Neidio i'r cynnwys

Gras, O!'r fath beraidd sain

Oddi ar Wicidestun
← Mae'r iechydwriaeth rad Gras, O!'r fath beraidd sain

gan Philip Doddridge


wedi'i gyfieithu gan Joseph Harris (Gomer)
Mae llais efengyl fwyn →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

286[1] Iechydwriaeth o Ras
M. B.

1 GRAS, O!'r fath beraidd sain!
I'm clust hyfrydlais yw:
Gwna hwn i'r nei berseinio byth,
A'r ddaear oll a glyw.


2 Gras rhad a drefnodd ffordd
I wared euog fyd;
A gras a welir ym mhob rhan
O'r ddyfais hon i gyd.

3 Gras ddaeth â'm traed yn ôl
I lwybrau'r nefoedd lân;
Rhydd gymorth newydd im bob awr
I fyned yn y blaen.

4 Gras a gorona'r gwaith
Draw mewn anfarwol fyd;
A chaiff y clod a'r moliant byth
Gan luoedd nef ynghyd.

Philip Doddridge
Cyf. Joseph Harris (Gomer)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 286, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930