Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II/Eifionydd
| ← Evan Roberts | Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys |
Beriah Gwynfe Evans → |
EIFIONYDD 1848-1922
YM mis Medi, 1912, yr oeddwn yn myned o Glynnog i Gaernarfon, mewn cerbyd motor. Yr oedd peth felly yn brofiad newydd i'r rhan fwyaf ohonom yn 1912; ychydig iawn o foduron oedd i'w gweled ac ychydig o bobl mewn cymhariaeth oedd wedi bod mewn motor. Ffordd dawel iawn oedd y ffordd honno'r pryd hynny, er ei bod yn bri-ffordd, a gallech ei cherdded yn ddigon hamddenol am filltir neu ddwy heb weled fawr ddim ond ambell drol neu feisicl. Yr oedd llwch yn drwch arni yn yr haf, fel ar bob ffordd arall, ond nid oedd yno fawr ddim i'w godi.
Ar y dde yr oedd cae sofl, ar godiad; nid oeddwn yn gweled y cae i gyd nes dyfod at adwy, ond wrth fyned heibio i honno gwelais ddyn yn sefyll fel delw ar ganol y cae, yn agos i grib y llechwedd. Ar gip gallasech feddwl mai bwgan brain parchusach o gryn lawer na'r cyffredin oedd yno canys nid oedd yn symud o gwbl. Ond er mai cip yn unig a gefais arno, ei ambarelo dan ei fraich a'i het feddal wedi ei gwthio ar ei wegil, gwelais mai Eifionydd oedd yno, a chan nad oedd llwybr o gwbl ar draws y cae hwnnw methwn ddyfalu beth oedd ei neges mewn lle o'r fath. Y tro nesaf i mi ei weled yng Nghaernarfon holais, ond ni chefais fawr o groeso. "Dianc i rywle rhag y llwch," oedd yr ateb cwta. Nid oedd yr un car arall yn y golwg na'r un wedi pasio, yr wyf yn bur sicr, ers awr beth bynnag.
Yr oedd llawer o fân bethau od fel yna yn John Thomas (Eifionydd). Ni byddai byth yn dyfod i edrych amdanaf i hen swyddfa'r Genedl yn y gaeaf heb ddal clustog y gadair wrth y tân cyn eistedd arno, nac yn myned oddi yno heb
dwymo bagl ei ambarelo cyn gafael ynddo. Bu yn pregethu yn y Dyffryn unwaith a holais yr hanes wedyn. "Dyna'r dyn rhyfeddaf welais i erioed," meddai'r sawl y bu'n aros yn ei dŷ. "Pan welodd o mai llawr cerrig sydd ar y gegin acw mi ro'th ei ddau droed ar ffon y gadair yr oedd o'n eistedd arni, a thynnodd o mohonynhw odd'no ar hyd y fin nos." Gwelais ef yn cerdded ar hyd Stryd y Llyn yng Nghaernarfon ar ddiwrnod tesog; gwisgai gôt alpaca ysgafn, ond yr oedd ganddo un arall ar ei fraich rhag ofn iddi oeri yn sydyn. Yr oedd ganddo ambarelo agored, rhag yr haul, a rhes o dyllau o gwmpas corun ei het feddal "er mwyn cael awyr." Gwisgai esgidiau hoelion trwm. Canlyniad cyngor Powyson oedd y tyllau yn yr het. Cwynodd Eifionydd wrth ei hen gyfaill fod ei het yn boeth "Gofynnwch i'r crydd 'neud tyllau yni hi," meddai'r llall.
"A'r tro nesa' gwelais i o," meddai Powyson, wrth ddweud yr hanes, "'roedd o fel tase fo wedi bod yn y batl of Waterlw!" Poenodd Eifionydd lawer ynghylch ei iechyd a phoenodd gryn lawer ynghylch iechyd pobl eraill hefyd. Cynghorodd lawer arnaf i weithio ar fy sefyll wrth ddesc uchel yn lle eistedd wrth ddesc arferol. "Mi fydd yn well ar les y'ch corff a'ch meddwl chi," meddai yn bendant, a chredaf mai dyna ei arfer ef. Un tro, pan oeddwn yn cwyno, mynnai i mi roddi praw ar feddyginiaeth neilltuol, a phan wrthodais dywedodd yn bur ffrom mai yn Llanbeblig (mynwent y plwyf) y byddwn yn lled fuan. Dro arall gadawodd botel o ryw foddion wrth y drws, gan adael cenadwri iddo ef gael y peth hwnnw bron yn anffaeledig. Byddai yn yswilio wrth wneud pethau felly, a'i ffordd ef o ddangos ei fod yn swil oedd troi braidd yn chwyrn ac yn gwta. "Dyn od," meddai pawb bron wrth sôn am Eifionydd. "Dyn plagus," meddai llawer y byddai yn eu poeni am ysgrifau i'r Geninen, ac y mae'n wir ei fod yn barod i'w wneud ei hun yn fwrn ar bobl weithiau er mwyn cael yr hyn y byddai arno ef ei eisiau i'w gylchgrawn. Ond ni ddylid meddwl bod Eifionydd yn ddiurddas. Nid oedd felly, o lawer.
Ychydig a wn i am ei flynyddoedd cynnar; ni byddai byth yn sôn amdano'i hun. Ceir peth o'i hanes yn ysgrif Anthropos arno yn Yr Ymwelydd Misol, Chwefror, 1912. Ganed ef yn Eifionydd, heb fod ymhell o'r Clenennau, a phrentisiwyd ef—yn naw oed—yn argraffydd gyda Robert Isaac Jones (1813-1904), fferyllydd, hynafiaethydd, golygydd ac argraffydd, yn Nhremadog. Yr oedd Robert Isaac Jones, golygydd Y Brython a'r Gestiana, yn ddolen gydiol â chyfnod Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd ac Ellis Owen o Gefn y Meysydd, ac y mae'n sicr i'r gyfathrach â gŵr o'r fath ddylanwadu ar feddwl y prentis. Nid ymhob cyfeiriad ychwaith; Eglwyswr a Thori oedd Robert Isaac Jones, ond yr oedd Eifionydd a'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr. Wedi bod yn gweithio fel argraffydd ym Mhwllheli, y Rhyl a Machynlleth (y mae'n bosibl mai ym Machynlleth y daeth am y tro cyntaf i gysylltiad ag argraffydd ieuanc arall, Thomas Jones, "Powyson", a fu yn gyfaill iddo ar hyd ei oes) aeth i Goleg Aberhonddu. Dywed Anthropos iddo aros yno dair blynedd; cafodd wely llaith ar daith gasglu, amharodd hynny ar ei iechyd weddill ei oes ac ni fynnai'r meddygon iddo fyned ymlaen i'r weinidogaeth. Pregethai yn weddol gyson hyd y diwedd.
Trodd yn ôl at ei hen alwedigaeth, a bu am dymor yn gweithio fel cysodydd yn swyddfa Eyre & Spottiswoode yn Llundain. Cydnabyddid ei fod yn un o'r cysodwyr cyflymaf a glanaf a hynny yn y dyddiau pan wneid yr holl gysodi â'r llaw. Fel rheol, byddai'r cysodydd yn dal y stic yn ei law chwith ac yn cadw'r llaw honno yn llonydd yn ei hunfan, gan estyn y llythrennau iddi gyda'i law dde, ond byddai Eifionydd, fel y clywais, yn myned â'i law chwith ar ôl y llall ar hyd wyneb y "case" ac yn ennill llawer mewn cyflymder trwy hynny. Bu yn swyddfa'r Genedl yng Nghaernarfon am flynyddoedd, yn yr adran olygyddol am beth amser, ac fel trafeiliwr ac ysgrifennydd y cwmni ar adegau eraill. Yr oedd, meddir, yn ddyn busnes pur dda, yn llawn gwell fel dyn busnes, ym marn Powyson, nag fel golygydd papur newydd. Gwelais nifer o'r llythyrau a ysgrifennodd pan oedd ar yr ochr fasnachol. Clywid llawer o sôn am ei lawysgrif fel un o'r pethau odiaf ynglŷn ag ef; bu hynny yn destun difyrrwch digon rhad i laweroedd ar un cyfnod. Y mae'n wir y medrai ysgrifennu yn grafagliog, eithr dengys ei lythyrau busnes y medrai ysgrifennu fel arall hefyd cyn gliried ag unrhyw ysgolfeistr.
Dengys hyn eto fod dwy ochr i Eifionydd, yr ochr od a'r ochr arall. Yr oedd ei lythyrau busnes, yn Saesneg ac yn Gymraeg, yn glir ac i'r pwrpas, ac yn sicr nid y "dyn od" y byddai rhai yn sôn amdano byth a hefyd a fuasai wedi gwneud Y Geninen yn llwyddiant am ddeugain mlynydd—yn llwyddiant mewn ystyr lenyddol a masnachol. Nid oes gennyf wybodaeth am yr ochr fasnachol, ond byddai Powyson yn dweud bod Y Geninen wedi talu yn dda i Eifionydd. Yn y cyfnod yr oeddwn yn ei adnabod nid oedd yn gwneud dim heb-law golygu'r Geninen. Dywedid nad oedd yn talu am ysgrifau; nid oes gennyf wybodaeth sicr am hynny ychwaith, ond clywais ei fod yn talu i rai, beth bynnag. Nid oedd peidio talu am ysgrifau yn beth eithriadol iawn yng Nghymru yr adeg honno.
I bob pwrpas yr oedd Y Geninen ac Eifionydd yn gyfystyr. Prin y buasai neb yn honni ei fod yn fardd, er iddo lunio llu o englynion a thoddeidiau a bod cynganeddu bron a bod yn wendid ynddo. Ni allai wrthod cyfle i'r glec. Bu'n golygu'r Werin ar un adeg, a chlywais y byddai penawdau'r papur hwnnw yn cynganeddu yn ystod ei deyrnasiad ef. Yr unig enghraifft a gofiaf ydyw pennawd hanes llys ynadon lle cyhuddid dyn o ddwyn ieir. "Dyna ffwl yn dwyn ffowls" oedd dull Eifionydd o hysbysu'r peth. Unwaith, pan ddaeth ar ei dro i ystafell y golygyddion yn hen swyddfa'r Genedl, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y lle, digwyddodd i un ohonynt besychu. "Cu lenor yn cael annwyd," meddai Eifionydd, a synnodd pan atebodd y "cu lenor" ef yn yr un dull. Nid wyf yn cofio'r llinell ateb erbyn hyn.
Ni chlywais ef yn pregethu, ond clywais eraill yn dweud mai pregethwr sychlyd oedd, a dyna a fuaswn yn ei ddisgwyl. Dywedid y byddai yn gweiddi llawer wrth bregethu yn y blynyddoedd cyntaf. Ychydig a bregethai yn y blynyddoedd olaf ac ni chofiai llawer ei fod yn bregethwr, er ei fod braidd bob amser yn tueddu i wisgo fel pregethwr. Bu'n amlwg ynglŷn â Gorsedd y Beirdd am gyfnod pur hir; ef oedd Cofiadur yr Orsedd, a'r argraff ar fy meddwl i oedd nad oedd yn ceisio diwygio fawr ar drefn na dull yr Orsedd. Wedi ei farw ef, pan benodwyd Beriah Evans yn Gofiadur, y daeth llanw mawr y cyfnewidiadau a'r diwygiadau. Ond dywed Anthropos, yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, mai trwy ddylanwad ac ymdrech Eifionydd yn bennaf y rhoddwyd bod i Gymdeithas yr Orsedd, ac mai ef a luniodd ei rheolau ac a drefnodd yr arholiadau am urddau ofydd, bardd a phencerdd.
Fel ceidwadwr Gorseddol y byddwn yn meddwl amdano, ond ni lwyddais erioed i wybod beth oedd ei wir farn am yr honiadau a wneid y pryd hynny ynghylch hynafiaeth yr Orsedd. Yr oedd y ddadl yn boeth yr adeg honno a dadleniadau Syr John Morris-Jones yn gymharol newydd, eithr ni chlywais Eifionydd yn traethu barn ar y naill ochr na'r llall. Dywedais wrtho unwaith fod rhywbeth a welais yn eisteddfod Aberystwyth yn debyg iawn i angladd yr Orsedd, a chefais ateb pur chwyrn, fel yr oeddwn yn disgwyl. "Mi fydd yr Orsedd byw i'ch claddu chi, beth bynnag!" meddai. Y mae'n amheus gennyf a fuasai yn ddedwydd wedi newid yr hen drefn, neu'r hen anhrefn.
Eithr nid Gorseddwr nac englynwr na phregethwr oedd Eifionydd yn gyntaf oll ond golygydd Y Geninen, a gychwynnwyd ganddo ym mis Ionawr, 1883. Dyna oedd i Gymru gyfan. Mewn ffordd gul yn sir Frycheiniog lawer blwyddyn yn ôl cyfarfûm a gŵr wrth ei orchwyl yn trwsio'r gwrych. Aeth yn sgwrs rhyngom a gofynnodd o ba le yr oeddwn yn dyfod. "O Gaernarfon," meddwn innau. "O", meddai, "dyna lle y mae Eifionydd yn byw, yntê?" Tref Eifionydd oedd Caernarfon iddo ef ac i lawer un arall yng Nghymru'r adeg honno, y mae'n debyg. Fel golygydd yr oedd mewn gohebiaeth â rhywun ym mhob ardal bron. Ychydig o ddynion ieuainc yn dechrau cael blas ar lenydda ac wedi ennill ambell wobr am englyn neu draethawd mewn eisteddfod leol yn y cyfnod rhwng 1883 a 1914, dyweder, a fu heb gael llythyr oddi wrth Eifionydd, yn eu cyfarch fel "cymrawd llengar" ac yn gofyn iddynt dderbyn Y Geninen, sicrhau derbynwyr eraill, ac anfon cân neu englyn i'r Geninen Eisteddfodol.
Yr oedd enwadaeth yn uwch ei phen ac yn chwerwach yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny nag ydyw heddiw. Gwyddai Eifionydd am y peryglon cystal â neb ond llywiodd ei long rhwng y creigiau a'r trobyllau hynny yn fedrus iawn. Yr oedd croeso i lueddwyr pob enwad ddweud eu barn—a'u rhagfarn—yn Y Geninen. Manteisiwyd ar y croeso yn helaeth, a dyna dudalennau diflasaf hen rifynnau'r cylchgrawn erbyn heddiw; y mae dyn ystyriol yn gwaredu wrth weled y fath wastraff ar ddoniau ac amser a phapur. Er hynny ni wyddai neb beth fyddai barn y golygydd ar faterion o'r fath; gofalu y byddai ef am gadw'r ddysgl yn wastad trwy adael i bob ochr gael Y Geninen yn faes i ffraeo arno, a chredai fod ffraeo o'r fath yn fantais i'r cylchgrawn. Nid oedd yn hawdd ei ddychryn, chwaith. Pan gyhoeddodd ysgrifau Siluriad yn 1885, ysgrifau chwerw, galluog a chyrhaeddgar iawn, bu cynnwrf mawr. Gwelais rai o'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd y pryd hynny, llythyrau oddi wrth bobl led amlwg, yn bygwth peidio â derbyn Y Geninen ac yn tynnu eu haddewidion i ysgrifennu iddi yn ôl. Y mae'n amlwg fod y gwynt wedi codi'n uchel, eithr ni chynhyrfodd Eifionydd. Parhaodd i gyhoeddi'r ysgrifau ac y mae'n sicr y gwyddai yn ei galon y byddai'r storm yn fantais i'r Geninen ac iddo yntau yn y pen draw.
Credai hefyd mewn ysgrifau dienw. Bu ganddo lawer o rai felly o dro i dro, fel ysgrifau Siluriad ac eraill. Gwyddai fod cael pobl i geisio dyfalu pwy oedd yr awduron yn deffro diddordeb yn y cylchgrawn, ac yr oedd yn medru cadw cyfrinach fel y bedd. Ni thybiaf fod neb erioed wedi llwyddo i'w lithio i ollwng cath felly o'r cŵd. Gellir ymddiried bob amser mewn argraffwyr; y maent hwythau wedi hen arfer cadw cyfrinachau, a gwyddai Eifionydd hynny cystal â neb. Ond byddai yn copïo aml ysgrif nad oedd arno eisiau i neb wybod pwy oedd yr awdur â'i law ei hun cyn ei hanfon i'w chysodi, "rhag ofn i rywun diarth droi i mewn a busnesa," meddai. Pan ddeuai cyfrinach awduriaeth i'r amlwg-ac mi ddeuai yn lled aml yn y pen draw—yr awdur ei hun fyddai wedi dweud, yn ddieithriad. Yr oedd Eifionydd yn ddistaw, hyd yn oed pan fygythid cyfraith arno, fel y gwnaed ambell waith.
Cyhoeddodd amryw bethau y buasai unrhyw olygydd heddiw yn petruso yn hir iawn yn eu cylch, a rhai pethau y buasai'n well iddo beidio eu cyhoeddi. Soniais am ysgrifau Siluriad, sef y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), a byddai yn werth troi i hen gyfrolau'r Geninen a darllen y rhai hynny unwaith eto. Newidiwyd a dofwyd tipyn ar y rhai a gyhoeddodd Alafon yn y gyfrol a olygodd o waith Goleufryn ar ôl ei farw, ac y mae'n rhaid darllen yr ysgrifau yn union fel y cyhoeddwyd hwynt y tro cyntaf i sylweddoli menter Eifionydd. Nid wyf yn meddwl y buasai un golygydd yng Nghymru yn mentro eu cyhoeddi heddiw, a bu helynt fawr yr adeg honno. Yr oedd hynny cyn fy amser i ac ni welais Eifionydd yn y dymestl, ond gwelais ef mewn rhai eraill diweddarach, ac yr oedd yn amhosibl dywedyd beth oedd ei wir deimlad. Cwta iawn fyddai ei air. "Mi eith peth fel hyn drosodd, mi eith peth fel hyn drosodd," meddai unwaith, a dyna'r cwbl. Nid oedd yn gwahodd ymholiad pellach, ac nid oedd Eifionydd yn ddyn yr âi neb yn hy arno—yn y bôn. Byddai rhai o'i gyfeillion yn tynnu ei goes, ond gwyddent hwythau pa bryd i beidio.
Yr oedd yn olygydd da; y mae hen gyfrolau'r Geninen yn ddarllenadwy ac yn werthfawr heddiw, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy, nid i'w genhedlaeth ei hun yn unig ond i genedlaethau i ddyfod hefyd, trwy gasglu a diogelu'r wybodaeth am bersonau a geir yn rhifynnau Gwyl Ddewi'r Geninen ac yn yr ysgrifau personol yn y rhifynnau eraill, o ran hynny. Ni fodlonai ar ofyn—ac ail a thrydydd ofyn—i bobl am ysgrifau. Byddai yn pennu'r pwnc ac yn amlinellu'r driniaeth iddynt yn aml. Clywais Gwynn Jones yn dweud y byddai yn gwneud hynny gydag ef weithiau. Byddai ei feddwl ar rifyn nesaf Y Geninen o hyd. Pan ddeuai ar ei dro i swyddfa'r Genedl gofynnai am gael gweled pentwr o bapurau Cymraeg. Bûm yn gwylio'r oruchwyliaeth lawer gwaith. Byddai ganddo siswrn yn ei boced. Gwibiai trwy'r papurau yn gyflym ac yn ddistaw; torri darn yma ac acw, gan adael "gweddillion llenyddol" ar ei ôl, fel y byddai Robert Hughes, hen aelod o staff y Genedl, yn dweud. (Digrifwch na byddai Robert Hughes byth yn blino arno oedd hyn). Byddai'r darnau yn myned i boced ei drowsus, a byddai ganddo bentwr o englynion, enwau buddugwyr mewn eisteddfodau, a phroflenni yn gymysg yn y boced honno fel rheol. Byddai wedi ymadael mor sydyn ac mor swta ag y daeth i mewn, a byddai bron bob amser wedi cael hyd i englyn neu awgrym neu rywbeth arall ar gyfer Y Geninen nesaf. Credaf mai ychydig iawn o ddiddordeb a gymerai mewn dim arall yn ystod y cyfnod yr oeddwn yn ei adnabod. Yr oedd yn ddigon effro i gwrs y byd ac, yn enwedig, i gwrs bywyd Cymru, ond fel yr oedd y pethau hynny yn debyg o effeithio ar gynnwys neu ar werthiant Y Geninen yr oeddynt yn ddiddorol iddo ef.
Ni bûm erioed yn ei dŷ, ond clywais lawer o sôn am yr ystafell y byddai yn gweithio ac yn byw ynddi. Llwybr yn unig a oedd yn honno at fwrdd a thân; yr oedd y gweddill o'r llawr o dan deisi o bapurau newyddion, cylchgronau, copi i'r Geninen, proflenni a phethau o'r fath, crynhoad blynyddoedd, ac nid gwiw i neb eu cyffwrdd. Ychydig o gyfeillion oedd ganddo yng Nghaernarfon, ond yr oedd ganddo lawer iawn o gydnabod ar hyd a lled Cymru, a chlywais y byddai yn rhoi tro arnynt ar ei ffordd i eisteddfod. Byddai yn cychwyn i'r eisteddfod wythnos neu ragor ymlaen llaw ac yn gwneud y daith yn fath o wyliau bob blwyddyn,—ond gwyliau â'r Geninen ar y gorwel o hyd.
Bu farw yn 1922 a bu'n chwith amdano ar heolydd Caernarfon—y gŵr aflonydd a'r corff gweddol dal, tenau ac esgyrniog, y farf a'r gwallt wedi britho yn drwm ers blynyddoedd, y llygaid llwydlas yn llym braidd ar yr olwg gyntaf, y cyfarchiad yn gwta ac yn aml ar gynghanedd. "Nid oes un gyfathrach rhyngddo a'r adnod honno, 'Eich nerth yw aros yn llonydd", meddai Anthropos, ac ychwanegodd mai "rhywbryd yn y ganrif o'r blaen y ganed ef." Y mae'n debyg nad oedd y dyddiad i'w hysbysu. Beth bynnag am hynny, gŵr "y ganrif o'r blaen" oedd Eifionydd, cynnyrch ei dull o feddwl ac o fyw. Gwelodd ugain mlynedd cyntaf y ganrif newydd, ond ychydig o'i farn a draethodd arni hi a'i chyfnewidiadau. Onid oedd rhai o wŷr ieuainc y ganrif honno yn ysgrifennu i'r Geninen, a busnes golygydd oedd troi pob dŵr gwerth ei droi o'r ffrydiau newydd at felin ei gyhoeddiad. Dyna, y mae'n debyg oedd ei ymresymiad. Ar bethau fel hyn, fel ar lawer o bethau eraill, anodd oedd gwybod i sicrwydd beth oedd barn bersonol Eifionydd, er i chwi deimlo yn bur sicr fod ganddo farn.
"Y mae Eifionydd ei hun yn ŵr anrhydeddus," medd Anthropos yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "ac yn casáu pob culni a rhagfarn sydd yn anurddo llenyddiaeth ein gwlad." "Mi fydda i'n meddwl weithiau i fod o'n barod i aberthu peth hyd yn oed ar ei hunan-barch er mwyn Y Geninen," meddai'r Parch. William Hobley wrthyf wrth sôn amdano unwaith. Y mae gwir yn y ddwy farn, er na ddylid tybio iddo wneud dim dianrhydeddus fel golygydd. Yr oedd, fel y dywedais, yn barod i'w wneud ei hun yn blagus i rai er mwyn cael ganddynt ysgrifennu i'r Geninen. Y syniad cwbl anghywir am Eifionydd, a syniad a goleddid gan lawer, oedd mai dyn od a dim arall oedd, testun llinellau megis "gŵr nerfus o Gaernarfon," a gŵr y dywedid straeon digrif am ei lawysgrif a phethau felly. Rhan arwynebol o'i bersonoliaeth oedd y pethau od, er eu bod yn amlwg iawn ynddo. Y gwir am Eifionydd oedd ei fod yn ŵr pur alluog ac yn ŵr o ddynoliaeth gadarn. Nid aeth neb erioed yn hy arno yr eildro, ac yr oedd llawer o dynerwch a charedigrwydd yn ei natur, er bod ei ddull cwta yn eu cuddio rhag llawer. Dyn unig oedd ar lawer ystyr, ac yn y diwedd ymadawodd yn hollol fel ef ei hun, yn ddistŵr a heb fawr o siarad.