, 1,700 mlynedd yn ol, a dim prinder dwfr. Yn wir, y mae yn Rhufain ddigonedd o ddwfr bob amser.

Yr oedd trigolion Rhufain, y pryd hynny, ac yn wir ymhell cyn hynny, yn fyw i gwestiwn y dwfr, ie, ddwy fil a mwy o flynyddoedd yn ol, cyn bod son am Lerpwl, a Manceinion, a Birmingham, sydd beunydd yn fawr eu helynt ynghylch eu water supply. Y mae yn Rhufain heddyw liaws mawr o fountains ardderchog yn lluchio yn afradlon ffrydiau grisialaidd o ddwfr o'r bore hyd yr hwyr, a chyflenwir y rhan fwyaf o'r rhai hyn o un ffynnon, sef yr Aqua Virgo, pellter o bedair milltir ar ddeg allan o'r ddinas, drwy bibell fawr wedi ei gosod yn ddwfn yn y ddaear yn y flwyddyn c.c. 19, ac o hynny hyd yn awr yn cludo yn gyson a di-ball 13,000,000 o alwyni o ddwfr i'r ddinas bob dydd.

Y mae yn arferiad gan Babyddion defosiynol, pan ar gychwyn i daith, dalu ymweliad ag un o'r fountains,—sef y Fontana Trevi, a gyflenwir o'r ffynnon hon,— ac wedi yfed o'i dyfroedd, rhoddant ddarn o arian yn y cwpan, gan gredu y sicrha hyn iddynt daith lwyddiannus a dychweliad diogel. Y mae ffynhonellau ereill o ba rai y cyflenwir y ddinas â dwfr, a beth bynnag ydyw cwynion dinasoedd ereill yma a thraw ar hyd y byd oherwydd prinder dwfr, sicr yw fod Rhufain, o leiaf, uwchben ei digon.

Mangre ddyddorol dros ben ydyw y Fforum. Enw ydyw hwn ar adfeilion hen demlau paganaidd adeiladwyd o bryd i bryd er anrhydeddu gwahanol Ymherawdwyr a duwiau. Yr oeddynt, nid yn unig yn lleoedd i addoli y duwiau paganaidd ynddynt, ond defnyddid hwy hefyd i gynnal llysoedd barn. Er engraifft, yma y gwelir adfeilion "Caesar's Forum." Dyma yr areithle lle yr eisteddai Areithfa Cesar. Cesar i wrandaw apel yr Apostol Paul. Treuliasom awr ddedwydd ar brynhawn Saboth dan gysgod colofnau adfeiliedig areithle Cesar, gyda'r wers am y dydd yn y Maes Llafur yn Efengyl Ioan ac Esboniad Cynddylan. Pedwar oedd ohonom,—arolygwr, ysgrifennydd, trysorydd, ac athraw. Fe ddichon mai dyma yr Ysgol Sabothol Gymreig gyntaf a gynhaliwyd erioed yn Rhufain, ond digon posibl mai nid yr olaf. Cafwyd dosbarth fel hyn bob Saboth ar hyd y daith, a gwnaed casgliad bob tro, a chyflwynwyd y cyfanswm i drysorydd y Fam Ysgol ar ein dychweliad.

Digwyddais fynd heibio i Swyddfa y Feibl Gymdeithas. Dyma beth rhyfedd i feddwl am dano,


ADFEILION Y FFORUM.
Sylwer ar y tair colofn draw i'r dde, dyna safle Areithfa Cesar.


onide? Perffaith ryddid i werthu Gair Duw yn Rhufain o bob man; a mwy na hynny, Cymro, y pryd hynny, yn brif arolygwr dros y Fam Gymdeithas, sef Mr. John Thomas, brodor o Y Feibl Gymdeithas,
—Cymro eto.
Feirion. Gwelais yn y ffenestr hysbysiad fod Testamentau i'w cael ym mhob iaith. Aethum i mewn, a gofynnais am Destament Cymraeg, ond nid oedd yno y fath beth; ac er fy mawr siomedigaeth, nid oedd y Cymro ar gael ychwaith,—yr oedd wedi mynd ar daith Saboth i efengylu i'r cenhedloedd, yn ddiau.

Gerllaw y Fforum, saif Eglwys fechan o'r enw Sant Joseph. Odditani y mae hen gelloedd tywyll, aflan. Dywed hanes mai yn y celloedd hyn y carcharwyd Pedr. Yr hyn sydd ryfedd ydyw, fod, ynghanol yr aflendid a'r tywyllwch, ffrwd o ddwfr grisialaidd yn byrlymu yn ddibaidChwedl ryfedd
am Pedr.
o waelod y gell. Y traddodiad ydyw i Pedr, tra yn garcharor, orchymyn i'r dwfr ffrydio o'r graig i'r diben iddo ei gael i fedyddio y milwyr oeddynt yn ei wylied, y rhai, wedi iddo bregethu iddynt, a edifarhasant ac a gredasant, ac a fedyddiwyd Dyna'r chwedl. Hyn a wn i, ac a welais i, y mae y gell dywell yno, a'r ffrwd loew, lân, hefyd.

O, hen adeilad ardderchog!—Y Pantheon. Cysegredig i'r "Holl Dduwiau,"—dyna ei ystyr. Dyma yr unig hen adeilad yn Rhufain sydd wedi cadw ei ddechreuad. Y mae hwn yr un fath a phan yr adeil— adwyd ef, 35 c.c. Teml baganaidd ydoedd ar y cyntaf i'r Saith Seren, sef Apollo, Diana, Mercurius, Venus, Mars, Jupiter a Saturn. Cynhygiwyd lle i'r Arglwydd Iesu yn y Pantheon, Y Pantheon. ond gwrthodwyd, gydag ysgorn, gan y Cristionogion, osod delw o'u Gwaredwr yno. Yn y flwyddyn 609 daeth i feddiant y Babaeth, fel y mae ambelli addoldy Protestanaidd Ymneilltuol yn dyfod i'w meddiant yng Nghymru y dyddiau hyn. Nid oes i'r adeilad ffenestri yn y muriau, daw y goleuni oll drwy gromen ardderchog sydd yn agos i hanner can llath o uchter, ac y mae yr effaith yn brydferth tuhwnt i bob desgrifiad.

Y distawrwydd, y tawelwch, yr ymdeimlad o berffaith ddiogelwch, ac amddiffyniad rhag twrf a therfysg y byd oddiallan. Bron na ddychmygwn fod yn llanw y lle ryw ysbryd mawr diddan, yn sisial mewn llef ddistaw, fain,—" Deuwch yma bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a chwi a gewch orffwystra i'ch eneidiau." Yma y dygir gweddillion marwol enwogion Itali i orffwys mewn hedd ac anrhydedd. Y Pantheon ydyw Westminster Abbey Rhufain. Y mae yn yr hen ddinas 300 o Eglwysydd, ac i bob un ei hanes a'i thraddodiadau swynol. Rhydd hyn ryw syniad egwan am yr amrywiaeth di-dorr o destynau dyddorol y byddai yn hawdd ymhelaethu arnynt.


Y PANTHEON.


PENNOD VIII.

NAPLES,—Napoli Actau yr Apostolion. Dinas fawr; rhif ei thrigolion yn 600,000. Dinas drystiog, brysur ac aflan i'r eithaf, yn enwedig y parthau isaf ohoni. Dinas y clefydau a'r heintiau, a theimlwn bryder nid ychydig wrth agoshau ati. Yr oeddwn yn disgwyl boneddwr i'm cwrdd yn y stesion, ond nid oedd hanes am dano. Yr oeddwn wedi cyrraedd yno 0 flaen y llythyr a anfonesid atoCyrraedd Naples.ddeu-ddydd cyn hynny. Chwarddai yn galonnog pan ddeuthum o hyd iddo y dydd canlynol. "Chwi ddylasech," meddai, "anfon telegram i ddweyd eich bod wedi anfon llythyr,—dyna fyddwn yn wneud yma." Nid yw yr awdurdodau yn rhyw ofalus iawn am gludo llythyr i ben ei daith yn ddiymdroi.

Ac am Money Orders, gwaeth fyth. Yr oedd boneddwr ieuanc yn cyd—deithio â mi ar y llong, ac wedi derbyn P.O.O. oddicartref. Aethum gydag ef i lythyrdy er ei Y Llythyrdy. droi yn arian. Dywedwyd wrthym fod yn rhaid cael tystiolaeth dau ddinesydd cyfrifol mai "efe oedd efe." Cafwyd hynny, ond er eu bod yn cydnabod fod yr arian wedi cyrraedd yn ddiogel o Loegr, nis gallent eu talu am o leiaf bum niwrnod; ac wrth fod y llong ar gychwyn, eu gadae! fu raid, ac yno y maent eto, am ddim a wn i. Ond am y telegraff a'r teleffôn, nid oes achos cwyno. Os yr un, y mae eu trefniadau yno cystal, os nad gwell, nag yn y wlad hon. Bum yn siarad drwy y teleffôn yno amryw weithiau bellteroedd mawr gyda rhwyddineb, ac am bris bychan.

Bum mewn cryn benbleth yn stesion Naples; gan fy mod yn disgwyl y cyfaill i'm cwrdd, nid oeddwn wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda golwg ar lety. Ond gwyddwn fod gan bob Hotel o bwys omnibus, ac yr oedd yno o leiaf ddeg ar hugain yn disgwyl am y trên o Rufain, a phob gyriedydd yn Mewn Penbleth. bloeddio nerth ei ben mai ei gerbyd ef, ei feirch ef, a'i westy ef, oedd y goreu. Atebwn innau yn ol yn Gymraeg, "Caffed amynedd ei pherffaith waith," ac edrychent arnaf yn syn. O'r diwedd, gwelwn omnibus fechan dwt, ac arni "Parker's Hotel." Wel, dacw enw Sais, beth bynnag, ac i mewn a mi, a dewisiad ffodus ydoedd, ni ddymunwn byth westy mwy clyd, cysurus, a rhesymol.

Y mae safle ddaearyddol Naples yn ddiddadl yr odidocaf yn y byd. Y mae yr olygfa o gyrrau uchaf y ddinas, yn enwedig gyda thoriad y wawr, yn ogoneddus. Pelydrau euraidd yr haul yn ymgusanu â dyfroedd gleision a chwareus y bau byd -enwog. Yr hen Vesuvius yn y pellter draw rhuo ac yn chwythu bygythion o dân a tharth a mŵg. Fe ddywedodd rhywun, "See Naples and die." Yr ystyr yw nad oesBau Naples.yr un olygfa yn y byd yn werth byw i edrych arni, wedi un olwg ar ysblander Bau Naples yn ei ogoniant.

Nid oes, o bosibl, yn Naples ei hun ond ychydig, mewn cymhariaeth, o leoedd ag iddynt ddyddordeb hanesyddol, ond fe ddichon y ceir gwell mantais yma nag unrhyw ddinas arall yn Itali i weld, ac i iawn ddeall bywyd a nodweddion y werin. Nid ydynt wylaidd, eithr digywilydd iawn, yn ol ein syniad ni am bethau. Y maent yn byw gryn lawer yn yr awyr agored. Cyflawnant bob math o Diwrnod
Golchi.
oruchwylion oddiallan i'w hanedd-dai, y fath ag ydynt, yn wyneb haul a llygad goleuni,—ymolchant, ymdrwsiant, ymwisgant, oddiallan wrth ddrws y ty, yn hyf heb ofalu pwy a'u gwel. Y mae yn ddiwrnod golchi yn Naples bob dydd. Mynych y gwelir tyrfa o ferched wrth gafn mawr ar ganol heol yn brysur yn golchi dillad. Y mae llawer o'r heolydd yn gulion iawn, a'r tai yn uchel ar bob llaw, ac yn ol pob golwg y mae y cymdogion yn gwneud â'u gilydd i osod lines o'r naill ochr i'r llall, a gwelir ugeiniau o heolydd Naples yn llawn o ddillad yn hongian i sychu bob dydd.

Un diwrnod, aethum i dalu ymweliad âg ysbyty mawr. Yn y cyntedd nesaf allan, yr oedd rhyw bymtheg o enethod ieuainc, hardd eu llun, yn disgwyl am y meddygon. Yr oedd eu hwynebau yn waed i gyd, ac erbyn holi, rhoddwyd ar ddeall i mi mai wedi eu harcholli â chyllell yr oedd pob un ohonynt, a hynny gan ei darpar ŵr. Y mae yn hen arferiad yn eu plith i drefnu dawns ar adegau neilltuol, a gwahoddir ieuenctid yr ardal iddi, yn feibion ac yn ferched. Tra yn dawnsio, bydd rhai yn syrthio Nod Cariad
Rhyfedd.
mewn cariad, ac yn ymgyfamodi â'u gilydd, yna y mae y llanc yn tynnu allan ei dwca, ac yn rhoi nôd ar foch y ferch, er dangos mai efe a'i pia hi o hynny allan, a gwae i'r neb a feiddio. geisio ei denu oddiarno,—bydd ei dwca ar amrant yn dial. Dyna arfer llanciau Naples,—nid rhoddi engagement ring i'w ddyweddi, ond craith ar ei boch. Hyn rydd gyfrif am fod creithiau i'w canfod ar wynebau, yn enwedig y rhai harddaf o'r rhyw deg, ymhlith dosbarth gweithiol Naples.

Un o brif ryfeddodau y rhan yma o'r wlad, ac yn wir, un o ryfeddodau mwyaf yr hen fyd yma, ydyw Vesuvius, y mynydd tanllyd. Y mae rhyw ddirgelwch ynglŷn â hwn nad yw dynion dysgedicaf unrhyw oes hyd yn hyn wedi llwyddo i roddi cyfrif boddhaol am dano. Am a wn i, nad cred syml hen bobl dduwiol ydyw yr hawddaf ei dderbyn, sef mai un o weision dinistriol y Brenin Mawr ydyw Vesuvius. Y mae o 4,000 i 5,000 o droedfeddi o uchter. 'Does lecyn yn y byd lle y gwelir gwinllanoedd mor odidog, a chnydau mor doreithiog o bobVesuvius.rhyw fath o ffrwythau, ag a welir ar lechweddau gwyrddleision, a dyffrynnoedd breision, y mynydd tanllyd, anesmwyth, hwn.

Cymylau anferth o fŵg a gwreichion welir yn esgyn yn ddibaid o'i grombil berwedig. Ar adegau, y mae y cynhyrfiadau yn ofnadwy, dinistr ar bob llaw, troir y dydd yn dywyllwch, bydd y môr yn berwi am filltiroedd lawer, taranau a mellt a daeargrynfäau, afonydd o dân yn ffrydio o'i ystlysau. Fe ddichon mai golwg ar y mynydd hwn yn ei ddigllonrwydd awgrymodd i'r Apostol y geiriau rhyfedd,—"Y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant, a'r ddaear a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir." Fe ddywedir fod yn ystod rhai ffrwydriadau gerrig anferth eu maint yn cael eu hyrddio bymtheng milltir o bellter.

Y mae llawer yn cyrchu o bellteroedd y ddaear i weld y mynydd tanllyd hwn, yn enwedig Saeson ac Americaniaid. Aeth Ianci un tro gyda chyfaill i'w weld. Meddai y cyfaill wrtho, "Wel, 'does gennych chwi ddim tebyg i hwn hyd yn oed yn yr America fawr acw." Atebai yr Ianci, "Feallai nad oes, ond y mae acw bistyll bychan yn y Niagara roddai full-stop ar dânNiagara. a brwmstan Vesuvius mewn dau funud a phwt." Pa ryfeddod bynnag wel yr Ianci mewn gwlad estronol, mynn ef bob amser fod rhyw ryfeddod mwy yn ei wlad ef ei hun. Y rhyfeddod mwyaf i mi ydoedd canfod fel y dynion yn ymgynefino â pherygl. Er na wyddis pa funud awr y gall y storom ddinistriol dorri allan yn y dyfodol, fel yn y gorffennol, cynhyddu yn gyflym wna y boblogaeth ar odrau a llechweddau y mynydd. Adeiledir tai prydferth ar ei ystlysau wrth yr ugeiniau y dyddiau hyn.

PENNOD IX.

YN ystod teyrnasiad Nero, cyrhaeddodd y rhan yma o'r byd, o leiaf, ei bwynt eithaf, mewn eilun-addoliaeth, rhysedd a buchedd aflan; o ba un y ceir desgrifiad mor fywAnlladrwydd y Rhufeiniaid.gan yr Apostol Paul yn niwedd y bennod gyntaf o'r Epistol at y Rhufeiniaid. Y mae Epistolau Pedr hefyd yn frith o eiriau a brawddegau a awgrymwyd iddo, yn ol pob tebyg, gan ansawdd arswydus cymdeithas ar y pryd, â rhyw ofn a disgwyliad y byddai i'r Duw Mawr, mewn modd amlwg iawn, roddi atalfa disymwth ar anuwioldeb hyf a dilywodraeth plant dynion.

Yn y flwyddyn 63, ynghylch yr adeg y dywedir fod Pedr yn garcharor yn Rhufain, bu Vesuvius o dan gynhyrfiad ofnadwy. Cymerodd daeargryn ddychrynllyd le, gan beri galanastra mawr; collwyd cannoedd o fywydau, dinistriwyd tai a threfi; yn eu plith, Pompeii, ydoedd heb fodPompeii.ymhell o droed y mynydd. Yr oedd Pompeii ar y pryd yn hoff gyrchfan mawrion a chyfoethogion llys yr Ymherawdwr Nero. Yr oedd yno demlau ardderchog i'r duwiau paganaidd ac anllad, a chwareudai, rhai ohonynt ag eisteddleoedd i 20,000 o bobl, palasau, gerddi, llynnoedd, ac ymolchfeydd moethus. Mewn gair, popeth allai dychymyg dyn ei ddyfeisio i borthi blysiau a chwantau cnawdol a phechadurus.

Ond yn ddisymwth, megis lleidr yn y nos, dinistriwyd yr oll gan ffrwydriadau y mynydd tanllyd. Ymgasglodd yr awdurdodau a'r cyfoethogion ynghyd, a phenderfynwyd yn ddi-ymdroi ail adeiladu y dref, a chyn pen deuddeng mlynedd, nid yn unig adferwyd y dref fawr, ond ychwanegwyd ati o ran maint ac ysplander. Yna ymollyngodd y trigolion a'r ymwelwyr i fwy o ryfyg a rhysedd nag erioed. Nid oedd y gyflafan arswydus a achosodd y fath ddinistr mor ddiweddar wedi dofi dim ar eu trachwantau a'u hawch am fwyniant pechadurus dros amser.

Ond yn y flwyddyn '79,—dim ond un ar bymtheg o flynyddau er pan ddinistriwyd y dref o'r blaen,—a dim ond pedair blynedd wedi gorffen adeiladu rhai o'r prif chwareudai, torrodd y mynydd tanllyd allanDinistr Pompeii. drachefn, gyda rhyw rym ofnadwy Crynnai y ddaear filltiroedd maith drwy y wlad o amgylch, berwai y môr, ffrydiai y lafa eirias fel afon lifeiriol, gref, o fynwes y mynydd, yn enwedig i gyfeiriad Pompeii, a chyn pen pedair awr yr oedd y dref fawr annuwiol yn garnedd.

Dihangodd y rhan fwyaf o'r trigolion i'r wlad, ond collodd dros ddwy fil ohonynt eu bywydau. Yr oedd holl adeiladau mawrion a gwych y dref wedi eu claddu, ymhen ychydig o amser, o dan haenen drwchus o ludw tanllyd o grombil Vesuvius. "Ni watworir Duw." "Peth ofnadwy ydyw syrthio yn nwylaw y Duw byw."

Gwnaed llawer ymgais, o bryd i bryd, i gloddio ac i ddod o hyd i'r trysorau a'r cyfoeth dihysbydd a gladdwyd mor ddisymwth o dan adfeilion Pompeii, ond i fesur mawr yn ofer hyd yn lled ddiweddar,—bu y cyfan am o leiaf 1,500 mlynedd o dan orchudd barnol. Ond rhyw 150 mlynedd yn ol, tra yn dilyn yr aradr, daeth amaethwr tlawd yn ddamweiniol ar draws nifer o ddelwau o farmor. Anfonodd Brenin Itali, sef Siarl III., am danynt, a bu hynny yn foddion i ail- ennyn y dyddordeb yn Pompeii a'i hanes ofnadwy, a phob yn dipyn dygwyd i'r golwg rannau helaeth o'r dref.

Yn y flwyddyn 1860, cymerodd Llywodraeth Itali yr anturiaeth mewn llaw o ddifrif, a byth er hynny y mae rhai ugeiniau o ddynion wrthi beunydd o dan arolygiaeth hynafiaethwyr profedig yn cloddio; ond cyfrifir y cymer eto o leiaf 50 mlynedd i Cloddio yn
adfeilion Pompeii.
ddwyn yr oll o'r heolydd a'r adeiladau i'r golwg. Ond nid anhawdd ffurfio syniad lled glir oddiwrth yr hyn sydd eisoes wedi ei ddwyn i'r golwg am arferion y trigolion pan yn anterth eu rhwysg a'u rhysedd.

Y temlau a'u delwau, y chwareudai, y palasdai, y masnachdai, pob un yn esboniad ar eu crefydd, eu difyrion, a'u masnach. Heolydd culion wedi eu palmantu â cherrig trwchus a gwastad. Siopau o bob math, siop bysgod yma, siop ffrwythau yna, tafarn neu siop win draw, fferyllydd fan acw, yna y pobydd, &c. Ar garreg ac ar gapan pob drws y mae enw neu arwyddlun o alwedigaeth y perchennog wedi ei gerfio yn gelfydd. Ni raid ond sylwi ar garreg y drws na welir pa un ai meddyg ai dilledydd drigai yno 1,800 mlynedd yn ol, pan gymerodd y gyflafan le.

Y mae cyffyrddiad y lafa dinistriol yn carregu popeth. Gwelir yn siop y pobydd dorthau perffaith o fara, a llythrennau enw y masnachwr yn eglur arnynt, y cwbl wedi eu troi yn garreg. Mewn congl un ystafell, gwelir corff Tystiolaeth yr Adfeilion.creadur o gi ym mhangfeydd marwolaeth, wedi troi yn garreg. Mewn man arall, mam a'i phlentyn bach yn sugno ei bron, ar ei lled orwedd ar wely bychan, wedi eu llethu yn ddisymwth gan ager brwmstanaidd y lafa,—y cwbl wedi troi yn graig haearnaidd.

Y mae yno lawer golygfa na feiddiaf gynnyg eu desgrifio, ond ydynt golofnau dychrynllyd o anllad- rwydd buchedd hen drigolion ac ymwelwyr Pompeii. Digon yw dweyd y cedwir nifer fawr o adeiladau sydd eisoes wedi eu dwyn i'r golwg o dan glo, ac ni chaniateir mynedfa iddynt ond yn unig i ddynion mewn oed a synwyr.

Y mae yno un palas nodedig iawn, a nifer o'i ystafelloedd wedi eu dwyn i'r golwg,— palas y "Tragic Poet." Dyma'r palas y sonir am dano gan Bulwer Lytton yn ei "Last days of Pompeii," ac nid yw yr awdwr rhamantus hwnnw wedi arfer un sill o ormodiaith yn ei ddesgrifiad byw o odidogrwydd y palas pan yn ei ogoniant.

Y mae y muriau wedi eu haddurno â darluniau prydferth, gan brif arlunwyr y dyddiau hynny, ac er fod y lle wedi ei gladdu ers 1,800 mlynedd o dan garnedd o ludw a cherrig, y mae y lliwiau yno yn eu prydferthwch a'u disgleirdeb cyntefig.

PENNOD X.

HWYLIASOM o Naples i Sicily,—hen ynys ag iddi hanes dyddorol iawn. Y mae ei harwynebedd yn 10,000 o filltiroedd ysgwar, a'i phoblogaeth oddeutu 4,000,000, sef cymaint arall a Chymru. Ei phrif drefydd heddyw ydynt Palermo, Catania, a Messina. Nid anhebyg ydyw o ran ei ffurf i yspawd o fylltgig Sicily.(shoulder of mutton), blaen ei choes yn cyrraedd o fewn dwy filltir i draeth y Cyfandir. Y dybiaeth ydyw, ei bod ryw bryd yn rhan o hono, ond i Gulfor Messina gael ei ffurfio yn ystod un o'r terfysgoedd enbyd achosir yn fynych gan ddaeargrynfäau yn y cwrr yma o'r byd.

Gwlad dda odiaeth ar lawer cyfrif ydyw Sicily. Cnydau toreithiog o bob rhyw ffrwyth, bron bob adeg o'r flwyddyn. Y mae yn hen ddywediad ymhlith y brodorion "fod yr haul i'w ganfod yn Sicily bob dydd o'r flwyddyn, beth bynnag fo'r tywydd." Fe geir yma ddigonedd o ffrwyth y winwydden a'r olewydden, eurafalau, lemonau, pomgranadau, &c. Un o brif gynhyrchion yr ynys ryfedd hon ydyw brwmstan. Y mae yno ar waith oddeutu tri chant o fwngloddiau brwmstan, miloedd o dunelli o hono yn cael eu hallforio i bedwar cwrr byd bob blwyddyn. Onid teg ydyw casglu na ddistewir rhuad y mynydd tanllyd Etna, ac na dderfydd y cynhyrfiadau tan— ddaearol arswydus sydd yn peri y fath alanastra ofnadwy o bryd iBrwmstan.bryd, yn yr ynys hon, hyd nes y dihysbyddir bob gronyn o frwmstan o'i chrombil? Ond, atolwg, pa bryd y gwelir hynny ?

Fe gerir ymlaen fasnach eang mewn pysgod, yn enwedig y pethau bychain hynny a elwir sardines, ydynt mor ddeniadol yr olwg arnynt, a blasus ar y bwrdd amser tê, onide. Ond pe gwelech chwi y dynion sydd yn eu dal, a'r merched sydd yn eu paratoi i'r farchnad, yr wyf yn lled sicr y byddai raid i chwi wrth fwy o finegr a phupur nag erioed i'ch cynorthwyo i'w bwyta, heb son am gael blas arnynt. Fel rheol, pobl nwydwyllt a chreulawn ydyw trigolion yr ynys hon. Y mae golwg ffyrnig arnynt. Un o'r pethau cyntaf dynnodd fy sylw wedi glanio ydoedd eu creulondeb at anifeiliaid direswm. Yr oedd fy nghalon yn Pobol
Greulon.
gwaedu wrth ganfod y meirch a'r asynod, druain, ar bob llaw yn cael eu cernodio yn ddidrugaredd a diachos. Nid yw y dyn all fod yn greulawn wrth greadur direswm yn ddyn i ymddiried ynddo, yn enwedig mewn unigedd, ac o dan lenni y nos; yn wir, adyn ydyw, ac nid dyn. Penderfynais na chrwydrwn ymhell o olwg cyfeillion tra yn aros yn Sicily, a chlywais a gwelais ddigon yn ystod fy ymdaith yno i gadarnhau yr argraff ar fy meddwl a ddilynodd yr olwg gyntaf gefais ar ei phobl.

Y mae yn ofynnol i forwyr fod yn dra gwyliadwrus tra yn hwylio drwy Gulfor Messina, oherwydd nifer o dro-byllau chwyrn. Cawsom brofiad disymwth ac anymunol o hyn. Un noson, tra yn eistedd yn gwmni llawen wrth giniaw, clywem swn tebyg i ruad taran yn y pellter, a bloeddiodd y Capten arnom, "Look out! Hold fast!" a chyda iddo ddweyd, dyma'r llong yn troi o gwmpas fel chwirl-i-gwgan, a dyna bob un Trobwll.yn y caban, nad oedd wedi ufuddhau ar amrant i'r gorchymyn, ar lawr, yn feibion ac yn ferched, a'u gwadnau i fyny ynghanol y llestri a'r bwydydd ysgubwyd mor anisgwyliadwy oddiar y byrddau. Yr oeddym, yn llong ac yn llwyth, ynghanol trobwll, ond o drugaredd, y tro hwn, bu cryfder y peiriannau a deheurwydd y morwyr yn drech nag elfennau dinistriol y dyfroedd twyllodrus a rhyfedd hyn.

Porthladd prysur, a thref brydferth, ydyw Messina. Yn ol y cyfrifiad diweddaf (1890), yr oedd poblogaeth y dref yn 80,000, a'r oll o dalaeth Messina yn 154,000. Y mae rhai o heolydd y dref yn eang a llydain iawn, coed yn llawn dwf ar hyd-ddynt. Adeiladau gwych, ond lliaws ohonynt ag olion amlwg arnynt o'r dirgryniadau


MESSINA.


mynych sydd yn ysgytio y parthau hyn mor ofnadwy. Yn y flwyddyn 1783, dymchwelwyd y dref hon bron yn gyfangwbl ganMessinaddaeargryn, ond buan yr adferwyd hi drachefn. Yn 1894, llwyr ddinistriwyd lliaws o'i phrif adeiladau, ac fel yr awgrymwyd, y mae ôl yr ysgytfa honno heddyw ar lawer o'r rhai sydd yn aros. Ond parhau i helaethu ei therfynau wna y trigolion, a chynhyddu y mae ei phoblogaeth. Pa un tybed ai gwroldeb ai rhyfyg sydd yn peri fod dynion yn mynnu cartrefu mewn mangre ag y mae hanes mor brudd iddi?

Yn y flwyddyn 1740, ymwelwyd â'r dref gan bla dinistriol, ac ysgubwyd ymaith, mewn byrr amser, 40,000 o'i phreswylwyr. Wedi hynny, yn 1854, fe dorrwyd i lawr 16,000 gan y geri marwol (cholera). Ond yn wir, y syndod Y Dosbarth
Gweithiol.
ydyw na bae mwy o afiechyd a chlefydau yn disgyn i'w rhan. Er fod y prif heolydd yn ardderchog iawn, y mae cyflwr y parthau o'r dref lle y trig y y trig y dosbarth gweithiol yn warthus i'r eithaf. Mor wahanol ydyw amodau bywyd yno i'r hyn ydynt yn y wlad hon, er gwaethed ydynt yma! Nid yw y cyflog yno ond o swllt i ddau y dydd y fan bellaf, a hynny er gweithio o ddeuddeg i bymtheng awr. Ac am eu tai, nid tai mohonynt, eithr caban un ystafell, wedi ei amgylch— ynu â budreddi o bob rhyw, a'r awyrgylch yn drwmlwythog o ddrygsawr gwenwynig. Fe welir y tad, y fam, a'r plant, y dofednod, yr afr, y ci, a'r gath, oll yn cydfwyta ac yn cydorffwys ar y llawr pridd. Nid oes ganrif yn hanes yr ardal hon heb ei phläau a'i daeargrynfäau.

Cyffelyb yw hanes Catania, porthladd pwysig arall gyda phoblogaeth o 120,000. Saif drigain milltir i'r dehau o Messina, ac o fewn deng milltir i droed y mynydd tanllyd Etna. Uchter y mynydd hwn ydyw 10,642 o droedfeddi, deirgwaith ynCatania.uwch na'r Wyddfa Wen fawr. Y mae eira i'w ganfod ar rannau uchaf ei lethrau wyth neu naw mis o'r flwyddyn, er fod ei grombil yn llosgfeydd dibaid, a mŵg a tharth a thân beunydd yn esgyn o hono. Y mae coed olewydd, coed castan (chestnut)Etna yn tyfu ac yn ffrwytho yn ddibrin arno, hyd hanner y ffordd i'w gopa. Yr oedd yn fy mryd ei ddringo, er gweld codiad yr haul, un o'r golygfeydd ardderchocaf o fewn y greadigaeth; ond nid oedd yr hin yn caniatau. Cymer ffrwydriadau enbyd le yn. fynych,—y lafa yn ffrydiau o dân yn dylifo o fynwes y mynydd rhyfedd, gan ysgubo a difa popeth o'i flaen, ac y mae Catania a'r pentrefydd cylchynol wedi, ac yn dioddef yn erchyll o'r herwydd.

Ryw ddeng milltir ar hugain i'r dehau o Catania, y mae Ynys enwog Syracusa, nad yw ond ychydig o bellter o'r tir. Ei phoblogaeth ydyw 25,000; ar un adeg bu yn 500,000; ac am gyfnod hi ydoedd prif ddinas a phorthladd Sicily,—Syracusabyddai pob llong o bwys o'r dwyrain yn galw yma. Y mae son am hon yn Llyfr yr Actau xxviii. 11-14, sef yn hanes taith yr Apostol Paul o Melita (Malta) i Rufain, ac iddo aros yn Syracusa dridiau, a hwylio oddiyno i Rhegiwm (Reggio heddyw), sef porthladd gyda rhyw ddeuddeng mil o boblogaeth; saif yr ochrRhegiwm.arall i'r Culfor, bron ar gyfer Messina, y pellter rhyngddynt ryw chwe milltir, ac y mae agerlongau bychain yn hwylio yn fynych ac yn gyson rhwng y ddau borthladd. O Reggio, neu Rhegiwm, aeth yr Apostol ymlaen i Puteoli, neu fel y gelwir heddyw, Pozzuoli, tref fechan ychydig fill— tiroedd o Naples. Yn nyddiau yr Apostol Paul, yr oedd yn llePuteoli. pwysig iawn, ac yn ganolbwynt y drafnidiaeth a'r fasnach o wlad y dwyrain; arhosodd yr Apostol yma saith niwrnod, ac yna aeth ymlaen i Rufain.

Prif ddinas Sicily yn awr ydyw Palermo; y mae ei phoblogaeth oddeutu Palermo.250,000. Lle hynod ddymunol ydyw hwn i dreulio ychydig ddyddiau ynddo. Hinsawdd hyfryd, amgylchoedd rhamantus, ac amrywiaeth ddidorr o wrthrychau dyddorol i ymwelwyr ymchwilgar, ond ni oddef gofod i mi ymhelaethu arnynt. Y mae y porthladd yn eang iawn, wedi ei amgylchu âg argae gadarn, ac oddifewn iddo ugeiniau o longau o bob cwrr i'r ddaear. Y mae yn hoff hafan i fawrion y byd, y rhai a ymbleserant yn eu private yachts. Cawsom ni angori o fewn ychydig lathenni i'r Sunbeam, llestr wen Arglwydd Brassey, yr hwn oedd ar ymweliad a'r ardal ar y pryd. Cawsom ein hunain hefyd yn hollol anfwriadol yn eistedd yn ei ymyl yn yr addoldy Seisnig ar y lan fore Saboth.

Gyda'r hwyr un diwrnod, daeth crythor dall ar fwrdd ein llong, un wedi ei eni yn ddall,—ac heb os nac oni bai, wedi ei eni gerddor. Gallai wneud fel y mynnai, a pheth a fynnai, â'i grwth. Cafwyd cryn hwyl; medraiYr Hen
Grythor.
ychydig Saesneg,—mwy nag a fedrwn i o Italaeg. Yr oedd arnaf awydd ei glywed yn chware rhai o hen alawon Cymru, ond yn fy myw y medrwn roddi hynny ar ddeall iddo. O'r diwedd aethum ato, dodais ddernyn o arian yn ei gilddwrn, chwibiannais ychydig nodau o "Hen Wlad fy Nhadau," cipiodd yntau yr alaw i fyny, a tharawodd hynny o Gymry oedd ohonom i ganu â'n holl egni. Erbyn hyn cawsom fod yr hen frawd yn hen gynhefin â chaneuon Cymru lân, ac aeth yn gyngerdd Cymreig brwdfrydig yn y fan, a chyn hir cafwyd cynulleidfa fawr o gychod mân o amgylch ein llong. Meddai yr hen grythor wrthyf, pan yn canu ffarwel, "D'Italia, music, music; Cambria, music, music; very good, very good." Byth nid anghofiwn y noson gyda'r hen grythor yn Palermo.

Y mae lliaws o fân ynysoedd o ddyddordeb mawr ar dueddau Itali ym Môr y Canoldir; ac nid lleiaf yn eu plith yn yr ystyr hwnnw ydyw Caprera, hen gartref Garibaldi. Ar gais y teithwyr, gwyrodd y capten ychydig o'i gwrs cyffredin er Caprera. mwyn i ni gael cipolwg ar y fangre lle y gorffwys gweddillion marwol un o arwyr hynotaf Itali. Yr wyf yn cofio pan yn blentyn ieuanc iawn, fod fy mam, yr hon oedd y pryd hynny yn cario ymlaen fasnach yn y Bala, yn cael cist o bethau melys oddiwrth gwmni John Dodd, Caerlleon. Mr. R. J. Davies oedd yn cyn— rychioli y cwmni, ac y mae efe eto yn fyw ac yn iach. Ymhlith y nwyddau yn y gist, yr oedd teisennau newydd spon,—nid oeddym erioed wedi gweld eu tebyg o'r blaen,— a'r enw arnynt ydoedd "Garibaldi" Garibaldi
Biscuits.
Eglurodd fy mam mai enw dyn mawr, rhyfelwr gwrol, ydoedd Garibaldi, a'i fod y pryd hynny yn ymladd dros ryddid ei wlad a'i genedl. Ei fod ef a phob un o'i ganlynwyr yn gwisgo crys coch, a het jim crow gyda chantal mawr.

Anghofiais i byth ystori fy mam am Garibaldi, ac nid anghofiais ychwaith y "Garibaldi Biscuit," i mi hyd y dydd hwn nid oes dim mwy blasus ac iachus. Wedi ymladd nes cael Victor Imanuel yn deg ar yr orsedd yn Rhufain, ac ysigo pen y Pab, ymneilltuodd Garibaldi i Caprera. Ynys fechan ydyw, chwe milltir o hyd wrth ddwy filltir o led. Prynnwyd hi gan nifer o'i edmygwyr yn y wlad hon, a chyflwynwyd hi yn rhad rodd iddo, ac yno y trigodd yn ddedwydd nes ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes. Claddwyd ei weddillion yn ei ardd gerllaw y tŷ. Cyn hir wedi ei farwolaeth, gwerthwyd yr Ynys gan ei deulu i Lywodraeth Itali. Wrth feddwl am Itali, y mae geiriau Arglwydd Byron yn dod yn brofiad byw i mi,—

"Thou art the garden of the world, the home
Of all art yields, and nature can decree;
Even thy desert, what is like to thee?
Thy very weeds are beautiful; thy waste
More rich than other climes' fertility;
Thy wreck a glory; and thy ruin graced
With an immaculate charm: which cannot be defaced.".

"Tydi yw gardd y byd, Italia dlos,—cartref
Holl gynhyrchion celf a natur yn gytun;
Digymar yw dy anial di; mor brydferth yw
Dy chwyn; a'th garnedd di cyfoethocach
Yw na holl ffrwythlondeb hinsoddau'r byd i gyd;
Mae swyn pereiddiol yn dy adfail bery byth."


ON.—Fe wnaed crybwylliad yn y tudalennau hyn am Messina a Reggio (Rhegiwm). Llwyr ddinistriwyd y ddau le yn 1783. Pan ymwelodd yr awdwr a hwynt, yr oeddynt yn llawn bywyd a phrysurdeb. Wedi hynny, dioddefodd y ddau le yn dost oddiwrth ddaeargryn, 1894. Wele eto y flwyddyn ddiweddaf, 1908, y ddwy dref wedi eu llwyr ddymchwel i'r llwch. Beth fydd eu dyfodol?

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.