Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II/Alafon
| ← William Llewelyn Williams | Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys |
John Rhys Evans → |

ALAFON 1847-1916
YR oedd yr ystafell yn orlawn, aelodau Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon yn ei llenwi o'r drws hyd at y llwyfan bychan yn y pen draw, lle'r oedd Anthropos yn eistedd fel llywydd,—a brenin,—gyda Samuel Maurice Jones yr arlunydd ac is-lywydd y clwb, wrth ei ochr, ac Orwig Williams yn eistedd wrth y piano ar yr ochr arall,—hen biano, y mae'n debyg, ond un y medrai Orwig dynnu miwsig hudolus ohono. Cerddorion y cylch oedd pwnc y noswaith honno, ac yr oedd dau neu dri wedi siarad, un ar Jarret Roberts, os wyf yn cofio yn iawn, ac un arall ar Richard Roberts, y telynor.
Yna siaradodd Maurice Jones ar Danymarian, yn huawdl ac yn deimladwy, ac y mae'n rhaid bob rhywbeth yn ei araith wedi cyffwrdd Vaughan Davies, gŵr a oedd yn enwog fel cantor gwych yn y dyddiau hynny. Neidiodd ar ei draed a dywedodd yr hoffai ganu un o ganeuon Tanymarian. "Peidiwch gofyn i mi ganu", y geiriau a'r dôn gan Danymarian ei hun. Dyna oedd arfer Awen a Chân; yr oedd yno ryw fath o raglen, ond yr oedd rhyddid i bawb wneud rhywbeth os byddai yr ysbryd yn cynhyrfu—a byddai Anthropos yn ddigon diflas os neidiai neb i'r adwy heb y cynhyrfiad hwnnw. Yr oedd Vaughan Davies yn amlwg o dan deimlad dwys y noson honno a chanodd fel na chlywais ef yn canu cynt na chwedyn. Gallaf glywed ei lais yn awr yn canu
Mi fum innau'n gallu canu,
Ac mi ganwn, Cymru ŵyr,
Canaf eto'n fuan felly,
Fel yr eos yn yr hwyr,
a chofiaf am y distawrwydd a ddisgynnodd ar bawb yn y lle, distawrwydd i'w deimlo, rhywbeth a grewyd gan y cyfuniad o eiriau Maurice Jones a geiriau a miwsig Tanymarian a chanu Vaughan Davies.
Yn y distawrwydd cododd Anthropos, difrifwch ar ei wedd. "Gyfeillion", meddai, "fedrwn ni ddim mynd ymlaen ar ôl peth fel yna. Yr ydan ni wedi cyrraedd i dir mor uchel. Mynd adref fyddai orau i ni bellach. Fedra' i ddim mynd ymlaen, beth bynnag".
Edrychasom ar ein gilydd. Nid oedd ond cynnar, yn ôl amser Awen a Chân. Tua hanner nos y byddai'r cyrddau hynny yn terfynu, fel rheol. Yr oedd pawb wedi teimlo swyn y canu, ond nid oedd ar bawb ohonom eisiau mynd adref a hithau ond prin wedi troi naw. Ond os nad oedd Anthropos am fynd ymlaen, beth oedd i'w wneud? Ef oedd enaid Awen a Chân, ac os na byddai ef mewn hwyl ofer y llafurid i geisio codi hwyl. Ynghanol ein penbleth dyna Alafon ar ei draed, yn ymyl y llywydd, gŵr llwyd ei rudd, llwydlas ei wallt, trist ei wedd. Gofynnodd yn lleddf am ganiatâd i ddweud gair am dri telynor a oedd yn byw yn rhywle rhwng Caernarfon a Llanberis tua dechrau'r ganrif o'r blaen.
"O'r gorau", meddai Anthropos, rhwng bodd ac anfodd, a dechreuodd Alafon siarad yn dawel am y tri brawd fel pe buasai yn eu hadnabod, tri telynor da, meddai, "a'r tri yn aelodau ffyddlon yn Sein Delyn", (un o dafarnau hynaf Caernarfon). Bu un ohonynt, John mi gredaf, farw, ac yr oedd y ddau arall yn sôn amdano wrth fynd adref o'r Sein Delyn un noswaith olau leuad, "ac yn rhywle tua'r Felin Wen", meddai Alafon, yn edrych yn ddwys ac yn ddifrif, "mi aeth 'i teimladau nhw'n ddrylliog iawn. A dyma un yn deud wrth y llall, "Daeth yr un telynor gwell na John fy mrawd i'r nefoedd erioed os nad a'th Dic Dywyll!"
Erbyn hyn yr oedd y gynulleidfa ac Anthropos wedi dyfod atynt eu hunain ac aeth gwaith y cyfarfod ymlaen fel arfer. Yr oedd y peth yn enghraifft o fedrusrwudd rhyfedd Alafon. Gwelodd y perygl i'r cyfarfod orffen yn gynamserol, ac yn naturiol nid oedd arno ef, a gymerodd y drafferth i ddyfod o'r Ysgoldy, cyn bod bus, eisiau myned adref ar ei gythlwng. Neidiodd i'r adwy, neu, yn fwy cywir, llithrodd iddi cyn bod neb yn sylweddoli ei fod yn gwneud hynny; edrychodd mor ddwys a neb yn y cwmni, dywedodd ei stori mewn llais mwyn, tawel; ymddangosai yn hollol ddigynnwrfa bron yn ddiniwed,—ond gwnaeth yr hyn y bwriadodd ei wneud a rhywbeth na allasai neb arall yn y cwmni ei wneud. Yr oedd Alafon yn ddiniwed fel colomen, a gallai fod yn gyfrwys fel y sarff ar adegau hefyd.
Gweinidog yn yr Ysgoldy, yn ardal Deiniolen yn sir Gaernarfon oedd Alafon. Ni bu yn weinidog yn unman arall, ac hyd y gwn i ni bu yn meddwl am fod. Nid oedd fawr o sôn amdano fel pregethwr; y cof sydd gennyf am Alafon fel pregethwr ydyw fod ganddo fater da, wedi ei drefnu yn ddestlus, ond ei fod yn traddodi braidd yn ddigyffro ac weithiau yn ddiafael. Fel bardd yr oedd yn adnabyddus i Gymru gyfan, ond yr oedd y cylch yr oedd yn byw ynddo yn adnabod ac yn parchu ac yn caru y dyn. Hen lanc oedd, a llawer o nodweddion gorau yr urdd yn ei gymeriad, rhyw yswildod bonheddig, mwyn. Yr oedd yn batrwm o weinidog gwlad, y math o ŵr sydd yn cadw'r eglwysi yn fyw ymhob man.
Fel bardd perthyn yr oedd, o ran magwraeth a thraddodiad, i'r cyfnod o flaen y deffroad rhamantaidd. Pan oedd yn ieuanc yr oedd yn adnabod llawer o feirdd cyfnod a ymddengys i ni yn bur bell erbyn hyn; soniai am Ioan Arfon, am Eos Bradwen, am Lew Llwyfo ac am Owen Williams o'r Waun Fawr, ac yr oedd ganddo lawer stori amdanynt. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod, newydd ei ordeinio, yn cerdded ar hyd Stryd Fangor, yng Nghaernarfon, gyda'r Parch. Ddr. John Hughes a gweinidog adnabyddus arall nad wyf yn cofio ei enw erbyn hyn. A dyna Llew Llwyfo yn dyfod allan o ddrws gwesty'r Prince of Wales yn syth i'w cyfarfod ac yn dweud mewn llais fel taran, "Alafon, fendigedig yr Arglwydd! sut yr wyt ti?"
"Mi fuasai'n dda gen i pe buasai'r palmant wedi fy llyncu i y munud hwnnw", meddai Alafon wrth ddweud yr hanes. "Wyt ti'n gweld lliw derw ar ein dannedd ni?" meddai Owen Williams, yr hen eiriadurwr cartref a'r cowper o'r Waun Fawr, a fyddai bob amser yn cyfeirio ato ei hun fel "ni", wrth Alafon. "Wyddost ti bedi'r rheswm? Byta mês y byddem ni pan yn blentyn!" A gan Alafon y cefais i y stori am Owen Williams yn myned adref trwy goed Glanrafon un noson, yn bur ansicr ei gam a'i olwg, ac yn taro mewn coeden ar ol coeden. O'r diwedd dyma'r hen ŵr yn eistedd. "Wel", meddai wrtho ei hun, "ni a eisteddwn yn y fan yma hyd onid elo'r orymdaith heibio!"
Yr oedd yr ochr hon i Alafon braidd yn annisgwyliadwy i rai nad oeddynt yn ei adnabod yn dda. "Drych o dristwch yw edrych drosto", meddai amdano ei hun un tro, ac yr oedd golwg ddifrif, os nad trist hefyd, arno. Yr oedd mwynder yn amlwg yn ei ddull a'i lygaid. Yr oedd yn hynod o gwrtais a boneddigaidd, boneddigeiddrwydd oedd yn codi o ddyfnder ei natur ef ei hun, ac fel y dywedwyd, yr oedd ynddo rhyw fath o yswildod. Ond yr oedd ynddo hefyd yr ochr a fedrai fwynhau pobl fel Llew Llwyfo ac Owen Williams, heb gymysgu a'u byd o gwbl. Wrth y tân yn fy nhŷ un noson, ag yntau yn aros gyda ni ar ol cyfarfod Awen a Chân, gofynnodd a oeddwn wedi clywed "Yr hen ŵr mwyn". Nid oeddwn y pryd hynny, a chanodd yntau yr hen gerdd fel y dylid ei chanu, gan fwynhau ei digrifwch a phwysleisio'r pethau yr oedd eisiau eu pwysleisio.
Wrth wrando arno meddyliais fy mod yn camgymeryd wrth feddwl mai gŵr yn perthyn i'r un ysgol a beirdd hanner olaf y ganrif oedd Alafon; yr oedd ei dras yn hŷn na hynny a'i berthynas â rhywbeth mwy byw a mwy diddorol. Buasai yn hapus gydag Edward Morus a Huw Morus ac Owen Gruffydd o Lanystumdwy, buasai yn deall Twm o'r Nant i'r dim ac yn dweud llawer wrtho am gadw ar ganol y llwybr, a phe buasai ef ag Ellis Wynne wedi cyfarfod, ac Ellis Wynne wedi darllen darn o'r Bardd Cwsg iddo, buasai Alafon wedi dweud, "Tad annwyl, 'rydach chi'n chwipio yn bur drwm, ond y mae'n debyg i bod nhw yn i haeddu hi". Nid oedd Alafon, fwy nag Anthropos, yn perthyn mewn gwirionedd i fyd y bardd-bregethwr. Nid oeddynt yn debyg i'w gilydd, ond y mae hynny yn sicr yn wir am y ddau.
Y peth oedd yn ddiddorol iawn yn Alafon fel bardd a llenor oedd ei agwedd at yr "ysgol newydd" a'i beirdd. Yr oedd yn ymgeisydd am gadair Bangor yn 1902, a daeth yn ail i Gwynn Jones—ail pell, mewn gwirionedd, a bu ar hyd ei oes yn un o gyfeillion pennaf a chywiraf y bardd a'i trechodd. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw yn y mudiadau newydd a pharch mawr i ysgolheictod, ac yr oedd ei agwedd at feirdd fel W. J. Gruffydd a Gwynn Jones a John Morris-Jones yn gymysgedd o agwedd tad caredig a disgybl edmygol. Ni cheisiodd efelychu; dilynodd ei lwybr ei hun, canodd ei gân ei hun, ac yr oedd ei nodyn yn sicr.
Mewn un peth yn unig yr oedd yn debyg i rai o feirdd-bregethwyr ei gyfnod. Canai weithiau i briodasau pobl a ystyriai ef yn bwysig, ac ambell dro ceisiai ganu yn Saesneg. Dyna ei fan gwan, y mae'n debyg; yn sicr, dyna bethau gwannaf ei waith o ddigon ac nid oes eisiau eu hatgyfodi. Un o nodweddion y cyfnod oedd hyn ac un o nodweddion dosbarth hefyd, y mae'n debyg. Yr oedd gwerinwyr fel Alafon, wedi cael addysg a safle fel gweinidogion neu rywbeth arall, yn tueddu i'w teimlo eu hunain mewn byd nad oeddynt yn hollol gartrefol ynddo. Yn y bôn, yr oedd Alafon yn ŵr bonheddig; yr oedd hynny yn amlwg—neu dylasai fod yn amlwg—i bawb, ond ni feddyliodd ef amdano ei hun fel gŵr bonheddig, yn ystyr boblogaidd y gair. Pobl gyfoethog oedd "gwyr bonheddig", a chan nad oedd gweinidogion Ymneilltuol yn dyfod lawer i gyffyrddiad ag uchelwyr y tir tueddai rhai ohonynt i dra mawrhau Cymry a oedd wedi casglu cyfoeth ac yn parhau yn Ymneilltuwyr. Yr oedd ochr ddigrif i'r wrogaeth yma a delid i bobl gyffredin iawn eu galluoedd yn unig am eu bod yn ymddangos yn bwysig, ond yr oedd ochr anffodus i'r peth, hefyd.
Na feddylied neb fod Alafon yn gynffonnwr. Nid oedd yn ddim o'r fath, ond yr oedd yn cytuno â safonau ei gyfnod a'i ddosbarth—fel y gwna y rhan fwyaf ohonom. Heblaw hynny, yr oedd ynddo wyleidd-dra a gostyngeiddrwydd naturiol. Deuai hynny yn amlwg yn ei berthynas â'i waith fel bardd. Yr oedd bob amser yn cydnabod, a hynny yn hollol ddirodres a chywir, iddo gael ei guro yn deg gan Gwynn Jones yn eisteddfod Bangor. Cydnabyddai ragoriaeth y bywyd newydd a ddaeth i mewn i lenyddiaeth Cymru tua diwedd y ganrif, ond ni chafodd y "clefyd rhamantaidd' ei hun ac ni cheisiodd efelychu pobl fel Gwynn Jones a W.J. Gruffydd. Er hynny, credaf y gwyddai yn eithaf beth oedd gwir werth ei gerddi ef ei hun; nid oedd yn eu gorbrisio nac yn eu dibrisio yn ormodol chwaith. Yr oedd ganddo feddwl go lew o rai ohonynt a chredaf y cytuna yr oes ar ei ôl a'i farn amdanynt.
Yn ei gartref yn yr Ysgoldy yr oedd gweled Alafon ar ei orau. Bu yn aelod o gyngor sir Arfon, ond yn sicr ni ddisgleiriodd yn y fan honno. Hwyrach mai gormodiaith rhywun oedd ei alw yr aelod salaf a fu yno—bu digon o rai salach ymhob ystyr cynt a chwedyn—ond nid oedd yn ei le yn y cyngor. Gwelid ef yn y dref yn aml, ar ei feisicl fel rheol, yn ei ddal ei hun yn bur syth yn y cyfrwy, a deuai i edrych amdanaf weithiau i hen offis y Genedl. Byddai yno yn fynych pan oedd yn golygu'r Drysorfa, canys yno yr oedd swyddfa argraffu honno hefyd. Clywais ef yn pregethu amryw weithiau, ond nid oes gennyf fawr o gof am ei bregethau; y mae'n bur debyg eu bod yn dda fel cyfansoddiadau, ond difywyd oedd y traddodiad ac fel "pregethwr sych" y cyfrifid ef. Nid oedd yn llythyrwr neilltuol; byddai ei lythyrau bob amser yn glir ac i'r pwynt ond nid oedd dim tebyg i ddawn Gwynn Jones neu Llew G. Williams yn y cyfeiriad hwnnw ynddo ef. Os oeddych am adnabod Alafon yn iawn yr oedd yn rhaid i chwi ei weled mewn dau le,—ar eich haelwyd eich hun ac yn ei ardal yntau.
Pan fu farw Alafon pechais yn enbyd yn erbyn ei hen gymydog od a galluog, Glan Alaw, trwy ddweud mewn ysgrif goffa ei fod wedi byw y rhan fwyaf o'i oes mewn ardal anghysbell. Methodd Glan Alaw ag ymatal hyd yn oed yn angladd Alafon rhag dweud y drefn. Rhyfeddai ataf, meddai ef ar goedd, yn galw'r Ysgoldy yn lle anghysbell; y lle mwyaf central yn y wlad. Ond cyn dyfodiad y buses, ac nid oedd y rhai hynny ond pethau newydd yn 1916, blwyddyn marw Alafon, yr oedd yr Ysgoldy yn lle gweddol anodd cyrraedd ato. Y mae ddwy filltir go dda o'r stesion agosaf, ac wedi i chwi gael y tren i Gwm y Glo yr oedd yn rhaid cerdded y gweddill o'r ffordd ar hyd gelltydd pur serth.
Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y mae'r ardal yn un eithaf dymunol, yng nghesail y mynyddoedd ac yn wynebu'r Elidir a'r Wyddfa o un cyfeiriad. Tua'r gorllewin y mae'r dyffryn yn ymagor a gwelir y gweunydd maith a'r caeau llechweddog i gyfeiriad Caernarfon a cheir cip ar Ynys Fôn yn y pellter. Ardal greigiog, galed, ar un olwg, sir Gaernarfon a'i hesgyrn trwy'r croen, fel y dywedodd rhywun; ardal dawel hefyd, yn meddu ar ei phrydferthwch ei hun, harddwch ei grug a'i chriafol, ei llecynnau rhedynnog ar lannau ambell ffrwd, a chlytwch ei bythynnod glanwaith. Ardal, hefyd, a'i phobl yn debyg iddi ar lawer ystyr, yn gymysg o'r graig a'r grug, o'r maes a'r mynydd,—chwarelwyr oedd y rhan fwyaf yr adeg yr oedd Alafon yn byw yno, pobl wedi eu magu a'u meithrin yn yr Ysgol Sul, yn sŵn dadleuon diwinyddol, yn yr athrawiaeth Radicalaidd, ac, mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar, ar dudalennau'r Cymru Coch. Pobl anodd myned atynt ar yr olwg gyntaf, wedi arfer trin cerrig ac weithiau yn ymdebygu i'r cerrig eu hunain, ond pobl eithaf caredig a ffyddlon wedi i ddyn ennill eu hymddiried.
Gwnaeth Alafon hynny. Bûm yn edrych amdano droeon ac yn myned am dro gydag ef weithiau ar hyd ffyrdd a llwybrau'r ardal. Yr oedd yr un fath gyda phobl ei ofal ag ymhobman arall, yn fwyn, yn dawel, yn naturiol, gyda rhyw ias o yswildod yn ei ddull. Ac yr oedd yn amlwg ei fod yn eu hadnabod ac yn eu hoffi. Yr oedd yn amlwg hefyd ei fod yntau yn uchel ei barch yn eu plith hwythau. Bu yno am flynyddoedd lawer, ac y mae gweinidog ymroddgar sydd yn aros yn hir yn yr un eglwys yn magu perthynas arbennig iawn â phobl ei ofal yn nhreigliad y blynyddoedd. Fel tad y symudai Alafon ymhlith pobl ei ardal. Nid oeddwn yn gwybod pa rai oedd yn perthyn i'w gorlan ef o'r bobl a gyfarfyddem ar ein tro, ond yr argraff a adawyd ar fy meddwl oedd na wnai unrhyw wahaniaeth rhwng ei braidd ei hun a defaid corlannau eraill. Pobl yr ardal, ei gymdogion, oeddynt oll iddo ef, a chymerai ddiddordeb caredig, tadol ynddynt. Byddaf yn meddwl am Alafon bob tro y darllenaf Gweinidog Llan y Mynydd Gwynn Jones; nid darlun ohono ef ydyw'r gân honno, yn hollol, ond y mae ynddi rai, beth bynnag, o nodweddion Alafon.
Yr oedd ei stydi yn nhŷ'r gweinidog yn ystafell braf gyda ffenestr yn edrych tua'r mynyddoedd. Nid wyf yn meddwl fod ganddo lawer iawn o lyfrau; nid oes gan weinidogion nag offeiriaid, fel rheol, lyfrgelloedd mawr, canys ni buont erioed yn derbyn cyflogau a'u galluogai i brynu llawer o lyfrau, er bod y bobl fydd yn talu iddynt yn disgwyl iddynt ddarllen yn eang. Ond yr oedd yno naws llyfrau; teimlech eich bod yn ystafell dyn diwylliedig, a oedd yn darllen ac yn myfyrio. Ac os byddech yn hollol dawel, yn eich cuddio eich hun orau y medrech yn y gadair ger y lle tân, ac os byddai'r ffenestr yn agored, deuai ymwelwyr i mewn, yr adar bach, nico, robin goch, a'r fronfraith, oedd yn adnabod Alafon ac yn ddigon hyf arno i fwyta ar yr un bwrdd. Yr oedd gweled dyn dieithr yn eu tarfu, ond deuent i mewn yn hyf yn ôl eu harfer nes eich gweled. Clywais ddywedyd y medrai ddenu aderyn gwyllt o'r gwrych; yn sicr, yr oedd pob math o anifeiliaid yn hoff ohono.
Wrth droi dros ei lythyrau ataf gwelais y cerdyn a anfonodd yn lled agos i'r diwedd i ddywedyd na allai ddyfod i gyfarfod Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon. Dyma a ddywedodd "Mewn teimlad o siom a gofid mwy na'r troeon o'r blaen wyf yn anfon i'ch hysbysu chwi a'r gymdeithas na chaf y pleser o fod gyda chwi y tro hwn eto. Tyn yn y cyffion ydwyf o hyd, a'r afael wedi ail-ffyrnigo tua'r Sul diweddaf. Eiddunaf i chwi gyfarfod rhwydd a hapus. Byddaf gyda chwi yn yr ysbryd.
Y Gewynwst! gwae ini—i'r adwyth
Brydiog ddod i'n poeni!
Gymdeithion llon, boed llenni
Heddwch iach rhyngddo a chwi!"
Ond yr oedd rhywbeth gwaeth na'r gewynwst wedi gafael ynddo a chredaf ei fod yntau yn gwybod hynny.
Ar y ffordd goediog, dawel rhwng Pont Rug a Chaeathro y gwelais ef am y tro olaf. Gwyddwn ei fod yn gwaelu ers tro, ond teimlais ias o ddychryn wrth weled ei wedd mor guriedig y diwrnod hwnnw. Hyd hynny nid oeddwn wedi meddwl fod dim angeuol wedi gafael ynddo, ond nid oedd le i amheuaeth erbyn hyn. Yr oeddwn yn sicr fod dyddiau fy hen gyfaill wedi eu rhifo. Gwyddai yntau hynny ond ni ddychrynodd rhag angau. Yr oedd cyn fwyned, cyn daweled a chyn sirioled ag erioed. Ni ddiffoddodd ei hiwmor; yr oedd yn cael tipyn o ddifyrrwch am ei ben ei hun wrth ddweud ei fod yn ymprydio. Dywedodd air am brydferthwch y coed yn y gaeaf-mis Tachwedd oedd hi, os iawn y cofiaf-a daeth goleuni i'w lygaid wrth son am hynny. Yr oedd yn eistedd mewn cerbyd bychan, cerbyd a merlyn yn ei dynnu, a deallais ei fod bron yn rhy wan i gerdded. Soniai am wella, a minnau yn gwybod ar y dinc yn ei lais y gwyddai yn dda nad oedd gwella i fod.
Am y dewrder tawel hwnnw y byddaf yn cofio wrth feddwl am Alafon. Cyn pen hir yr oeddwn yn ei angladd ym Mryn-rodyn, ac yr oedd yn anodd peidio dyfalu beth a ddywedasai ef am yr areithiau hir a draddodwyd yn ei gylch y diwrnod hwnnw. Y mae'n well gennyf gofio am yr adar yn y stydi ac am y cerbyd bach ar y ffordd ddistaw dan gysgod y coed.